Cofnodion:
Roeddem wedi ystyried adroddiad y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd yn argymell y dylid cymeradwyo, a hynny yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a chytundeb cyfreithiol Adran 106.
Roedd yr Aelod lleol ar gyfer Llanfihangel Troddi a Thryleg Unedig wedi mynychu’r cyfarfod ar ôl cael ei wahodd gan y Cadeirydd ac wedi gwneud y pwyntiau canlynol:
· Mae pryderon wedi eu mynegi am effaith yr adeiladau arfaethedig ar y tirwedd gan y byddant yn hynod amlwg yn ystyried misoedd yr hydref a’r gaeaf.
· Mae’n ofyniad hanfodol o ‘One Planet Development’ (OPD) bod yna ‘effaith ysgafn’ ar yr amgylchedd gydag effaith bositif ar y tirwedd.
· Mae canllaw’r OPD yn datgan na ddylai aneddiadau a strwythurau sefyll yn amlwg mewn mannau cyhoeddus a dylent wella’r tirwedd lle y maent wedi eu gosod.
· Roedd adroddiad y cais yn datgan fod y Swyddog Tirwedd yn ystyried y cynnig yn dderbyniol, ar yr amod bod mwy o fanylder am elfennau o’r cynnig a sut y bydd yn cael ei gynnal a’i gadw yn y tymor hir.
· Roedd yr Aelod lleol wedi cyfeirio at yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad fel sydd yn ymwneud gyda’r tirwedd ac ymddengys bod angen gwybodaeth ychwanegol sylweddol. Mynegwyd pryderon nad yw’r rhain yn cael eu hystyried a’u datrys yn ystod y cyfnod cais.
· Awgrymwyd y dylai’r ymgeisydd ystyried cyflwyno’r wybodaeth sydd angen er mwyn caniatáu’r Pwyllgor Cynllunio i wneud penderfyniad gwybodus ar y cais.
· Ysgubor Cruck fydd yn fwyaf hawdd ei weld yn sgil y ffaith y bydd yn uchel ar y safle ac ni fydd yna do gwellt ond to sydd wedi ei wneud o fetel neu lechi. Mae’r cynllun yn datgan fod y yr union ddefnydd a’r lliw i’w diwygio fel bod modd ail-ddefnyddio darn sydd yno ar hyn. Ond nid ymddengys fod yn fatn a od yn yr adroddiad ar gyfer y cais.
· Mae’r ymgeisydd yn bwriadu adeiladu gweithdy ac ysgubor gyda deunyddiau sydd wedi eu hail-hawlio o’r safle a bydd ymddangosiad y strwythurau i bosib yn wahanol i’r hyn sydd yn y lluniau yn y cais. Mynegwyd pryderon fod cynnal yr amgylchedd yn allweddol ac nid yw hyn yn dderbyniol. Mae angen mwy o eglurder yngl?n â’r mater hwn.
· Mynegwyd pryder hefyd am yr effaith y bydd y trac mynediad hir yn ei gael ar y tirwedd gan y bydd yn croesi cwrs d?r. Ni chredwyd bod hyn yn cael ‘effaith ysgafn’ ar yr amgylchedd.
· Mae canllaw’r OPD yn datgan y dylid cwrdd â’r holl anghenion am dd?r drwy gyfrwng y d?r sydd ar y safle. Mae dwy nant ar y safle ac roedd y ddwy wedi sychu dros yr haf.
· Gofynnodd yr Aelod lleol am fanylion yngl?n â’r glaw sydd yn cael ei gynaeafu.
· Gofynnodd yr Aelod lleol a fydd yna unrhyw fonitro annibynnol yn digwydd.
· Yr argraff sydd gan drigolion yw bod y cais yn ystyried ‘yn weddol ysgafn’ o ran sicrhau cydymffurfiaeth gyda’r Polisi yna. Mae’r adeilad mewn ardal wledig agored gyda phryderon am yr effaith ar y tirwedd.
· Mae ceisiadau o'r fath yma angen eu profi’n gadarn gan arbenigwyr annibynnol. Mynegwyd pryderon am y diffyg tryloywder.
· Roedd trigolion yn pryderi bod cymeradwyo’r cais yn mynd i arwain at adeiladau gwahanol yn cael eu gosod ar hyd a lled cefn gwlad.
Roedd yr ymgeisydd, Paul Trotter, wedi mynychu’r cyfarfod ar ôl cael ei wahodd gan y Cadeirydd ac wedi amlinellu’r wybodaeth ganlynol:
· Mae’r OPD yn gyfle i’r ymgeisydd i gynyddu’r cynaliadwyedd yn ddramatig tra hefyd yn hyrwyddo bioamrywiaeth.
· Dros y bum mlynedd ddiwethaf, mae’r ymgeisydd wedi neilltuo amser yn ymchwilio byw mewn modd sydd yn cael effaith isel, permaddiwylliant, ffermio atgynhyrchiol ac adeiladau naturiol. Mae hyn wedi ei ddwyn ynghyd er mwyn ffurfio’r cais cynllunio sydd wedi ei gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio heddiw.
· Bydd miloedd o goed dail llydan yn cael eu plannu gan gloi carbon yn y pridd tra hefyd yn cynnig cysgodfa a lle i chwilio am fwyd i fywyd gwallt ynghyd â gwartheg/defaid.
· Mae systemau wedi eu hymgorffori er mwn dal a defnyddio maethynnau ar y safle, gan amddiffyn cyrsiau d?r rhag baw anifeiliaid.
· Mae’r ymgeisydd yn disgwyl ymlaen at fyw mewn ffordd sydd yn cael ‘effaith ysgafn’ ar y blaned, gan fod hyn yn hunan-gynhaliol o ran d?r, gwres a thrydan, ynghyd â thyfu y rhan fwyaf o’u bwyd.
· Mae effaith yr ymgeisydd o ran trafnidiaeth tua hanner yr hyn a ddisgwylir fel arfer gydag ôl-troed ecolegol yn 70% is na’r cyfartaledd ar gyfer Cymru.
· Bydd y datblygiad yn gosod esiampl leol ar gyfer byw’n gynaliadwy ac yn ysbrydoli teuluoedd eraill i fynd i’r afael gyda newid hinsawdd a’r argyfwng bioamrywiaeth.
· Mae’r ymgeisydd yn bwriadu byw ar y safle am weddill ei fywyd, gan fagu teulu a bod yn rhan o’r gymuned. Mae cysylltiadau lleol eisoes wedi eu sefydlu yn lleol drwy gefnogi digwyddiadau a gwirfoddoli mewn prosiectau cymunedol.
· Bydd cynnyrch yn cael eu gwerthu’n lleol gan roi mwy o ddewis cynaliadwy i drigolion lleol.
· Mae’r ymgeisydd am weld y prosiect yn elwa cymunedau lleol yn uniongyrchol. Mae’r cynllun rheoli yn manylu ymroddiad yr ymgeisydd.
· Mae nifer o lythyron cefnogol wedi eu derbyn yngl?n â’r cais gyda nifer fach o wrthwynebiadau wedi eu derbyn.
· Mae yna ddigon o amser i Swyddogion ac ymgyngoreion proffesiynol i asesu’r cais mewn mwy o fanylder.
· Nid yw’r pryderon gan wrthwynebwyr wedi eu cefnogi gan asesiadau y gweithwyr proffesiynol.
· Mae timau Priffyrdd, Bioamrywiaeth ac Ecoleg, tirwedd, draenio Cyngor Sir Fynwy a Chyfoeth Naturiol Cymru wedi dynodi bod y cynnig yn dderbyniol ac yn unol gyda’r Polisi Cynllunio.
· Mae’r aseswyr OPD annibynnol wedi eu bodloni bod y cais yn cwrdd â’r meini prawf yn llwyddiannus o ran y Polisi ‘One Planet Development’.
· Roedd yr ymgeisydd wedi gofyn i’r Pwyllgor Cynllunio i ystyried cymeradwyo’r cais.
Roedd y Rheolwr Ardal Rheoli Datblygu wedi ymateb fel a ganlyn:
· Bydd manylion y tirweddu meddal yn cael eu cytuno fel amod cyn-dechrau.
· Mae’r safle eisoes wedi ei sgrinio’n dda gyda llystyfiant aeddfed.
· Mae defnyddio amodau cynllunio er mwyn cytuno ar dirweddu meddal pellach yn briodol ac yn unol gyda’r cylchlythyr amodau cynllunio.
· Petai’r cais yn cael ei gymeradwyo, bydd samplau o’r hyn y bydd yn edrych fel ar ddiwedd y cyfnod yn medru cael eu cytuno cyn ei fod yn cael ei adeiladu.
· Byddai’n rhaid i’r ymgeisydd gadw at gytundeb cyfreithiol a byddai’r adroddiad monitro yn amodol ar adolygiad blynyddol drwy gyfrwng Swyddog Gorfodi Monitro yr Adran Gynllunio.
· Mae swyddogion yn fodlon bod yna gamau llym digonol yn eu lle ar gyfer monitro’r datblygiad a bod modd gweithredu’r holl gamau yma.
Roedd yr Aelod lleol ar gyfer Llanfihangel Troddi a Thryleg Unedig, sydd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, wedi gwneud y pwyntiau canlynol:
· Mynegwyd pryder fod yr ymgeisydd yn medru cyflwyno ei ddatganiad ei hun o’r effaith weledol ac ni chredwyd bod hyn yn gywrain, Mae modd gweld y safle o’r ffyrdd, llwybrau cerdded, y Mwnt a’r Beili hanesyddol a’r adeiladau rhestredig.
· Nid oedd yr aseswr annibynnol wedi cwblhau datganiad o’r effaith weledol.
· Mae llawer o’r coed sydd yn amgylchynu’r safle wedi dioddef clefyd (Chalara) coed ynn ac angen eu tynnu i lawr.
· Mae’r trac hanner cilomedr ar yr annedd at ddibenion amaethyddol. Mae angen egluro a fydd angen gwneud cais am ffordd breswyl.
· Mae’r gwelededd wrth adael y safle yn wael pan yn edrych i’r dde. Mae’r Adran Briffyrdd wedi mynegi pryderon ac roedd yr ymgeisydd wedi ceisio lliniaru hyn drwy lunio cytundeb gyda’r ffermwyr sydd yn berchen ar y clawdd ar bob ochr y trac. Mae modd i’r ffermwyr i ddirymu hyn o fewn saith diwrnod ac nid yw’n ddilys os yw’r naill barti yn gwerthu’r eiddo. Mae’r risg priffyrdd i ddefnyddwyr y ffordd felly yn parhau.
· Mae Llangofan mewn parth ffosffadau. Mynegwyd bod annedd teuluol gyda gwartheg/defaid yn mynd i greu ffosffadau gan ychwanegu at y broblem.
· Mae’r ddau gwrs d?r yn mynd i’r Afon Wysg. Ystyriwyd bod yna gwestiynau i’w gofyn am y cynllun busnes a’r rhagdybiaethau. Gyda’r cynnydd sylweddol mewn costau byw, ystyriwyd nad oedd ffigyrau byw yr ymgeisydd yn ddilys bellach, a gallai hyn effeithio ar y cynllun busnes a chynaliadwyedd y datblygiad.
· Mae’r ymgeisydd yn credu y bydd yr annedd tair ystafell wely o fewn band A y Dreth Gyngor, gyda’r eiddo werth £44,000 neu lai gan arwain at fil blynyddol o £1071. Mae hyn dipyn yn is nag eiddo tair ystafell wely eraill yn Sir Fynwy. Mynegwyd pryderon am gywreinrwydd y ffigyrau yma.
· Nid yw’r llythyron o gefnogaeth ar gyfer y cais yn dod o’r trigolion lleol.
· Nid yw’r Aelod lleol yn credu y bydd y cais yn gwella neu’n elwa’r gymuned a gallai niweidio busnesau lleol sydd yn gwerthu cynnyrch tebyg, ac nid yw’n cydymffurfio felly gyda'r polisi OPD.
· Gofynnwyd pam nad oedd unrhyw gais am arian fel rhan o Adran 106.
· Nid yw’r Aelod lleol yn credu fod y cais yn cwrdd yn llawn gyda’r polisi OPD neu bod y model busnes yn gadarn ac yn gynaliadwy.
Wedi ystyried adroddiad y cais a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Mae’r cynnig yn ddatblygiad ysbrydoledig ac yn mynd i wella’r amgylchedd naturiol drwy wella bioamrywiaeth yn yr ardal.
· Awgrymwyd y dylid ystyried gohirio’r cais ar sail iechyd cyhoeddus. Credwyd fod y cynllun busnes yn methu ymgorffori sut y bydd y cig yn cael ei gadw mewn rhewgelloedd drwy gydol misoedd y gaeaf pan na fydd y paneli solar yn medru creu digon o drydan er mwyn sicrhau eu bod yn medru parhau i weithio. Mynegwyd pryderon hefyd y bydd peth cynnyrch yn cael ei gludo drwy E-feiciau. Ystyriwyd bod angen i’r Adran Iechyd Amgylcheddol i graffu ymarferoldeb a diogelwch cyhoeddus y cynllun busnes. Mae’r datblygiad hefyd yn cystadlu gyda busnesau lleol sydd yn gwerthu cynnyrch tebyg. Mae’r polisi OPD yn datgan na ddylai’r busnes arfaethedig gael effaith negatif ar fusnesau lleol eraill.
Roedd y Rheolwr Ardal Rheoli Datblygu wedi ymateb fel a ganlyn:
· Mae’r Cyngor wedi ei dderbyn gan yr aseswr annibynnol am yr achos busnes.
· Mae Swyddog Dylunio Trefol a Thirwedd y Cyngor yn credu fod y datblygiad yn gynaliadwy.
· Mae Cyfoeth Naturiol Cymru wedi cadarnhau nad oes ganddo unrhyw wrthwynebiad o ran yr effaith ar y natur leol a’r ffosffadau a fydd yn cael eu sgrinio fel rhan o’r Asesiadau Rheoliadau Cynefinoedd.
· Mae cyfraniadau tuag at dai fforddiadwy wedi eu gosod yng Nghanllaw Cynllunio Atodol Tai Fforddiadwy’r Awdurdod ond ni fydd ei angen ar gyfer cynnig OPD. Felly, nid oes yna gais am arian Adran 106.
· Mae’r aseswr annibynnol yn ymwybodol fod angen gosod rhewgelloedd ar y safle a bodd modd darparu hyn heb effeithio ar yr anghenion ynni ehangach. Byddai storio’r cig yn amodol ar y Safonau Iechyd Amgylcheddol ac nid yw’n fater Cynllunio sydd angen ei ystyried.
· Mae caniatâd cynllunio wedi ei roi yn 2020 ar gyfer gosod y trac gyda deunydd mân at ddibenion amaethyddol. Mae’r trac yn ddigonol ac ni fyddai angen dim byd ychwanegol. Byddai modd defnyddio trac yn unol gyda’r safle OPD.
· Mae’r Aseswr Annibynnol wedi derbyn yr hyn y mae’r cais wedi dweud am werth y safle ac wedi cynghori’r swyddogion yn unol gyda hyn.
· Mae cyngor yr Ymgynghorydd yn dynodi na fydd y datblygiad arfaethedig yn niweidio busnesau lleol eraill.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir Ben Callard ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir Jill Bond bod y cais DM/2021/01823 yn cael ei gymeradwyo, a hynny’n amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a chytundeb cyfreithiol Adran 106.
Yn dilyn pleidlais, nodwyd y pleidleisiau canlynol:
I’w gymeradwyo - 9
Yn gwrthwynebu cymeradwyo - 1
O blaid gohirio - 2
Ymwrthod rhag pleidleisio - 0
Cymeradwywyd y cynnig.
Cytunwyd y dylid cymeradwyo’r cais DM/2021/01823,a hynny yn amodol ar yr amodau yn yr adroddiad a chytundeb cyfreithiol Adran 106.
Dogfennau ategol: