Agenda item

Rhaglen Waith Archwilio Cymru: Diweddariad ar Gynnydd y Cyngor

Cofnodion:

Cyflwynodd y Dadansoddwr Perfformiad ddiweddariad ar gynnydd y Cyngor yn erbyn Rhaglen Waith Archwilio Cymru. Yn dilyn yr adroddiad, gofynnodd yr Aelodau gwestiynau:

 

Awgrymodd Aelod y dylid ystyried y Strategaeth Pobl a'r Cynllun Rheoli Asedau ar wahân. Eglurodd y Pennaeth Polisi, Perfformiad a Chraffu fod y Strategaeth Pobl a'r Cynllun Rheoli Asedau wedi'u cyfuno gan eu bod yn yr un astudiaeth gan Archwilio Cymru a chodwyd nifer o bwyntiau cyffredin. Yn ogystal, mae cyfres o strategaethau galluogi rhan o’r Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol. Am y tro, mae lefel uchel o gyffredinedd yn y ddau gynllun ond wrth iddynt ddatblygu, bydd mwy o wahaniaeth. Cytunwyd i wahanu'r strategaethau hyn mewn diweddariadau yn y dyfodol.

 

Gofynnwyd cwestiwn arall sut y caiff gwerth am arian ei asesu'n systematig gan y Cyngor ac Archwilio Cymru gan ddyfynnu enghraifft o rai goleuadau traffig dros dro. Eglurodd y Swyddog fod yna amrywiaeth o ddulliau i sicrhau gwerth am arian gan gynnwys rôl y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit, rhestr gyhoeddedig o'r holl wariant dros £500; cynhelir adolygiadau sy'n seiliedig ar risg, a chyflwynir adroddiadau cyllideb rheolaidd i'r Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg. Pan nodir problemau, gellir eu hychwanegu at y gofrestr risg. Roedd yr Aelodau'n ansicr a fyddai Aelodau etholedig neu aelodau'r cyhoedd yn gwybod ble i ddod o hyd i'r rhestr gwariant.

 

Gofynnodd yr Aelodau am fwy o sicrwydd ynghylch asesiad systematig o werth am arian a darparodd y Swyddog wybodaeth am reolau sefydlog contractau. Rhaid i swyddogion sy'n caffael nwyddau a gwasanaethau y tu allan i reolau sefydlog y contract gysylltu â'r Prif Archwilydd Mewnol am eithriad; adroddir rhestr o eithriadau i'r Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit. Mae gwaith lleol Archwilio Cymru yn edrych ar drefniadau’r Cyngor ar gyfer gwerth am arian ac wedi gwneud argymhellion yn Adroddiad ‘Springing Forward’ i sicrhau bod mecanweithiau adrodd a’r modd o fesur cynnydd yn erbyn strategaethau yn galluogi pwyllgorau craffu i asesu gwerth am arian.

 

Gan nodi pryderon bod Aelod wedi gorfod gwneud cais Rhyddid Gwybodaeth i gasglu gwybodaeth, pwysleisiodd y Swyddog bwysigrwydd cynllun cyhoeddi’r Cyngor a’i gyfrifoldeb i sicrhau bod y wybodaeth yn gyhoeddus ac yn hygyrch. Mae'r Cyngor yn datblygu mwy o ddata agored, ac felly mae'n haws cael gafael arno gan beiriannau chwilio a ddefnyddir yn gyffredin.

 

Gwnaed sylw y byddai'r iaith yn yr adroddiad yn elwa o fod yn fwy cryno a’n cynnwys rhai llinellau amser yn cael ei ystyried ar gyfer adroddiadau yn y dyfodol.

 

Bydd y Pennaeth Polisi, Perfformiad a Chraffu yn ymateb yn ysgrifenedig i gwestiwn ynghylch menter gymdeithasol (llithriad o bron i ddegawd ledled Cymru).

 

Cyfeiriodd Aelod at ddyletswydd y Cyngor i annog mentrau cymdeithasol a mesur eu heffaith. Cadarnhawyd nad oes cofrestr ond mae darn o waith yn edrych ar y gwahanol bartneriaethau a gwasanaethau ar y cyd lle rydym yn ariannu neu'n galluogi menter gymdeithasol. Gall ymgysylltu fod yn ffurfiol neu'n anffurfiol trwy waith canol tref a chlystyru a'r tîm partneriaeth a datblygu cymunedol.

 

Cyfeiriodd Aelod at enghreifftiau o bartneriaethau gofal cymdeithasol arloesol a yrrir gan y gymuned a gofynnodd a ellid archwilio hyn. Roedd y Swyddog yn meddwl bod Tai Sir Fynwy yn gweithio ar yr agwedd hon i annog cwmni cydweithredol o weithwyr gofal. Hefyd mae gwaith yn mynd rhagddo ar ficro-ofalu.

 

Nodwyd y papur. Craffodd yr Aelodau ar ymateb y cyngor i raglen waith Archwilio Cymru a gofynnwyd am sicrwydd bod cynnydd digonol yn cael ei wneud.

 

Nododd yr Aelodau y gallu i gyfeirio unrhyw faterion sydd wedi'u cynnwys yn astudiaethau cenedlaethol Archwilio Cymru i bwyllgorau eraill i'w hystyried lle maent yn nodi bod canfyddiadau sy'n arbennig o berthnasol i'r cyngor y mae angen craffu arnynt ymhellach.

 

Dogfennau ategol: