Agenda item

Adroddiad Perfformiad Blynyddol Cynllunio

Craffu ar yr adroddiad perfformiad blynyddol cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Paul Griffiths a Craig O’Connor yr adroddiad, rhoddodd Philip Thomas gyflwyniad ac atebwyd nifer o gwestiynau gydag Amy Longford ac Andrew Jones.

 

Cwestiynau gan aelodau’r pwyllgor:

·         Sut y cafodd yr ôl-groniad mewn gorfodaeth ei oresgyn?

·         At beth mae’r canran o dai fforddiadwy ar dudalen 6 yn cyfeirio? A ydym yn disgwyl mwy yn 23/24?

·         Ar gyfer beth y defnyddiwyd y ffioedd ymgynghori o £110k?

·         A yw’r cyngor yn defnyddio ‘egwyddorion darbodus’ i edrych ar brosesau a phenderfynu ar wastraff?

·         Caiff y Pwyllgor Cynllunio ei nodi fel ymgynghorai – a aeth yr adroddiad at y pwyllgor hwnnw?

·         A oes camgymeriad ar dudalen 28, gyda nifer y ceisiadau a gafwyd eleni yn llai na’r nifer a benderfynwyd?

·         A yw’r tabl ar dudalen 31 yn dangos cynnydd o £2.1m yn adlewyrchu gwerth y Cynllun Datblygu Lleol Newydd?

·         A yw’r gwasanaeth ar y cyd gyda threftadaeth yn rhoi gwerth am arian? A ydym yn derbyn cyllid digonol gan Flaenau Gwent i dalu’r costau? A yw’n lleihau’r gwaith gwerthfawr yn Sir Fynwy?

·         A allai aelodau gael rhestr o’r holl brosiectau A106 a fanteisiodd o gyllid yn y flwyddyn ddiwethaf? – Rhannu’r rhestr a gwybodaeth - GWEITHREDU

·         Sut y caiff y strategaeth Adeiladu mewn Risg ei hyrwyddo, a phryd fydd yn barod?

·         Sut mae’r swyddogion yn sicrhau eu bod yn cael y cydbwysedd yn iawn rhwng gweithredu’r gyfraith ond caniatáu datblygu adeiladau treftadaeth?

·         Pa mor gywir yw casglu data Cynllunio a beth yw ein sicrwydd ansawdd?

·         Sut ydyn ni’n sicrhau’r cynllun gorau posibl ar gyfer sicrhau deilliannau ac a allwn gael rhai manylion a chyd-destun? A ydym wedi cysylltu â sefydliadau academaidd i’w datblygu?

·         A gafodd y swyddogaeth Cynllunio ei hadolygu’n sylfaenol a pha warant y gellir ei roi pe byddai arolwg gan Archwilio Cymru neu debyg na fyddid yn ein canfod yn ddiffygiol iawn?

·         A yw Llywodraeth Cymru yn debyg o gyflwyno data cymharu ym mlynyddoedd y dyfodol?

·         A ydym yn sicr y bydd tynnu ffosffadau yn Nhrefynwy a Llan-ffwyst yn ddigonol ar gyfer galw yn y dyfodol?

·         A yw’r gyfran o geisiadau cynllunio a gymeradwywyd yn fesur dilys o berfformiad? Pa mor hyderus ydyn ni bod y cynlluniau a gymeradwywyd yn cyd-fynd â pholisi cynllunio?

·         Mae gorfodaeth perfformiad yn isel, gydag adroddiadau anecdotaidd am ein methiant i drin toriadau parhaus – a allai hyn annog eraill i dorri rheoliadau?

·         A yw digideiddio microfiche yn effeithiol o ran cost, o ystyried yr oriau staff sydd eu hangen i ddigideiddio o gymharu â pha mor aml y gofynnir amdano?

·         A ellir hyrwyddo’r £84m i’r economi lleol, yn arbennig gyda busnesau?

·         A yw’n bosibl cael hyperddolen yn uniongyrchol i’r cais?

·         A yw’r nifer cymharol fach o apeliadau oherwydd cysylltiad da gydag ymgeiswyr?

·         Collodd y cyngor 4 apêl – a oedd hynny yn erbyn datblygwyr mawr gyda thimau mawr? Beth am apeliadau gan breswylwyr lleol?

·         Pa gostau ydyn ni’n mynd iddynt mewn apeliadau?

·         Mae angen i ni sicrhau ein bod yn ailadeiladu’r hyder a gollwyd gyda rhai phreswylwyr oherwydd y perfformiad gwael o 290 diwrnod ar gyfer gweithredu gorfodaeth cadarnhaol

·         A ydym yn rhoi blaenoriaeth i geisiadau mawr dros rai cyffredinol? Os felly, a oes gwerth da mewn rhoi blaenoriaeth i’r rhai mwy?

·         Croesewir cynnwys ‘cyfleoedd wrth symud ymlaen’ yn yr adroddiad a chaiff ei argymell i wasanaethau eraill yn eu hadroddiadau perfformiad.

·         A fyddai’n syniad da cynnwys swyddog cynllunio o awdurdod arall i oruchwylio’r asesiad perfformiad, er mwyn ei wneud mor gadarn ac mor wrthrychol ag sydd modd? – rhywbeth y gall swyddogion fynd ag ef ymaith gyda nhw (Gweithredu? [Craig])

·         Mae rhagolwg yr adroddiad yn cyfeirio at wneud gwaith ‘mewn modd amserol’, sy’n ymddangos yn groes i’r 290 diwrnod cyn gweithredu gorfodaeth cadarnhaol – a all y ddau fod yn gywir? A yw cynnwys y llinell hon yn tanseilio gwrthrychedd yr adroddiad?

Crynodeb y Cadeirydd:

Cafodd yr adroddiad ei symud a chymeradwywyd yr argymhelliad.

 

Dogfennau ategol: