I gynnal craffu cyn penderfynu ar y newidiadau arfaethedig i'r Gwasanaeth Casglu Gwastraff Gardd.
Cofnodion:
Roedd yr Aelod Cabinet Catrin Maby a Carl Touhig wedi cyflwyno’r adroddiad ac wedi ateb cwestiynau gan Aelodau.
Her:
A fydd yna ddulliau talu amgen fel nad oes yna ffi un tro? A oes yna gymorth ar gyfer teuluoedd incwm isel? Nid yw rhai Cynghorau yn codi ffioedd am y gwasanaeth – os yn wir, ac felly, sut y mae modd iddynt wneud hyn?
Nid ydym yn gwybod beth fydd yr incwm tan ein bod yn dechrau’r cynllun. Rydym yn gobeithio gosod y ffi yn £50, a hynny’n seiliedig ar yr adborth yr ymgynghoriad a’r arolwg – os yw’r arolwg yn gywir, byddwn ond yn sicrhau bod y £720k sydd angen er mwyn gweithredu’r cynllun. Os yw hyn yn newid a’n bod yn gorgyflawni, mae modd i ni ystyried fersiynau eraill. Os ydym yn cyrraedd 17k o finiau mewn cyllideb sydd yn gorgyflawni, ni fyddem am godi ffioedd am finiau yn y flwyddyn ddilynol ar gyfer y cwsmeriaid yma a byddem yn ceisio talu’r costau ychwanegol. Ni ddylem fod yn gorgyflenwi ‘ta beth (nid oes hawl gennym i wneud hyn) ac nid ydym am godi ffi mwy nag sydd angen ar drigolion am wasanaeth. Pan gyflwynwyd y biniau, roedd yna bryder y byddem yn colli llawer o gwsmeriaid, ond rydym wedi cynyddu’r nifer gyda 2,000 o bobl ychwanegol.
Byddai’n anodd gyda’r system Civica sydd gennym ein bod yn cynnig taliadau misol neu chwarterol ond byddai modd i ni ystyried hyn ar gyfer y flwyddyn ganlynol os ydym yn gorgyflawni. Ac os ydym dal yn gorgyflawni yn ystod y flwyddyn ganlynol, bydd modd i ni ystyried gostyngiadau ar gyfer pobl sydd ar incwm isel. Y drafferth eleni yw nad ydym yn gwybod y nifer o gwsmeriaid ac rydym yn gwybod bod cynyddu i £50, a hynny o £28, yn naid sylweddol.
A yw cyflwyno bin ffi isel wedi lleihau tipio anghyfreithlon?
Nid ydym wedi gweld unrhyw effeithiau negatif o ran tipio anghyfreithlon. Mae newidiadau ym maes Gwastraff yn aml yn cael eu cysylltu gyda’r bygythiad o tipio anghyfreithlon ond anaml iawn y mae hyn yn digwydd. Nid yw’r bobl sydd yn tipio’n anghyfreithlon fel arfer yn defnyddio ein safleoedd CA neu wasanaethau’r Cyngor ‘ta beth, ac felly, nid ydynt yn cael eu heffeithio fel arfer gan y newidiadau yr ydym yn gwneud.
A ddylem fod yn fwy rhagweithiol yn annog garddwyr i gompostio yn eu cartrefi? A oes yna arian dros ben yn y gyllideb fel ein bod yn medru rhoi’r offer angenrheidiol i bobl?
Byddwn yn sicr yn ystyried hyn. Rydym yn cynnig biniau am bris sylfaenol (heb ychwanegu dim byd i wneud elw) drwy ein siopau ailddefnyddio a’r casgenni d?r ond mae hyn yn ffordd o helpu pobl eto gan eu bod yn cael eu cynnig am bris sy’n is na’r gost o’u cynhyrchu. Dyma’r math o syniadau yr ydym am eu hystyried fel rhan o’r broses graffu dros y flwyddyn sydd i ddod.
A oes modd esbonio’r ffigyrau ymhellach e.e. £6 y cwsmer, cwsmeriaid ychwanegol, costau posib hyd at £850k, ayyb.?
Mae’r cymhorthdal o £6 yn dod o bob un aelwyd; mae pob aelwyd yn talu £6 drwy’r dreth gyngor ac 14,000 o gwsmeriaid yn defnyddio’r cynllun gwastraff o’r ardd (40,000 o aelwydydd am £6 = £240k). Cwsmeriaid ychwanegol yw un o’r opsiynau sydd yn cael eu hystyried os nad ydym yn gwneud dim byd h.y. os ydym yn cynnig y gwasanaeth eto, mae’n debyg y byddwn yn gweld 2,000 o gwsmeriaid ychwanegol yn cofrestru, a hynny’n seiliedig ar yr hyn yr ydym wedi gweld dros y ddwy flynedd ddiwethaf. Bydd y cwsmeriaid ychwanegol yma yn gosod cost ychwanegol o £200k ar y gwasanaeth gan y byddwn angen cerbyd ychwanegol, ond bydd hyn ond yn arwain at £56k o incwm ychwanegol os oes angen talu £28 am bob bin. Y prif bwynt i’w nodi yw bod ein costau ar hyn o bryd yn £720k a’n hincwm yn £480k. Er mwyn talu am gostau 14,500 o gwsmeriaid, yn seiliedig ar eu hymatebion, rhaid ni godi ffi o £50, ac os ydynt oll yn cofrestru, byddwn yn cyrraedd £725k. Nid yw costau swyddfa gefn neu’r ffioedd rheoli wedi eu cynnwys. Os yw’r holl 17,000 o finiau yna yn aros y tu hwnt i’r maes gwasanaeth, byddai’n bosib i ni arbed £850k ond byddai hyn yn annhebygol gan nad yw 14% am weld costau’r gwasanaeth yn cynyddu a byddai'n well ganddynt weld y gwasanaeth yn dod i ben. Fodd bynnag, gyda nifer cryf o gwsmeriaid, rydym yn gobeithio bod modd i lanio rhywle rhwng £720k a £850k, gan leihau’r cymhorthdal sydd yn cael ei fuddsoddi yn ôl i mewn i’r gwasanaethau eraill.
Os oes yna ostyngiad yn y nifer sydd yn cofrestru ar gyfer y gwasanaeth, yna ni fydd angen cynifer o staff a cherbydau, ac felly, bydd y costau’n lleihau? A yw’r cynnydd o 78% yn rhy uchelgeisiol? Os nad yw'n glir beth fydd nifer y cwsmeriaid, a oes modd cynnig dau daliad o £25, gyda’r ail daliad yn ddibynnol ar y nifer o gwsmeriaid a'r cerbydau sydd angen, fel nad yw pobl yn talu mwy nag sydd angen?
Yn seiliedig ar y 14% a ddywedodd nad oeddynt yn dymuno derbyn y gwasanaeth os oes yna gynnydd mewn costau, mae hyn yn ein harwain ni nôl at y ffi £50, sydd yn mynd i gostio £725k. Y risg gyda dau daliad ar wahân yw bod pawb yn cofrestru ar gyfer y taliad cyntaf, ond os yw llawer yn penderfynu peidio talu’r ail daliad, yna bydd gweddill y cwsmeriaid yn gorfod talu ail daliad sydd yn fwy na £25 er mwyn sicrhau bod y gwasanaeth yn hyfyw. Os yw’r 14% yn byw yn yr ardaloedd sydd yn anodd eu cyrraedd, yna mae’n debyg y byddem yn medru tynnu nôl rhag defnyddio un cerbyd, ond mewn gwirionedd, bydd y cerbyd yn cael ei ddefnyddio ar draws y sir, a byddwn dal angen y cerbyd ychwanegol - bydd angen i ni golli 25% o gwsmeriaid er mwyn medru colli un cerbyd.
A oes modd cyflwyno cynllun ar gyfer biniau compostio yn y cartref a gadael i bobl i wybod bod modd gwneud hyn mewn ffordd syml?
Roeddem wedi hysbysu biniau compostio cryn dipyn tua 7-8 mlynedd yn ôl. Mae 10% o’r sir yn meddu ar finiau compostio a hoffem ystyried y maes hwn yn fwy manwl - os oes yna orwariant o bosib, byddem hefyd yn medru ystyried casgenni d?r a fyddai’n ddefnyddiol iawn. Byddwn yn sicr yn ceisio hyrwyddo’r biniau compost gyda fideos ayyb sydd yn fwy priodol ar gyfer sut y mae pobl am dderbyn gwybodaeth erbyn hyn.
Mae angen ystyried nifer o bryderon. Pam ddylai rhywun mewn fflat ag un ystafell wely a dim gardd, neu rywun sydd yn compostio gartref, fod yn cyfrannu ar ran rhywun sydd yn berchen ar ardd fawr ac yn penderfynu cofrestru ar gyfer y gwasanaeth? Pa mor ddoeth yw datgan y dylid sicrhau bod unrhyw gynnydd yn y dyfodol yn cyfateb i’r cynnydd mewn Mynegai Prisiau Manwerthu (RPI) pam nad ydym yn gwybod faint y bydd hyn yn cynyddu? Mae amseru’r adroddiad yn destun pryder hefyd - dylai pethau gael eu craffu cyn bod adroddiad terfynol yn cael ei gyhoeddi.
Rydym yn ymddiheuro am y trywydd y mae’r adroddiad wedi ei ddilyn, a hynny yn sgil amseru’r Pwyllgor Craffu a’r Cabinet o gwmpas y Nadolig, a’n sicrhau bod y ddogfen ymgynghori yn barod. Byddwn yn sicrhau bod y Cabinet yn gwybod am yr hyn a drafodwyd heddiw – bydd yn cael ei ychwanegu at adroddiad y Cabinet.
A ydym hefyd yn creu incwm o’r gwastraff unwaith ei fod wedi ei gompostio, fel gwrtaith, ac a yw’r ffigyrau yma wedi eu hystyried?
Mae’r gwastraff o’r gerddi yn cael ei drin mewn fferm yn y Fenni, lle y caiff ei wasgaru ar y tir. Rydym yn prynu ychydig o’r gwrtaith yn ôl a’i werthu yn y siopau ail-ddefnyddio. Byddai danfon hyn i safle a oedd yn cynnig rhoi ychydig o arian nôl i ni yn costio £250k yn ychwanegol, gyda’r risg na fyddem yn creu’r incwm, ac felly, rydym yn credu ein bod wedi taro’r fargen orau ar gyfer ein trigolion. Nid oes modd cynnwys cost y driniaeth yn y ffioedd – mae tu hwnt i hyn. Yr unig ffi sydd yn medru cael ei godi yw ar gyfer casglu ac nid yw hyn yn ffurfio rhan o’r £50, ond pe bai elw yn cael ei wneud drwy werthu’r compost, byddem yn disgwyl ail-fuddsoddi hyn mewn gwasanaethau, gan gynnwys gwastraff o’r ardd.
O ran yr Asesiad Effaith Integredig a’r Nodweddion Gwarchodedig, mae’r gwasanaeth yn bwysig ar gyfer y sawl sydd methu mynd i’r ganolfan ailgylchu yn sgil eu hoedran, ond bydd angen iddynt fynd i un o’r safleoedd gwastraff a chasglu bin compostio ar gyfer y cartref?
Ydy – mae hynny’n gamgymeriad ond mae wardeniaid ailgylchu gennym ar gyfer pobl sydd yn cael trafferth, a gallwn gynnig cymorth drwy fynd á’r biniau gyda hwy.
Crynodeb y Cadeirydd:
Trafodwyd dulliau talu amgen e.e. debyd uniongyrchol, rhannu’r taliadau. Gofynnwyd a fyddai defnyddio ‘wheelie bins’ yn lleihau tipio anghyfreithlon. Dylid annog compostio yn y cartref; dylid ystyried addysgu trigolion yn fwy a’r defnydd o gasgenni d?r – gan ddibynnu ar y ffigyrau ar gyfer y flwyddyn nesaf, efallai bod modd i ni ystyried hyn. Nododd yr Aelod Cabinet Catrin Maby ei bod am weld gwybodaeth yn cael ei rhannu am gompostio yn y cartref dros y flwyddyn nesaf, yn enwedig gerddi mewn trefi. Gofynnwyd am eglurder yngl?n â chostau. Gofynnwyd a ydym yn creu incwm o’r gwastraff ardd sy’n cael ei gompostio. Nodwyd fod y cynllun yn ceisio hwyluso pethau i bobl h?n neu’r sawl sydd ag anabledd ond mae disgwyl iddynt ddod i’r gorsafoedd trosglwyddo gwastraff er mwyn casglu biniau compostio yn y cartref– dylid mynd i’r afael gyda hyn yn yr Asesiad Effaith. Bydd Carl Touhig wedi darparu gwybodaeth atodol i’r Cabinet yngl?n â’r costau a bydd mwy o fanylion am y cyfyngiadau amser ac esboniad am pam fod hyn i’w graffu nawr –CAM GWEITHREDU
Dogfennau ategol: