Cofnodion:
Roedd Jonathan Davies wedi cyflwyno’r adroddiad ac ateb cwestiynau'r Aelodau gyda Dave Loder, Peter Davies a Nicola Wellington.
Her:
Mae heriau’r dyfodol o ran darparu gwasanaethau wedi eu hamlygu. A oes set mwy manwl o asesiadau ar gyfer y risgiau tebygol? Beth am y pwysau chwyddiant a’r materion perthnasol eraill?
Roedd llawer o’r risgiau yn wybyddus pan oeddwn yn gosod y cyllidebau, pan oeddwn wedi cynnal dadansoddiad llawn. Nid oedd rhai o’r pwysau chwyddiant mor amlwg ar y pryd hynny: rhaid oedd ymateb iddynt yn gyflym wrth iddynt ddatblygu. Bydd adrodd ariannol ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol yn dilyn gydag adroddiad Mis 4 yn dod i’r Pwyllgor ym mis Medi a fydd yn mynd i’r afael gyda sut y mae rhai o’r risgiau yn cyflwyno eu hunain. Mae’r prif risgiau wedi eu hamlygu ym 3.28 ac maent i’w disgwyl: mae dal diffygion o ran y gyllideb strwythurol sydd yn ymwneud gyda gofynion ar gapasiti Gofal Cymdeithasol, Cartrefi Gofal yn agosáu at 100%, ac felly, rydym yn ariannu’r llefydd yma ac nid oedd rhaid i i wneud hyn yn ystod y pandemig. Mae materion staffio ym maes Gofal yn y Cartref yn nodwedd allweddol o’r gwasanaeth, ac rydym yn chwilio am help allanol er mwyn cefnogi hyn. Mae digartrefedd yn faes allweddol – mae yna newid polisi wedi bod gan Lywodraeth Cymru ac mae dal llawer o fanylder angen ei gadarnhau yngl?n â sut ydym yn cefnogi’r gwasanaeth.
Mae tanwario yn gymaint o bryder ag y mae gorwariant gan ei fod yn awgrymu nad ydym yn darparu gwasanaethau fel ydym yn gobeithio. A yw ‘arbedion’ yn golygu ein bod yn ceisio arbed yr arian neu a yw hyn yn danwariant nad oeddem yn ceisio sicrhau e.e., arbedion costau staff yn y Gwasanaeth Seicoleg i Ysgolion?
Mae ‘arbedion’ neu ‘fesurau lliniaru’ yn golygu bod y rhain wedi eu dwyn gerbron cyn dechrau’r flwyddyn ariannol a pha wasanaethau sydd wedi cynnig effeithlonrwydd neu’r mesurau lliniaru sydd yn bosib, i’w gweld yn Nhabl 2. Mae’r arbedion penodol yn SPS i’w briodoli i swydd wag. Mae tanwariant yn cyfeirio at yr hyn sydd wedi digwydd yn ystod y flwyddyn i’r gyllideb a osodwyd, yn hytrach nag arbedion neu fesurau lliniaru a gytunwyd ar ddechrau’r flwyddyn, ond mae’r ddau weithiau yn cyfuno.
Beth yw’r esboniad ar gyfer y tanwariant sylweddol ar gyfer Priffyrdd?
Mae’n cynnwys dwy ran. Mae’r arbedion cyntaf yn ymwneud gyda staffio, gan fod yna nifer o swyddi gwag yn y maes hwn. Maent yn ceisio llenwi’r swyddi gwag yma nawr. Yr ail beth yw’r lefelau uchel o incwm y llynedd, sydd yn cynnwys dwy ran: roeddem yn medru ail-godi tâl ar gyfer costau staff ar y cyllidebau cyfalaf a grantiau, ac roeddem wedi derbyn mwy o incwm yn sgil ffyrdd wedi eu cau, ac nid oedd hyn wedi ei rannu gyda Chyllid tan yn hwyrach yn y flwyddyn. Roedd yr incwm wedi dyblu, gan greu hwb sylweddol yn ein hincwm. Mae’n debygol iawn y bydd yna danwariant sylweddol eleni.
Beth mae’r arian dros ben o ran Mentrau Strategol yn golygu?
Mae Mentrau Strategol yn gyllideb gorfforaethol sydd gennym: mae’r tanwariant o £1m yn grant hwyr yr ydym wedi derbyn gan Lywodraeth Cymru er mwyn cefnogi’r gwaith o gasglu’r dreth gyngor yn ystod y flwyddyn. Mae’r arian ym Mentrau Strategol er mwyn ei gadw ar wahân i’r dreth gyngor, er mwyn adrodd ar hyn mewn modd tryloyw.
Yn yr achosion lle ydym yn gweld amrywiaethau sylweddol o’r cyllidebau, mae’n ddefnyddiol i gael sylwadau ar yr effaith ar wasanaethau. Mae swyddi gwag yn ‘pam’ ond beth mae hyn yn golygu a beth sydd wedi ei wneud er mwyn lliniaru’r gostyngiad yn lefel y gwasanaethau a ddarperir yn ystod y cyfnod hwn e.e. mewn Priffyrdd a Llifogydd?
Yn Atodiad 1, mae Cyfarwyddwr y gwasanaeth yn ceisio darparu sylwadau ehangach ar yr effaith dros y flwyddyn, ond nid efallai mor fanwl ag sydd wedi ei ddymuno. Mae Pennaeth y Gwasanaeth neu’r rhai sydd yn gyfrifol yn meddu ar ddealltwriaeth well o effaith y tanwariant. Dylai nodweddion isorweddol gael eu cynnwys yn yr adroddiadau Perfformiad.
O ran cyd-destun cyffredinol, wrth i ni fynd drwy’r flwyddyn ariannol ddiwethaf, roeddem wedi wynebu gorwariant sylweddol yn y misoedd cynnar – nid oeddem yn gwybod am y grantiau sylweddol yr oeddem yn mynd i dderbyn gan Lywodraeth Cymru. Roeddem am sicrhau nad oeddem yn gwario’n ddifeddwl, gan ymatal rhag llenwi swyddi. Gwnaed y penderfyniadau hynny yn y flwyddyn, a daeth yr holl grantiau yn hwyrach. O ran blwyddyn gyfredol 22-23, rydym yn disgwyl sefyllfa heriol ym Mis 4. Ond pan ein bod yn gosod y gyllideb ar gyfer y flwyddyn gyfredol, roeddem yn gwybod am y risgiau sylweddol sydd eisoes wedi eu crybwyll a’n cadw arian er mwyn talu am rai o’r risgiau. Yr her yw’r risgiau na sy’n wybyddus h.y. y rhai sydd yn dod o’r argyfwng costau byw a’r chwyddiant sydd yn dod yn amlwg mewn ffyrdd gwahanol ac yn cymryd amser i weithio drwy’r amser.
Pa mor ddatblygedig yw cynlluniau buddsoddi yr ysgolion a sut y mae yr ysgolion yn cael eu helpu i weithredu’r rhain?
Roedd ysgolion wedi derbyn nifer o grantiau tuag at ddiwedd y flwyddyn a rhoddwyd caniatâd iddynt symud y rhain i mewn i’r flwyddyn ariannol gyfredol. Rydym yn gweithio ag ysgolion er mwyn creu cyllidebau 3 mlynedd sydd yn gynlluniau buddsoddi, gan sicrhau bod arian yn cael ei wario’n briodol, yn unol gyda thelerau ac amodau’r grantiau. Gyda’n holl ysgolion, mae cyllidebau ariannol 22-23 yn eu lle, wedi eu cymeradwyo gan y cyrff llywodraethu. Os oes yna ddiffyg arian mewn ysgol, mae yna gynllun adferiad gennym. Rydym yn monitro ysgolion yn fisol/bob yn ail fis er mwyn cwrdd â’r cynlluniau yma.
A oes angen i ni gofnodi unrhyw ddata ar ddiwedd y flwyddyn ar gyfer swyddi gwag ym mhob adran, a hynny ar draws y mudiad?
Mae’r data o ran swyddi gwag o fewn portffolio ein Prif Swyddog ar gyfer Pobl a Llywodraethiant a chydweithwyr yn Adnoddau Dynol, ac felly, mae modd eu cyhoeddi.
A ydych yn rhagweld y bydd cymorth cynnal a chadw yn dod yn her yn y blynyddoedd sydd i ddod? A fydd y broblem yma o ran capasiti yn atal y cynlluniau hynny rhag cael eu gweithredu?
Mae yna bryder fod capasiti yn mynd i fod yn her, ymhlith ein gweithwyr a chontractwyr. Mae’n fater o weithio’n agos ag ysgolion er mwyn cadarnhau pryd i wneud y gwaith. Nid oes rhaid gwario’r grant Cynnal a Chadw erbyn 31ain Mawrth 2023 ac felly mae yna amser ar gael i ni weithio ag ysgolion er mwyn sicrhau bod arian yn cael ei wario.
A oes unrhyw gynlluniau neu ragolygon i dalu am unrhyw risgiau neu ddefnydd llai o Barc Spytty a Castle Gate?
Effeithiwyd ar yr asedau hynny yn ystod Covid. Roedd Llywodraeth Cymru wedi ehangu’r Gronfa Galedi Covid i dalu am y colledion ac mae hyn i’w groesawu. Mae lefelau meddiannaeth ym Mharc Busnes Castle Gate wedi parhau’n gryf iawn yn ystod y pandemig, er bod Parc Hamdden Casnewydd wedi ei effeithio yn amlwg yn sgil natur y tenantiaethau ond roeddem yn medru cadw’r tenantiaid yno yn sgil y Gronfa Galedi. Mae’r tenantiaid yn gweithio’n dda a byddwn yn parhau i asesu hynny drwy’r Pwyllgor Buddsoddi. Yn ystod y camau cynnar o osod y gyllideb CG gydag un o’r tenantiaid yn dweud eu bod yn bwriadu gadael, rydym wedi helpu tenant arall i ehangu a defnyddio’r gofod hwnnw. Mae’n cael ei gamddeall yn aml ond mae’r tenantiaid yma yn cyfrannu incwm net sylweddol i’r Cyngor, gan ganiatáu ni gynnal a darparu gwasanaethau.
A oes yna ddiweddariad ar y Termau Prydles Sydd Wedi’i Pwysoli Ond Heb Ddod i Ben?
Nid yw’r wybodaeth ar gael gennym ond byddwn yn darparu hyn i’r Pwyllgor.
Beth fyddai effaith y pandemig pe na bai yna gyllid ychwanegol? A ydym yn llwyr ddeall y pwysau sydd yn mynd i’n hwynebu yn y dyfodol?
Pe na bai’r arian o’r Gronfa Galedi ar gael ym 2020, nid oedd yr arian wrth gefn gennym i ddelio gyda’r pwysau yma. Byddem wedi gorfod ymateb gyda rhai newidiadau sylweddol iawn. Mae Cymru wedi elwa dipyn yn fwy o gyllid yn cael ei roi i Lywodraeth Leol a’r Gronfa Galedi, a hynny o’i gymharu gyda Lloegr. Rydym wedi medru neilltuo’r arian yma wrth gefn. Heb y lefel yma o gymorth o’r Gronfa Galedi, byddai ein sefyllfa ariannol wedi bod yn fregus iawn.
Bydd yna donnau pellach o Covid, a sawl pandemig yn y dyfodol. A fyddai’n werth nodi’r hyn sydd wedi gweithio a’r hyn na ddylem fod wedi gwneud ayyb er mwyn paratoi ar gyfer hyn yn y dyfodol?
Roedd strwythurau cymorth brys o’r Ddeddf Argyfyngau Sifil Posib wedi dod i rym ym Mawrth 2020. Matt Phillips, Prif Swyddog ar gyfer Pobl a Llywodraethiant, sydd yn gyfrifol am y portffolio sy’n cynnwys Cynllunio Brys, a fydd wedi dysgu gwersi o hyn, a hynny hefyd ar lefel Gwent a Llywodraeth Cymru. Mae yna ymchwiliadau yn cael eu cynnal o ran y Cartrefi Gofal yn ystod y pandemig a fydd yn arwain at dystiolaeth o’r gwersi sydd wedi dysgu ar lefel leol a chenedlaethol. Efallai y byddai modd gofyn am grynodeb o’r gwersi a ddysgwyd gan Matt Phillips.
Crynodeb y Cadeirydd:
Cynigiwyd yr argymhellion a chytunwyd ar hyn gydag Aelodau. Roedd y Pwyllgor wedi gwneud cais am wybodaeth o’r pwysau chwyddiant yr ydym yn wynebu a bod hyn yn cael ei e-bostio i Aelodau er mwyn eu helpu i ddeall effaith chwyddiant ar gyllideb y Cyngor. Bydd yn bwysig i ddwyn y gwersi o’r pandemig ynghyd, yn enwedig yr effaith ariannol sydd yn effeithio ar wasanaethau, er mwyn sicrhau ein bod yn parhau mor ddygn ag sydd yn bosib.
Dogfennau ategol: