Agenda item

Diweddariad Chwarter 2 ar y Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol

Craffu ar berfformiad y Cyngor yn erbyn y Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Mary Ann Brocklesby, yr Arweinydd, yr adroddiad ac ateb cwestiynau aelodau gyda Will Mclean a Matthew Gatehouse.

 

Cwestiynau Allweddol gan Aelodau:

 

·            A oes mwy o ddisgyblion o deuluoedd amddifadus yn cael eu hannog i dderbyn prydau ysgol am ddim? A yw’r cyngor yn rhoi cymhorthdal i deuluoedd gydag incwm gwell?

·            Sut mae rhoi blaenoriaeth i anghenion y plant hynny nad ydynt yn yr ysgol? Pa gefnogaeth gaiff ei rhoi i blant sydd wedi gadael addysg ffurfiol oherwydd pryder ac afiechyd meddwl? A oes gennym gyfres gynhwysfawr o setiau data ar gyfer y disgyblion hynny cyn iddynt adael y lleoliad addysg ffurfiol?

·            Er eglurder, mae’r adroddiad yn dynodi sefyllfa ddiweddaraf disgyblion uwchradd yw 1 mewn 10 o ddisgyblion heb fod yn mynychu? Ar gyfer disgyblion prydau ysgol am ddim, mae’n 1 mewn 5?

·            Hoffai’r pwyllgor atgoffa disgyblion, rhieni a gwarcheidwaid mai’r ysgol yw’r lle gorau i blant.

·            Heblaw cynlluniau bwyd ac oergelloedd cymunedol, beth arall sy’n cael ei wneud i fynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn ein cymunedau? A ydych yn disgwyl i gynigion y gyllideb i waethygu anghydraddoldeb?

·            A ydym yn cyfeirio preswylwyr at wasanaethau neu adnoddau i’e helpu yn ôl i waith?

·            Beth sy’n cael ei wneud i helpu pobl ddigartref i fyw’n annibynnol e.e. dychwelyd i addysg neu gyflogaeth?

·            A yw’n iawn fod plant rhwng 5-11 oed yn cael  dognau o’r un maint i ginio, heb fod yn cael mwy os ydynt yn dal i fod eisiau bwyd, ond ar ddiwedd y cinio bod y sbarion yn cael eu taflu?

·            Mae pryderon am effaith cynlluniau creu lle ar fusnesau bach yn Nhrefynwy, yn arbennig yng nghyswllt llwybrau teithio llesol, costau parcio a nifer is o ymwelwyr. sut mae’r cyngor yn bwriadu mynd i’r afael â’r materion hyn? GWEITHREDU (ymateb ysgrifenedig am gynlluniau i fynd i’r afael â phryderon yn Nhrefynwy)

·            Mae ynysigrwydd mewn ardaloedd gwledig a’r straen a’r tlodi sy’n wynebu pobl sy’n byw mewn ardaloedd gwledig, yn arbennig yng nghyswllt costau uwch yn bryder mawr. A fedrwn weld rhywbeth yn y Cynllun Cymunedol a  Chorfforaethol i helpu cyrraedd y bobl hyn?

·            Sut mae Cyngor Sir Fynwy yn cymharu gydag awdurdodau eraill ar draws Cymru yn nhermau adrodd am ganlyniadau ac effeithiau’r gyllideb?

·            Mae rhai disgyblion yn dewis peidio cael ciniawau ysgol – a yw hynny’n golygu nad ydynt yn cael dim byd? A ydym yn gwybod beth maent yn ei gael, a sut y dylem sicrhau goruchwylwyr?

·            A gaiff strategaeth VAWDASV wedi ei chwblhau ei rhannu gydag aelodau, a sut?

·            Gyda chyfeiriad at gronfeydd teithio llesol ar gyfer newidiadau cyflym ac effeithlon, pa mor rhwydd hi yw cael cwblhau prosiectau bach tebyg i drwsio palmentydd a gostwng cyrbiau?

·            I ba raddau ydyn ni’n medru dylanwadu ar Fwrdd Iechyd Aneurin Bevan ar faterion partneriaeth?

·            A oes unrhyw waith yn cael ei wneud gydag ysgolion i’w gwneud yn fwy cynaliadwy, e.e. gosod paneli solar, gan eu darparu ar gyfer y dyfodol yng nghyswllt costau ynni?

·            Yng nghyswllt y caffes Benthyg, a oes risg y bydd gwirfoddolwyr yn blino? A fydd recriwtio swyddogion prosiect economi eilaidd yn dod o’r gronfa Ffyniant Gyffredin, sut mae hynny’n mynd rhagddo, am ba mor hir y byddant yn y swydd?

·            Ar dudalen 20, pam nad oes unrhyw darged ar gyfer 23/24 ar gyfer nifer y cartrefi fforddiadwy a gafodd ganiatâd cynllunio yn y flwyddyn? –GWEITHREDU (rhoi ymateb ysgrifenedig gyda manylion)

·            Gan fod y cynnydd arfaethedig yn y dreth gyngor yn 3 gwaith y gyfradd chwyddiant a ragwelir ar gyfer 24/25, a fedrwn fforddio’r cynllun hwn?

·            Ydych chi’n credu y byddai preswylwyr, defnyddwyr gwasanaeth a busnesau yn cytuno gyda ni yn sgorio ein hasesiadau? A fedrem ofyn iddyn nhw wneud y sgorio?

 

Crynodeb y Cadeirydd: 

Diolch i’r Arweinydd a swyddogion am yr adroddiad hwn. Aeth llawer o waith i weithgareddau beunyddiol y Cyngor ac mae’r pwyllgor yn dathlu gwelliannau lle cawsant eu gwneud ac yn llongyfarch y cyflogeion sydd wedi eu cyflawni. Cafodd yr adroddiad ei dderbyn. 

 

 

Dogfennau ategol: