Cofnodion:
Roedd Richard Jones a Sharran Lloyd wedi cyflwyno’r adroddiad ac ateb cwestiynau’r Aelodau gyda Matthew Gatehouse.
Her:
A yw’r amcanion sefydledig yma yn mynd i gael eu trosglwyddo i’r amcanion rhanbarthol newydd?
Mae’r alinio rhwng y lleol a’r rhanbarthol yn eglur. Mae ein blaenoriaethau yn cael eu llywio gan ein data lleol a’n tystiolaeth a helpodd i lywio’r cynllun rhanbarthol. Mae’r themâu y maent yn ystyried yn gwbl gyson gyda’r hyn sydd gennym yn Sir Fynwy.
A yw Aelodau yn medru cyfeirio pobl at weithwyr cymdeithasol sydd yn gwneud gwaith brysbennu yn y gymuned?
Mae yna gyfeiriad e-bost a byddwn yn gallu rhannu hyn wedyn ond mae’n bwynt canolog ar gyfer cyfeirio pobl.
Yn y tabl ar dudalen 9, beth yw’r meini prawf ar gyfer cydnabod y cysylltiadau rhwng y camau yma? A oes yna gyswllt sy’n pontio’r cenedlaethau gan Brofiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod?
Mae hyn yn amlygu pwynt pwysig am integreiddio, un o’r pum ffordd o weithio sydd wedi ei nodi yn Neddf Cenedlaethau’r Dyfodol. Mae’r tabl yn dangos yn eglur sut y mae cam penodol yn medru cyfrannu at, neu’n gweithio gyda cham arall, fel nad yw’r gwaith yn cael ei wneud ar wahân. Wrth gymryd Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod fel enghraifft, mae iechyd meddwl yn rhan bwysig iawn o’r achosion isorweddol. Felly, dylai arweinwyr y camau hynny weithio gyda’i gilydd er mwyn gwneud y mwyaf o’r cyfraniadau y maent yn gwneud i wella lles yn y maes yma. Mae hyn wedyn yn mynd drwy wead y tabl, sy’n ceisio amlygu’r integreiddio mwyaf sylweddol.
Sut y mae’r eiconau yn berthnasol i’r 4 Amcan?
Bydd allwedd yn cael ei ychwanegu er mwyn ei gwneud yn fwy eglur. Mae hyn er mwyn dangos yr integreiddio ymhlith yr amcanion ar lefel uwch yn hytrach na’r camau. Bydd yna gynlluniau mwy manwl y tu nôl i hyn sydd yn esbonio’r integreiddio a sut y mae’n gweithio.
A oes modd gwneud rhywbeth ar lefel oedolion cyn bod profiadau niweidiol i blant yn digwydd?
Eleni, roedd y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus wedi cymeradwyo rhaglen trawsnewid blynyddoedd cynnar. Hefyd, fel rhan o’r cam Profiadau Niweidiol yn ystod Plentyndod yn y Cynllun Llesiant hwn, rydym wedi bod yn ystyried y 1000 diwrnod cyntaf, gan feddwl am y blynyddoedd ffurfiannol rhwng beichiogrwydd a dechrau’r ysgol. Nid yw hyn wedi ei gyfeirio ato’n llawn yn yr adroddiad ond bydd yn dod yn fwy amlwg wrth i’r gwaith fynd yn ei flaen.
A oes unrhyw sgôp tuag at edrych at wneud rhywbeth sydd yn elwa’r busnesau bach iawn, yr entrepreneuriaid lleol sydd yn cael trafferth yng Nghas-gwent, yn enwedig ar ôl Covid ac o feddwl am gyfraddau busnes a rhenti sylweddol y dref?
Nid yw yn debygol o fod yn berthnasol i’r pwyllgor neu’r adroddiad penodol hwn, er ei fod o bwys sylweddol.
Sut allwn ni adnabod a gwireddu addewid y Llywodraeth i ddarparu 50% o dai fforddiadwy yn yr holl safleoedd newydd? Sut ydym yn gweithio tuag at lenwi cartrefi gwag a’n mynd i’r afael gyda digartrefedd?
Mae’r BGC yn ffocysu ar bethau cydweithredol h.y. heriau nad oes modd i asiantaeth unigol ystyried ar ben ei hun. Felly, mae’r rhan fwyaf o waith sydd yn ymwneud gyda chanol ein trefi yn gyfrifoldeb ar Gyngor Sir Fynwy fel yr asiantaeth sengl, ac ni fyddai’r BGC yn ystyried hyn. Mae tai yn fwy o her ar draws sawl partner; er enghraifft, mae yna rôl ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru wrth ystyried problemau ffosffadau a safleoedd tai.
O dan Amcan 3, a oes yna gyfle i edrych ar ymddygiad sydd yn gosod esiampl e.e. mynd yn ddi-blastig yn Neuadd y Sir a thargedau newid diwylliant mewn ysgolion?
Mae hyn yn bwysig iawn. Nid oes yna blastig yn barod yn Neuadd y Sir yn sgil ymgyrch flaenorol ac mae nifer o ymgyrchoedd tebyg yn ein trefi wrth i ni weithio gyda busnesau er mwyn lleihau plastig defnydd un-tro, er nad yw hyn wedi dod i’w lawn ffrwyth eto. Drwy’r BGC, rydym angen annog yr holl wasanaethau cyhoeddus i ymrwymo i hyn.
Sut mae Sir Fynwy yn elwa o Ranbarth-Prifddinas Caerdydd?
Yn ei hanfod mae hon yn fenter gydweithredol ar draws 10 awdurdod lleol er mwyn cynyddu allbynnau economaidd y rhanbarth cyfan. Bydd budd economaidd yn un rhan o dde Cymru yn tueddu i elwa'r holl rannau, yn enwedig gan and yw’r rhan fwyaf o bobl yn byw a’n gweithio mewn un sir. Os ydym yn medru cynyddu ffyniant yn y rhanbarth cyfan, bydd pob rhan yn elwa ond mae mwy o fanylder ar gael gan y pwyllgor craffu cyfun sydd yn ei le ar gyfer Rhanbarth-Prifddinas Caerdydd.
Mae CSF yn ystyried yr effaith amgylcheddol a ddaw o bobl yn cymudo allan o’r sir – a ydym wedi ystyried denu busnesau mwy i ardaloedd deheuol Sir Fynwy?
Mae diwydiannau penodol yn amlwg i’w gweld mewn ardaloedd penodol ond mae lefelau uchel o allgymudo yn Sir Fynwy. Un o’r heriau yw trafnidiaeth gyhoeddus. O dan Rhanbarth-Prifddinas Caerdydd, dylai’r buddsoddiad sylweddol ym Metro De Cymru ei gwneud hi’n haws i bobl symud o gwmpas y rhanbarth. Un o’r heriau ar gyfer Rhanbarth-Prifddinas Caerdydd yw sut y mae cymunedau fel Sir Fynwy yn medru elwa o hyn. Mae’r datblygiad diweddar o weithio gartref hefyd yn rhan o hyn a sicrhau bod ein cymunedau yn medru cael mynediad at fand eang cyflymder uchel.
Sut mae cynghorau tref a chymuned yn medru rhannu arferion? Pam nad yw Magwyr a Gwndy wedi eu cynnwys?
Mae yna wersi ffantastig i’w dysgu gan y cynghorau tref a chymuned. Rydym yn y broses o gryfhau sut ydym yn cydweithio gyda hwy. Rydym yn atgyfnerthu eu rôl, yn trefnu cyfarfodydd chwarterol er mwyn rhannu arferion da a’n darparu mwy o wybodaeth na fu’n digwydd cyn hyn. Mae angen iddynt adrodd ar sut y maent wedi ceisio cyflawni eu hamcanion, gyda hwy’n arwain ar y gwaith ac yn ei gysoni gydag anghenion y sir. Nid yw Magwyr a Gwndy o dan ddyletswyddau’r ddeddf i adrodd ar y cynllun hwn- dim ond 4 cyngor tref sydd angen gwneud hyn o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Ond rydym dal yn cysylltu gyda hwy fel rhan o Bartneriaeth ac yn cynnal y berthynas. Mae yna drothwy ariannol ar gyfer cael eich cynnwys gan y Ddeddf: cynghorau tref a chymuned sydd â throsiant blynyddol o £100k neu fwy.
Pam fod trefn y rhestr o drefi yn newid drwy gydol yr adroddiad?
Nid oes yna arwyddocâd – mae hyn yn debygol o fod yn gamgymeriad.
O dan ‘Sut ydym yn perfformio’, a yw dyfynnu’r cyfartaledd gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol ar gyfer mesurau llesiant cenedlaethol yn ddefnyddiol?
Mae data’r SYG wedi ei gynnwys er mwyn ceisio arddangos yr effaith ar les personol. Er bod Sir Fynwy yn amrywiol iawn, mae’n helpu i roi ychydig o gyd-destun drwy gymharu’r sir gyda Chymru a’r DU. Ond rydym angen dealltwriaeth fwy manwl a dyma bwrpas yr Asesiad Lles sydd wedi ei ddiweddaru, gan ystyried Gwent, Sir Fynwy a 5 ardal Sir Fynwy mewn mwy o fanylder. Nid yw’r data sydd ar gael ar y lefel leol mor gynhwysfawr â’r hyn sydd ar gael ar y lefel sirol ond rydym wedi cynnal ymgynghoriad gyda thrigolion yn gofyn iddynt ategu at hyn. Bydd yr asesiad yn helpu’r pwyllgor i ddeall rhinweddau a chryfderau ac yn cael ei ddefnyddio i lywio’r Cynllun Llesiant nesaf ar lefel Gwent ynghyd â gweithgareddau mwy lleol: o fewn hyn, rydym wedi nodi’r materion sy’n dod i'r amlwg.
Ai’r rheswm am ddefnyddio canrannau yw bod yn gyson gyda’r arolwg cenedlaethol i Gymru a/neu DEFRA?
Cywir – yn yr achosion yma, rydym yn defnyddio data o arolwg Llywodraeth Cymru ac unrhyw ystadegau eraill sydd ar gael. Ond mae dangosyddion yn cael eu defnyddio gyda gofal ym mhob achos yn sgil y ffaith nad yw maint y sampl yn fawr.
O dan Amcan 3, a yw JBA Consulting yn ystyried pob dim o ran amcanion y prosiect? A oes yna Gynllun Gweithredu? Pryd fydd hyn yn cael ei gwblhau?
Defnyddiwyd JBA i ystyried rhai o amcanion y BGC ar Newid Hinsawdd a Datgarboneiddio. Gofynnwyd iddynt ysgrifennu adroddiad ar sut i gynyddu lefel ein huchelgais ar draws Gwent a pha gamau y mae modd cymryd fel BGC i arddangos ein hymroddiad ein hunain. Roeddynt wedi cynnig pethau fel rhannu fflyd ac adeiladau, rhannu technoleg er mwyn lleihau’r ôl-troed carbon. Rhannwyd gwaith JBA gyda phartneriaid y BGC er mwyn ei ddatblygu a’i lywio drwy’r Bwrdd Partneriaeth Rhanbarthol sy’n cael ei gadeirio gan Gyfoeth Naturiol Cymru. Bydd yna gynllun gweithredu llawn, er nad yw’r manylion wrth law ond mae rhai o’r pethau hyn yn fwy anodd na’r disgwyl e.e. er mwyn rhannu ac archebu lle i ddefnyddio desgiau ar draws mudiadau, bydd angen i’r systemau siarad â’i gilydd. Felly, mae angen gwneud mwy o waith i ddatblygu’r syniadau yma ar lefel ymarferol. Mae modd rhannu diweddariad gyda’r pwyllgor am gyflwr presennol y camau gweithredu arfaethedig.
Dogfennau ategol: