Agenda item

Gwasanaethau Dementia

Cofnodion:

Amanda Whent aNatasha Harris fu'n cyflwyno'r cyflwyniad ac ateb cwestiynau'r aelodau, gyda Clare Morgan a'r aelod Cabinet Tudor Thomas.

 

Her:

 

Cadeirydd: Diolch am ddod heddiw ac am eich cyflwyniad, sydd wedi bod yn ddefnyddiol iawn.  Hoffwn ganolbwyntio ar dair agwedd ar wahân heddiw, y rhain yw: yn gyntaf y cam cyn diagnosis o ran sut rydym yn addysgu'r cyhoedd ar ddementia ar yr arwyddion i fod yn ymwybodol ohonynt a sut rydym yn lliniaru risgiau, yna'r cam diagnosis ei hun a'r broses asesu a'r gefnogaeth a roddwyd ac yna'n olaf y cam ôl-ddiagnosis a'r daith gofal wedi hynny. Mae gennym rai cwestiynau penodol a nodwyd gennym yn ein cyn drafodaeth, felly fy nghwestiwn cyntaf yw i'n swyddogion a'n Haelod Cabinet o ran egluro sut mae'r Cyngor yn gweithio ochr yn ochr â phartneriaid ac egluro rôl yr awdurdod?

 

Mae'r Cyngor yn gweithio'n agos iawn gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (BIPAB) a dyma'r unig awdurdod Gwent i fod â gweithwyr cymdeithasol wedi'u hymgorffori yn y tîm iechyd cymunedol, fel bod pobl yn cael gwasanaeth integredig gydag un asesiad, un cynllun iechyd ac o'r herwydd, mae canlyniadau i bobl yn llawer gwell. Mae gweithwyr cymdeithasol yn gweithio gyda'r therapyddion galwedigaethol, y seiciatryddion, y seicolegwyr, y nyrsys seiciatrig a gwasanaethau asesu cof.  Mae'r gweithwyr cymorth wedi'u gwreiddio yn y tîm, felly mae wir yn fodel cydgysylltiedig sy'n cyflawni'r hyn y mae'r ddeddfwriaeth yn ei nodi. 

 

Pa gefnogaeth sydd yn cael ei darparu cyn ac ar ôl diagnosis?    Er enghraifft, yn eich cyflwyniad, rydych yn sôn o dan safonau 11-15, y "bydd cyswllt yn cael ei wneud ynghylch darparu cefnogaeth emosiynol 48 awr ar ôl cael diagnosis" ac "o fewn 12 wythnos ar ôl diagnosis, bydd cefnogaeth yn cael ei roi i ddiwedd oes".   Tybed a yw hyn yn realistig, o ystyried problemau staffio presennol?

 

Y gwir yw, er bod llawer iawn o waith yn cael ei wneud, mae llawer o waith o hyd i'w wneud. Mae ffrwd waith 2A yn llwybr ar gyfer gwasanaethau asesu cof ac yn ystyried sut y gallwn godi ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o wasanaethau sydd ar gael cyn diagnosis, a chyfeirio pobl at sut i gael cefnogaeth bellach. Mae yna dîm amlddisgyblaeth/aml-asiantaeth sy'n cymryd rhan yn y broses o ailfodelu'r llwybr, gan edrych ar ble mae bylchau, pa swyddi, sgiliau, a gwasanaethau ychwanegol sydd eu hangen.  Mae cyllid Llywodraeth Cymru ar gael trwy'r gronfa fuddsoddi ranbarthol y gallwn wneud cais amdano, ond nid yw'n ymwneud â chyllid yn unig.  Mae angen i ni sicrhau bod gennym strwythurau mewn lle er mwyn ymateb i anghenion unigol.

 

Sut mae gweithio ochr yn ochr â theuluoedd i'w cefnogi?

 

O safbwynt Cyngor Sir Fynwy, nid yw'n ymwneud dim ond â gwasanaethau sy'n cael eu disgrifio yn y cynllun gweithredu, ond os byddwn yn dod yn ymwybodol y gallai rhywun fod yn ei chael hi'n anodd, o dan ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant byddem yn cynnig asesiad iddynt er mwyn deall eu hanghenion a byddem yn eu cyfeirio at wasanaethau presennol. Mae gennym grwpiau cymorth ymyrraeth gynnar nad ydynt o reidrwydd yn benodol i ddementia, a byddem yn annog pobl tuag at unrhyw gr?p y mae ganddynt ddiddordeb ynddo.  Er enghraifft, mae gan y Gymdeithas Alzheimer restr o grwpiau.   Felly, pe byddem yn gwneud asesiad ac yn teimlo bod angen mwy o gymorth ar rywun, o dan ddeddfwriaeth Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant, gallem eu hatgyfeirio at wasanaethau dydd, seibiant neu ofal gartref, gan ddiwallu eu hanghenion yn ôl lefel dementia.  Rydym hefyd yn gweithio gyda'r teuluoedd, gan yn aml, y teulu sydd angen y gefnogaeth i'w helpu gyda gofynion eu rôl. Yn aml, mae'n ymwneud â rhoi seibiant iddyn nhw ac mae seibiant yn dod mewn sawl ffurf, nid yw dim ond y'n ymwneud ag aros mewn cartrefi gofal, ond efallai mynd â'r person sydd â dementia allan fel bod y gofalwr yn cael seibiant neu aros adref gyda nhw fel bod y gofalwr yn gallu mynd allan. Mae'n cefnogi gofalwyr i ofalu'n hirach. 

 

Pa wahaniaethau sy'n amlwg o ganlyniad i'r pandemig?

 

Yn y pandemig, gwelsom fod pobl ofn gadael i aelodau o'r teulu fynd i gartrefi gofal lle byddent yn ynysig heb ymwelwyr, sy'n ddrwg iawn i ddioddefwyr dementia, ac eto roeddent yn ei chael yn anodd cynnal y gofal yn y cartref, felly daeth yn ffocws i gefnogi pobl i ymdopi yn eu cartrefi. Fel arfer, dyma'r pwynt argyfwng lle mae pobl sydd â dementia yn mynd i gartref gofal ac yn aml, y rheswm yw bod ganddynt ddementia datblygedig ac anghenion gofal eraill, fel arfer gofal nyrsio.

 

Felly gyda hyn mewn golwg, o ystyried demograffeg Sir Fynwy, yr oedran gweithio cyfartalog yw 46, sy’n anghymesur uchel o gymharu â Chaerdydd a Bryste, a ydych chi’n cynllunio ar gyfer y bom amser o ran niferoedd anghymesur o uchel o bobl h?n?

 

Rydym yn ymwybodol iawn y bydd gennym lawer mwy o bobl sydd â dementia’n byw yn Sir Fynwy ac wrth i fwy o lety ar gyfer pobl h?n gael ei adeiladu yn y sir, y bydd yn golygu y bydd gennym fwy o angen am wasanaethau. Rydym yn ymwybodol o'r pwysau ychwanegol ar wasanaethau. 

 

Mae fy nghwestiwn yn ymwneud â'r sefyllfa ariannu, gan gydnabod bod gennym brinder gofalwyr.  Ydyn ni'n modelu ar gyfer y ddemograffeg h?n, o ble mae'r arian yn mynd i ddod?  Sut byddwn yn cadw'r gofalwyr hynny?

 

Mae'n gwestiwn pwysig nad oes gennym ateb amdano ac rydym yn ymgymryd â modelu gweithlu ar hyn o bryd.  Mae gennym ddau dîm iechyd meddwl cymunedol yn Sir Fynwy yn gweithio gyda phobl sydd â dementia ond bychan iawn yw'r elfen gweithiwr cymdeithasol o hynny. Mae gennym 2 weithiwr cymdeithasol sy'n cwmpasu de'r sir, 3 yn cwmpasu gogledd y sir, gyda rheolwr uwch eu pennau a rhai gweithwyr cymorth wedi'u gwreiddio.  Rydym wedi llwyddo i gynyddu ein gweithlu gan ddefnyddio arian y Gronfa Fuddsoddi Ranbarthol, ond mae hynny'n ffrwd ariannu sy’n meinhau'n raddol, felly mae gennym 2 swydd yn ein tîm iechyd meddwl h?n i oedolion sy'n cael eu hariannu gan arian y Gronfa Fuddsoddi Ranbarthol ac mae deiliaid y swyddi hyn bellach mewn perygl.

 

Fe sonioch mai dim ond dau weithiwr cymdeithasol sydd ar gyfer de'r sir.  Ydy hyn yn ddigon, o ystyried ehangu Bryste?  Faint fyddech chi'n rhagweld sydd eu hangen yn y dyfodol?

 

Rydym wedi mynd i bartneriaeth â MIND ac rydym yn gwneud gwaith ymchwil i Sir Fynwy sy'n edrych ar anghenion gofalwyr.  Rydym 6 mis i mewn i ddarn o waith 18 mis, a ddylai ganiatáu i ni weld sut rydyn ni'n cymharu â siroedd eraill ac i nodi beth mae pobl yn teimlo sydd fwyaf defnyddiol iddyn nhw. Mae gennym ni gronfa fach o arian fel ein bod ni'n gallu gweld os ydyn ni'n gallu darparu'r hyn mae gofalwyr yn gofyn amdano. O ran staffio, mae gennym ein gwasanaethau integredig, ac mae gweithwyr cymdeithasol o fewn y gwasanaethau integredig sy'n gweithio gyda phobl sydd â dementia.  Mae'r Tîm Iechyd Meddwl Cymunedol yn wasanaeth eilaidd sy'n gweithio gyda phobl sydd ag anghenion iechyd meddwl acíwt, yn aml y rhai ar lefel risg uwch, yr achosion mwy cymhleth sydd angen dull amlddisgyblaethol, ni allaf amcangyfrif y niferoedd fydd eu hangen arnom yn y dyfodol ond mae gennym restr aros fechan ar hyn o bryd.

 

Aelod Cabinet:   O'm safbwynt i, mae dementia’n flaenoriaeth allweddol gan ei fod yn debygol o effeithio ar bob teulu. Yr unig ffordd y gallwn fynd i'r afael â blaenoriaeth mor allweddol â'r tswnami demograffig yw gweithio gyda'r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol, sy'n rhoi'r Cyllid Buddsoddi Rhanbarthol, gan gydnabod bod y cyllid hwn yn meinhau'n raddol. Mae meicro-ofalwyr yn chwarae rhan bwysig ac yn rhywbeth y mae angen i ni ei gefnogi yn y dyfodol, ond rwyf am sicrhau'r pwyllgor fod hyn yn flaenoriaeth i mi.

 

Cadeirydd ~ diolch am hynny, Tudor, rydym wedi siarad am hyn droeon ac rwy'n dawel eich meddwl bod gennych ddiddordeb gwirioneddol yn hyn.

Roedd fy nghwestiwn yn ymwneud â meicro-ofalwyr. Ydyn ni'n defnyddio gwirfoddolwyr sydd wedi'u hyfforddi neu ydyn ni'n bwriadu gwneud, er mwyn delio â dementia’n benodol i leddfu'r pwysau?

 

Ydym, ond dim cymaint ag y gallen ni. Dyma le mae'r agenda ymyrraeth gynnar yn dod i mewn.  Yn sicr fe allen ni edrych i hyfforddi gwirfoddolwyr a gwneud gwaith mwy ar hyn.  Efallai y bydd Amanda mewn sefyllfa well i wneud sylw.   Amanda ~ mae gennym y gwasanaeth Mae Gennych Ffrind Ynof sy'n recriwtio cydymaith dementia i gefnogi pobl gartref a hyrwyddwyr gwirfoddolwyr diwedd oes ac maen nhw'n cysylltu gyda sefydliadau addysg i gynnwys cyfeillio mewn gwahanol gyrsiau. Mae'n deg dweud, pan fyddwch yn datblygu'r cynnig gwirfoddoli, bod angen trefniant llywodraethu arno ac mae cryn dipyn o waith ynghlwm â hynny.

 

Armand:  Mae gennym y datblygiad yn Crick Road - a fyddai modd i ni gael gwahoddiad i ymweld â nhw?  Gan fod hyn yn disodli'r ddarpariaeth bresennol yng Nghas-gwent, mae'n ymddangos fel ein bod wedi amnewid darpariaeth am ddarpariaeth tebyg. Felly oherwydd beth rydyn ni wedi'i ddweud heddiw am y ddemograffeg sy'n newid, pa ddarpariaeth rydyn ni'n ei gwneud yn ariannol ar gyfer y tymor hwy i ymdopi â mwy o angen?

 

Hefyd, fel cynghorydd sirol, roedd pryder gan drigolion am aelodau teulu cyn y pandemig am bobl yn cael eu symud ymhellach i ffwrdd o'u teuluoedd? Ydy'r arfer hwnnw'n dal i fynd ymlaen?

 

Wrth ateb y ddau gwestiwn, does gennym ni ddim digon o welyau preswyl nyrsio Henoed Eiddil eu Meddwl yn y sir. Dros y blynyddoedd, rydym wedi cael cartrefi gofal wedi cau ac felly mae'n rhaid i ni gael gafael ar welyau y tu allan i Sir Fynwy.  Rydym yn gweld, gan fod pobl yn parhau gartref am gyfnod hirach, erbyn iddynt angen gofal, y gallai eu hanghenion fod yn fwy cymhleth ac nad yw cartrefi gofal lleol yn gallu diwallu eu hanghenion, sy'n golygu bod yn rhaid i'r person fynd yn llawer pellach i ffwrdd sy'n ddistrywiol i'w teuluoedd.  Ar hyn o bryd dim ond 1 cartref gofal awdurdodau lleol sydd gennym, sef Severn View ac yna bydd gennym Crick Road ond mae hynny'n breswyl Henoed Eiddil eu Meddwl, felly ni fydd o reidrwydd yn gallu diwallu anghenion y rhai sydd angen gofal nyrsio, er ein bod yn edrych ar hyn o bryd. Mae'n farchnad agored, mae'r rhan fwyaf o gartrefi gofal dan berchnogaeth breifat ac mae hyn yn golygu eu bod yn dewis y model o ofal y maent am ei ddarparu sy'n gost effeithiol iddyn nhw ac yn anffodus, rydym felly wedi cyfyngu o ran ein hopsiynau gan hynny.  

 

Gan gydnabod ail-leoli gofal cymdeithasol i oedolion a symud yr uned dementia yng Nghas-gwent i Gasnewydd, ydych chi wedi sylwi ar unrhyw wahaniaeth, gyda phobl yn cael eu symud i ffwrdd o'u teuluoedd?

 

Fe roddwyd £200 mil i ni pan gafodd y ward dementia yng Nghas-gwent ei chau a hynny'n ariannu'r 2 weithiwr cymorth dros dde'r sir ac mae gwely ysbaid gyda ni yn Sir Fynwy ar gyfer nyrsio Henoed Eiddil eu Meddwl sy'n cael ei ariannu gan y £200 mil hwnnw.

 

Allaf jyst gadarnhau, onid oedd gennym ni'r 2 weithiwr cymorth cyn hynny?

 

Na, chawsant eu hariannu trwy'r £200 mil.  Dydyn ni ddim wedi clywed llawer o bryderon yn ymwneud â hyn yn ddiweddar, ar ôl y rhwystrau cychwynnol. Mae gwasanaeth trafnidiaeth wedi ei ariannu o'r £200 mil i gael pobl i mewn ac o'r ward, ac mae yna wasanaeth ym Mhont-y-p?l hefyd. Rydym wedi neilltuo gweithiwr i unrhyw un sy'n cael ei dderbyn i'r ysbytai, fel bod y wardiau a'r perthnasau’n gwybod pwy yw eu gweithiwr cymdeithasol enwebedig, sydd wedi gwneud cyfathrebu'n haws.

 

Faint o dderbyniadau ydych chi'n eu derbyn bob chwarter?

 

Mae gennym lawer mwy o bobl h?n bellach yn cael eu cadw o dan y ddeddf iechyd meddwl oherwydd y newidiadau o dan y Ddeddf Galluedd Meddyliol, ond byddwn yn dyfalu bod gennym 4 neu 5 o bobl yn cael eu cadw mewn unedau seiciatryddol. 

 

Rwy'n tybio na fydd pob un o'r rhai a gyflwynir yn cael eu cadw?  Os mai dim ond un person sy'n cysylltu rhwng y teuluoedd, a yw hynny'n ddigon o gapasiti, yn enwedig gyda'r ddemograffeg sy'n heneiddio?   A allwch chi anfon yr ystadegau atom yn dilyn y cyfarfod, os gwelwch yn dda?

 

Ar hyn o bryd, mae'n ddigon, ond mae'n deg dweud ein bod yn cael llawer mwy o bobl sydd â dementia’n cael eu cadw dan y ddeddf iechyd meddwl a'i fod yn cael effaith, gan fod nifer yr asesiadau yn codi.

  

Talodd y £200 mil, a ddaeth pan gafodd y ward dementia ei chau, am 2 weithiwr cymorth yn ne'r sir. Unwaith mae'r arian wedi mynd, a ydyn ni'n cadw'r gweithwyr cymorth?  Beth sy'n digwydd wedyn?

 

Mae’r £200 mil o arian yn arian cylchol, nid arian y Gronfa Fuddsoddi Ranbarthol mohono, felly mae’r 2 weithiwr cymorth yn cael eu hariannu, ond mae’r 2 weithiwr gofal cymdeithasol y cyfeiriais atynt yn gynharach yn cael eu hariannu gan y Gronfa Fuddsoddi Ranbarthol. Bob blwyddyn mae'n rhaid i ni wneud cyflwyniad i Fwrdd Partneriaeth Gwasanaethau Integredig er mwyn i brosiectau gael eu hariannu o dan y £200 mil sy'n cael ei ddyfarnu gan BIPAB a bob blwyddyn maent wedi ariannu’r ddau weithiwr cymdeithasol a’r gwely seibiant, felly rwy’n gobeithio y byddwn yn derbyn yr arian ar gyfer y swyddi hyn.

 

Cadeirydd ~ A allem drefnu diweddariad ar hyn ymhen blwyddyn?

 

Aelod Cabinet ~ Cawn ein herio'n fawr yn ddaearyddol, o ran diwallu anghenion pobl ar draws sir fawr.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Diolch i Amanda, Natasha, Claire a Jane am ddod draw a diolch o galon i chi am y gwasanaeth rydych chi'n ei ddarparu. Byddwn yn trefnu diweddariad mewn rhyw flwyddyn.

 

Mae Natasha wedi cynnig anfon ychydig o wybodaeth i ni am sut maen nhw'n cefnogi pobl yn y gymuned o gwmpas codi ymwybyddiaeth ac yn byw'n dda am gyfnod hirach gydag ysgolion, ysbytai, caffi dementia cymunedol, grwpiau cymorth ac fe fyddem yn croesawu hynny.