Agenda item

Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid

I graffu ar ganfyddiadau Adroddiad Arolygu'r Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid

 

Cofnodion:

Roedd Chesney Chick wedi rhoi trosolwg byr o’r adroddiad arolwg ac wedi ateb cwestiynau'r Aelodau gyda Jane Rodgers.

Her:

Nid yw’n ymddangos bod llawer o bwyslais yn yr adroddiad ar waith ataliol  a gwn eich bod wedi derbyn grant o tua £170k gan Lywodraeth Cymru. A oes yna wybodaeth am sut y mae’r arian wedi ei wario gan nad wyf yn medru gweld hynny yn yr adroddiad.  

Ni fyddai hyn wedi ei gynnwys yn yr adroddiad hwn sydd yn statudol ei natur; fodd bynnag, rydym wedi newid y ffordd y mae’r Gwasanaethau Troseddau Ieuenctid yn gwneud ei waith  ac mae yna fwy o bwyslais ar waith ataliol yn hytrach na’r cyfrifoldebau statudol yn unig, ac mae cyfran sylweddol o arian wedi ei roi i ni er mwyn medru gwneud hyn. Rydym yn teimlo bod ansawdd y gwasanaeth yr ydym yn darparu yn dda iawn ond mae dal yn bosib gwneud gwelliannau.

O ran yr arolwg a gynhaliwyd dros y ddwy sir yn Nhorfaen a Sir Fynwy, a yw’r arolwg wedi ei gynnal yn gydradd rhwng y ddwy sir neu wedi ffocysu’n fwy ar un ardal, ac felly’n methu rhoi’r darlun cyflawn i ni?    

Mae yna dueddiad i rannu hyn 60:40, gan ffafrio Torfaen, ond cynhaliwyd yr adolygiad mewn modd da.  

Roedd llywodraethiant ac arweinyddiaeth yn bryder o ran y broses anwytho, presenoldeb y cyfarfodydd bwrdd a’r datgysylltiad rhwng yr aelodau bwrdd a’r staff rhengflaen, gydag argymhellion wedi eu gwneud. Pa mor hir fu’r problemau yma ac a yw popeth wedi ei ddatrys erbyn hyn? 

Mae’r aelodau etholedig wedi newid gydag ychydig o addasu ers cyfnod Covid. Roedd yna gyfnodau yn ystod y pandemig pan oedd Aelodau’r Bwrdd yn methu mynychu  ond bydd hyn yn cael ei flaenoriaethu wrth i ni symud ymlaen. Rhaid i’r cydweithwyr iechyd fynychu sawl cyfarfod bwrdd a dyna oedd un o’r rhesymau dros hyn. Mae’r Cadeirydd newydd yn brofiadol iawn ac mae ganddo gefndir yn y gwasanaeth a gobeithio bod hyn yn rhoi sicrwydd i chi. 

Un o’r pethau sydd yn ymwneud gyda llywodraethiant ac sydd wedi ei gydnabod yw bod llawer o ddogfennau a gweithdrefnau gennym ond nid ffordd o weithio wydd yn dwyn hyn ynghyd, ac rydym yn gweithio ar hyn. 

 

Rwy’n bryderus fod merched yn gyfrifol am 28% o achosion y gwasanaeth sydd yn ddwywaith y ffigwr cyfartalog ar gyfer Lloegr a Chymru. Gan fod 61% o’r staff yn ferched a dau draean o’r gwirfoddolwyr yn ferched, roedd yn rhyfedd fod yr arolwg yn nodi’r angen i ddatblygu strategaeth er mwyn diwallu anghenion merched sydd wedi ei oruchwylio gan y gwasanaeth.

O ran yr ystadegau ar ferched, mae mwy o wybodaeth gennym nawr na chynt ac mae’r patrwm yma wedi dod i’r amlwg dros y 6 mis diwethaf. Cyn yr arolwg, nid oedd y data yma gennym, ac nid oeddem wedi cadarnhau’r rhesymau am hyn, ond mae’n deg dweud nad yw hyn yn nifer uchel o unigolion ond mae’r darlun yn edrych yn waeth wrth i ni ddefnyddio canrannau.  Rydym yn sylwi bod rhai o’r troseddau yn fwy difrifol ac nid ydym yn medru gwneud y gwaith ataliol ond  rydym yn dechrau gwneud gwaith yn yr ysgolion a thrwy’r gwasanaeth ieuenctid er mwyn mynd i’r afael gyda hyn.   

 

Roedd yr ymateb i’r ‘arolwg  technoleg’ yn isel iawn gydag ond 12 o 121 o ymatebion. Pam fod hyn mor isel? Ac a ydy hyn yn cynnig trawstoriad o atebion neu ond y rhai yn credu bod y gwasanaeth yn bositif? Sut ydych yn bwriadu cynyddu’r nifer sydd yn ymateb?

Mae’n isel ac er ein bod wedi blaenoriaethu ymgysylltu, mae’n flaenoriaeth isel i blant, ac mae’n anodd felly eu gorfodi i ymateb  ond rydym am dderbyn adborth parhaus gan blant a’u teuluoedd ac rydym yn sylweddoli nad ydynt am ymgysylltu gyda ni am ryw reswm.  Rydym yn ystyried digwyddiadau neu gynhadledd gyda gwobrau er mwyn annog adborth gan blant. O ran y cwestiwn a yw’r adborth yn wirioneddol onest, rwy’n teimlo ei fod, a hynny gan fy mod yn adnabod yr unigolion sydd wedi ymateb.

 

Nid oeddwn yn medru gweld unrhyw dargedau penodol yn y cynllun gweithredu am ddefnyddwyr gwasanaeth, er enghraifft, menywod, bechgyn, Plant Sy’n Derbyn Gofal, grwpiau BME ayyb. A oes targedau gennych? A ydynt yn realistig a sut fyddant yn llywio eich gwaith wrth i symud ymlaen? 

Na – ni ydym yn gwneud hyn. Rydym yn ymwybodol o’n sefyllfa gyfredol o ran y nifer uwch o ferched, ac felly, byddwn yn ceisio sicrhau ein bod yn meddu ar y  sgiliau angenrheidiol a’n gwneud gwaith ataliol mewn sefydliadau addysg a gwasanaethau ieuenctid er mwyn sicrhau ein bod yn trafod unrhyw bryderon sydd gennym gyda’r carfannau priodol. Rydym yn gwybod pwy yw’r troseddwyr sy’n ail-droseddu ac rydym yn ceisio lleihaun hyn ond mae nifer o ffactorau y tu hwnt i’n rheolaeth. Rydym wedi trefnu cynlluniau ar gyfer yr unigolion yma, ac rwy’n medru eich sicrhau ein bod yn gweithredu dull holistaidd o weithio gyda phartneriaid er mwyn cynnig cymorth sydd wedi ei deilwra.  

 

Nid wyf yn medru gweld unrhyw ddarpariaeth ar gyfer siaradwyr Cymraeg neu’r rhai sydd â Saesneg fel ail iaith? A oes modd i chi esbonio hyn?

Nid oes unrhyw siaradwyr Cymraeg wedi dod drwy’r system sydd yn golygu’r angen i gyfathrebu yn y Gymraeg, ond pe bai hyn yn digwydd, mae siaradwyr Cymraeg yn yr Awdurdod ac rydym yn medru cynnig cyfieithiad.   

Rwy’n medru gweld nad oedd Swyddog Prawf am 10 mis. Oni fyddai hyn wedi cael effaith, a pha fesurau y byddwch yn rhoi yn eu lle er mwyn sicrhau gweithlu sefydlog? 

Roedd rhywun yn gwneud y rôl honno dros dro, ac roeddynt yn wybyddus i’r gwasanaeth ac yn brofiadol iawn ac nid oedd yn wag am 10 mis. Mae yna brosesau a systemau o fewn y gwasanaeth prawf, ac felly, byddai cyfarfodydd wedi eu cynnal a gwybodaeth wedi ei rhannu yn ystod y cyfnod hwn. 

 

Yn yr adroddiad, nid wyf yn gweld unrhyw sôn am ‘raglenni cyfiawnder adferol’ ac mae profiad gennyf o wedi gwneud hyn yng Nghil-y-coed rhai blynyddoedd yn ôl a oedd yn llwyddiannus iawn. Yn sgil yr ymddygiad gwrthgymdeithasol diweddar yn yr ardal, a fyddai modd ystyried ail-gyflwyno hyn?   

Mae yna raglenni cyfiawnder adferol gennym o fewn y gwasanaeth ac mae’r person sydd yn rheoli hyn dal yn y rôl. Mae’r modd y mae wedi ei weithredu yn Nhorfaen gyda chryn lwyddiant, ac er nad yw’r arolwg wedi nodi hyn, mae modd i ni drafod hyn ymhellach. Cam Gweithredu: Chesney i gysylltu gyda Cyngor Tref Cil-y-coed.  

Rwyf yn prdyeri am blant sydd o bosib ag anghenion dysgu ychwanegol ac yn cael eu targedu gan grwpiau troseddol. A oes modd gwneud rhywbeth i fynd i’r afael â hyn gan fod rhai pobl ifanc yn medru bod yn ddioddefwyr hefyd.   

Rwy’n medru rhoi sicrwydd i chi bod asesiad cadarn yn cael ei gynnal ar ddechrau’r broses, gan siarad gyda'r ysgol a’r wybodaeth wedyn yn cael ei rhannu ag asiantaethau, fel bod pawb yn ymateb i’r plentyn yn y ffordd gywir a bod y plentyn yn derbyn unrhyw gymorth ychwanegol sydd angen. Mae yna lawer o weithgarwch o ran llinellau cyffuriau, gyda phobl ifanc yn cael eu targedu, ac felly, rydym yn cael trafodaethau gyda’r Heddlu, y llysoedd,   Gwasanaeth Erlyn y Goron, ac os ydym yn credu bod plentyn yn fregus, rydym yn medru argymell nad yw’n cael ei erlyn ac ystyried ffyrdd o sicrhau ei fod yn teimlo’n fwy diogel.

 

Mae cwestiwn gennyf am adnoddau. A oes yna danwariant bob blwyddyn a beth mae’n cael ei wario arno fel arfer?  

Mae yna danwariant wedi bod dros amser, sydd wedyn yn cael ei drosglwyddo  nôl i’r partneriaid. Roedd yna ychydig o adnoddau yn cael eu neilltuo ar gyfer gwasanaethau ataliol. Mae’r arian wrth gefn yn cael ei ddefnyddio er mwyn diogelu’r gwasanaeth gan fod ffynonellau arian yn medru bod yn ansefydlog a’n effeithio’n andwyol ar staffio a chysondeb darpariaeth y gwasanaeth.

 

Sut mae’r cyfraniadau gwahanol tuag at wariant y bartneriaeth o £1.6m yn cael eu cadarnhau?

Nid wyf yn medru cynnig ateb penodol yngl?n â sut y maent yn cael eu cadarnhau ond rwy’n gwybod fod cyfraniad Sir Fynwy ychydig  yn is gan ein bod yn cyfrannu elfennau eraill fel cymorth ariannol ond mi wnâi gadarnhau’r wybodaeth yma.  

 

A yw’r holl bobl sydd yn meddu ar bryderon lles neu’n Blant Sy’n Derbyn Gofal yn meddu ar weithiwr cymdeithasol ar wahân o fewn gwasaanethau cymdeithasol? 

Ydyn – ac mae nifer eraill o weithwyr proffesiynol a gweithwyr cymorth yn medru chwarae rhan hefyd.

 

A oes yna broblem yngl?n â lletya pobl ifanc sy’n dod allan o’r carchar?   

Rydym yn gweithio gyda llawer o asiantaethau gwahanol er mwyn helpu pobl ifanc i fynd yn ôl i mewn i’r gymuned yn dilyn cyfnod yn y ddalfa, er mwyn eu helpu i osgoi ymddygiad negatif. Nid yw lletya wedi bod yn broblem i ni gan nad ydym wedi cael achosion sydd yn trosglwyddo nôl o fod yn y ddalfa i mewn i’r gymuned  ond rydym yn ymwybodol o’r effaith bosib a’r angen i gefnogi’r person ifanc. Rydym yn ceisio sicrhau bod cynrychiolwyr o’r sector tai yn rhan o’n bwrdd rheoli, a byddwn yn datblygu hyn.  

 

Mae yna achosion diweddar o gasineb at fenywod wedi bod o fewn Heddlu Gwent ac a yw hyn yn effeithio ar y nifer uwch o fenywod sydd yn dod i mewn i’r system?  

Nid wyf yn medru ateb hyn mewn gwirionedd ond mae perthynas dda gennym gyda Heddlu Gwent ac os oes problem  gydag unrhyw berson ifanc sy’n cael ei atgyfeirio,  mae yna bwynt cyswllt gennym, ac os oes unrhyw wersi i’w dysgu, mae hyn yn cael ei rannu. Mae yna baneli craffu ar gael fel Panel Adolygu Monitro  Gwent sydd yn craffu pethau fel amser yn y ddalfa, sut y mae plant yn cael eu prosesu ayyb ac mae yna welliannau yngl?n â sut mae plant yn cael eu prosesu  drwy’r  system – ac felly, hoffem feddwl nad yw hyn wedi effeithio ar fenywod ond byddaf yn codi hyn.  Cam Gweithredu: Chesney i amlygu hyn mewn cyfarfodydd rhwydwaith.

Crynodeb y Cadeirydd:

Diolch i chi am ddod a llongyfarchiadau ar ganlyniad da o ran yr arolwg.  Mae’r Pwyllgor wedi derbyn sicrwydd gan yr atebion yr ydych wedi eu darparu, ac felly, diolch.  

 

 

Dogfennau ategol: