Agenda item

Cais DM/2020/00762 – Cais cynllunio llawn ar gyfer newid defnydd y ganolfan ymwelwyr yn Llandegfedd, i alluogi defnyddio’r adeilad ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau ac i ymestyn yr oriau agor a gymeradwywyd gan ganiatâd cynllunio DC/2012/00442. Canolfan Ymwelwyr, Canolfan Ymwelwyr Llandegfedd, Heol Croes-gweddyn, Coed-y-Paen, Sir Fynwy.

Cofnodion:

Fe wnaethom ystyried adroddiad ceisiadau DM/2020/00762 a DM/2020/00763 ynghyd â gohebiaeth hwyr, a gyflwynwyd dros wrthod y rhesymau a amlinellir yn yr adroddiadau.

 

Cyflwynwyd ceisiadau DM/2020/00762 a DM/2020/00763 i’r Pwyllgor Cynllunio ym mis Tachwedd 2022 gydag argymhelliad ar gyfer cymeradwyaeth gydag amodau. Fodd bynnag, roedd y Pwyllgor Cynllunio o blaid gwrthod y ddau gais ac iddynt gael eu hailgyflwyno i gyfarfod o’r Pwyllgor Cynllunio yn y dyfodol gyda rhesymau priodol dros wrthod.

 

Amlinellodd yr Aelod Lleol dros Langybi Fawr, sydd hefyd yn Aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau dilynol:

·         Nid yw’r diwygiadau i’r cais a wnaed gan D?r Cymru yn sicrhau integriti’r Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SSSI). Ni chafodd unrhyw newid sylweddol eu gwneud.

 

·         Ni chafodd y digwyddiadau ac agwedd partïon y cais eu dileu.

 

·         Cafodd nifer y gwesteion mewn digwyddiad ei ostwng i 70. Fodd bynnag byddai angen i’r Ganolfan Ymwelwyr gydymffurfio â rheoliadau diogelwch tân sydd ond yn caniatáu 70 o westeion ar sail diogelwch.

 

·         Mynegodd yr Aelod lleol bryder am nifer y digwyddiadau, sef chwech ym mhob cais, a fyddai’n gyfystyr â chyfanswm o 12 digwyddiad y flwyddyn. Ystyriwyd bod y diwygiad yn amwys a gofynnwyd am eglurdeb os oedd hyn yn cyfeirio at ddigwyddiadau dan do neu awyr agored yn ogystal â’r 28 digwyddiad awyr agored y gellir eu cynnal drwy ddatblygiad a ganiateir.

 

·         Nid yw D?r Cymru wedi dweud os y cynhelir y digwyddiadau hyn yn y ganolfan chwaraeon d?r yn ystod y tymor caeedig.

 

·         Dan ganllawiau Cyfoeth Naturiol Cymru, dylai llwybrau troed barhau ar gau yn ystod y tymor cau gaeafu adar, a fyddai felly yn ei gwneud yn anodd i bobl gael mynediad i’r ganolfan chwaraeon d?r. Gallai fod angen goleuadau ar hyd llwybrau troed ond nid oes unrhyw wybodaeth am y mater hwn yn y cynllun rheoli. Os felly, dylai Swyddog Bioamrywiaeth Cyngor Sir Fynwy gynnal arolwg i asesu effaith bioamrywiaeth y safleoedd.

 

·         Nid yw D?r Cymru wedi cyfarch pryderon Cyfoeth Naturiol Cymru o fis Medi 2020.

 

·         Mae angen i’r Pwyllgor Cynllunio sicrhau na chaiff yr SSSI ei roi mewn risg.

 

·         Caiff y ganolfan chwaraeon d?r ei defnyddio’n bennaf ar gyfer cyfarfodydd busnes, grwpiau chwaraeon, ymweliadau ysgol a digwyddiadau wedi eu trefnu ar gyfer grwpiau bywyd gwyllt ac amgylcheddol. Mynegwyd pryder y gofynnir am ganiatâd i ymestyn yr oriau agor o 6.00am i ganol nos. Ystyriwyd y byddai’r caniatâd presennol yn ddigon ar gyfer y digwyddiadau cymunedol y mae D?r Cymru yn dweud eu bod yn dymuno eu cael. Byddai ymestyn yr oriau agor tan 11.00pm gyda staff i adael y safle erbyn 12.00am yn awgrymu y ceisir caniatâd i’r safle SSSI ddod yn safle parti fydd yn cael effaith niweidiol ar fywyd gwyllt. Ystyriwyd nad oedd y ceisiadau hyn yn cydymffurfio gyda Pholisi Cynllunio Cymru.

 

·         Dyfynnodd yr Aelod lleol lythyr Julie James, Gweinidog Newid Hinsawdd, yn dilyn COP15 at bob Pennaeth Cynllunio dyddiedig 20 Rhagfyr 2022.

 

·         Gofynnwyd i’r Pwyllgor Cynllunio gadw at ei benderfyniad gwreiddiol i wrthod y ddau gais.

 

·         Mynegwyd pryder am ddefnyddio’r orielau fel ardal gorlenwi yn ystod y tymor cau, 1 Hydref – 29 Chwefror. Ystyriwyd na ddylai hyn ddigwydd gan y bydd yn cael effaith negyddol ar adar sy’n gaeafu.

 

·         Derbyniwyd 380 gwrthwynebiad a deiseb yn cynnwys 181 llofnod yn gwrthwynebu’r cais.

 

·         Mae gohebiaeth hwyr yn amlinellu argymhellion dros wrthod gan nifer o bartïon â diddordeb.

 

·         Gofynnwyd am eglurdeb am amodau parthed arllwysiad golau o’r Ganolfan Ymwelwyr.

 

Mynychodd yr Aelod Lleol dros Llanbadog a Brynbuga y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:

 

·         Ar ôl adolygu penderfyniad y Pwyllgor Cynllunio ym mis Tachwedd 2022 yng nghyswllt y ddau gais ac astudio’r ceisiadau a gyflwynwyd i’r Pwyllgor heddiw, roedd yr Aelod lleol yn cytuno gyda phenderfyniad y Pwyllgor Cynllunio i wrthod y ceisiadau.

 

·         Roedd y gronfa dd?r yno cyn i’r adeiladau cael eu codi ar y safle. Ystyriwyd felly y dylai’r statws SSSI barhau.

 

·         Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi codi pryderon..

 

·         Mae Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gwent a Chymdeithas Ornitholegol Gwent wedi cynhyrchu adroddiadau yn dangos y gwallau yn yr astudiaethau a gynhaliwyd.

 

·         Mae ecolegydd Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen wedi cyflwyno gwrthwynebiad dal i’r ceisiadau. Cafwyd gwrthwynebiadau hefyd gan Gyngor Cymuned Llanbadog, Cyngor Cymuned Llangybi Fawr, Cymdeithas Ddinesig Brynbuga a Chymdeithas Preswylwyr Coed y Paen, yn ogystal â derbyn deisebau a gwrthwynebiadau niferus gan y cyhoedd.

 

·         Ystyriwyd bod y ffactorau lliniaru a gyflwynwyd gan D?r Cymru yn annigonol i ganiatáu cymeradwyo’r ceisiadau.

 

·         Y flaenoriaeth yw cadw ac integriti y statws SSSI.

 

·         Gofynnodd yr Aelod lleol i’r Pwyllgor Cynllunio ystyried gwrthod y ceisiadau.

 

Ar ôl ystyried adroddiadau y ceisiadau a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau dilynol:

 

·         Gellid cynnal y digwyddiadau a gynigir mewn lleoliadau eraill gerllaw a fyddai’n fwy addas ar gyfer cynnal digwyddiadau o’r fath.

 

·         Mae cadw’r bywyd gwyllt a statws SSSI yn allweddol.

 

·         Bydd cyfanswm o 12 digwyddiad i gyd, sy’n gyfystyr â chynnal chwe digwyddiad mewnol ym mhob adeilad dros gyfnod o un flwyddyn galendr. Gellir cynnal y digwyddiadau manwl drwy gydol y flwyddyn, yn cynnwys yn ystod y cyfnod gaeafu. Yn ychwanegol, bydd 12 digwyddiad allanol na all ond digwydd y tu fas i’r cyfnod gaeafu. Cynhelir y digwyddiadau allanol rhwng 7.30am a 5.00pm. Rhoddwyd amod ar gyfer digwyddiadau mewnol (amod 9) lle na fydd unrhyw ddigwyddiad yn gorffen yn hwyrach na 11.00pm.

 

·          Caiff y digwyddiadau eu diffinio yn y Cynllun Rheoli.

 

·         Pe cymeradwyid y ceisiadau, gwnaed cais i ddraenogod gael eu hychwanegu at amod 5 yr adroddiadau.

 

·         Mae cyfnod prysuraf y safleoedd yn ystod y misoedd haf, pan nad yw adar yn gaeafu.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir F. Bromfield a’i eilio gan y Cynghorydd Sir  M. Powell bod ceisiadau DM/2020/00762 a DM/2020/00763 yn cael eu gwrthod am y rheswm dilynol:

 

Ni ddangoswyd y byddai’r cynnig i ymestyn yr ystod defnyddiau yr adeilad a’r oriau gweithredu yn cael effaith niweidiol ar SSSI Cronfa Dd?r Llandegfedd a ddynodwyd ar gyfer adar d?r yn gaeafu. Mae’r datblygiad felly yn gwrthdaro gyda Pholisi Cynllun Datblygu Lleol NE1.

 

Cofnodwyd y pleidleisiau dilynol pan roddwyd y mater i bleidlais.

 

Cais DM/2020/00762

 

Cytuno i wrthod y cais                      - 10

Anghytuno i wrthod y cais                  -           1

Ymatal                                                            -           1

 

Pasiwyd y cynnig.

 

Cais DM/2020/00763

 

Cytuno i wrthod y cais                      - 11

Anghytuno i wrthod y cais                  -           0

Ymatal                                                 -           2

 

Cariwyd y cynnig.

 

Penderfynwyd gwrthod ceisiadau DM/2020/00762 a DM/2020/00763 am y rheswm dilynol:

 

Ni ddangoswyd y bydd y cynnig i ymestyn ystod defnyddiau yr adeilad a’r oriau gweithredu yn cael effaith niweidiol ar SSSI Llandegfedd a ddynodwyd ar gyfer adar d?r yn gaeafu. Mae’r datblygiad felly yn gwrthdaro gyda Pholisi NE1 y Cynllun Datblygu Lleol.

 

Dogfennau ategol: