Agenda item

Mis 9 Adroddiad Budget Outturn - Adroddiad monitro'r gyllideb ar gyfer craffu misol.

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Aelod Cabinet Rachel Garrick a Jonathan Davies yr adroddiad ac ateb cwestiynau’r aelodau gyda Peter Davies, Will Mclean, Frances O’Brien ac Ian Saunders.

Cyn y cwestiynau nododd y Cadeirydd y deellir bod y darlun yn un cymhleth o ran cronfeydd wrth gefn a darlun sylfaenol y Cyngor ond bydd trigolion eisiau gwybod beth yw'r sefyllfa ariannol a nodir yn yr adroddiad, gan y bydd o bosib erbyn diwedd yr adroddiad  yn anghynaliadwy yn ariannol. Byddai’n rhesymol bod eisiau deall yr effaith ar y gynrychiolaeth o’n safbwynt yn cael ei wella gan y tynnu i lawr ychwanegol o gronfeydd wrth gefn, na all fynd ymlaen am byth, ac effaith grantiau na chânt byth eu hailadrodd.

Her:

Dylai aelodau’r Pwyllgor nodi ei fod yn anarferol darllen rhai pethau yn yr adroddiad e.e. 3.19, sy’n cyfeirio at yr anhawster posibl wrth leihau costau a “mesurau mwy eithafol”. Mae 3.2.0 hefyd yn anarferol iawn wrth ddatgan y bydd mesurau yn “hollbwysig i sicrhau bod y Cyngor yn diweddu’r flwyddyn mewn sefyllfa ariannol gynaliadwy”. Mae 3.2.1 yn nodi na fydd rhai arbedion “o reidrwydd yn dod ag unrhyw fudd pellach i gyllideb y blynyddoedd i ddod” – a ydym yn dileu materion unwaith ac am byth a allai arwain at ddirywiad gwasanaethau?

Mae’r geiriad hwn yn amlygu bod angen cael cydbwysedd rhwng ein gallu i roi mesurau caled iawn ar waith yn ystod y flwyddyn, tra’n rhoi cynlluniau at ei gilydd ar gyfer y flwyddyn nesaf ar yr un pryd. Mae'r pecyn o fesurau a gyflwynwyd yn y flwyddyn gyfredol wedi ymateb i sefyllfa sydd wedi datblygu'n gyflym iawn. Mae’r pwynt ynghylch cynaliadwyedd ariannol yn ymwneud â sicrhau ein bod yn rhoi’r lefel angenrheidiol o reoli costau ar waith yn awr; mae'r dirywiad pellach ym Mis 9 yn siomedig. Mae angen inni sicrhau ein bod yn cymryd camau i sicrhau nad oes unrhyw ddirywiad pellach, gan ein rhoi ar lwybr cynaliadwy at waith y flwyddyn nesaf a thu hwnt.

Mae'r gwrthgyferbyniad rhwng newyddion cadarnhaol ar y naill law a negyddol ar y llaw arall yn bryder, yn enwedig o ran mynd at lefel hollbwysig o gronfeydd wrth gefn. A oes angen i ni edrych yn fanylach ar sefyllfa’r cronfeydd wrth gefn, a’r effaith ar gyllidebu yn y dyfodol?

Mae'r defnydd cynyddol o gronfeydd wrth gefn o ganlyniad i archwilio'r bwriad i ddefnyddio derbyniadau cyfalaf i dalu am rai o'r risgiau ychwanegol hynny. Mae wedi dod yn amlwg nad yw pob un o’r meysydd yn gymwys o dan y gyfarwyddeb cyfalafu ac, felly, rydym yn gorfod troi at gronfeydd wrth gefn ar y darn penodol hwnnw. O ran defnydd, rydym ni, fel gweinyddiaeth, yn pryderu am lefel y cronfeydd wrth gefn sydd ar gael: nid yw’r Cyngor wedi eu hailgyflenwi dros y blynyddoedd diwethaf i unrhyw lefel canfyddadwy, ar wahân i’r adeg pan oedd gennym ni arian ychwanegol ar gyfer Covid. Mae gennym y drydedd lefel isaf o gronfeydd wrth gefn yng Nghymru. Felly, rydym hefyd yn rhoi sylw eithafol i ble mae ein cronfeydd wrth gefn, a beth y gellir ei wneud am hynny.

Ond o ran defnyddio cronfeydd wrth gefn i roi cymhorthdal i’n gwariant refeniw o £6m, £1m yn fwy na’r disgwyl, mae hyn ar wahân i’r gyfarwyddeb derbyniadau cyfalaf?

Mae Tabl 3 yn glir: mae’n gyfuniad o eitemau sy’n mynd tuag at wneud y cynnydd net o £1.06m. Mae diffyg o ran gallu cymhwyso’r holl gostau yr oeddem yn gobeithio eu gwneud ym Mis 6 i gyfalafu – mae’n gostwng tua. £500k – ac mae'r diffyg o fewn y cynigion a godwyd gan wasanaethau ym Mis 6. Ceir paragraffau yn ddiweddarach yngl?n â lefelau wrth gefn, o ran defnydd ychwanegol; nodwch y papurau sy'n mynd i'r Cabinet a'r Cyngor yr wythnos hon am gadernid lefelau ein cronfeydd wrth gefn, a'u defnydd ar gyfer y flwyddyn hon a'r flwyddyn nesaf.

Beth fyddai’r sefyllfa pe na bai’r arian wrth gefn yn cael ei dynnu i lawr, a/neu pe na bai grant untro wedi ei gyflwyno? Beth yw’r darlun sylfaenol, er mwyn i ni wybod beth yw sefyllfa go iawn y Cyngor?

Mae’n anodd dad-ddewis, gan ein bod wedi cael nifer o grantiau untro ac incwm ychwanegol drwy gydol y flwyddyn. Y gwir amdani yw bod ein defnydd o gronfeydd refeniw wrth gefn yn cynyddu £1.06m. I bob pwrpas, yr eitem honno, ynghyd â’r gyfarwyddeb cyfalafu, yw’r ffordd yr ydym yn talu’r costau annisgwyl sydd wedi codi. Cymerir y pwynt, serch hynny. I gael crynodeb syml o sut y mae wedi effeithio ar ein sefyllfa alldro, mae’r ateb yn Nhabl 3: bu cynnydd yn y defnydd o gronfeydd refeniw wrth gefn i dalu’r costau ychwanegol sydd wedi dod drwodd rhwng Mis 6 a Mis 9, wedi’u gwrthbwyso gan gyllid ychwanegol ond nid i'r graddau llawn. Mae’r cronfeydd wrth gefn ar lefel is nag y byddem ei eisiau, ac felly mae angen i’n disgyblaeth gyllidebol fod yn gadarn iawn – ni allwn ddibynnu ar gronfeydd wrth gefn yn y tymor canolig i fechnïo’r cyngor ar gyfer gorwariant nas rhagwelwyd.

Mae’r broblem yn cael ei gyrru’n bennaf gan gynnydd mewn costau gofal cymdeithasol. Beth yw'r gymhariaeth â Chynghorau eraill? A ydynt yn wynebu pwysau costau tebyg yn y maes hwn?

Roeddem hefyd yn bryderus ynghylch y cynnydd yng nghostau lleoliadau pobl ifanc ac yn chwilfrydig ynghylch sut yr ydym yn perfformio o gymharu â Chynghorau eraill, gyda phryder ein bod yn uwch na’r cyfartaledd yn y maes hwnnw. Mae ein Prif Swyddog Ariannol wrthi’n gweithio ar yr ymchwil a’r gwaith casglu gwybodaeth hwnnw – y pennawd o hynny yw ein bod tua’r cyfartaledd yn ein gwariant yn y maes hwn. Mae’n effeithio ar bob Cyngor ar hyn o bryd: mae Wrecsam, er enghraifft, wedi gweld cynnydd o 100% dros y 5 mlynedd diwethaf yng nghost lleoliadau plant, tra bod ein cynnydd ni wedi bod tua 50%.

O ran y “perygl y bydd 9 ysgol arall yn mynd i ddiffyg ariannol”, beth yw ein hymagwedd a beth fyddai’r effaith ar addysg plant?

Rydym wedi symud o 8 i 9 ysgol mewn diffyg ariannol. Mae dau ar lefel isel iawn (llai na £10k), ac felly, rydym yn disgwyl y byddant yn gwella'n gyflym. Mae un ysgol wedi bod â diffyg sylweddol ers amser, ond gan weithio gydag Aelodau’r Cabinet rydym yn bwriadu darparu cymorth ychwanegol i hwyluso ei hadferiad dros gyfnod estynedig o amser. Mae lefel yr ysgolion eraill yn un y gellir ei hadennill dros y 2 flynedd nesaf. Byddwn yn gweithio’n agos gyda nhw i sicrhau bod ganddynt gynllun priodol ar waith. Cafodd y balansau sy’n dod i mewn i’r flwyddyn eu chwyddo’n artiffisial oherwydd grantiau sylweddol gan Lywodraeth Cymru, yn enwedig i gefnogi dysgwyr yn eu hadferiad ar ôl y pandemig, a bu’n rhaid gwario’r arian hwnnw ar bethau penodol iawn o fewn yr amserlen. Roedd effaith hefyd bod angen i'r ysgolion gwrdd â'r codiad cyflog o 2% yn ystod y flwyddyn, sef £1m arall. O ran yr effaith ar ddysgwyr, rydym yn bwriadu gweithio gydag ysgolion fel nad oes unrhyw rai – bod yr ysgolion yn adennill yn ofalus ac yn ystyried dros amser os oes newidiadau i gostau nad ydynt yn ymwneud â chyflogau neu gostau sy’n seiliedig ar gyflog y gellir eu gwneud i leihau unrhyw effaith bosibl ar ddysgwyr.

A ydym yn cael unrhyw arwyddion y bydd galw pellach ar gronfeydd wrth gefn?

Rydyn ni’n meddwl ein bod ni wedi cyrraedd lefel o sicrwydd nawr, ac felly ni ddylai fod. Cawsom rywfaint o hysbysiad hwyr am grantiau gofal cymdeithasol, yr oeddem yn gallu ei roi yn y rhagolwg, ac mae’n rhoi lefel o sicrwydd i ni. Y prif bryder o hyd yw'r sefyllfa gofal cymdeithasol yn symud tuag at ddiwedd y flwyddyn; byddwn yn parhau i edrych ar atal costau ac ystyriaethau gwerth am arian.

A oes unrhyw sgôp ar gyfer mwy o hyblygrwydd o ran y derbyniadau cyfalaf a ddefnyddir ar gyfer refeniw?

Defnyddiwyd cyfalafu yn helaeth yn y blynyddoedd diwethaf, lle bo'n briodol. Roeddem yn gobeithio ei ddefnyddio’n llawnach, o ran adennill y gyllideb, ond y teimlad yw ein bod y tu hwnt i gwmpas lle y dylem fod o ran ei defnyddio. Rydym mewn cysylltiad cyson â Llywodraeth Cymru a Chymdeithas y Trysoryddion ar hynny, a chredwn ein bod yn gadarn yn ein dehongliad. Mae'r tabl yn 3.46 yn nodi'r rhagolwg mewn balansau derbyniadau cyfalaf: £3m wedi ei ragamcanu hyd at ddiwedd 26/27, felly rhaid cofio bod y pot o dderbyniadau cyfalaf yn gyfyngedig. Felly, er y gallem edrych ar hyblygrwydd pellach, a mynd at swyddogion ynghylch defnyddiau ychwanegol, rhaid inni gofio eu bod yn rhai unwaith ac am byth, ac mae eu defnyddio at y diben hwn yn cyfyngu ar y gallu i dynnu arnynt at eu diben traddodiadol i gefnogi gwariant cyfalaf a’r rhaglen gyfalaf ehangach. Daw yn ôl i gydbwysedd, ond rydym yn cydnabod yr awgrym i archwilio hyblygrwydd, lle bo modd.

Beth yw’r ganran arferol o’r gyllideb refeniw a ddylai fod yn y cronfeydd wrth gefn? Beth oedd yn 19/20, 20/21?

Nid yw’n gwbl ddefnyddiol cymharu lle’r ydym arni gyda 20/21, oherwydd y cyllid ychwanegol ar gyfer Covid. Rydym yn is na lle yr hoffem fod yn yr meysydd hynny, ar hyn o bryd. Mae siart yn 3.31 yn dangos hanes ein lefelau wrth gefn fel canran o'r gyllideb net dros amser. Mae’n bwysig gwahaniaethu rhwng yswiriant cronfa’r Cyngor, gan ein bod wedi ei adael yn draddodiadol rhwng 4 a 6%; hyd yn oed gyda'r flwyddyn gyfredol a'r defnydd a gyllidebwyd ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf, mae'n parhau i fod yn 4.9%.

O ran cronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, rhaid i ni gofio eu bod ar gyfer defnydd penodol ac wedi'u sefydlu i gwmpasu rhai amcanion trawsnewidiol a risgiau penodol megis yswiriant, risg trysorlys, diswyddiadau, ac ati. Byddem yn disgwyl lefel o ddefnydd o gronfeydd wrth gefn dros amser ar gyfer i’w defnyddio at y dibenion penodol hynny e.e. os byddwn ynbuddsoddi mewn trawsnewid gwasanaethau, byddwn yn galw ar y cronfeydd wrth gefn i ysgogi arbedion effeithlonrwydd a lleihau costau hirdymor.

O ystyried y gorwariant ar Ofal Cymdeithasol, beth yw’r rhagolygon realistig o droi trywydd cynyddol y costau hynny i un sy’n eu gweld yn dod i lawr?

Gan ein bod yn trafod Mis 9 heddiw, ni fyddem yn mynd i mewn i’r gyllideb gyffredinol ar hyn o bryd.

A allech roi mwy o fanylion am y gostyngiad o £424k yn yr adran Briffyrdd?

Mae’r tanwariant hwnnw o ganlyniad i’r incwm cynyddol yr ydym yn ei gael ar gyfer pethau fel cau ffyrdd a draenio trefol cynaliadwy. Rydym hefyd wedi derbyn  grant llifogydd gan Lywodraeth Cymru sy’n talu costau gwasanaethau craidd.

Mae'r gyllideb Hamdden wedi symud drwy'r flwyddyn o £1m i £1.4m i alldro a ragwelir o £1.7m – a ellir egluro hynny ymhellach?

Mae hyn oherwydd y stori gyfarwydd am gostau byw a chostau ynni cynyddol. Mae'r tîm wedi gwneud gwaith rhagorol yn ddiweddar ar hyrwyddo i ddod ag incwm yn ôl i'r safleoedd. Yn ystod y cyfnod penodol hwn, bu ansicrwydd aruthrol ynghylch costau byw ac ynni, a materion ynghylch a fyddai pobl yn parhau â'u haelodaeth. Rydyn ni wedi bod yn ddarbodus yn yr hyn yr ydym wedi'i awgrymu yn ystod y flwyddyn ac rydym yn falch iawn gyda'r cynnydd diweddaraf. Mae ceisio rhagweld niferoedd cwsmeriaid yn y cyfnod hwn wedi bod yn heriol iawn.

Crynodeb y Cadeirydd:

Rydym yn cydnabod bod y rhain yn sefyllfaoedd hynod heriol. Rydym wedi craffu ar yr adroddiad ac yn fodlon ar yr atebion i’r cwestiynau a godwyd.

?

 

Dogfennau ategol: