Agenda item

Cais DM/2022/01042 – Adeiladu 70 cartref, seilwaith draenio cynaliadwy, gofod agored, heolydd, llwybrau a mannau parcio mewnol, tirlunio a phlanhigion a seilwaith. Tir yn Vinegar Hill, Gwndy, Sir Fynwy.

Cofnodion:

Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a'r ohebiaeth hwyr a argymhellwyd i’w cymeradwyo yn amodol ar yr amodau sydd eu hamlinellu yn yr adroddiad.   

 

Roedd yr Aelod lleol ar gyfer dwyrain Magwyr a Gwndy, y Cynghorydd Sir Angela Sandles, wedi mynychu’r cyfarfod ar ôl cael ei gwahodd gan y Cadeirydd ac wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:

 

·         Mae yna hanes o wrthwynebiad i ddatblygu’r safle sydd yn mynd yn ôl i 2013.

 

·         Caniatawyd Caniatâd Cynllunio Amlinellol yn 2021.

 

·         Roedd y Cyngor Cymuned wedi gwrthwynebu’r datblygiad. 

 

·         Mae cwynion wedi eu derbyn gan drigolion yngl?n â’r safle sydd yn ymwneud gyda mynediad, s?n, draenio, traffig a chontractwyr.

 

·         Nid oes yna ofod agored gwyrdd ar gyfer cerddwyr o unrhyw un o’r ystadau tai cyfagos.

 

·         Mae’r cae, sy’n cael ei adnabod fel Parsel B, yn ofod cymunedol a ddefnyddiwyd yn ddyddiol.

 

·         Mae’r blodau a’r planhigion wedi newid dros y blynyddoedd.  

 

·         Mae canol y cae yn cael ei osgoi gan nad yw’r d?r yn draenio o’r ardal. 

 

·         Mae yna fynediad cyfyngedig i’r safle.

 

·         Mae’r safle yn swnllyd gan ei fod yn 50m o briffordd yr M4 gyda’r allyriadau a ddaw o’r cerbydau.  

 

·         Mae’r ardaloedd o gwmpas yn boblog iawn gyda nifer o  eiddo newydd gael eu hadeiladu.  

 

·         Mae’r ddwy ysgol gynradd leol yn llawn, nid oes yna ddeintyddion GIG, ac mae’r Feddygfa leol eisoes yn hynod brysur ac wedi ei llethu.  

 

·         Mae’r traffig sydd yn gadael naill ai ystadau Dancing Hill neu Rockfield eisoes yn achosi tagfeydd i fyny’r bryniau bob dydd o’r wythnos tra’n gadael i fynd i’r gwaith / ysgol ar eu ffordd i’r B4245. Ystyriwyd y bydd hyn yn gwaethygu wrth i ni fynd ymlaen petai’r datblygiad yn cael ei gymeradwyo.  

 

Roedd asiant yr ymgeisydd, Kate Coventry, wedi mynychu’r cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan y Cadeirydd ac wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:

 

·         Mae adroddiad y cais yn gynhwysfawr ac yn amlinellu pam y dylid cymeradwyo’r cais.  

 

·         Mae’r safle o fewn Cynllun Datblygu Lleol y Cyngor Sir.  

 

·         Mae’r safle wedi ei lleol ger ardal sydd yn llawn adeiladau ym Magwyr a Gwndy ac yn cysylltu dyraniad cynllun defnydd cymysg cymeradwy yn  Rockfield Farm sydd eisoes yn cael ei adeiladu ac yn ffurfio rhan o ffordd gyswllt rhwng y dwyrain a’r gorllewin.  

 

·         Roedd y Pwyllgor wedi cymeradwyo’r cais hybrid yn y cyfarfod yn Ionawr 2022. Roedd grant cyllid nawr wedi ei dderbyn gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd. Roedd y gwaith adeiladu wedi dechrau ar safle  A gyda’r rhai cyntaf i symud i mewn yng Ngorffennaf  2023.

 

·         Nid oes unrhyw wrthwynebiad gan ymgyngoreion statudol fel sydd wedi ei amlinellu yn adroddiad y cais.  

 

·         Bydd y cynllun yn arwain at 70 o gartrefi o fewn Parsel B o’r safle dynodedig ehangach.  

 

·         Mae’r cynllun, drwy gyllid grant, yn medru sicrhau cydymffurfiaeth gyda'r polisi bod 25% o’r tai yn rhai fforddiadwy er mwyn delio gyda’r prinder tai ar draws y Sir.  

 

·         Mae’r cynllun wedi ei adeiladu o gwmpas seilwaith gwyrdd, gan gynnwys coridorau allweddol yn rhedeg o’r dwyrain i’r gorllewin ac o’r gogledd i’r de ar draws y parsel o dir. 

 

·         Mae’r coridor wedi ei gynnal ar y safle ac wedi ei wella, ac mae hyn wedi gwella’r bioamrywiaeth ar y safle. Mae yna fwy o lwyni a choed ar draws y safle, gyda’r cynllun yn arwain at berllan gymunedol ger y gofod cyhoeddus a llwybr  perthi.

 

·         Mae’r ddarpariaeth parcio a diogelwch y briffordd wedi eu hystyried yn briodol ac nid oes unrhyw wrthwynebiad gan yr Adran Briffyrdd. Mae’r ymgeisydd wedi gweithio gyda’r Swyddog Priffyrdd yn ystod y gwaith o baratoi a chyflwyno a phenderfynu ar y cais ac mae’r cynllun wedi ei ddylunio mewn ffordd a fydd yn cynnig bod modd teithio’n ddiogel ar draws y rhwydwaith priffyrdd lleol ac yn atal lefelau amhriodol o draffig ar ffyrdd anaddas.  

 

·         Mae’r cynllun yn caniatáu’r ffordd gyswllt o’r dwyrain i’r gorllewin i gysylltu o Fferm Rockfield drwy’r safle gan fynd i Grange Road fel sydd ei angen yn ôl y polisi.

 

·         Cadarnhaodd Swyddog Draenio’r Cyngor fod y cynllun yn meddu ar strategaeth draenio priodol. Mae’r angen i baratoi system draenio cynaliadwy  (SuDS) wedi ei sefydlu ar ôl dyrannu’r safle hwn ac roedd wedi achosi oedi a phroblemau hyfywedd ar y safle. Dylid cydnabod fod hyn oll wedi ei oresgyn erbyn hyn ac mae modd gweithredu’r cynllun. 

 

·         Dyma’r dyraniad olaf yng Nghynllun Datblygu Lleol y Cyngor. Mae’n gyson gyda'r polisi cenedlaethol a lleol.

 

·         Bydd y cynllun yn cynnig cyfraniad positif i’r farchnad dai a thai fforddiadwy ac nid yw’n amodol ar y cyfyngiadau yn sgil ffosffadau sydd wedi eu profi mewn mannau eraill yn y Sir.

 

·         Mae’r datblygwr yn frwdfrydig i gyflenwi’r darn yma o dir cyn gynted ag sydd yn bosib.  

 

 

Wedi ystyried adroddiad y cais a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Yn ystod y broses o adolygu safleoedd ymgeisiol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol, roedd y safle wedi ei asesu’n ofalus a phennwyd nad oedd unrhyw fesurau lliniaru oddi ar y B4245.  Mae’r ffordd gyswllt rhwng y dwyrain a’r gorllewin yn ddibynnol ar y Cyngor yn darparu’r ffordd pan fydd y dyraniad yn cael ei ystyried, gyda chynlluniau i’w ddatblygu neu heb y fath gynlluniau. Mae sgyrsiau positif yn cael eu cynnal gyda nifer o ddatblygwyr am y mater, gyda’r nod o gyflwyno cais cynllunio ar gyfer y safle i’r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol.   

 

·         Nid oes polisi Cynllun Datblygu Lleol gan yr Awdurdod Lleol ar hyn o bryd sydd yn datgan bod rhaid gosod paneli ffotofoltäig  ar eiddo newydd. Nid oes polisi cenedlaethol neu leol ar gyfer mynnu gosod paneli ffotofoltäig  ar eiddo newydd. Mae’n ddibynnol ar y datblygwr yngl?n ag a ddylid gosod paneli o’r fath. Gallai’r Cyngor ystyried hyn fel rhan o bolisïau’r dyfodol.

 

·         O ran agosatrwydd at y siopau a’r cyfleusterau eraill, mae’n daith gerdded rhwng 10 a 15 munud i ganol Magwyr sydd yn gyson gyda’r cysyniad o gyrraedd canol tref o fewn 15 munud.

 

·         O ran tai fforddiadwy yn ardal Glannau Hafren mae’r CDLl cyfredol yn datgan fod rhaid  25% o dai fod yn rhai fforddiadwy. Mae Parseli  A a B ar y safle yn gyson gyda’r gofyniad polisi.  

 

·         Mae yna gyllid wedi bod ar gyfer cyfleusterau cymunedol drwy ddatblygiadau fel adeiladu’r Hyb Cymunedol ar Safle  Three Fields. Bydd Parsel B yn arwain at £500,000 o wariant ar adnoddau hamddenol oddi ar y safle er mwyn gwario ar y cyfleusterau yn yr ardal ehangach. 

 

·         Mae materion d?r wyneb yn amodol ar gymeradwyaeth Corff Cymeradwyo SDCau. Roedd y swyddog SAB yn ystod y cyfnod cyn-gwneud cais wedi dynodi y byddai’r cynllun yn medru draenio’n yn ddigonol ac ni fyddai’n niweidio unrhyw drydydd parti. Mae’n debyg y byddai yna welliant i’r safle pan fydd y nodweddion  SDCau yn cael eu gosod gan nad yw’r safle yn draenio yn dda iawn ar hyn o bryd. 

 

·         Mae ffocysu ar ganol trefi yn cael ei fabwysiadu ar draws Cymru.  

 

·         Mae’r maes sydd i’w ddatblygu wedi ei ddefnyddio er mwyn cadw anifeiliaid ac nid yw’n gyfoethog yn ecolegol. Mae yna gyfle i gyflwyno rhywogaethau mwy amrywiol gyda’r nod o ddenu pryfed peillio i’r ardal Mae mwy o berthi i’w plannu er mwyn hwyluso’r gwaith o gyfoethogi’r safle.  

 

·         Mae’r llwybrau cerdded ar y safle i ffwrdd o’r cerbytffordd wrth ddynesu at y gyffordd gyda mannau croesi uniongyrchol. Mae hyn er mwyn helpu’r ddarpariaeth SDCau.  Mae’r ardal ger y gyffordd yn gul iawn ond mae cerbydau gwasanaeth a sbwriel yn medru mynd i’r safle.  

 

·         Bydd manylion tirweddu yn cael eu cymeradwyo gan Swyddog Tirwedd cymwys a bydd yn briodol ar gyfer yr ardal a bydd ond angen ychydig o waith cynnal a chadw. 

 

·         Mae dwysedd y cynllun yn ymwneud gyda 26 o anheddau am bob hectar sydd yn is ar hyn o bryd na’r polisi o 30 o anheddau am bob hectar.

 

·         Mae’r cyswllt dwyrain - gorllewin yn llwybr i gerddwyr  ac wedi ei ddylunio mewn modd sydd yn cynnwys  trafnidiaeth gyhoeddus. Y nod yw sicrhau bod y cynllun yn addas ar gyfer y dyfodol. Mae yna feysydd ar y cynllun sydd yn mynd i gynnwys gorsafoedd bysiau wrth i ni symud ymlaen. 

 

·         Mae modd enwi strydoedd drwy gynnwys enwau Cymraeg sy’n adlewyrchu cysylltiadau diwylliannol a hanesyddol  yr ardal.

 

·         Mae cyllid A106 wedi sicrhau £2000 am bob annedd er mwyn darparu trafnidiaeth gynaliadwy. 

 

·         Mae’r unedau tai fforddiadwy yn cyfateb i 8 ‘maisonette’ un ystafell wely, chwe th? gyda dwy ystafell wely, tri th? gyda thair ystafell wely ac un t? pedair ystafell wely ac maent wedi eu dotio ar hyd y safle.

 

Roedd yr Aelod lleol ar gyfer Dwyrain Magwyr gyda Gwndy, y Cynghorydd Sir John Crook, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, wedi amlinellu’r pwyntiau canlynol:

 

·         Mae’r datblygiad arfaethedig wedi ei siomi gan y seilwaith truenus.  

 

·         Roedd y cymeradwyaeth amlinellol wedi ei ganiatáu 15 mlynedd yn ôl pan oedd yr ardal a’r pentref yma yn wahanol i’r ffordd y mae heddiw gyda llai o draffig.  

 

·         Mae yna gymhlethdod yngl?n ag eiddo rhwng y safle arfaethedig a safle Fferm  Rockfield o ran perchnogaeth y tir, sef p’un ai ei fod mewn perchnogaeth preifat neu a yw’n berchen i’r Cyngor Sir. Wrth ymateb, nodwyd fod ychydig o'r tir yn eiddo i’r Cyngor Sir gyda dau o barseli o dir mewn perchnogaeth preifat. Mynegwyd pryderon fod yr Awdurdod yn ddibynnol ar ddatblygiad arall ar gyfer y ffordd er mwyn cysylltu’r ddau safle. Wrth ymateb, nodwyd fod y ffordd gyswllt rhwng y dwyrain a'r gorllewin yn benderfyniad i’r Cyngor yngl?n ag a ddylid darparu’r ffordd pan fydd y dyraniad yma yn cael ei gyflwyni, boed gyda datblygiad neu heb ddatblygiad.  

 

·         Wrth ymateb i gwestiynau a ofynnwyd, roedd y Swyddog Priffyrdd  wedi datgan, wrth benderfynu’r cais hwn, bod dargyfeirio traffig yn Vinegar Hill yn fwy diogel na chreu croesffordd. Mae’r llif traffig i’r gogledd o Vinegar Hill yn isel iawn o’u cymharu gyda symudiadau traffig eraill.  

 

·         Wrth ymateb i gwestiwn a ofynnwyd, roedd y Swyddog Priffyrdd  wedi datgan fod Grange Road yn ffordd hanesyddol. Er mwyn hwyluso’r datblygiad hwn a’n sicrhau bod modd i gerbydau fynd heibio’n ddiogel, mae defnyddio cerbytffordd cyfredol gyda’r lled priodol wedi ei hyrwyddo, dylunio a modelu a fydd hefyd yn fesur i dawelu traffig ar gyfer y traffig sydd yn mynd drwy’r cyswllt dwyrain – gorllewin drwy  Grange Road.

 

·         Wrth ymateb i gwestiwn a ofynnwyd am dd?r wyneb yn ffoi o Vinegar Hill i Dancing Hill, nodwyd bod y SAB sydd wedi ei gymeradwyo a’r ddarpariaeth SDCau yn gadarn ac o safon uchel. Ystyriwyd bod yr ardal leol hon  yn elwa o’r ddarpariaeth SDCau o ran d?r wyneb yn llifo o’r meysydd ac ar Vinegar Hill.

 

·         Mae angen mynd i’r afael gyda materion tirwedd a Seilwaith Gwyrdd. 

 

Cynigiodd y Cynghorydd Sir M. Powell ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir  S. McConnel fod cais DM/2022/01042 yn cael ei gymeradwyo, a hynny’n amodol ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.  

 

Yn dilyn pleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid cymeradwyo              -           11

Yn erbyn cymeradwyo           -                      2

Ymwrthod rhag pleidleisio                   -           1

 

Cafodd y cynnig ei gymeradwyo.

 

Roeddem wedi cytuno bod y cynnig DM/2022/01042 yn cael ei gymeradwyo, a hynny’n amodol fel sydd wedi ei amlinellu yn yr adroddiad.

 

Dogfennau ategol: