Agenda item

CYNLLUN CYMUNEDOL A CHORFFORAETHOL

Cofnodion:

Cyflwynodd yr Arweinydd yr adroddiad i geisio cymeradwyaeth o’r Cynllun Cymunedol a Chorfforaethol newydd sy'n gosod y cyfeiriad i Gyngor a Sir Fynwy, gan gyfleu pwrpas, egwyddorion a blaenoriaethau'r awdurdod ochr yn ochr â rhai o'r camau y byddwn yn eu cymryd i gyflawni'r rhain.

 

Gofynnwyd am eglurder ynghylch hyn yn gynllun cychwynnol a dyddiadau fersiwn newydd i'w gyhoeddi.

 

Roedd Arweinydd yr Wrthblaid o'r farn bod y cynllun yn siomedig ac yn ddiffygiol mewn manylder a sylwedd.   Roedd yn teimlo na fyddai unrhyw gyfle i gael ei ddal i gyfrif na chraffu ar y cynllun, heb unrhyw gamau pendant yn y cynllun.

 

Dywedodd y Cynghorydd Sirol Phil Murphy fod Cyngor Sir Fynwy yn derbyn y lefel isaf o gyllid grant yng Nghymru, sy'n seiliedig ar fformiwla Llywodraeth Cymru.

 

Roedd pryderon ynghylch ardaloedd nad oedd wedi'u cynnwys yn y cynllun a gwnaed awgrym y dylid ystyried datblygu cynigion ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus.  

 

Codwyd cwestiwn ynghylch y ddarpariaeth tai ac o ystyried yr heriau ariannol cyfredol pa gamau a gymerir i sicrhau bod Cyngor Sir Fynwy yn dilyn eu hymrwymiad i adeiladu cartrefi fforddiadwy.

 

Cymeradwyodd yr Aelod Cabinet dros Addysg y cynllun a dywedodd fod yr hyn a gyflwynwyd yn arwydd o realaeth ac y byddai'n ceisio trawsnewid bywydau pobl a esgeuluswyd gan y weinyddiaeth flaenorol.

 

Mynegwyd y dylai cynllun corfforaethol gynnwys cynigion manwl ar gyfer cyflawni pethau.  

 

Cyfeiriwyd at graffu fel swyddogaeth hanfodol i'r cyngor a'r preswylwyr, y mae gwefan y Cyngor yn ei dyfynnu fel y swyddogaeth i graffu ar berfformiad a chyflawni'r amcanion corfforaethol a amlinellir yn y cynllun corfforaethol.   Credwyd nad oedd yr amcanion hyn yn cael eu diffinio'n glir gan y weinyddiaeth.

 

Mynegodd y Cynghorydd Sirol Frances Taylor nad yw'r argymhellion yn yr adroddiad yn cyfeirio at hwn yn gynllun dros dro ac nad oedd yn ystyried ei fod yn gyfrifol i gymeradwyo'r cynllun gyda'r diffyg sylwedd.  Cynigiodd y Cynghorydd Sirol Taylor ddiwygiad:

 

Bod y Cyngor hwn yn cytuno i ddod â chynllun Cymunedol a Chorfforaethol mwy manwl a chadarn diwygiedig sy'n cynnwys mesurau a thargedau yn ôl i gyfarfod y Cyngor ym mis Rhagfyr.

 

Bod y diwygiad arfaethedig yn disodli argymhellion 2.1 a 2.2.

 

Eiliwyd gan y Cynghorydd Sirol Simon Howarth

 

Ar ôl cael ei roi i bleidlais derbyniwyd y diwygiad a chafwyd trafodaeth.

 

Eglurodd yr Aelod Cabinet dros Adnoddau fod y ddogfen strategol yn esbonio newid dull a chyfeiriad, ac na fydd newidiadau mawr yn digwydd ar unwaith.   Parhaodd i egluro bod y weinyddiaeth wedi gweithio gyda chydweithwyr sy'n aelodau ar gynnwys y cynllun ac yn bwriadu parhau i gydweithio yn y dyfodol.

Ategwyd bod angen sefydlogrwydd a rhywfaint o sicrwydd ar bobl ynghylch blaenoriaethau'r Cyngor.

 

Awgrymwyd y byddai dod â'r cynllun i Gyngor Rhagfyr yn rhoi llawer o bwysau ar swyddogion, ac efallai y byddai mis Ionawr yn fwy addas.

 

Cynhaliwyd pleidlais i symud i'r bleidlais a chafodd ei threchu.

 

Bu trafodaeth yn dilyn hynny.

 

Cynigiodd yr Aelod Cabinet dros Economi Gynaliadwy ddiwygiad pellach:

 

Bod y Cyngor hwn yn cytuno i ddod â chynllun Cymunedol a Chorfforaethol mwy manwl a chadarn diwygiedig sy'n cynnwys mesurau a thargedau yn ôl i gyfarfod y Cyngor ym mis Ionawr.

 

Ar ôl cael ei roi i bleidlais penderfynodd y Cyngor dderbyn y diwygiad.

 

Cyfeiriodd yr Aelod Cabinet dros Gymunedau Cynhwysol a Gweithgar at sylw blaenorol ar dai ac eglurodd fod y gwaith yn mynd rhagddo'n dda, a'i bod yn gweithio gyda swyddogion ar gynlluniau i leihau digartrefedd. Ychwanegodd y byddant yn gweithio gyda phartneriaid ac awdurdodau cyfagos ac yn croesawu'r cyfle i ddod yn ôl gyda mwy o fanylion.

 

Ar ôl cael ei roi i bleidlais penderfynodd y Cyngor dderbyn yr adroddiad gyda'r argymhelliad diwygiedig:

 

Bod y Cyngor hwn yn cytuno i ddod â chynllun Cymunedol a Chorfforaethol mwy manwl a chadarn diwygiedig sy'n cynnwys mesurau a thargedau yn ôl i gyfarfod y Cyngor ym mis Ionawr.

 

 

 

 

 

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: