Cofnodion:
Cyflwynodd Ian Bakewell yr adroddiad, gyda sylwadau ychwanegol gan Mark Hand. Atebodd Ian Bakewell a Mark Hand gwestiynau'r aelodau.
Her:
Cymeradwyodd y Pwyllgor Cynllunio safle Teithwyr fis diwethaf – a yw hwnnw wedi ei dynnu oddi ar y 13? A oes unrhyw ymgynghoriad cyhoeddus cyn y cam cynllunio?
Mae'r safle a grybwyllwyd mewn perthynas â'r Pwyllgor Cynllunio yn ymwneud â theulu na chafodd ei adnabod fel rhan o broses yr Asesiad Llety Sipsiwn a Theithwyr. Nodwyd drwy’r broses fod angen 13 safle. Felly, gall nifer y teuluoedd newid, a bydd adolygiad yn 2025. Mae’r nifer hefyd yn seiliedig ar ragdybiaethau ynghylch sut y bydd teuluoedd yn tyfu erbyn 2033. Felly, mae rhywfaint o hyblygrwydd ond dyma'r broses orau a fwyaf derbyniol.
Bydd ymgynghoriad yn cael ei gynnal fel rhan o'r broses o hidlo safleoedd, dan arweiniad y tîm Tai, a byddant yn edrych ar ba safleoedd sydd ar y rhestr fer a sut y gallai’r safleoedd dan sylw gyd-fynd â'r CDLl. Yr ail gam yw sicrhau eu bod yn cael eu cynnwys yn y CDLl, fel proses statudol. Bydd ymgynghoriad cyhoeddus ar hynny ynghyd â holl agweddau eraill y cynllun. Mae'r trydydd cam ar lefel cais cynllunio. Unwaith y bydd pethau wedi'u trefnu o fewn y cynllun, bydd yn ddogfen y cytunwyd arni gan y cyngor felly dim ond cadarnhau manylion penodol am y safle fydd angen ei wneud yn ystod y cam olaf.
Mae 13 llain wedi'u cynnig, ar gyfer yr 13 sydd eu hangen. A fu unrhyw elfen o ddewis gan y gymuned ei hun?
Mae cymaint o hyblygrwydd â phosibl wedi'i gynnwys - nid ydym eisiau dewis safle yn fympwyol ac yna ddweud wrth y teulu. Nifer gymharol fach o deuluoedd sydd, felly rydym yn eu hadnabod ac yn adnabod eu anghenion yn dda. Yr hyn sy’n bwysig yw ceisio cymryd cymaint o hyn ag sy’n bosibl i ystyriaeth wrth symud ymlaen, er mwyn sicrhau nad oes syndod na siom ar ddiwedd y broses. Gan ein bod yn dechrau o'r dechrau, mae cyfle i gynnwys y teuluoedd wrth ddatblygu safleoedd.
Bydd y gymuned yn cymryd rhan, a bydd Trudy Aspinall, yr Arweinydd ar gyfer Teithio Ymlaen, yn siarad ar eu rhan?
Bydd. Gofynnodd Trudy i ni ddatgan heddiw ei bod yn hapus i fod yn rhan ac i eirioli, gan hwyluso ymgysylltiad cymunedol, ond nad yw'n gynrychiolydd uniongyrchol.
Beth yw sefyllfa bresennol y teuluoedd – sut maent yn cael eu cefnogi ar hyn o bryd?
Nid oes modd i ni ateb yn uniongyrchol ar hyn o bryd. Mae’r teuluoedd yn annibynnol, ond gwyddom fod angen mynediad at gyfleusterau iechyd penodol arnynt, mae rhai o’r plant yn mynychu ysgol gyfun ym Mhont-y-p?l, mae un yn gweithio yn ardal Brynbuga, ac ati. Byddem yn disgwyl i'r teuluoedd roi adborth i ni am eu sefyllfa a'u hanghenion, er mwyn ein galluogi i’w cymryd i ystyriaeth. Y peth pwysig i ni yw gwrando ac ymateb yn yn y modd priodol.
O ran sefyllfa ffisegol y teuluoedd, mae gennym yr holl wybodaeth yma a gallwn fynd drwyddi yn y gweithdy cyntaf e.e., os yw’r llety’r teulu’n orlawn, gellid darparu ar eu cyfer drwy roi carafán ychwanegol ar yr ardal y maent yn berchen arni eisoes, yn ddarostyngedig i ganiatâd cynllunio. Un mater penodol yw’r ardal yn Llancayo, sydd heb ei hawdurdodi o ran cynllunio: gwrthodwyd y cais cynllunio, gwrthodwyd yr apêl, ac mae wedi mynd drwy broses llys. Felly mae gan y teuluoedd hynny le i fyw ar hyn o bryd ond nid yw wedi'i awdurdodi; mae angen iddynt aros yno am y tro, ond pwrpas yr ymarfer hwn yw dod o hyd i rhywle arall addas ar eu cyfer. Roedd y mater cynllunio yn ymwneud â pherygl llifogydd; ar hyn o bryd maent mewn llety diogel, nid oes risg uniongyrchol i unrhyw un ar hyn o bryd.
Crynodeb y Cadeirydd:
Cytunodd y pwyllgor y dylid ychwanegu hyn at y Flaenraglen Waith.
Dogfennau ategol: