Agenda item

Craffu cyn penderfynu ar y Cynllun Trafnidiaeth Strategol

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Catrin Maby yr adroddiad. Rhoddwyd y cyflwyniad gan Debra Hill-Howells ac atebodd gwestiynau’r aelodau gyda Christian Schmidt, Mark Hand a Nicholas Tulp. 

 

Pwyntiau allweddol a godwyd gan Aelodau’r Pwyllgor:? 

 

·        Mae'r ddarpariaeth bresennol mewn rhai ardaloedd yn annigonol. Ni allwn newid arferion pobl os nad oes gennym ddewisiadau eraill ar eu cyfer ee nid yw maes parcio Twnel Hafren yn hygyrch iawn

·        Nid yw'r rhwydwaith Teithio Llesol yng Nghil-y-coed wedi dychwelyd at Aelodau er mwyn trafod materion sy'n weddill, felly ni theimlir bod y cam gweithredu “wedi’i gwblhau”  

·        A ellir pwysleisio effaith gadarnhaol prosiect y B4245 ar gylchfan High Beech i Lywodraeth Cymru? 

·        Sut y gellir cynorthwyo'r rhai sydd wedi'u hallgáu'n ddigidol i gael mynediad i'r ymgynghoriad? 

·        Sut mae’r Asesiad Llesiant yn cael ei asesu? 

·        Gallai rhai o gwestiynau’r ymgynghoriad a’r opsiynau ymateb fod yn well o ran ymgysylltu â’r cyhoedd ac efallai nad cyfnod y Nadolig yw’r amser mwyaf priodol ar gyfer ymgynghoriad. 

·        Hoffai'r Aelodau gael mwy o eglurder ynghylch yr amserlenni mewn perthynas â camau gweithredu sy'n gysylltiedig â gorsaf rhodfa Magwyr a Gwndy. 

 

·        Mae Aelodau’n betrusgar ynghylch rhai o’r mesurau teithio llesol sy’n ymwneud â’r orsaf, er enghraifft, cyrbiau isel.  (CAM GWEITHREDU): - Swyddogion i ddarparu mwy o wybodaeth am ymyriadau. 

·        Pryder na all y gwelliannau i fysiau i gylchfan High Beech ddigwydd heb lôn fysus bwrpasol. Pryderon ynghylch lonydd amrywiol ar ffyrdd cyswllt yn gyffredinol. 

·        Pryder pe byddai gorsaf fysiau Cas-gwent yn cael ei symud, efallai na fyddai’r National Express yn aros yng Nghas-gwent mwyach. 

·        Pryderon y bydd gwefru cerbydau trydan ar y stryd yn anos mewn trefi h?n a phryder ynghylch a oes gennym ni’r seilwaith trydan i alluogi hyn i ddigwydd. 

·        Pryder ynghylch cymudwyr o Gas-gwent i Fryste drwy Gyffordd Twnnel Hafren. Terfynau 20mya yn arafu traffig cymudo rhwng Cas-gwent a Bryste.  

·        Dywedodd aelod nad oedd y gr?p lobïo Trawsnewid Cas-gwent wedi gwahodd cynghorwyr lleol i'w trafodaethau, felly mae'n bosibl y bydd pethau ychydig yn ddarniog.   

·        Pryderon cyffredinol ynghylch hygyrchedd platfformau bysiau a chyrbau isel: Enghraifft yw Goetre, a Llanofer, sydd ag un cwrb isel yn unig. 

·        Gofynnodd yr aelodau am ragor o wybodaeth am y llwybr arfaethedig trwy Benperllenni, gan nodi cyflogaeth yn y dyfodol ger y safle a mwy o wybodaeth am brosiect Goetre i Lanellen (Cam Gweithredu): Swyddogion i ddarparu.  

·        Cwestiynau am y gwasanaethau bws craidd, gan gynnwys y Rhif 60. 

·        Ymholiadau ynghylch Integreiddio bysiau cyhoeddus a chludiant o'r Cartref i'r Ysgol. 

·        Byddai’r aelodau’n gwerthfawrogi gwybodaeth am orsaf New Inn/Pont-y-p?l ac a fydd cyswllt bws i Frynbuga neu peidio (Cam Gweithredu): Swyddogion i ddarparu. (Cam Gweithredu). Swyddogion i ddarparu. 

·        Pryder nad yw Brynbuga yn cael ei hystyried yn dref allweddol yn y cynllun. 

·        Cerbydau danfon ar ffyrdd: dywedodd Aelod fod angen i drigolion newid i ddefnyddio siopau lleol a mannau codi. 

·        Trefynwy: pryder nad oes trenau, ac nad yw National Express yn stopio yno ac a ellid gwneud unrhyw gynnydd ar hyn.  

·        Teimlad nad oes anogaeth i bobl ddefnyddio bysiau, gan eu bod yn cymryd gormod o amser. 

·        Yr amcanion dros dro yn y cynllun: teimlad na ddylai diwylliant fod uwchlaw uchelgeisiau economaidd. 

·        Pryder bod problemau technegol cyson gyda threnau sy’n dod yn ôl o Gaerdydd neu Gasnewydd, gan gynnwys trenau nad ydynt yn stopio yng Nghas-gwent, ac mae hyn yn atal pobl rhag defnyddio’r gwasanaeth. 

·        Teimlad bod angen cydnabod ein bod yn rhan o economi Glannau Hafren a chwestiynwyd a ydym yn llwyr ddeall bod niferoedd enfawr o weithwyr yn teithio bob dydd i Loegr.  

·        Ymholiad ynghylch cyllid ar gyfer yr A466, gan nad oes gennym unrhyw awdurdodaeth.  

 

 

Sylwadau clo yrAelod Cabinet

 

Mae angen symud i ffwrdd oddi wrth system a adeiladwyd dros ddegawdau ar adeg o anhawster economaidd enfawr ac mae’n gymhleth. Mae terfynau i bwerau o fewn Sir Fynwy, ac i ba raddau y gallwn ddylanwadu ar benderfyniadau yn hytrach na’u gwneud ein hunain. Nid yw'r her yn hawdd i'r cyhoedd ei deall ac mae’n ymddangos bod trafnidiaeth ym mhob cwr o’r wlad yn dameidiog iawn. Rhwystredigaeth fawr yw gweld arbenigedd a gallu yn ein tîm a bod yn ymwybodol o'r hyn y gallem ei gyflawni pe bai mynediad at gyllid. Mae angen inni barhau i weithio gyda Burns, Trafnidiaeth Cymru ac awdurdodau lleol dros y bont. 

 

Crynodeb y Cadeirydd: 

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Aelod Cabinet a'r swyddogion am fynychu a chymryd cwestiynau'r Aelodau.  Penderfynodd y Cadeirydd y dylid rhoi’r adborth canlynol i’r Cabinet ar ran y Pwyllgor:  

 

Mae'r Cynllun Trafnidiaeth Strategol wedi'i gyflwyno i'r Pwyllgor Craffu Gwasanaethau Cyhoeddus ar11 Rhagfyr 2023 ar gyfer Craffu Cyn Penderfyniad. Mae’r pwyllgor wedi craffu’n fanwl ar yr adroddiad ac mae pwyntiau allweddol wedi’u nodi yng nghofnodion y cyfarfod, ond mae ein hadborth clo fel a ganlyn:  

·        Mae pryderon ynghylch y broses ymgynghori a chynnwys Cynghorwyr Cas-gwent mewn materion perthnasol yn ymwneud ag ardal Cas-gwent. Cyfeiriodd yr Aelodau at y ffaith mai ychydig iawn o gyfeiriad sydd at y rhwydwaith trenau yn y cynllun ac awgrymwyd y byddai'n elwa o gael mwy o amlygrwydd. 

·        Mynegwyd pryderon ynghylch lefel y cyllid sydd ei angen i gyflawni dyheadau'r cynllun a phryder na fydd prosiectau llai o faint yn digwydd o ganlyniad.  

 

·        Tynnodd yr Aelodau sylw at yr angen am hygyrchedd mewn gorsafoedd trenau ond hefyd mewn arosfannau bysiau , oherwydd bod diffyg cwrbiau isel yn atal pobl rhag cael mynediad at wasanaethau bysiau, er ein bod yn cydnabod mai Llywodraeth Cymru sy’n gyfrifol am y cefnffyrdd.  

·        Roedd pryderon hefyd ynghylch y seilwaith gwefru Cerbydau Trydan.  

 

 

Dogfennau ategol: