Agenda item

Dyluniad Stryd Monnow – Craffu’r dyluniad arfaethedig ar gyfer Stryd Monnow ar ôl ymgysylltu ac ymgynghori gyda’r gymuned.

Cofnodion:

 

Rhoddodd yr Aelod Cabinet Paul Griffiths gyflwyniad i’r adroddiad. Cyflwynodd Daniel Fordham yr adroddiad ac atebodd gwestiynau'r aelodau gyda Claire Sullivan.

 

Her:

 

Mewn gwirionedd, mae ffordd drwodd i geir yn ran bwysig o Drefynwy, yn enwedig os bydd rhywbeth yn digwydd e.e. pan fydd angen i gerbydau brys gael mynediad i ardaloedd. Felly mae cael llwybr arall ar gyfer ceir yn bwysig.

 

Un o elfennau craidd y cynnig hwn yw bod angen i Drefynwy sicrhau fod traffig yn parhau i lifo am yr union reswm hwnnw e.e. pan fydd y ffordd ddeuol ar gau. Felly, nid yw'n cael ei wneud yn ardal i gerddwyr yn unig, nid ydym yn creu gofod a rennir, felly bydd Stryd Monnow yn gallu cymryd yn union yr un faint o draffig ag y mae ar hyn o bryd. Fodd bynnag, nid yw'r sefyllfa bresennol yn berffaith, a phan fydd un o'r ddau lwybr wedi'i rwystro mae'n achosi problemau mewn mannau eraill, ond nid yw'r cynigion yma’n cael effaith negyddol y sefyllfa bresennol.

 

Onid oes gormod o groesfannau e.e. un bob ochr i'r orsaf fysiau?

 

Mae nifer y croesfannau wedi bod yn destun trafodaethau lu. Roedd mwy mewn fersiynau cynharach o'r dyluniad, felly rydym wedi cymryd rhai allan ac wedi ceisio dod o hyd i gydbwysedd h.y. peidio â rhoi gormod o groesfannau ar y stryd ond sicrhau, pan fydd rhywun eisiau croesi, eu bod yn gallu gwneud hynny’n gyfleus ac yn ddiogel gerllaw. Efallai nad yw’r cydbwysedd yn berffaith eto ond dyma’r trywydd yr ydym yn ei ddilyn.

 

Mae pryder y bydd y ffordd gerbydau hyd yn oed yn gulach nag y mae ar hyn o bryd, gan fod bysiau’n cael trafferth troi i mewn i Stryd Monnow  yn barod . Does dim ond angen i un person barcio'n wael ac mae hynny’n achosi problem. A fyddai'r newid i'r mannau croesi ger y Robin Hood yn ei gwneud hi'n rhy gul ar gyfer cerbydau mawr?

 

Yn hanesyddol, mae ffordd gerbydau Monnow Street wedi bod yn llydan iawn - pe byddai stryd fel hon yn cael ei hadeiladu heddiw, byddai'n llawer culach. Ni fyddai hynny'n effeithio ar ei gallu i sicrhau y gall traffig lifo trwyddi.  Y lled arfaethedig yw 6.3 metr, sy'n dal yn fwy na digon llydan i ddau Gerbyd Trwm neu fws basio ei gilydd. Gan fod bysiau’n gadael o'r orsaf fysiau, a'r gornel wrth y Robin Hood, mae'r dylunwyr wedi tracio’r rhain er mwyn sicrhau y gall cerbydau mawr wneud y tro hynny. Os bydd y dyluniad hwn yn mynd rhagddo byddem yn ailedrych ar y gwaith tracio yma yn ystod y cam dylunio manwl er mwyn cadarnhau y gellir symud yn y modd hwn.

 

Os yw'r lleoedd parcio yn mynd i mewn ar yr onglau y maent ar hyn o bryd - er mai dim ond rhai dros dro ydynt - bydd hyn yn annog pobl i fynd i mewn i leoedd nad ydynt yno mewn gwirionedd. Felly mae angen edrych ar hynny.

 

Mae gan gerbydau sydd wedi'u parcio'n anghyfreithlon y potensial bob amser i rwystro Stryd Monnow, ac ni fyddai'r dyluniad yma’n cael gwared ar y risg honno. Ond dylai'r ffaith bod mwy o ddarpariaeth parcio ffurfiol, yn enwedig ar gyfer llwytho a dadlwytho — sy'n un o'r pethau sy'n tueddu i fod yn ffynhonnell parcio anghyfreithlon neu wrthgymdeithasol — wella'r sefyllfa honno. Serch hynny, fel bob amser, bydd angen rhywfaint o orfodaeth.

 

Gallai mannau parcio i’r chwith o’r orsaf fysiau fod yn lletach er mwyn ei gwneud yn fwy diogel i’r gyrwyr. A ellir gwneud hynny?

 

Ein dealltwriaeth ni yw y byddai'r lleoedd parcio i bobl anabl yn fwy llydan na lleoedd parcio arferol. Gallai hynny olygu y byddai rhai o'r lleoedd parcio safonol gyferbyn hefyd yn lletach, ond mae hynny'n benodol er mwyn creu mwy o le i bobl anabl adael cerbydau'n ddiogel.

 

A yw nifer y mannau gwefru trydan y bydd eu hangen yn y dyfodol wedi'i ystyried yn y cynlluniau hyn?

 

Ar hyn o bryd hyd yr arhosiad byr presennol ar stryd Monnow yw 30 munud yn unig; ein rhagdybiaeth yw y byddai hynny'n parhau. Nid wyf yn si?r i ba raddau y mae hynny'n rhoi cyfle gwirioneddol i godi tâl am wefru Cerbydau Trydan (EV); serch hynny, gallem wneud darpariaeth oddefol i'r seilwaith hwnnw gael ei ddarparu ac os byddai'n ddefnyddiol ei osod yna gallem o bosibl gyflawni hynny fel rhan o'r cynllun. Gallai ein cydweithwyr yn yr adran parcio ddweud beth sy'n digwydd o ran seilwaith EV mewn meysydd parcio yn fwy cyffredinol.

 

Rydym am i fwy o bobl ddod i mewn i'r dref ond rydym yn cael gwared ar nifer o'r lleoedd parcio.

 

Mae 631 o leoedd parcio yn Nhrefynwy a 20+ ychwanegol yn cael eu creu yn y maes parcio newydd. Nid oes gostyngiad sylweddol o ran lleoedd parcio a geir ar hyn o bryd a'r hyn a gynigir yma, rhyw ddwsin yn llai o leoedd parcio sy’n cael ei gynnig yn y cynllun hwn o’i gymharu â’r sefyllfa cyn COVID, felly yng nghyd-destun y 600+ o leoedd sydd mewn mannau eraill o Drefynwy - y rhan fwyaf ohonynt yn agos iawn at Stryd Monnow - nid yw’n nifer fawr.  Mae'r mwyafrif helaeth o bobl yn ymweld â Monnow Street i wneud pethau a fyddai'n cymryd mwy na hanner awr, felly nid yw'r parcio arhosiad byr yn briodol iawn i'r rhan fwyaf o'r bobl sy'n ymweld ar hyn o bryd. Os mai un o'r amcanion, yn gyffredinol, yw annog pobl i ymweld yn amlach ond hefyd eu hannog i dreulio amser yno, yna bydd parcio arhosiad hirach yn bwysig.

 

Mae 521 o ymatebion gan boblogaeth o 10,000 yn ymddangos fel nifer fach iawn i feddwl eich bod yn ystyried mentro £6.1m? Nid ydym wedi gofyn cwestiwn syml ie/na i breswylwyr o ran a hoffent ddychwelyd i'r sefyllfa a oedd yn bodoli cyn COVID neu symud ymlaen gyda rhywbeth gwahanol.

 

Gofynnwyd y cwestiwn yngl?n â dychwelyd i'r cynllun cyn-COVID blaenorol yn yr ymgynghoriad  a wnaed yn ystod cam un o’r darn hwn o waith, a hynny ddiwedd 2020. Un o'r opsiynau a ystyriwyd fel rhan o hynny oedd dychwelyd i'r cynllun cyn-COVID, ac mae'r adroddiad yn trafod hyn. Roedd mwyafrif yr ymatebwyr o blaid opsiynau a oedd yn cyflawni rhyw fath o newid ar y trywydd hwn.  Wrth werthuso'r opsiynau a wnaed gan ymgynghorwyr a chydweithwyr, ni fyddai dychwelyd i'r cynllun blaenorol hwnnw yn mynd i'r afael ag unrhyw un o'r materion a nodwyd yn Stryd Monnow ac nid oes tystiolaeth y byddai hynny'n mynd i'r afael â'r pryderon ehangach ynghylch economi canol y dref.

 

Onid oes modd i ni aros nes ein bod ni heibio'r argyfwng costau byw yma, er mwyn sicrhau nad yw busnesau'n dioddef gormod? Sut y gellir gweithredu hyn heb amharu ar fusnesau? Sut y caiff ei reoli?

 

Oes, nid oes ffordd o gyflwyno cynllun fel yr un dan sylw heb amharu rhywfaint ar fusnesau. Ein gwaith ni fyddai sicrhau ein bod yn lleihau’r effaith yma cymaint â phosibl trwy gynllunio'n ofalus a chyflwyno'r gwaith yn raddol o ran amserlenni. Pe bai'r cynllun hwn yn mynd rhagddo, byddem wedyn yn symud ymlaen i wneud dyluniad manwl. Byddai hyn yn cymryd 9-12 mis arall ac yna mae gwaith i'w wneud ar sicrhau cyllid. Bydd y cwestiwn hwn o ran cyllido yn destun adroddiad sy'n dod i'r Cabinet ym mis Mehefin, felly efallai y gallwn ailedrych ar hyn bryd hynny.

A yw'n bosibl i ymgynghoriadau cyhoeddus fynd allan ar e-byst Fy Sir Fynwy gyda dolen a nodiadau atgoffa er mwyn sicrhau fod pobl yn cymryd rhan ynddynt?

 

Bydd hyn yn cael ei drafod gyda'r tîm Cyfathrebu. - CAM GWEITHREDU

 

Faint o leoedd parcio i bobl anabl sydd yna?

 

Mae gan y cynnig 6 lle i bobl anabl yn Stryd Monnow a 3 ychwanegol o rownd y gornel, wedi'u creu ger y bloc toiledau. Ond byddai lle i gynyddu hynny trwy ehangu lleoedd eraill, os mai dyna oedd yn cael ei ffafrio.

 

Sut y bydd nodweddion yn y cynnig yn bodloni'r amcanion a nodwyd? Byddai fformat tabl yn ddefnyddiol iawn ar gyfer dangos hyn.

 

Gellir darparu hyn - GWEITHREDU

 

A fyddai cael gwared ar yr unig groesfan a reolir ar Stryd Monnow yn mynd yn groes i'r amcan o wella hygyrchedd i bawb, gyda phwyslais penodol ar nam ar y golwg? A allwn fod yn dawel ein meddwl y bydd llwybrau clir yn aros ar gyfer preswylwyr ag anableddau?

 

Nid oes cynnig i gael gwared ar y groesfan bresennol a reolir gan signalau - byddai'n cael ei symud ychydig yn unig - felly byddai un yn yr un lle yn fras o hyd, yn ychwanegol at y croesfannau cwrteisi eraill a gynigir. Rydym yn edrych ar ddynodi'n glir, o bosibl trwy greu marciau ffisegol ar y parthau troedffyrdd, lle gellid cynnal gweithgarwch sydd wedi'i chynllunio i sicrhau bod llwybr clir drwodd i bob defnyddiwr, ond mae hynny o ddiddordeb arbennig i ddefnyddwyr anabl a defnyddwyr rhannol ddall. Byddai'r parthau hynny yn cael eu marcio â phalmant cyffyrddol i'w gwneud hi'n haws iddynt gael eu llywio.

 

Onid yw parcio arhosiad byr ar y ddwy ochr yn groes i amcan y cynllun sy’n cyfrannu at yr agenda lleihau carbon a gwella’r gallu i feicio ar y stryd?

 

Un o effeithiau'r gostyngiad yn lled y ffordd gerbydau a rhai o’r nodweddion dylunio eraill, megis gwyrddu a chyflwyno rhai cromliniau ysgafn iawn yn Stryd Monnow, fydd arafu cerbydau. Mae'r croesfannau ychwanegol yn debygol o wneud hynny hefyd, a bydd hyn yn creu manteision o ran diogelwch i feicwyr.

Sut mae'r cynllun hwn yn ategu y cynlluniau eraill i wella cysylltedd a hygyrchedd?

 

Mae hyn allan o gwmpas y darn penodol hwn o waith ond gwyddom am fannau ble mae potensial i'r rheini ddod yn eu blaen, er enghraifft, y cais cynllunio ar gyfer Neuadd Hebron, ychydig oddi ar Stryd Monnow, lle cynigir wneud cysylltiad trwodd — rydym wedi caniatáu ar gyfer hynny yn y dyluniad yma. Pe bai cynigion eraill ar gyfer y mathau hynny o gysylltiadau ochrol yn cael eu cyflwyno  wrth i ni ddylunio'r cynllun gallwn sicrhau eu bod yn cael eu marcio yn yr un modd. Yn fwy cyffredinol, byddai'r Cynllun Creu Lleoedd yn ceisio mynd i’r afael â sut y gallwn wella'r math hwnnw o gysylltedd. Mae angen i ni sicrhau, wrth ddatblygu dyluniad y cynllun hwn yn y dyfodol, gan dybio ei fod yn mynd rhagddo ac os bydd unrhyw ddatblygiad i ddyluniad cynllun Blestium Street yn y dyfodol, ein bod yn cadw mewn cof yr angen i sicrhau y gallant eistedd gyda'i gilydd fel un darn hyd yn oed os na ellid eu cyflawni ar yr un pryd.

A gynhaliwyd astudiaeth ddichonoldeb, gan ystyried y strwythurau tanddaearol a'r gwahaniaethau mewn lefelau ar Stryd Monnow?

 

Mae rhywfaint o waith cychwynnol wedi'i wneud ar hynny ond byddem fel arfer yn disgwyl gwneud y rhan fwyaf o’r gwaith yma yn ystod y cam dylunio manwl. Mae'n anochel y bydd angen gwneud rhai newidiadau yn ystod y cam hwnnw wrth i'r dystiolaeth o arolygon ac yn y blaen ddod i law, felly rydym wedi gwneud y darn cychwynnol hwnnw o waith ond byddwn yn gwneud mwy o hynny yn ystod y cam nesaf er mwyn sicrhau bod modd cyflawni'r cynllun.

 

A yw'n bosibl cael rhagor o wybodaeth am ba hyd y bydd disgwyl i’r gwaith peirianyddol arfaethedig fynd rhagddo, pe byddai’r cynllun yma’n mynd yn ei flaen?

 

Mae'n debyg ei bod hi'n rhy gynnar i allu dweud yn bendant ond dylai gwaith o’r math yma gymryd rhwng 6 a 9 mis i gyd. Ni fyddai’r stryd gyfan yn cael ei gwneud ar yr un pryd  — hoffem fynd ati'n raddol er mwyn lleihau’r effaith ar fusnesau.

 

A oes modd i chi gadarnhau a fydd seilwaith y porth yn cynnwys bolardiau y gellir eu codi?

 

Nid ydynt yn rhan o’r cynigion ar hyn o bryd ond nid yw hynny'n golygu na allent fod.

 

A fyddai croesfannau cerddwyr yn atal y traffig rhag llifo'n rhydd, o ystyried bod 84% o'r rhai sy'n ateb yr arolwg yn cyrraedd mewn car?

 

Gofynnom i bobl am yr holl ddulliau teithio y maent yn eu defnyddio, felly gallai pobl — yn enwedig y rhai sy'n byw gerllaw — yrru i'r dref ar rai adegau ond gallent hefyd gerdded neu feicio, neu ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ar adegau eraill. Felly, er bod 84% o'r ymatebwyr yn defnyddio car i deithio i Stryd Monnow, mae 61% o'r ymatebwyr hefyd yn cerdded. Mae'n debyg bod gorgyffwrdd eithaf sylweddol rhwng y ddwy ffordd yma h.y. mae pobl weithiau'n beicio, weithiau'n cerdded, ac weithiau'n defnyddio'r car.

 

Ond mae'r canlyniadau'n cael eu rhannu fel pe na baent yn gorgyffwrdd - oni ddylai'r cwestiwn fod wedi bod “Beth yw eich prif ddull o deithio i'r stryd fawr?”

 

Ni fwriedir iddo gael ei ddeall yn y ffordd honno. Roeddem yn meddwl mai pwysig oedd deall yr holl wahanol ddulliau y mae pobl yn eu defnyddio i deithio i Monnow Street ac yna rydym wedi edrych ar ganlyniadau pawb a ddywedodd eu bod yn gyrru (hyd yn oed os ydynt hefyd yn defnyddio dulliau eraill o deithio), pawb a ddywedodd eu bod yn cerdded (hyd yn oed os ydynt hefyd yn defnyddio dulliau eraill o deithio), ac mae'r amrywiad o ran yr ymatebion yn eithaf diddorol. Mae'r ymatebion i'r cynnig gan y rhai sy'n gyrru yn cyd-fynd yn fras â'r ymateb cyffredinol: mae pobl yn gyffredinol o blaid y rhan fwyaf o agweddau ar y cynigion dylunio.

 

Ar hyn o bryd, faint o leoedd sydd ar gyfer pobl abl a phobl anabl, a beth fyddai'r sefyllfa mewn perthynas â hyn?

 

Mae 600+ o leoedd parcio yn Nhrefynwy, y rhan fwyaf ohonynt yn agos iawn at Stryd Monnow. Mae 33 o leoedd yn y cynnig, sef 12 yn llai na’r nifer yn y cynllun cyn COVID a dim gostyngiad sylweddol o’i gymharu â’r trefniadau presennol. Yng nghyd-destun y 600+ o leoedd parcio dan sylw, mae'n ostyngiad cymharol fach, ac mae parcio ar Stryd Monnow bob amser wedi dibynnu ar bobl yn peidio â pharcio ar y Stryd Fawr.

 

Gan fod llawer yn dweud eu bod yn defnyddio Trefynwy i ychwanegu at eu siopa, mae'n ddefnyddiol cael man parcio sy’n agos — a yw hynny wedi'i ystyried yn llawn?

 

Mae siopa ychwanegol wedi bod yn rhan o'r rhesymeg dros gadw rhywfaint o fannau parcio ar y stryd ar Monnow Street, gan gadw at y lefelau presennol yn fras a gwraidd y sefyllfa yw dod o hyd i gydbwysedd. Mae'r rhan fwyaf o'r lleoedd parcio yn Nhrefynwy o fewn pellter cerdded rhwydd i Stryd Monnow ac felly maent yn hygyrch i'r rhan fwyaf o bobl sy'n gwneud y math hwnnw o siopa ychwanegol.

 

Byddai palmentydd ehangach yn arwain at broblem draenio — i ble fydd y d?r yn mynd? Mae edrych ar beirianneg a llif d?r yn bwynt pwysig.

 

Mae'r problemau draenio sydd wedi codi wedi gwaethygu yn sgil y mesurau Covid dros dro sydd ar waith nawr - cawsant eu dylunio a'u gosod ar frys. Efallai nad oedd yn bosib gwneud peth o’r dylunio gofalus iawn y byddem yn ei ddisgwyl ar gyfer cynllun fel yr un a gynigir yma, sef cynllun parhaol.  Byddem yn ceisio mynd i'r afael â'r holl broblemau sydd wedi deillio o'r cynllun dros dro wrth ddylunio'r cynllun parhaol.

 

Ble mae'r adnoddau ar gyfer y gyllideb o £6.1m?

 

Mae £6.1m yn amcangyfrif a wnaed ar gyfer cynllun tebyg y llynedd felly ni fyddem yn dweud mai dyna'r union gost ond mae'n debygol y bydd yn debyg. Bydd papur ar wahân a fydd yn dod i'r Cabinet ym mis Mehefin yn ystyried blaenoriaethau adfywio a chyllid ar gyfer y cynllun hwn yn ogystal â chynlluniau eraill, felly efallai y gellir codi’r cwestiwn hwn bryd hynny.

 

Byddai arian cyfatebol tua £3m — a yw hynny yn y gyllideb eisoes ac o ble y byddai'r gweddill yn dod?

 

Ar gyfer y ffynonellau cyllid mwyaf tebygol ar gyfer y cynllun hwn, y gofyniad arian cyfatebol yw naill ai 10% neu 30%, felly mae'n annhebygol o fod yn 50%. Nid ydym wedi trafod eto sut y caiff y gyllideb honno ei dyrannu. Yr hyn yr ydym yn bwriadu ei wneud drwy'r broses bresennol, yn ddibynnol ar y sylwadau a derbynnir heddiw, a'r penderfyniad pan fydd hyn yn cyrraedd y Cabinet, yw cael cynllun sydd wedi'i fabwysiadu y gallwn wedyn symud ymlaen o ran ei ddylunio a'i ddefnyddio fel dull o sicrhau cyllid ar gyfer cyflawni.

 

A oes achos busnes cryf dros fwrw ymlaen â hyn, yng ngoleuni'r gwariant dan sylw?

 

Mae hwn i bob pwrpas yn gwestiwn deuaidd ynghylch a ddylai'r cynllun hwn fynd rhagddo ai peidio. Gofynnwyd y cwestiwn hwnnw i bob pwrpas mewn ymgynghoriad yn ystod camau blaenorol ac mae'r gwaith sydd wedi'i wneud wedi hynny yn dangos na fyddai dychwelyd at y cynllun cyn COVID yn cyflawni'r amcanion a bennwyd ar gyfer y cynllun. Roedd yr ymateb gan fusnesau yn ystod yr ymgynghoriad busnes un-i-un yn ddiwrthdro. Mae rhywfaint o dystiolaeth yn yr adroddiad — astudiaethau achos o fannau eraill — ar effaith economaidd cynlluniau tebyg sy'n dangos gwerth y math hwn o weithgaredd.

 

A fyddwn yn colli'r mannau parcio ar gyfer bysiau twristiaid? A fyddant yn gallu troi o gwmpas, yn hytrach na chael eu hanfon yn ôl i fyny'r stryd?

 

Nid oes cynnig ar hyn o bryd fel rhan o'r cynllun hwn i gael gwared ar y parcio i fysiau ar Stryd Blestium ac nid oes unrhyw newidiadau a gynigir yn yr ardal o amgylch y toiledau a fyddai'n eu hatal rhag troi o gwmpas, ond gallwn wirio hynny — CAM GWEITHREDU

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Trafododd y pwyllgor a ellid cynnal rownd ymgynghori bellach, yn ddelfrydol gyda chwestiwn ie neu na syml ynghylch a ddylid dychwelyd i'r cynllun cyn-COVID.

 

Nododd y Swyddogion fod tri chylch ymgynghori wedi bod ar y cynllun hwn eisoes, dros ddwy flynedd a hanner. O ystyried ei bod yn anodd cynnwys pobl mewn ymgynghoriadau ar y math hwn o gynllun, mae cael 500 o bobl yn mynychu'r sesiynau galw heibio a derbyn mwy na 500 o ymatebion i arolwg mewn tref o faint Trefynwy yn eithaf cadarnhaol. Byddai'n anarferol iawn derbyn cymeradwyaeth ysgubol ar gyfer unrhyw gynllun o'r math hwn. Mae'r ymatebion yn rhoi darlun clir ar gyfer y rhan fwyaf o gwestiynau, ac mae tua 60-40 o blaid.

 

Roedd yr Aelodau wedi'u hollti ar y mater i raddau helaeth, a chafwyd nifer o safbwyntiau gwahanol a chymhleth iawn.  Ni all y pwyllgor fynnu bod ymgynghoriad pellach yn cael ei gynnal, ond gofynnodd i’r swyddogion nodi'r farn a'r dadleuon cryf dros ymgynghori unwaith eto, ac ystyried y pwyntiau a godwyd heddiw.

 

Aelod Ward Stryd Monnow: Heb os, mae'r dyluniadau yn welliant ar y sefyllfa ddryslyd sy’n bodoli ar hyn o bryd - mae Stryd Monnow yn brydferth ond mae wedi dirywio. Rwy'n adnabod sawl un o drigolion Osbaston sy'n caru'r cynigion; ar y cyfan, mae'n ymddangos bod tua 60/40 o'm preswylwyr o blaid, gyda phob un eisiau i rywbeth gael ei wneud. Daeth nifer dda iawn i'r ymgynghoriadau — roedd yr ymgynghoriad a gynhaliwyd ar ddydd Sadwrn yn Nhrefynwy, yn enwedig, yn brysur iawn.  Cafwyd nifer o ymatebwyr i ymgynghoriadau blaenorol am fod y cynnig yn amhoblogaidd iawn, felly dylid cofio hyn.  Dywedodd rhai busnesau mai dim ond mannau llwytho a mannau parcio anabl yr hoffent eu gweld yn y stryd fawr - ymddengys bod y cynigion yma’n gyfaddawd da yn hynny o beth. Bydd mannau llwytho ychwanegol yn helpu i atal rhwystrau. Mae pobl ifanc yn hoffi'r syniad o roi croesfannau mewn mwy o lefydd a'r diogelwch a ddaw yn eu sgil.

 

Aelod o'r Cabinet: Rwy’n teimlo fod y ddadl wedi bod yn adeiladol ac yn ddefnyddiol. Mae trafodaeth y Cabinet ar hyn wedi'i gohirio am rai wythnosau felly bydd digon o amser, a byddaf yn sicrhau bod adroddiad y Cabinet yn adlewyrchu mor glir â phosibl yr ystod o bwyntiau sydd wedi'u gwneud sy'n ymwneud ag ystod eang o bynciau.

 

Cadeirydd: Mae ein strydoedd mawr a chanol trefi yn darparu swyddogaethau hanfodol bwysig megis bod yn ganolbwynt i gymunedau lleol, yn ganolbwynt ar gyfer gweithgarwch economaidd, creu a chadw swyddi, denu llawer o'r ymwelwyr a thwristiaid i Sir Fynwy, a bod yn fannau ar gyfer hamdden. Mae angen i ni barhau i fod eisiau gwneud ein trefi yn fwy deniadol a gwrando ar farn ein trigolion.

 

Roedd nifer y bobl a gymerodd ran yn yr ymgynghoriadau yma’n eithaf siomedig ac mae hynny'n rhywbeth y mae angen i ni ei ystyried ond rwy'n hapus gyda’r sylwadau a godwyd, er enghraifft: mae'n bwysig cynnal a chadw'r traffig dwyffordd, o bosibl y defnydd o barcio herringbone, roedd rhai'n teimlo bod gormod o groesfannau, yn poeni am faint mannau parcio i'r anabl, gofynnwyd a fydd ceblau'n cael eu gosod yn barod ar gyfer pwyntiau p?er trydan ar gyfer beiciau a cheir, a gofynnwyd a oedd modd i ymgynghoriadau gael eu hanfon allan ar e-byst MyMonouthshire gyda'r ddolen er mwyn ceisio cynyddu’r nifer sy’n cymryd rhan.

 

Roedd nifer o aelodau eisiau mynd yn ôl allan i ymgynghori ynghylch a ddylid dychwelyd at y cynllun cyn COVID. Mae’n rhaid inni sicrhau ein bod yn lleihau'r effaith ar fusnesau ar gyfer y gwaith. Codwyd cwestiynau ynghylch bysiau twristiaid yn dod yn ôl, y nodweddion a sut maent yn cwrdd â'r amcanion, hygyrchedd, yn enwedig ar gyfer pobl ddall a rhannol ddall, a oes astudiaeth ddichonoldeb wedi'i chynnal, sut y byddwn yn gweithio gyda'r gwrthdaro rhwng cerbydau a beicwyr, a hygyrchedd ar gyfer y naill ochr i Stryd Monnow. Roedd cwestiynau ynghylch yr opsiynau draenio a pheiriannu sydd wedi cael eu hystyried ac o ble y daw'r cyllid cyfatebol 3.1.

 

Mae barn gymysg ar y cynigion a wnaed gan swyddogion heddiw, sy'n debygol o fod yn adlewyrchiad gwirioneddol o farn trigolion, felly rwy'n gobeithio y bydd swyddogion ac aelodau'r Cabinet yn gadael ac yn ystyried yr hyn a ddywedwyd heddiw.

 

 

 

Dogfennau ategol: