Agenda item

Adroddiad Alldro'r Trysorlys 2022/23

Cofnodion:

Cyflwynodd y Pennaeth Cyllid Adroddiad Alldro’r Trysorlys 2022/23.   Gwahoddwyd yr aelodau i ofyn cwestiynau:

 

·       Gofynnodd Aelod, os yn bosibl, a ellid gwneud yr adroddiad yn haws ei ddarllen yn y dyfodol.

 

·       Gofynnodd yr Aelod am Broadway Partners Ltd. a oedd wedi mynd i ddwylo'r gweinyddwyr yn ddiweddar a holodd a oedd unrhyw oblygiadau/risgiau yn deillio o hyn.  Eglurodd y Pennaeth Cyllid fod y Cyngor wedi ymrwymo

i gerbyd pwrpas arbennig drwy fenthyciad masnachol yn ystod Gwanwyn 2020 gyda Broadway Partners. Tynnwyd i lawr dau daliad cyfran o £1.15 miliwn. Mae ad-daliadau ar y benthyciad wedi'u gwneud yn fisol nes y cyhoeddwyd bod gweinyddwyr wedi'u penodi ym mis Ebrill 2023, pan ddaeth ad-daliadau benthyciad i ben a'u bod bellach yn hwyr.  Penderfynodd y Pwyllgor Buddsoddi ohirio ad-daliadau'r benthyciad er mwyn caniatáu i'r cerbyd pwrpas arbennig aros yn hydal yn y broses weinyddu.  Cyfanswm y benthyciad sy'n weddill ar hyn o bryd yw tua £745,000, gyda llog cronedig o £15,000.  Mae yna gyfathrebu rheolaidd gyda'r gweinyddwyr. Dywedodd y Dirprwy Brif Weithredwr fod y gweinyddwyr mewn proses o geisio diddordeb oddi wrth ddarpar brynwyr.

 

·       Gan gyfeirio at y gofyniad Ariannu Cyfalaf, gofynnodd Aelod pa mor agos yw'r awdurdod i'r nenfwd benthyca.   Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid fod y lefelau benthyca yn fforddiadwy ac yn ddoeth gan nodi bod dangosydd yn strategaeth y trysorlys ar ddechrau'r flwyddyn.  Mae hynny, a'r effaith ar y gyllideb refeniw, yn cael ei fonitro'n rheolaidd. 

 

·       Wrth fynd i'r afael â chwestiwn ynghylch y golled cyfalaf nas gwireddwyd o £401,000 a chronfeydd cyfunol, cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid y safbwynt gan nodi bod y rheoliadau wedi'u hymestyn gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru am o leiaf dwy flynedd Ariannol, ac mae hynny'n caniatáu i'r golled heb ei gwireddu gael ei dwyn ymlaen ar y fantolen.  Os bydd cyfle yn codi, gall yr awdurdod geisio dadwneud y sefyllfa honno dros y tymor canolig.  Yn y cyfamser, mae'r enillion yn foddhaol, a chedwir cronfa wrth gefn y trysorlys i dalu am y risg o golled heb ei gwireddu ac adolygir sefyllfa anweddolrwydd y marchnadoedd. Mewn ymateb i gwestiwn, cadarnhawyd bod cronfa risg y trysorlys oddeutu £590,000.

 

·       Mewn ymateb i gwestiwn, nododd y Pennaeth Cyllid fod enillion ar eiddo masnachol a buddsoddi o fewn yr adroddiad (a.10).  Mae yna adenillion amrywiol o'r fferm ynni haul a Pharc Hamdden Casnewydd.  Roedd colled net ar Barc Busnes Castle Gate

 

·       Gofynnwyd cwestiwn am gyngor ein hymgynghorwyr yn argymell uchafswm terfyn hyd ar gyfer adneuon heb eu gwarantu o fewn sefydliadau bancio o 35 diwrnod a holwyd a oedd hyn yn rhy amharod i risg. Cadarnhaodd y Pennaeth Cyllid bod diweddariadau rheolaidd gan ymgynghorwyr y trysorlys. Mae'r awdurdod yn cadw ei fuddsoddiadau’n hylifol ac yn gysylltiedig â'r sefyllfa fenthyca fewnol ac yn aros yn agos iawn at y gofyniad isafswm o £10 miliwn o fuddsoddiadau.  Gan gyfeirio at y 35 diwrnod, mae'r awdurdod yn fodlon â'r cyngor proffesiynol ac ni fyddai'n dymuno gweithredu mewn modd a allai gael effaith andwyol ar lefelau hylifedd ar hyn o bryd.

 

·       Roedd y Pennaeth Cyllid yn gallu cadarnhau bod yr awdurdod wedi cydymffurfio â pholisi'r trysorlys yn ystod 2022/23 ac mae'r dysgu o'r cyfnod hwn wedi bod

cael ei gymhwyso i strategaeth y trysorlys eleni. Gosodwyd dangosyddion a strategaeth rheoli'r Trysorlys ar ddechrau'r flwyddyn a chydymffurfiwyd â hwy’n llawn.

 

Yn unol ag argymhellion yr adroddiad, adolygodd y Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio ganlyniadau gweithgareddau rheoli'r trysorlys a'r perfformiad a gyflawnwyd yn 2022/23, fel rhan o'i gyfrifoldeb dirprwyedig i graffu ar bolisi, strategaeth a gweithgaredd y trysorlys ar ran y Cyngor.

 

Dogfennau ategol: