Agenda item

Nodi Rhestr Gweithredoedd y cyfarfod diwethaf

Cofnodion:

Nodwyd y rhestr o gamau gweithredu fel a ganlyn.

 

1.    Cydweithrediadau Allweddol: Roedd y Rheolwr Perfformiad a Deallusrwydd Data wedi cynnig diweddariad bod yna rhestr ddrafft yn nodi’r cydweithrediadau allweddol wedi ei rhannu gyda’r Tîm  Archwilio Mewnol a’r Tîm Arwain Strategol.  Bydd Archwilio Mewnol yn defnyddio sampl o’r rhestr er mwyn pennu effeithlonrwydd y trefniadau goruchwylio a’r cydweithrediadau. Cytunwyd y bydd yr agweddau yma yn cael eu hadrodd mewn dwy ran  a) y cydweithrediadau (yn y cyfarfod nesaf) a b) canlyniad adolygiad y Tîm Archwilio o effeithlonrwydd. Bydd y Blaenraglen Waith yn cael ei diwygio’n briodol.  [CAM GWEITHREDU  AR AGOR]

 

2.    Darparu ffigyrau twyll: Rhannwyd e-bost gyda’r wybodaeth ag Aelodau’r Pwyllgor.  [CAM GWEITHREDU  WEDI EI GAU]

 

3.    Datganiad o Gyfrifon: Dywedodd y Pennaeth Cyllid fod yna waith yn cael ei wneud er mwyn dod â’r datganiad o gyfrifon archwiliedig yn ôl i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit yn Ionawr  2023. Mae disgwyl newid y dyddiadau cau statudol ar gyfer mis Ionawr. Mae’r gwaith archwilio yn mynd yn ei flaen yn dda ac nid oes dim byd sylweddol wedi ei nodi hyd yma. [CAM GWEITHREDU  AR AGOR]

 

4.    Terfyn Cyflymder 20mya: Esboniwyd nad oes yna gyfle i gario ymlaen unrhyw gronfeydd grant gan Lywodraeth Cymru sydd heb ei wario. Fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid bob blwyddyn i gynghorau er mwyn cyflwyno cynigion i sicrhau cyllid ar gyfer cynlluniau penodol. Os yw’r cynlluniau yn cael eu hoedi a bod arian heb ei wario, efallai y bydd yr arian yma sydd heb ei wario yn medru parhau yn y dyraniad ar gyfer y flwyddyn nesaf. [CAM GWEITHREDU  WEDI EI GAU]

 

5.    Adroddiad Llamu Ymlaen Archwilio Cymru:  Roedd y Cadeirydd wedi cwrdd â’r Dirprwy Brif Weithredwr (DBW) a’r Prif Archwilydd Mewnol ac yn mynd i wneud cynigion  cadarn yngl?n â’r Blaenraglen Waith am drafodaeth bellach.   

 

Cyfeirio y DBW at y gofrestr risgiau a’r angen i wahaniaethu yr hyn sydd yn disgyn o fewn sgôp y Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit ac unrhyw beth sydd wedyn gorgyffwrdd gyda’r Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg. Mae’r Cynllun Corfforaethol a Chymunedau yn gosod fframwaith polisi ar gyfer y Cyngor. Mae strategaethau caniatáu yn cael eu diweddaru yn unol gyda therm pum mlynedd y Cyngor newydd a bydd yn cael ei graffu cyn cael ei ystyried gan y Cabinet/Cyngor. Mynegodd y DBW mai sgôp y  Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit  yw ceisio sicrwydd am y trefniadau llywodraethu ehangach. 

 

O ran y Cynllun Corfforaethol a Chymunedau, awgrymwyd adroddiad mwy holistaidd  a fydd yn cynnig elfen o sicrwydd ar gyfer y strategaethau caniatáu cyffredinol sydd yn rhan o’r Cynllun. Mae sicrwydd yn cael ei gynnig ar y fframwaith perfformiad ac mae modd darparu adroddiad tebyg ar sut y mae’r polisi fframwaith yn gweithio. Awgrymwyd bod yna drafodaeth rhwng y Cadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Craffu Perfformiad a Throsolwg.     

 

Roedd Aelod wedi gofyn am y cynnydd sydd wedi ei wneud gyda’r Cynllun Corfforaethol a Chymunedau a dywedwyd mai’r bwriad yw cyflwyno cynllun mwy manwl i’r Cyngor yn Ionawr 2023.

 

Dywedodd Aelod fod sicrhau bod y risgiau yn cael eu rheoli  a bod asesiadau manwl yn elfennau craidd o rôl y Pwyllgor. Dywedwyd fod cyfnodau hir o  aros am strategaethau yn adlewyrchu ansicrwydd am y mudiad.  Dywedwyd hefyd na ddylid cymryd yn ganiataol fod Aelodau Lleyg yn derbyn yr un wybodaeth ag Aelodau Etholedig. 

 

Roedd Aelod wedi gofyn cwestiwn am y strategaethau asedau fel materion sy’n codi o adroddiad Llamu Ymlaen Archwilio Cymru. Dywedwyd fod adroddiadau Archwilio Cymru yn cael eu harchwilio gan y Pwyllgor, a hynny yn ôl pwnc a fesul achos.  

 

Trefniadau craffu: [CAM GWEITHREDU AR AGOR]

 

6.    Asesiad Risg Strategol yr Awdurdod Cyfan: Bydd y Rheolwr Perfformiad a Deallusrwydd Data yn darparu cyflwyniad  ar sut y mae’r Awdurdod yn rheoli risgiau, a hynny yng nghyfarfod mis Ionawr.  [CAMAU GWEITHREDU 1 A 2 WEDI EU CAU]

 

Esboniwyd fod Risg 13 yn cael ei ddiwygio i “Uchel” gyda chytundeb perchennog y risg. [CAM GWEITHREDU 3 WEDI EI GAU]

 

7.    Rheoli Seibr-ddiogelwch: Rhannwyd y wybodaeth mewn modd diogel gydag Aelodau'r Pwyllgor yn dilyn y cyfarfod diwethaf

 

8.    Fetio staff allweddol: Bydd y Dirprwy Brif Weithredwr yn cysylltu gyda Colin Prosser ar ôl y cyfarfod. [CAM GWEITHREDU AR AGOR]

 

9.    Y broses adrodd ar gyfer pryderon am lwgrwobrwyaeth, twyll a llygredd: Roedd y Prif Archwilydd Mewnol wedi darparu diweddariad i’r Aelodau ar y polisi Gwrth-lwgrwobrwyaeth, Twyll a Llygredd gyda rhestr o bwy y dylid cysylltu gyda hwy os oes unrhyw bryderon gan Aelodau, swyddogion neu aelodau o’r cyhoedd. Gofynnodd Aelod a yw’r holl Aelodau wedi derbyn y polisi neu dim ond Aelodau o’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio. Bydd y Prif Archwilydd Mewnol yn mynd i’r afael gyda hyn.  [CAM GWEITHREDU  WEDI EI GAU]

 

10.  Strategaeth ar gyfer cynaliadwyedd tymor canolig: Rhoddwyd diolch i’r Pennaeth Cyllid am roi cyflwyniad i’R Aelodau Lleyg ar y strategaeth ariannol tymor canolig, y gyllideb a’r cynllun adferiad. Cadarnhaodd y Dirprwy Brif Weithredwr y bydd y  strategaeth ariannol tymor canolig  yn cael ei chyflwyno i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Awdit yn y flwyddyn newydd. Mae’r eitem eisoes ar y Blaenraglen Waith.  [CAM GWEITHREDU  WEDI EI GAU]

 

11.  Rhaglen Waith Archwilio Cymru:  Roedd Aelodau Lleyg wedi derbyn cyflwyniad ar y  strategaeth ariannol tymor canolig. Rhannwyd e-bost heddiw gan y Pennaeth Cyllid.  [CAM GWEITHREDU  WEDI EI GAU]

 

Dogfennau ategol: