Agenda item

Troseddau Casineb yn Sir Fynwy

Gwneud cais bod y Prif Arolygydd yn mynychu er mwyn trafod troseddau casineb  ac ymateb yr Heddlu.

 

Cofnodion:

Mynychodd Arolygydd Sir Fynwy Ioan Williams ar ran y Prif Arolygydd John Davies i roi trosolwg a dealltwriaeth eang o droseddau casineb yn Sir Fynwy.   Dywedodd y cadeirydd fod y pwyllgor wedi ceisio dadansoddiad ystadegol o droseddau yn y sir a sut roedd yn cymharu ag awdurdodau cyfagos.  Eglurodd fod gan y pwyllgor ddiddordeb mewn sut y gallwn esblygu'r sgwrs a chynyddu ymwybyddiaeth yn ogystal ag ennill cyd-destun mwy penodol o ran lle mae achosion yn digwydd, oherwydd os yw'r ffigurau ond yn dangos y troseddau casineb sydd wedi'u hadrodd, ac rydym yn gwybod nad yw rhai pobl yn adrodd, yna nid oes gennym ddarlun llawn. Atgoffodd y cadeirydd y pwyllgor bod rhai cwestiynau a ofynnwyd gan Staff Cyngor Sir Fynwy, gyda mewnbwn gan Ymddiriedolaeth San Silyn yn y cyfarfod blaenorol wedi cael eu hanfon at yr Heddlu er mwyn llywio'r drafodaeth heddiw. 

 

Rhoddodd yr arolygydd gyflwyniad byr i rôl yr Heddlu o ran troseddau casineb a sut maent yn cefnogi’r rhai sy’n adrodd:

 

Byddaf yn rhoi trosolwg cyffredinol i chi o droseddau casineb yn ardal Sir Fynwy a sut rydym yn delio â hynny o ddydd i ddydd.  Nid oes gennym ddigwyddiadau dyddiol, mae'r lefelau'n gymharol isel ond mae unrhyw ddigwyddiad o droseddau casineb yn ormod.  O'i gymharu â rhai ardaloedd eraill Gwent, mae'n isel.  O ran sut rydym yn delio ag adroddiadau, mae Heddlu Gwent yn cynhyrchu dogfen friffio ddyddiol bob 24 awr ac mae adran benodol ynddi sy'n ymwneud â throseddau casineb, er mwyn sicrhau ymgysylltiad cynnar, gweithredu cynnar a datrysiad cynnar gobeithio.  Mae gennym swyddogion troseddau casineb ymroddedig o fewn yr heddlu sy'n cofnodi achosion o droseddau casineb neu hyd yn oed achosion casineb.  Nid oes rhaid iddo fod yn fater troseddol o reidrwydd i unrhyw ddigwyddiad ddod o dan y faner honno, a chael sylw’r swyddogion arbenigol hynny ac maent yn rheoli'r ymgysylltiad hwnnw o'r pwynt hwnnw ymlaen. Os yw’n fater troseddol, yna neilltuir swyddog i ymchwilio iddo a bydd yn cynnal y math hwnnw o arolygiaeth ymchwiliol gyda chefnogaeth y swyddog troseddau casineb arbenigol. O safbwynt cyffredinol, rheolir troseddau casineb yn dda o'm safbwynt i, ac mae gennym oruchwyliaeth glir ohono ac fel yr eglurwyd, swyddogion arbenigol sy'n gallu cefnogi ac ymchwilio i faterion troseddol.

 

Her:

 

  • A oes tanadrodd sylweddol o droseddau casineb?

 

Rwy'n credu bod yr holl droseddau yn cael eu tanadrodd yn y pen draw a'n bod yn gwneud cymaint ag y gallwn o ran galluogi mwy o adrodd am droseddau trwy fecanweithiau adrodd amrywiol, megis ein mecanweithiau adrodd ar y cyfryngau cymdeithasol, sydd wedi dangos cynnydd mewn sgyrsiau â phobl nad ydynt o bosibl wedi riportio trosedd o'r blaen os mai dim ond adrodd ar deleffoni traddodiadol oedd ar gael.  Rwy'n credu bod pob trosedd yn tueddu i gael eu tanadrodd, ond nid wyf wedi sylwi ar unrhyw beth arwyddocaol o ran troseddau casineb yn cael eu tanadrodd yn benodol.   Rwy'n credu bod gwaith yn cael ei wneud ac mae angen gwneud rhagor o waith o ran ein hymgysylltiad ehangach, fel y bydd pobl yn teimlo'n fwy cyfforddus yn gyffredinol wrth adrodd am faterion sy'n effeithio arnynt. 

  • A oes unrhyw dystiolaeth o'r newid mewn demograffeg yn cynyddu nifer yr achosion?  Er enghraifft, yn enwedig yn y De, lle rydym wedi cael mewnlifiad o bobl am resymau economaidd, yna ar ôl Brexit, mae gennym ddinasyddion yr UE sydd wedi ymgartrefu yma.  Rwyf wedi clywed am y Gymuned Asiaidd ehangach wedi cael ei thargedu mewn rhai rhanbarthau ar ôl Covid ac rwy'n pendroni a yw'r gymuned LHDTC+ o bosibl wedi wynebu mwy o droseddau casineb?  Tybed hefyd a yw'r berthynas sydd gan y cyhoedd â'r Heddlu wedi newid, oherwydd diffyg adnoddau, nid yw'r Heddlu yn mynychu cyfarfodydd cymunedol a tybed a allai rhai o'r ffactorau hyn chwarae rôl?

 

O ran a oes demograffig neu gr?p penodol sydd wedi'u targedu ar ôl Brexit, does dim byd yr wyf wedi bod yn ymwybodol ohono neu wedi'i weld mewn unrhyw faint sylweddol o amgylch unrhyw grwpiau wedi'u targedu.  Rwy'n credu bod y berthynas yn gyffredinol yn dda iawn, a'r hyn y byddwn i'n ei ddweud yw bod y mwyafrif o achosion rwy'n eu hadolygu, o bersbectif trosedd casineb neu ddigwyddiadau casineb, yn ymwneud yn gyffredinol â chyfeiriadedd rhywiol ac anabledd ~ dyma'r ddau beth sy'n ymddangos yn amlach na pheidio. Yn gyffredinol, nid yw nifer yr achosion yn tueddu i fod yn gysylltiedig â hil, mewnfudo neu agweddau fel hynny, o'm safbwynt i. 

 

O ran y pwynt ynghylch presenoldeb yr heddlu, mae problemau logistaidd yn Sir Fynwy gan mai dim ond nifer fach ohonom sy'n gweithio yn yr ardal ac mae yna ardal enfawr i ymdrin â nifer sylweddol o gynghorwyr, felly rydym yn adolygu sut rydym yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi, ond pan fyddwn wedi cael problemau, yn fy marn i, rydym wedi delio â nhw'n gyflym ac mae gennym berthynas dda iawn gyda chynghorwyr, er enghraifft, mae'n debyg y byddwch i gyd yn ymwybodol o faterion yng Nghil-y-coed yr haf diwethaf a'i bod yn broblem a oedd wedi bod yn mudferwi ers blynyddoedd ac rwy'n teimlo ein bod wedi delio â hynny'n gadarn ac wedi cynnal nifer o ddiwrnodau gweithredu, roedd nifer o arestiadau ac rydym wedi cael gwared ar rai unigolion problemus go iawn o'r ardal ac mae'r materion wedi lleihau, felly’r hyn y byddwn yn ei ddweud yw os oes problemau sylweddol, rydym yn delio â nhw.  Gall a bydd ymgysylltu yn well ac rwy'n credu unwaith y bydd gennym ddau sarsiant mewn swydd, byddant yn gallu rheoli'r berthynas honno'n fwy effeithiol. Rwy'n ymwybodol bod pobl yn adrodd am achosion i chi'ch hunain, sydd wedyn yn dod at yr heddlu yn drydedd law ac mae hynny'n broblemus, yn enwedig os yw'n ddigwyddiadau penodol lle rydych chi'n gwybod bod y cyhoedd yn amharod i siarad â ni'n uniongyrchol, ond byddai'n llawer gwell gennym wybod amdano, fel y gallwn gymryd rhywfaint o liniaru o'r pwynt hwnnw, felly os ydych chi'n derbyn gwybodaeth, rhowch wybod i ni.

 

  • Faint o droseddau casineb sy'n cael eu hadrodd mewn blwyddyn gyffredin ac er budd y cyhoedd, a allech chi ddiffinio beth yw troseddau casineb ac egluro sut rydych chi'n delio â throseddau casineb gwahanol yn wahanol?

 

Bydd angen i mi anfon gwybodaeth ystadegol atoch yn dilyn y cyfarfod, ond o ran yr ail gwestiwn, bydd gan bob swyddog rheng flaen bersbectif ar beth yw troseddau casineb ac nid oes gennyf y diffiniad swyddogol gyda mi, ond fy nealltwriaeth i fyddai mai dyna le mae unigolyn wedi cael ei dargedu oherwydd anabledd, ffydd neu grefydd neu gyfeiriadedd rhywiol neu lle gallai ffactorau o'r fath fod yn gysylltiedig â'r digwyddiad.  

 

  • Faint o swyddogion sydd gennych i ddelio â throseddau casineb a pha mor eang yw'r hyfforddiant?  

Bydd angen i mi ddarparu'r wybodaeth honno ar ôl y cyfarfod o ran hyfforddiant arbenigol, ond mae gennym ddiwrnodau hyfforddiant heddlu ar gyfer pob swyddog.

 

  • Beth ydym yn ei wneud gydag ysgolion i sicrhau eu bod yn rhoi gwybod amdano? Beth arall rydym yn ei wneud heblaw siarad ag ysgolion?

 

O ran sut y gall gynnwys y sgwrs a chynyddu ymwybyddiaeth yn benodol mewn ysgolion, mae gennym swyddogion cyswllt ysgolion sy'n cael eu dyrannu yn benodol i ysgolion, ac maent yn ymgymryd â phecyn hyfforddi penodol o amgylch plismona ysgolion, delio â phobl ifanc a throseddau casineb yn rhan o'u pecyn hyfforddi. Beth ydyn ni'n ei wneud gydag ysgolion i sicrhau eu bod yn rhoi gwybod amdano?  Wel mae gennym y cysylltiad uniongyrchol hwnnw â swyddog cyswllt yr ysgol y gall yr athrawon alw arnynt yn uniongyrchol i adrodd yr agweddau hynny yn ôl i ni, felly mae Swyddogion Cyswllt Ysgolion (SCY), fel rydym yn eu galw, yn offeryn profedig o sicrhau adroddiadau digonol gan yr ysgol i'r heddlu.

 

  • Ydych chi'n credu bod llymder wedi effeithio ar y gwasanaeth y gallwch ei gynnig?

 

O ran adnoddau ehangach ar gyfer plismona a sut mae llymder wedi effeithio arnom, mae hwnnw'n gwestiwn na allaf ei ateb, ond yr hyn y byddwn yn ei ddweud yw bod gennym swyddogion da yn Nhîm Plismona Bro Sir Fynwy ac mae goruchwyliaeth ragorol gyda ni ac rwy'n hyderus wrth symud ymlaen fod gennym ddigon o adnoddau i ddelio â'r problemau a all ac a fydd yn codi.   Mae gennym recriwtio parhaus nawr, a byddwn yn cael canran ohono yn ardal Sir Fynwy, felly rwy'n hapusach yn ein sefyllfa wrth symud ymlaen i'r 12 mis nesaf. Rwy'n hyderus y byddwn yn ymgysylltu'n well â chi, gyda’r cyhoedd o safbwynt ehangach ac mae gennym y capasiti a'r gallu i ddelio â phethau'n effeithiol.

 

  • O ran radicaleiddio pobl ifanc trwy weithgaredd ar-lein.  Pa fesurau ataliol sydd ar waith os ydym yn meddwl bod problem?   Rwy'n ymwybodol o rai sylwadau amhriodol ac anfuddiol ar dudalennau Facebook cymunedol sy'n ymwneud â phobl o wahanol grwpiau ethnig, fel pobl Asiaidd sy'n rhedeg siop bentref a'ch gwerthfawrogi na allwch fonitro cyfryngau cymdeithasol pobl, tybed a yw'r Heddlu byth yn adolygu'r rhain?

 

Er bod gennym alluoedd seiberdroseddu, ond ni allwn fonitro grwpiau Facebook pobl yn weithredol, ond rwy'n derbyn eich pwynt ac mae swyddogion yn gallu cynnig cyngor ar faterion fel hynny neu dim ond cael sgyrsiau â phobl i helpu dealltwriaeth pobl o wahaniaethau mewn diwylliant, felly os ydych chi'n ymwybodol o broblem neu fater ac eisiau ei godi gyda ni, plis gwnewch hynny, oherwydd gallwn helpu mewn rhyw ffordd. Mae gennym swyddog ym mhencadlys Heddlu Gwent sy'n arwain ein tîm amrywiaeth a chynhwysiant ac mae ganddi lu o adnoddau ar gael a pherthnasoedd rhagorol yn y gymuned a gydag arweinwyr cymunedol, felly fel cynghorwyr, byddem yn gofyn i chi ein cynorthwyo i dynnu sylw at ble y gallai fod angen i sgyrsiau ddigwydd.

 

  • Rwy'n pryderu bod yna amharodrwydd mewn ysgolion pan godir mater i ddelio ag ef drwy'r heddlu oherwydd effeithiau hirdymor cael eu labelu yn droseddwr o oedran ifanc iawn, ond rwy'n teimlo bod angen cydbwyso hyn yn erbyn effeithiau hirdymor y rhai sydd yn dioddef, mae bwlio yn enghraifft. Felly a yw'r amharodrwydd hwn i droseddu yn effeithio ar gofnodi troseddau casineb?

 

Un ymgyrch gwirioneddol i Heddlu Gwent yn ddiweddar fu cofnodi trosedd yn y ffordd fwyaf priodol, felly mae trosedd casineb neu ddigwyddiad casineb yn cael ei gofnodi, waeth beth fo safbwynt y rhai sy’n adrodd, felly os ydynt yn teimlo bod agwedd benodol wedi cael dylanwad yn y drosedd sy'n cael ei chyflawni, yna caiff ei chofnodi a'i hymchwilio felly. O ran Swyddogion Cyswllt Ysgolion, yn fy mhrofiad i, rwyf wedi gweld y gwahaniaeth y gall ymgysylltiad da ag ysgolion ei wneud, lle mae gan ddisgyblion hyder ynddynt a'u bod yn teimlo eu bod yn gallu adrodd am ddigwyddiadau, felly mae'r swyddogion hyn yn amhrisiadwy.  Mae gennym ddau Swyddog Cyswllt Ysgolion wedi'u dyrannu i Sir Fynwy ar gyfer 32 o ysgolion a’u cylch gwaith yw un ar gyfer y Gogledd ac un ar gyfer y De.

 

O ran eich pwynt am droseddoli pobl ifanc, nid wyf am i bobl ifanc gael eu troseddoli gan ein bod yn gwybod bod pobl yn gwneud camgymeriadau pan fyddant yn ifanc ac yn gwneud dewisiadau gwael ac yn dibynnu ar drothwy beth yw hynny, mae'n rhaid mabwysiadu dull rhesymol.  Mae'r Gwasanaeth Troseddau Ieuenctid yn ein cefnogi ac mae swyddogion wedi'u secondio iddynt ac maent yn codi pob mater lefel is gyda phobl ifanc, felly rydym yn defnyddio dull synnwyr cyffredin wrth ddelio â phobl ifanc, ond mae gennym y gallu i ddwysáu pethau, pe bai'r drosedd yn ddifrifol.  Mae'r GTI yn eithriadol ac maent yn darparu rhaglenni ymyrraeth ac atal sy'n gweithio ochr yn ochr â'r Heddlu, y Gwasanaethau Prawf a'r holl wasanaethau eraill.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Diolchodd y Cadeirydd i'r Arolygydd Ioan Williams am fynychu a rhoi atebion cynhwysfawr a gonest i'r pwyllgor.  Camau Gweithredu y cytunwyd arnynt:

 

  1. Ioan i goladu'r wybodaeth ystadegol am droseddau casineb a'u hanfon at y tîm craffu i'w dosbarthu i'r Aelodau.

 

  1. Ioan i roi manylion cyswllt i'r Tîm Cydraddoldeb ac Amrywiaeth i Aelodau.

 

  1. Yr Heddlu i anfon nodyn atgoffa o'r gwahanol sianelau cyfryngau cymdeithasol i adrodd am droseddau.