Agenda item

Ffioedd y Ddeddf Gamblo.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Prif Swyddog Trwyddedu yr adroddiad ar Ffioedd y Ddeddf Gamblo. Ar ôl y cyflwyniad, gwahoddwyd Aelodau i ofyn cwestiynau:

 

·         Mewn ymateb i gwestiwn, esboniodd y Prif Swyddog Trwyddedu fod lefel y ffi yn adlewyrchu cost y broses gais i’r awdurdod gan ychwanegu nad yw sefyllfa economaidd y Sir yn faen prawf. Mae gan y safleoedd a drwyddedwyd ar hyn o bryd ganllawiau llym i’w dilyn ac yn cwblhau asesiad risg ar gyfer pob safle gan roi ystyriaeth i e.e. problemau gamblo a sut mae’n effeithio ar gwsmeriaid. Dywedodd y Pennaeth Diogelu’r Cyhoedd datrysiad i beidio caniatáu casinos yn y Sir sy’n destun adolygiad bob tair blynedd.  Mae’r penderfyniad yn adlewyrchu’r effaith niweidiol ar iechyd, yn arbennig y rhai sydd o fewn y grwpiau economaidd-gymdeithasol is a gwneir ymdrechion i drin gamblo problem ar y stryd fawr. Mae’r Comisiwn Gamblo yn cynnwys gamblo ar-lein.

 

·         Gofynnodd Aelod am gyflwr gwael rhai safleoedd a gofynnodd os oes cysylltiad rhwng adnewyddu trwyddedau â chynnal a chadw safle i gyflwr rhesymol. Cadarnhawyd fod yn rhaid i ddeiliaid trwydded unigol gydymffurfio gyda nifer o feini prawf ar gyfer gweithredu’r safle. Eglurwyd ei fod yn ffi flynyddol ac nid yn adnewyddu. Pan gytunir ar drwydded dan y Ddeddf Gamblo, mae’n drwydded gydol oes a dim od os y caiff yr amodau eu torri, er enghraifft, y gellir ei adolygu. Yn nhermau cyflwr gwael, byddai ymyriad yn dibynnu ar risg posibl i ddiogelwch cyhoedd. Caniateir arwyddion tu fas e. yn gwahodd pobl dan 18 oed i safle dros 18. Mae cysylltiad agos gyda’r Comisiwn Gamblo os oes pryderon a chaiff safleoedd eu monitro’n rheolaidd gan Swyddogion Trwyddedu.

 

 

·         Gan nodi nad yw Sir Fynwy yn darparu gwasanaeth cwnsela gamblo, holodd Aelod am ddarpariaeth llesiant. Awgrymwyd drwy beidio derbyn y gostyngiad mewn ffioedd y byddai mwy o gyllid i gyfrannu at lefel gwasanaeth cwnsela. Cyfeiriodd y Prif Swyddog Trwyddedu at yr adrannau o’r Polisi yn trin problemau gamblo e.e. mae’n rhaid i safleoedd ddatgelu manylion ble mae cyngor ar gael. Mae’n rhaid i bob safle gael asesiad risg unigryw pwrpasol i’w ardal. Caiff ystadegau troseddu eu monitro. Esboniwyd fod gwasanaeth cwnsela Cyngor Ar Bopeth yng Nghasnewydd hefyd yn cynnwys Sir Fynwy.

 

·         Gan fod lefelau ffioedd wedi eu cyfyngu i adfer costau, gofynnodd Aelod am eglurhad os caiff costau llawn eu hadennill ac, os na, os oes adenilliad llawn yn bosibl i ddarparu cyllid i gefnogi’r rhai gyda phroblemau gamblo yn Sir Fynwy. Esboniodd y Swyddog fod fformiwla Cymru gyfan i benderfynu ar ffioedd, yn seiliedig ar nifer o ffactorau a chodir yr uchafswm a ganiateir.

 

·         Mynegodd Aelod bryderon am bobl ifanc yn defnyddio gamblo stryd fawr gan holi pa mor briodol oedd lleoliad siopau betio e.e. drws nesaf i gaffes awyr agored. Esboniodd y Swyddog y caiff penderfyniadau ar bob cais newydd am drwydded eu penderfynu gan y Pwyllgor Trwyddedu a maent yn cael eu hasesu wrth ochr y Polisi e.e. heb fod yn agos at ysgolion, heb fod yn effeithio ar blant neu oedolion bregus. Nid yw busnesau yn y cyffiniau o reidrwydd yn ystyriaeth.

 

Cytunwyd i adolygu ffioedd ac adennill costau mewn pryd ar gyfer adolygu ffioedd y flwyddyn nesaf (Mai 2024) ac i ystyried y potensial i gyflogi cwnselydd.

 

Argymhellion yr adroddiad yw:

(i)            cymeradwyo’r ffioedd a’r costau a fanylir yn Atodiad A yr adroddiad i ddod i rym o 21 Mai 2023; a

(ii)           bod y ffioedd yn ddilynol yn cael eu hadolygu’n flynyddol.

 

Pan roddwyd y mater i bleidlais, penderfynwyd cymeradwyo’r ffioedd a’r costau a fanylir yn Atodiad A a ddaw i rym o 21 Mai 2023.

 

Dogfennau ategol: