I ddarparu diweddariad fel y gofynnwyd amdano.
Cofnodion:
Roedd Cath Fallon wedi cyflwyno’r adroddiad ac wedi ateb cwestiynau gan yr Aelodau, gyda’r Aelod Cabinet Paul Griffiths.
Her:
Mae nifer o aelwydydd dal yn teimlo na fyddant yn derbyn band eang am sbel eto. Byddai’n ddefnyddiol pe bai Aelodau yn cael gwybod am y lleoedd ym mhob un ward lle nad oes band eang fel bod modd i ni weithio’n rhagweithiol gyda swyddogion.
Yn 3.20, mae yna ddolen yn nodi pryd a ble ydym yn adeiladu sydd yn medru rhoi gwybodaeth i Aelodau am y lleoedd sydd yn mynd i dderbyn ffeibr llawn Openreach. Nid yw’n broses syml yn anffodus, ac mae cyfarfodydd wythnosol gennym gyda Broadway ar gyfer prosiectau penodol ac rydym yn medru gofyn iddynt rannu eu cynlluniau i gyflwyno band eang. Felly, os nad yw cymunedau yn cael eu gwasanaethu fel y dymunir, mae modd i ni ofyn am ddiweddariad a dechrau sefydlu perthynas gyda’r peirianwyr sydd yn gweithio yn yr ardal honno. Mae modd i Aelodau felly i wirio hyn drwy ddenfyddio’r ddolen neu drwy e-bostio’r Swyddog sydd wedyn yn medru cysylltu’r Aelodau gyda’r darparydd.
A oes modd i ni weld data Broadway yn yr un modd â data Openreach? A oes yna ddolen?
Byddwn yn rhoi gwybodaeth i Aelodau am y person sy’n bwynt Cyswllt Cymunedol ar gyfer Partneriaid Broadway, gan fod y fath ddeialog yn fwy defnyddiol ac uniongyrchol na chwilio ar wefan.
Mae yna bryderon yngl?n â pha mor gadarn yw’r cynlluniau e.e. mae yna drigolyn na sydd yn elwa o ffeibr llawn gan fod BT wedi rhedeg allan cyn cyrraedd ei th? ac wedi gwrthod delio gyda’r broblem, ac felly, nid yw’r etholwr yn medru derbyn cysylltiad ychwanegol ac mae wedi bod yn y sefyllfa hon ers blynyddoedd. A fydd y ffigyrau ar gyfer y sir gyfan yn golygu bod rhai trigolion dal mewn limbo yn y ffordd hon?
Ar gyfer yr eiddo hwn, cysylltwch os gwelwch yn dda gyda’r Swyddogion gyda gwybodaeth benodol a byddwn yn cwestiynu hyn yn uniongyrchol gyda BT.
Trigolion gwledig yw’r pryder allweddol. Sut ydym yn medru sicrhau bod yr ardaloedd mwyaf amddifad – o ran cysylltedd – yw’r rhai sydd yn cael eu blaenoriaethu ar gyfer cysylltiadau newydd, yn enwedig gan fod yr un ardaloedd yma yn dueddol o fod yn rhai sydd heb signal ffôn?
Rydym yn cytuno yngl?n â ffocysu ar ardaloedd sydd wedi eu hamddifadu’n ddigidol/mwy gwledig. Yn sgil hyn, rydym wedi bod yn rhan o brosiect peilot ar gyfer prosiect 5G sydd newydd i ddod i ben gan ystyried Castell Rhaglan ac ysgol ac amgylchedd ffermio. Rydym felly ar flaen y gad pan fydd yna gyfle i roi cynnig ar dechnoleg amgen, gan weithio’n agos iawn gyda Llywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn ymwybodol nad oes modd sicrhau bod y ffeibr yn cyrraedd y cabinet mewn ardaloedd gwledig yn sgil y tirwedd - dyna pam ein bod yn gweithio gyda Broadway, gan fod y cwmni yn defnyddio technoleg amgen fel technoleg ddiwifr, lle y mae cysylltiad gyda’r cabinet ond sydd yn cael ei daflu o un mast i’r llall neu’r ‘Gofod Gwyn’, lle y maent yn defnyddio hen analog teledu ar gyfer cyflenwi ymhlith pethau eraill. Nid oes modd i ni wybod ble mae’r trafferthion fesul eiddo a dyna pam y mae’n rhaid i ni weithio ag Aelodau er mwyn datrys problemau yma.
Roedd yr adroddiad buddsoddiad yn Broadway wedi dod i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio, a dywedwyd wrthym fod blaenoriaethau wedi newid a bod ein partneriaeth gyda hwy’n annhebygol o fod yn rhan o’u cynlluniau wrth i ni symud ymlaen?
Byddwn yn trafod hyn gyda’r Cynghorydd y tu allan i’r cyfarfod hwn.
Mae problemau gyda BT yn codi ffioedd ar eiddo unigol am seilwaith - gydag achos penodol yn enghraifft o hyn.
Yn yr achos penodol hwn, nid oedd problem gyda’r cysylltiad â’r eiddo ond roedd problem gyda’r safle ac rydym wedi bod yn chwilio am ddatrysiadau a oedd wedi arwain at ffioedd atodol.
Mae Ogi yn darparu ffeibr i eiddo ond mae’n ddibynnol arnynt hwy yn cael eu defnyddio fel darparwr y rhyngrwyd, ac felly, mae diffyg cystadleuaeth gyda darparwyr eraill. A oes modd goresgyn monopoli BT Openreach?
Os mai Openreach sydd yn gyfrifol am y bibell ar gyfer cludo band eang, rhaid ei fod yn agored i unrhyw ddarparwr arall gan fod llawer o hyn wedi ei ariannu’n gyhoeddus. Os oes buddsoddiad preifat sylweddol mewn cwmnïau fel Ogi neu Broadway, nhw sydd yn berchen ar y bibell ar gyfer cludo band eang, a hwy sydd yn berchen ar y rhwydwaith. Mae’n faes cymhleth iawn.
Crynodeb y Cadeirydd:
Bydd Cath Fallon yn rhoi gwybodaeth i Aelodau am y person sy’n bwynt Cyswllt Cymunedol ar gyfer Partneriaid Broadway – CAM GWEITHREDU
Bydd Ian Chandler yn rhoi gwybodaeth benodol i Cath Fallon am y trigolyn y soniodd amdani a’r broblem a bydd yn ymchwilio’r mater hwn – CAM GWEITHREDU
Bydd Cath Fallon yn ymchwilio ymholiad y Cynghorydd Chandler am fuddsoddiad ym Mhartneriaid Broadway gan ymateb y tu allan i’r cyfarfod– CAM GWEITHREDU
Dogfennau ategol: