Agenda item

Craffu ar Gynigion y Gyllideb

Cofnodion:

Cafwyd cyflwyniad gan Ben Callard, Aelod Cabinet, a chyflwynodd yr adroddiad ac ateb cwestiynau gan aelodau gyda Peter Davies, Aelod Cabinet, Ian Chandler, Jane Rodgers, Tyrone Stokes, Frances O’Brien, Will Mclean, Ian Saunders, Jonathan Davies a Matthew Gatehouse. 

 

·            Beth yw cysyniadau defnyddio £2.8m o dderbyniadadau cyfalaf i dalu am gostau refeniw?

·            Sut y cafodd setliad is na’r cyfartalog gan Lywodraeth Cymru a natur ansicr grantiau ei ystyried yn y cynigion?

·            Mae gostyngiad cymorth ardrethi busnes yn bwysig iawn i ganol trefi: a fydd gennym lai o ymwelwyr a llai o incwm os oes llai o fusnesau? Sut caiff hynny ei drin yn y gyllideb?

·            A yw defnyddio £2.8m o dderbyniadau cyfalaf yn golygu y bydd diffyg yn y gyllideb cyfalaf, ac mae gennyn lai o wariant y byddai’r cyfalaf hwnnw fel arall yn cael ei ddefnyddio neu a fydd yn cynyddu ein benthyca?

·            Yng nghyswllt y diffyg o setliad cyfartalog Cymru, a yw gwahaniaeth o 0.8% yn gyfwerth â tua £600k?

·            Er mwyn eglurdeb, a oes unrhyw beth yn dod allan o ddyfarniad i Loegr a fyddai’n llifo’n naturiol i raniad ar draws pob awdurdod lleol ac na fyddai angen lobio?

·            A yw’r cynllun i ostwng costau benthyca gan £1.8m yn gydnaws gyda thynnu derbyniadau cyfalaf?

·            Mae’r arbedion a ofynnir gan y Gyfarwyddiaeth Gofal Cymdeithasol yn fater o gonsyrn – sut y disgwylir iddynt wneud mwy gyda llai?

·            A fydd costau’n gysylltiedig gyda gwneud newidiadau pontio?

·            Mae pryderon am y dybiaeth y caiff y cap ar ofal dibreswyl yn y gymuned ei godi. Beth yw’r effaith bosibl pe na gwireddir arbedion o £570k?

·            Beth fydd effaith grant y gweithlu gwasanaethau cymdeithasol ac ailaiinio swyddi gwag ar y gweithlu rheng flaen?

·            Gofal Cymdeithasol: sut mae cyfarfod gofynion statudol yn cydfynd gyda 853 awr o angen nas caiff ei ddiwallu? Pa effaith gaiff yr arbedion hyn ar yr oriau hyn o angen heb ei ddiwallu?

·            Er mwyn eglurder llwyr, nid oes unrhyw angen a aseswyd heb fod yn cael ei gyflawni ar gyfer unrhyw unigolyn, weithiau mae’n oedi 853 awr, ac felly a ydym yn cyflawni ein goblygiadau statudol?

·            Pa sicrwydd fedrir ei roi am arbedion pan fod y dangosiad diweddaraf yn dangos cynnydd yn y rhagolwg o orwariant o’r mis blaenorol?

·            Dan 5.8, mae casgliadau gwastraff yn parhau’r un fath ond o gofio y caiff bagiau du eu casglu bob bythefnos, a edrychwyd ar yr achos am gasgliadau bob bythefnos ar gyfer y bagiau eraill?

·            Yn sleid 3 yn y cyflwyniad, a yw’r gwahaniaeth rhwng y ffigurau ar gyfer y pwysau cost yn gamgymeriad talgrynnu?

·            Ynghylch y gostyngiad yng nghyllid Cerddoriaeth Gwent, a gafodd y goblygiadau eu hystyried oherwydd y gydberthynas gref rhwng dysgu cerddoriaeth a dysgu mewn pynciau eraill?

·            A fedrid helpu Cerddoriaeth Gwent mewn ffyrdd eraill, tebyg i ostwng hurio ystafelloedd mewn ysgolion?

·            Cau amgueddfeydd a gorsaf Tyndyrn am un diwrnod – a fydd hynny’n arwain at ddryswch i ymwelwyr? A gaiff hyn ei fonitro mewn rhyw ffordd?

·            Agor ar wyliau banc – beth am wyliau ysgol e.e. gwyliau’r Pasg a gwyliau’r haf?

·            A yw gostwng yr oriau yn Nhyndyrn a’r canolfannau hamdden yn mynd â ni i sefyllfa fydd yn gostwng nifer ymwelwyr yn dilyn y dryswch, yna’r flwyddyn nesaf byddwn yn gweld llai o refeniw yn arwain at ostwng yr oriau ymhellach? Lle fyddwn ni’n mynd yn edrych ymhellach na flwyddyn?

·            Yng nghyswllt Cerddoriaeth Gwent, a oes gennym wybodaeth gan gynghorau eraill am effaith y galw am gerddoriaeth? Faint fydd y cynnydd yng nghostau gwersi?

·            Faint o ddisgyblion ydyn ni’n amcangyfrif fydd yn medru cael budd o’r gronfa caledi, a sut fyddan nhw’n gwneud gais?

·            A oes ffigurau ar faint o ddefnyddwyr sy’n mynd i ganolfannau hamdden yn yr awr/hanner awr ddiwethaf?

·            Beth sy’n cael ei wneud i gadw golwg agos ar gost ymgynghorwyr a ffioedd proffesiynol? Pa mor agos maen nhw’n cael eu monitro? A oes potensial ar gyfer arbedion?

·            A oes posibilrwydd o ddefnyddio dulliau eraill e.e. mae Monlife yn defnyddio adnoddau mewnol i reoli prosiect rhai o’u cynlluniau, gan arbed arian a datblygu pobl?

·            A ydym yn rhoi ystyriaeth lawn i’r adnoddau sydd gennym ar ôl? Mae pryderon am y straen a’r pwysau ar y staff sydd ar ôl yn cymryd mwy o gyfrifoldeb a rolau ehangach.

·            Torri’r gyllideb mewn gwir dermau y llynedd, eleni a’r flwyddyn nesaf – lle mae hynny’n mynd â ni ar ôl tair blynedd? A oes angen ailfeddwl yn fwy sylweddol am sut y byddwn yn darparu ein gwasanaethau yn y dyfodol? A oes angen Cynllun Trawsnewid am y tair blynedd nesaf?

·            Byddai’n dda gweld pryd a sut y byddwn yn dysgu am effeithiau’r toriadau hyn e.e. beth fydd gostwng cymorth gofal cymdeithasol yn ei olygu ar gyfer teuluoedd sydd â rhywun sydd angen gofal cymdeithasol? Beth fydd yr effaith tu hwnt i ddim ond y rhifau?

·            Y llynedd tynnwyd £3.5m o gronfeydd wrth gefn, gyda £2.6m arall eleni a nawr nid oes cwmpas pellach i gymryd o gronfeydd wrth gefn. Os caiff yr holl arian hwnnw ei ddefnyddio, o ba gronfa fyddai arian yn dod i wneud y newidiadau sylweddol sydd eu hangen? A fyddai Bwrdd Rhaglen Newid i yrru hyn i gyd?

 

Crynodeb  y Cadeirydd: 

Rydym i gyd yn deall fod hwn yn gyfnod anodd iawn a bod llawer iawn o waith yn mynd i hyn. Mae’r pwyllgor yn diolch i bawb yma a hefyd tu ôl i’r llenni am wneud eu gorau glas yn y sefyllfa yma. Mae’r cwestiynau a ofynnwyd i geisio gweld os oes ffordd well neu wahanol o wneud pethau ac i ddeall beth yw’r canlyniadau.

 

Cymeradwywyd yr argymhellion a derbyniwyd yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: