Agenda item

Cynllun Lles Gwent Drafft

Ymgynghori â'r Pwyllgor Craffu ar Gynllun Llesiant Gwent drafft yn dilyn adborth gan y pwyllgor yn ei gyfarfod diwethaf.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y swyddogion ddrafft Gynllun Lles Gwent ac esbonio y cafodd y cynllun ei ddiwygio yn dilyn craffu yn y cyfarfod blaenorol ac y gofynnir i bob un o’r pump Cyngor yn ardal Gwent ei gymeradwyo, er mai dim ond Sir Fynwy oedd wedi dewis ei graffu  cyn ei fabwysiadu.

 

Her:

·         Mae’r ddogfen hon yn darllen fel unrhyw ddogfen gyffredinol arall ac nid yw’n teimlo ei bod yn berthnasol o gwbl i ardal Gwent. Mae’n teimlo fel datganiad o fwriad strategol, oherwydd y medrid canfod yr amcanion mewn unrhyw fan arall.

·         Os yw hyn yn gynllun, pam nad yw’n cynnwys unrhyw gamau gweithredu neu amserlenni i ni fonitro cyflenwi’r amcanion? Mae’n teimlo’n ysgafn iawn o ran sylwedd ac mae’n amheus sut y gellid ei ddefnyddio i werthuso perfformiad y bwrdd i gyflawni’r amcanion.

·         I ba raddau mae pob swyddog yn y bartneriaeth wedi cymryd rhan yn hyn ac yn nhermau’r broses llywodraethiant, lle caiff hyn ei gyflwyno ac a yw cynghorau eraill wedi ei graffu?

·         Nid oes unrhyw gyfeiriad at ffactorau diweddar sy’n cael effaith fawr ar bobl, tebyg i’r cynnydd mewn costau ynni a’r cynnydd mewn costau byw. Pryd y cafodd hyn ei lunio? A roddir ystyriaeth i’r ffactorau hyn i’w wneud yn fwy perthnasol a realistig?

·         Mae wyth egwyddor Marmot yn amrywio’n sylweddol ond i ba raddau mae’r cynllun yn cwmpasu eu hysbryd a’u hethos ac ar ba sail y cânt eu mesur?

·         Sut mae’r cynllun hwn yn alinio gyda ein Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol i sicrhau amcanion a darpariaeth cydnaws?

Ymateb Swyddog:

Diolch am eich adborth, y byddwn yn ei gyfleu yn ôl, gan ddeall y dymunwch hysbysu’r Arweinydd a’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn ffurfiol am hyn. Mae egwyddorion Marmot yn rhan o ddarn ehangach o waith sy’n mynd rhagddo gyda’r Sefydliad Iechyd a Thegwch i ddeall y camau gweithredu y gall y bwrdd eu cymryd i wella cydraddoldeb yn y rhanbarth, felly bydd argymhellion penodol yn deillio o’r adroddiad a ddylai wedyn cael eu hymwreiddio yn y cynllun hwn. Bydd mwy o gynlluniau cyflenwi a ddylai roi ystyriaeth i’r argymhellion hynny gyda chamau gweithredu penodol i’r Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus ganolbwyntio arnynt. Gall y Pwyllgor hwn graffu ar y cynlluniau cyflenwi hynny er mwyn dal y Bwrdd i gyfrif am gyflenwi y cynllun ehangach.

 

Mewn cyfeiriad at y cwestiynau am y dystiolaeth a lywiodd y cynllun hwn, defnyddiwyd Asesiad Llesiant Gwent a ddatblygwyd gan swyddogion ar draws y bartneriaeth, i lywio’r cynllun gwaith. Bydd gwaith yr Athro Marmot i drin tegwch yn dod ag arbenigedd a dirnadaeth i’r Bwrdd i lywio’r cynlluniau cyflenwi. Bu’r arbenigwyr yn bresennol ym mhob un o’r siroedd yn siarad gyda phobl i ddefnyddio’r wybodaeth i lywio eu gwaith.

 

Yn nhermau i ba raddau y bydd aliniad rhwng ein Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol a’r cynllun hwn, gan mai’r Asesiad Llesiant yw’r sylfaen tystiolaeth ar gyfer y ddau, dylai fod cysylltiad clir rhwng y camau gweithredu yng nghynllun cyflenwi Sir Fynwy â’n hamcanion yn y Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol.

 

Yng nghyswllt y broses llywodraethiant, eir â’r drafft gynllun hwn i bob un o’r pump Cyngor iddynt ei gymeradwyo, fodd bynnag, Sir Fynwy yw’r unig gyngor sy’n cynnal craffu cyn gwneud penderfyniad. Cafodd hefyd ei anfon at bob cyngor tref a chymuned yn ystod y cyfnod ymgynghori. Bydd craffu parhaus drwy swyddogaeth craffu rhanbarthol y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus yn hollbwysig a hefyd graffu gan y pwyllgor hwn ar gyflwyno cynllun cyflenwi Sir Fynwy.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

Rydym wedi craffu ar hyn ddwywaith ac yn siomedig fod y cynllun yn dal i ddarllen fel cynllun cyffredinol heb ddigon o ddyfnder, a allai fod yn ymwneud ag unrhyw le, heb unrhyw ymdeimlad o le na chyd-destun lleol. Teimlwn fod diffyg cyfeiriad at yr hinsawdd economaidd cyfredol a’r anawsterau sy’n wynebu pobl oherwydd cynnydd mewn costau ynni a’r argyfwng costau byw.

 

Rydym yn bryderus i ba raddau y cafodd y cynllun hwn ei lunio gan y bartneriaeth. Mae’r cynllun yn teimlo fel cynllun a ddatblygwyd ar wahân gan un awdurdod, yn hytrach na bod cytundeb ar y cyd ar gyfeiriad strategol y dyfodol. Os na chafodd y cynllun ei ddatblygu ar y cyd gan bartneriaid, rydym yn bryderus na fydd efallai gydberchnogaeth ar draws y bwrdd ac y gall hynny effeithio ar gyflenwi ei amcanion.

 

Rydym hefyd yn bryderus iawn na chafodd ei graffu gan yr awdurdodau eraill sy’n bartneriaid yng Ngwent ac na chafodd ei graffu gan Bwyllgor Craffu Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus Rhanbarthol Gwent, nad yw wedi cynnal ei gyfarfod cyntaf hyd yma, gan felly godi cwestiwn am ddilysrwydd y cynllun a’r broses llywodraethiant. Fel yr unig Bwyllgor Craffu sydd wedi cynnal craffu ar y cynllun hwn cyn gwneud penderfyniad, teimlwn ei fod yn rhy unochrog os mai dim ond ni sydd yn craffu arno, er y nodwn y gofynnwyd i’r pump Cyngor arall ei gymeradwyo. I gloi, cwestiynwn werth ‘cydweithrediad’, os nad ydym yn ‘cydweithredu’.

 

Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at yr Awdurdod i dynnu sylw at bryderon y pwyllgor.

 

Dogfennau ategol: