Agenda item

Troseddau casineb yn Sir Fynwy

Trafod y data ar gyfer Sir Fynwy.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y Tîm Diogelwch Cymunedol y data ar gyfer troseddau casineb a gyflawnwyd yn Sir Fynwy, gan nodi:

 

·         Bu gostyngiad bach mewn troseddau casineb a adroddwyd eleni i gymharu gyda’r llynedd.

·         Dengys ein data yr adroddwyd llai o droseddau o gymharu gydag awdurdodau cyfagos.

·         Yn nhermau’r ardaloedd lle mae’r troseddau yn digwydd, maent wedi eu lledaenu’n wastad ar draws y sir.

 

Rhoddodd swyddogion gyd-destun ychwanegol am y ffigurau a roddwyd, gan esbonio eu bod yn gymharol ar gyfer ffigurau poblogaeth cyffredinol ym mhob un o’r siroedd, felly er enghraifft tra bod poblogaeth Sir Fynwy yn 93,000 a Thorfaen yn 92,300, mae niferoedd y troseddau casineb a adroddwyd yn Sir Fynwy yn hanner y rhai a adroddwyd yn Nhorfaen, er fod ganddynt lefelau poblogaeth tebyg ac mae ein niferoedd yn gymharol uchel o gymharu gyda’r awdurdodau eraill yng Ngwent.

 

Esboniodd y Tîm Diogelwch Cymunedol y cynhelir cyfarfodydd misol gydag ystod eang o bartneriaid, yn amrywio o addysg, diogelu, yr heddlu, y gwasanaeth prawf, Ymddiriedolaeth Ambiwlans De Cymru a llawer arall ac nad yw’r Heddlu wedi tynnu sylw fod troseddau casineb yn broblem sy’n dod i’r amlwg. Hefyd yn eu cyfarfodydd wythnosol gyda’n swyddogion troseddu a gostwng, ni chafodd ei godi fel consyrn. Maent yn cydnabod, fodd bynnag, nad yw’r data ar ben ei hun yn rhoi’r darlun llawn, oherwydd tan-adrodd ar droseddau casineb oherwydd ofn dial a diffyg ymwybyddiaeth o’r hyn sy’n cyfrif fel trosedd casineb. Dywedwyd y cynhelir digwyddiad ymwybyddiaeth ar gyfer gyrwyr tacsi, a all fod yn profi troseddau casineb ond nad ydynt yn gwybod am yr angen i wneud adroddiad amdano na sut i wneud hynny. Fe wnaethant hefyd yn esbonio nad yw troseddau casineb yn eistedd ar ei ben ei hun yn aml ond yn eistedd wrth ochr troseddau eraill.

 

Her/Trafodaeth:

Mae gennyf ddiddordeb yn sut y gallwn esblygu’r sgwrs o amgylch hyn a chynyddu ymwybyddiaeth yn ogystal â chael tystiolaeth fwy penodol am lle mae troseddau yn digwydd.

 

Os mai dim ond troseddau casineb a adroddwyd sydd yn y ffigurau ac y gwyddom nad yw rhai pobl yn eu hadrodd, yna nid oes gennym ddarlun llawn. Beth ydyn ni’n wneud gydag ysgolion i sicrhau eu bod yn ei adrodd?

 

Rydym yn gweithio gydag ysgolion ar yr agenda bwlio a sut maent yn cofnodi digwyddiadau ac mae casineb yn un o’r categorïau, felly gallwn weithio gydag ysgolion i ddeall beth sy’n digwydd a’u cefnogi wrth fynd i’r afael ag ef.

 

Ydych chi’n meddwl fod tan-adrodd sylweddol ar droseddau casineb?

 

Mae’n anodd dweud hynny yn benodol am droseddau casineb, gan y gallech ddadlau fod tan-adrodd gyda phob troseddu. Pan siaradwn gyda’r gymuned gofynnwn os ydynt yn siarad gyda’r heddlu am ddigwyddiadau a gofynnant “beth yw’r pwynt?” felly mae cyswllt y cyhoedd gyda’r heddlu yn teimlo fel thema. Y cyfan a wnaiff y data a gyflwynwyd yw dangos i bobl oedd yn ddigon dewr i wneud adroddiad amdano, felly mae’n debyg y caiff troseddau casineb ei dan-adrodd i raddau helaeth iawn.

 

Deallaf y gall pobl fod yn ofnus ac eisiau bod yn ddienw. Os edrychwch ar ardaloedd eraill fel Casnewydd, sy’n fwy amrywiol yn ddiwylliannol, byddai’n ddiddorol gweld y canrannau o’r boblogaeth mewn gwahanol grwpiau o gymharu â’r data ar droseddau casineb.

 

Gallwn weld os oes unrhyw ddata ychwanegol y gallwn ei roi ar gyfer Sir Fynwy ond ni fyddai gennym ddata ar grwpiau trawsryweddol neu grefydd, os nad yw pobl wedi dweud hynny wrthym pam oeddent yn ei adrodd, a chadw mewn cof efallai nad yw rhai pobl wedi uniaethu fel rhywedd neu hil neilltuol, a byddai angen i ni gofiom am gywirdeb y data (Gweithredu: Andy Mason, Sharran Lloyd)

 

Beth arall ydych chi’n ei wneud heblaw siarad gydag ysgolion?

 

I chi fod yn gwybod, yn ogystal â’n gwaith gydag ysgolion, rydym hefyd yn gwneud yr un gwaith gyda lleoliadau ieuenctid, yn cynnwys pobl ifanc hyd at 25 oed. Rydym hefyd yn gwneud gwaith pontio’r cenedlaethau ac yn ceisio ymestyn allan i fusnesau, tacsis ac yn y blaen i weld sut y gallwn eu cefnogi, ond fel aelodau etholedig, os teimlwch fod meysydd y gallem ymestyn allan iddynt, gadewch i ni wybod.

 

Gwasanaethau ieuenctid, datrysiadau busnes, tacsis, felly rydyn ni’n ceisio ymestyn allan lle gallwn ond mae’n waith ar y gweill, felly os yw pobl yn ymestyn allan atom ni drwyddoch chi, cysylltwch â ni.

 

A yw’r Heddlu yn helpu rhai sy’n adroddwyr cyson ac yn cefnogi dioddefwyr cyson mewn mod sensitif?

 

Mae ‘Cod Ymarfer Dioddefwyr 2015’ ac mae gan y rhai sy’n adodd hawl i wasanaeth estynedig gan yr heddlu.

 

Mae gennyf bryderon am radicaleiddio pobl ifanc drwy weithgaredd ar-lein. Pa fesurau ataliol sydd yn eu lle os credwn fod problem?

 

Mae ‘Panel Atal a Sianel’ o Heddlu sy’n ymroddedig i gyflwyno’r rhaglen honno, gan weithio’n unigol gyda phobl, a hefyd yn defnyddio arbenigedd gan Ymddiriedolaeth St Giles ar gyfer amheuon o radicaleiddio cysylltiedig a gangiau a gweithgareddau llinellau cyffuriau.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

Rydym wedi gofyn rhai cwestiynau da heddiw ac wedi cael ymatebion gwirioneddol dda ond rwy’n meddwl fod angen i ni ofyn cwestiynau tebyg i’r Heddlu, felly byddwn yn eu gwahodd i’n cyfarfod nesaf i drafod troseddau casineb yn ogystal â llinellau cyffuriau a hefyd wahodd ymddiriedolaeth St Giles.

 

Gweithredu: Andy Mason i anfon gwybodaeth i’r pwyllgor ar ‘Banel Atal a Sianelu’.