Agenda item

Adroddiad Monitro Blynyddol yr Iaith Gymraeg 2021-22 – Craffu ar berfformiad y Cyngor wrth gydymffurfio gyda Safonau’r Gymraeg.

Cofnodion:

Roedd Matthew Gatehouse wedi cyflwyno’r adroddiad ac ateb cwestiynau'r Aelodau. 

 

Her:

 

A yw’r hyfforddiant staff yn agored i Gynghorwyr? A oes yn gynlluniau i fynd yn ôl i hyfforddi mewn person?

 

Ydy, mae ar agor i Aelodau – rydym am helpu cynifer o bobl ag sydd yn bosib, gyda phethau fel dosbarthiadau sgwrsio dros ginio. Ym mis Medi, byddwn yn debygol o gyflwyno cyfleoedd i hyfforddi mewn person ac yn hapus i ariannu cyrsiau mewn mannau eraill hefyd – y peth allweddol yw annog cynifer o bobl ag sydd yn bosib i siarad.

 

Beth fydd yn cael ei drefnu er mwyn delio gyda’r gorwariant nawr ac yn y blynyddoedd nesaf?

 

Mae yna ddyletswydd gyfreithiol gennym i gyfieithu pethau ac nid ydym yn medru ceisio osgoi hyn. Mae yna gyfrifoldeb i weithredu o fewn y Gyllideb sydd wedi ei gosod gan y Cyngor ar gyfer y maes hwn, ac rydym wedi ceisio  mynd i’r afael gyda gorwariant. Er enghraifft, roedd ein Swyddog Iaith Gymraeg wedi  ymddeol mewn blwyddyn etholiad, gan arwain at fwlch yn y cyflog a dalwyd am gyfnod. O ganlyniad, bydd yna danwariant yn y maes hwn fel sydd wedi ei ddangos yn yr eitem agenda nesaf.  

 

Sut y mae’r gwaith tendro ar gyfer comisiynu gwaith cyfieithu yn cael ei wneud? A yw’n amser i adolygu hyn? A yw Caerdydd yn ein helpu fel rhan o’r bartneriaeth? A ydym yn cyfieithu unrhyw beth yn fewnol? A yw Awdurdodau eraill yn rhannu gwasanaethau cyfieithu h.y. yn cydweithio gyda'r sawl sydd â mwy o ddarpariaeth?

 

Roeddwn wedi ystyried y sefyllfa hon rhyw 2.5-3 mlynedd yn ôl – rydym yn adolygu’r sefyllfa yn gyson er mwyn sicrhau bod ein trefniadau yn gost-effeithiol. Nid oes cyfieithwyr mewnol gennym ond rydym yn defnyddio criw sefydlog o 6-7 o gyfieithwyr o bob cwr o Gymru. Mae’r cyfraddau yr ydym yn talu yn gystadleuol iawn o’u cymharu gyda’r opsiynau amgen. Roeddem wedi ystyried gofyn i awdurdod lleol arall i ddarparu’r gwasanaeth ond byddai wedi costio tua £30-40k yn fwy bob blwyddyn. Roeddem hefyd wedi gofyn i gydweithwyr Caffael a oedd unrhyw werth mynd yn ôl i’r farchnad; wedi ystyried maint y farchnad a swm yr arbedion posib, nid oeddynt yn credu y byddai’r contractau yn cynnig digon o werth i fynd yn ôl i’r farchnad. Ond byddwn yn parhau i adolygu hyn.

 

Roeddem wedi ystyried dod â’r gwasanaeth yn rhan o’r Awdurdod, yn rhannol yn sgil y dechnoleg sydd ar gael ond mae llawer o’r busnesau unigol yn defnyddio meddalwedd/offerynnau dysgu sydd yn caniatáu hwy i gadw eu costau yn isel. Nid ydym yn gwneud rhyw lawer yn fewnol ac eithrio rhai pethau fel prawfddarllen. Gan amlaf, mae’r cyfieithwyr yn medru cyfieithu pethau o fewn yr awr pan fydd angen.  

 

Beth yw cyfanswm nifer y   staff ym mhob un maes gwasanaeth – a yw’n cynnwys y rhai sydd heb ddechrau dysgu?

 

Nid yw’r niferoedd hynny gennym ar hyn o bryd ond bydd modd darparu hyn maes o law, a’u cynnwys yn adroddiadau’r dyfodol er mwyn eu gwneud yn fwy defnyddiol i Aelodau.  

 

Faint o’r gwelliannau sydd wedi eu gwneud dros y flwyddyn ddiwethaf sydd yn ymwneud gyda staff  newydd?

 

Mae’r staff wedi sicrhau cymwysterau newydd ond mae cynnydd sylweddol wedi’i achosi gan recriwtio staff allanol. Mae’r ffordd y mae’r dechnoleg wedi datblygu yn caniatáu ni weithio’n wahanol ac mae hyn yn golygu bod modd i ni recriwtio pobl o ogledd a gorllewin Cymru - nid yw pobl o reidrwydd yn byw yn lleol.  Agwedd arall yw ceisio targedu recriwtio, er enghraifft, swyddi gofal cartref ac roedd y Swyddog Iaith Gymraeg wedi mynd ar Radio Cymru i annog siaradwyr Cymraeg i wneud cais. Ond mae’r her yn parhau ac nid ydym wedi cyrraedd ble sydd angen o ran recriwtio.  Nid oes llawer wedi manteisio ar gyrsiau yn y blynyddoedd diwethaf, oherwydd nid ydym wedi sicrhau’r enillion yr hoffem weld. Er mwyn delio gyda hyn, rydym yn hysbysebu swyddi fel ‘Cymraeg hanfodol’, yn enwedig mewn swyddi rhengflaen.  

 

A oes unrhyw beth wedi ei ystyried er mwyn ceisio deall y trafferthion sydd yn rhan o recriwtio a chadw gafael arnynt? A yw’n broblem ddaearyddol neu a oes yna gysyniad ohonom fel rhai na sydd yn cymryd yr iaith o ddifri’? A yw cyflog yn ffactor?

 

Nid yw’n her unigryw i Sir Fynwy, ac rydym wedi rhannu adborth gyda’r Comisiynydd, ac mae perthynas dda iawn gyda ni gyda’r Comisiynydd. Nid oes llawer o siaradwyr Cymraeg gennym yn y rhan yma o Gymru.  Mae llawer o siaradwyr yn dod i swyddi lefel uwch – nid yw llawer ohonynt yn gweithio mewn gwasanaethau rhengflaen. Mae yna heriau sylweddol ym maes Gofal Cartref – yn enwedig yn Sir Fynwy, yn sgil y prisiau tai. Nid ydym wedi mynd eto i’r ysgolion cyfrwng Cymraeg, a nosweithiau Gyrfaoedd, er mwyn datblygu pobl dipyn ynghynt. Hefyd, mae angen datblygu gweithgareddau iaith Gymraeg ar LinkedIn a gwefannau Gyrfaoedd er mwyn dangos bod yr iaith yn cael ei hannog yma a’n bod am ddatblygu’r iaith. Rydym yn benderfynol o roi cynnig ar dactegau er mwyn ein gwneud ni yn gyflogwr mwy atyniadol i siaradwyr Cymraeg.  

 

Os oes yna gais am ddarpariaeth gofal drwy gyfrwng y Gymraeg,  a oes modd i ni gynnig hyn?

 

Oes.  Mae Cynorthwywr Gofal Iaith Gymraeg gennym ond nid oes digon gennym. Os ydym yn cael trafferth, rydym yn talu premiwm y farchnad er mwyn diwallu anghenion gofal unigolyn. 

 

A ydym yn siarad ag awdurdodau eraill am arferion gorau?

 

Rydym yn rhan o rwydwaith Swyddog Iaith Gymraeg, ac rydym yn ymgysylltu drwy Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru. Rydym yn ceisio dysgu o arferion gorau. Rydym yn fudiad llai na mudiadau eraill, sydd yn golygu bod angen i ni ddefnyddio adnoddau’n effeithiol. Ond mae yna feysydd lle y mae mudiadau yn dod atom ni. e.e. yngl?n â’n gwasanaethau cyfieithu gan fod ein dull o weithio yn dda iawn. Rydym yn gwneud hyn ar gyfer mudiadau fel Cyngor Ar Bopeth hefyd, gan ein bod yn medru gwneud hyn yn fwy cost-effeithiol nag unrhyw un arall.

 

 

Pa fath o hyrwyddo mewnol sydd yno ar gyfer hyfforddi staff?

 

Rydym yn defnyddio llwyfannau fel Sharepoint (ein safle Mewnrwyd): mae yna dudalen Gymraeg gennym yno, gyda chyrsiau yn cael eu cyhoeddi ar Talent Lab. Mae’r ffaith nad oes digon o bobl yn cwblhau’r cyrsiau yn awgrymu y byddem yn elwa o wneud mwy a pharhau i’w gwthio hwy i wneud pethau fel  Cwtch Digidol a Diwrnod Schmae. Mae syniadau a brwdfrydedd ein Swyddog Iaith Gymraeg yn golygu  y bydd yna gryn fwy yn cael ei wneud i hyrwyddo a chynnal gweithgareddau dros y misoedd nesaf.  

 

A oes modd cysylltu’r pwysigrwydd  o ddenu pobl gyda’r broblem ehangach o recriwtio  staff i feysydd penodol? I ba raddau y mae’r gofyniad yma yn atal rhai gweithwyr posib ardderchog rhag dod a gweithio yn y swyddi allweddol yma, o feddwl am y ffin yr ydym yn rhannu gyda Lloegr?

 

Nid oes yna ateb hawdd i’r broblem gyffredinol hon o recriwtio  staff. Rydym yn medru elwa mewn nifer o ffyrdd fel y porth i Gymru oherwydd efallai y byddwn yn canfod fod siaradwyr Cymraeg gyda swyddi ym Mryste a Gorllewin Cymru  yn dewis aros i fyw yno a chymudo. Mae rhai grwpiau sgwrsio da iawn gennym, ac rydym yn gweithio i’w cefnogi hwy er mwyn sicrhau bod pobl sydd am ddefnyddio’r Gymraeg, ac yn ystyried symud nôl yma i weithio, yn cydnabod fod hwn yn lle da i’r iaith. Rydym wedi ceisio manteisio ar waddol yr  Eisteddfod a gynhaliwyd ym 2016 yn y Fenni a oedd wedi rhoi hwb sylweddol i’r iaith yn y sir. Ond mae yna heriau recriwtio sylweddol na sydd yn unigryw i’n siaradwyr Cymraeg.

 

A ydym yn medru bod yn rhagweithiol gyda staff a chynghorwyr drwy gael gair neu ymadrodd y diwrnod yn y Gymraeg pan eu bod yn mewngofnodi  bob blwyddyn?

 

Efallai bod yna gyfyngiadau ayyb gan ein bod wedi rhoi cynnig ar hyn mewn meysydd eraill ond byddwn yn gwirio hyn gyda’r tîm digidol er mwyn deall yr hyn sydd yn bosib.  Bydd yna bethau eraill y mae modd i ni wneud, fel hyrwyddo’r apiau sydd yn  annog dysgwyr i gwblhau tasg dysgu e.e. Duolingo.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

 

Diolch i chi am yr adroddiad cynhwysfawr hwn. Daeth y Pwyllgor i’r casgliad fod y Cyngor angen parhau gyda’i ymdrechion  er mwyn recriwtio mwy o siaradwyr Cymraeg i wasanaethau rhengflaen, fel gofal cymdeithasol, gan gydnabod fod recriwtio yn y sector yn her genedlaethol.  Roedd y Pwyllgor wedi gofyn am wybodaeth bellach am y nifer o staff sy’n siarad Cymraeg mewn meysydd gwasanaeth unigol a bod hyn yn cael ei e-bostio yn dilyn y cyfarfod.  

 

 

Dogfennau ategol: