Cofnodion:
Roeddem wedi ystyried yr adroddiad ar gyfer y cais a’r ohebiaeth hwyr a oedd wedi ei argymell ar gyfer ei gymeradwyo, a hynny’n amodol ar yr amodau sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad.
Hysbyswyd y Pwyllgor nad yw’r cynlluniau arfaethedig yn dangos y byddai’r to yn bargodi. Felly, pe bai’r cais yn cael ei gymeradwyo, byddai’r to yn cael ei dynnu oddi yno, uchder y waliau yn cael eu lleihau a tho newydd yn cael ei osod a fydd wedyn yn cydymffurfio gyda’r cynlluniau a gyflwynwyd.
Roedd yr Aelod lleol ar gyfer Lansdown, a oedd wedi mynychu’r cyfarfod yn dilyn gwahoddiad gan y Cadeirydd, wedi amlinellu’r wybodaeth ganlynol:
· Mae yna ddarn sylweddol o’r to sy’n bargodi ac yn draenio yn syth i ardd gefn y cymydog.
· Mae’r dyluniad yn dynodi na ddylai’r to fod yn bargodi. Roedd hyn hefyd yn wir am y dyluniad blaenorol.
· Mynegwyd pryderon am y trefniadau draenio. Os cânt eu cymeradwyo, mae adroddiad y cais yn cyfeirio at adeiladu suddfan d?r sydd yn 10 metr o ddyfnder. Fodd bynnag, nid oes unrhyw dystiolaeth bod y fath suddfan wedi ei adeiladu
· Mae’r stryd gyfan wedi ei heffeithio gan y datblygiad ac wedi gofyn i gwrdd gyda’r Aelod lleol gan ofyn iddo ysgrifennu llythyr o wrthwynebiad ar eu rhan.
· Mynegwyd pryder bod yna gynsail wedi ei osod. Roedd cais ôl-weithredol tebyg yn y stryd o dan weinyddiaeth flaenorol wedi ei wrthod ac mae’r adeilad wedi ei ddymchwel ers hynny.
· Ar gyfer y safle yma, mae yna gais wedi ei gymeradwyo ar gyfer garej maint ‘arferol’ ac ni chafwyd unrhyw wrthwynebiad i’r cais hwnnw. Fodd bynnag, roedd yr hyn a adeiladwyd yn fawr iawn. Felly, cyflwynwyd, cais ôl-weithredol i’r Pwyllgor Cynllunio gan fod y garej 40% yn fwy na’r adeilad a oedd wedi sicrhau’r caniatâd cynllunio gwreiddiol.
· Roedd yr Aelod yn credu mai cyfaddawd fyddai adeiladu’r garej ond gyda tho fflat.
Wrth ymateb, roedd y Rheolwr Tîm Ardal Rheoli Datblygu wedi hysbysu’r Pwyllgor:
· Nid yw’r to sy’n bargodi wedi ei ddangos ar y cynlluniau arfaethedig cyn y Pwyllgor heddiw.
· Bydd yna gafnau ar y naill ochr gyda phibellau d?r yn rhedeg i lawr y ddwy ochr er mwyn helpu gyda’r draenio. Bydd y d?r storm yn cael ei reoli drwy gyfrwng cynhwysydd straenio 45-galwn ar naill ochr y garej sydd i’w ddefnyddio ar gyfer yr ardd. Bydd y cynhwysydd yn bwydo i mewn i’r suddfan sy’n tri metr o ddyfnder.
· O ran gosod cynsail, rhaid ystyried pob cais cynllunio ar sail ei rinweddau ei hun.
· Mae’r cais yn ôl-weithredol ond mae angen i’r Pwyllgor i ystyried y cais fel na petai’r datblygiad yno a selio ei benderfyniadau ar y cais a’r cynlluniau sydd wedi eu cyflwyno.
· Nid yw’r opsiwn o do fflat yn rhan o’r cais sydd yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor.
Roedd Mr. M. Turnbull, sydd yn gwrthwynebu’r cais ac yn cynrychioli’r gwrthwynebwyr, wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig o ran y cais a darllenwyd hyn i’r Pwyllgor Cynllunio gan Swyddog Cynllunio fel a ganlyn:
‘Rwy’n ysgrifennu er mwyn gwrthwynebu yn llwyr i’r strwythur sydd wedi ei gynnig yn y cais, rhif DM/2021/01735.
Bydd maint cyffredinol arfaethedig y strwythur yn rhy fawr o lawer o’i gymharu gyda’r adeiladau cyfagos, a gan fod hyn yn gais ôl-weithredol, mae fy ngwrthwynebiad yn amlwg i’w weld gan fod y strwythur yn bodoli nawr. Mae yna ragdybiaeth bod maint y strwythur fel sydd wedi ei ddynodi ar y dyluniad ac rwyf yn cwestiynu hyn. Rwyf hefyd am amlygu fod y “dimensiynau” hyn yn dynodi strwythur gyda “mesuriadau mewnol” o ryw 7,000cm x 6,400cm. Fodd bynnag, gan fod yr ymgeisydd wedi penderfynu ychwanegu rendrad sment ac yna wedi cladio’r adeilad mewn carreg naturiol sydd tua 300/400cm o drwch, mae’r maint go iawn wedi cynyddu tua 15 - 20% o leiaf. Roedd y mesuriadau mewnol a ganiatawyd yn wreiddiol yn 6,000cm x 7,000cm yn unig gydag uchder o ryw bedwar metr.
Ar hyn o bryd, mae’r strwythur yn 5.7 metr o uchder ac mae’r uchder gormodol yma dipyn yn uwch na’r adeiladau cyfagos, a thra bod yr ymgeisydd wedi gwneud cais am adeilad un llawr, mae’n amlwg y bydd ail lawr yn cael ei ddefnyddio. Dyma’r unig reswm am yr ongl acíwt sydd wedi cynyddu’r uchder cyffredinol mewnol y mae modd ei ddefnyddio, a hynny o;i gymharu ag ongl mwy p?l a fyddai wedi lleihau effaith mwy cyffredinol yr adeilad. Mae’r gostyngiad sydd wedi ei awgrymu ar gyfer lleihau’r uchder cyffredinol o ryw 400mm (16”) yn warthus. Ymddengys bod yr ymgeisydd yn cynnig tynnu’r trysiadau to acíwt oddi yno, tynnu rhes (neu ddwy) o flociau ac yna gosod trysau to acíwt a theiliau newydd. Ni fydd hyn yn gwneud rhyw lawer er mwyn mynd i’r afael gydag uchder gweledol ac effaith y strwythur.
Mae’r dyluniad 21/SB/202A sydd wedi ei gyflwyno yn awgrymu bod uchder y prif drawst yn 2540mm ond nid yw hyn yn ystyried y slab concrit sydd yn ffurfio’r sylfaen. Mae hyn yn gamarweiniol o ran yr uchder.
O feddwl am arwynebedd y to, rwyf hefyd yn synnu bod y cais gwreiddiol wedi ei ganiatáu gydag ond un gasgen dd?r neu gynhwysydd 45 galwn ar y naill ochr a’r llall. Mae ychydig o ymchwil ar-lein yn dynodi fod arwynebedd o’r fath yma yn arwain at 126,000 litr o dd?r glaw bob blwyddyn. Rwy’n deall bod suddfannau sydd rhyw 10 metr (30 troedfedd) o ddyfnder nawr wedi eu defnyddio ym Mawrth 2020 ond byddai’n ddiddorol gwybod a oedd yr Adran Rheoli Adeiladau wedi eu hymgynghori pan gawsant eu gosod er mwyn gwirio’r dyfnder a’r dulliau. A oedd y suddfan yn 3m neu 10m o ddyfnder?
Rwy’n nodi fod y swyddog Kate Bingham wedi argymell fod y cais yn cael ei gymeradwyo.
Wrth ddyfynnu cynnydd o 1.262m yn unig yn yr uchder o’r caniatâd cynllunio gwreiddiol yn adran 6.1.2., hoffem nodi bod modd mynegi hyn fel cynnydd o 34% o yn yr uchder o’r caniatâd cynllunio gwreiddiol.
Mae Adran 6.1.3 yn cyfeirio at “garejys a thai allan sydd eisoes yno” yn agos y tu ôl i Old Barn Way. Rwyf wedi mesur pob un ac nid oes yr un fwy na 3.5m mewn uchder, ac felly, bydd y strwythur diwygiedig arfaethedig tua 75% yn uwch na’r rhai cyfagos.
Rwyf yn gwrthwynebu yn fwyaf chwyrn tuag at gymeradwyo’r cais cynllunio ac yn gofyn i’r Pwyllgor i wrthod y cais.’
‘Hoffem fod y Pwyllgor yn nodi’r anghywirdebau canlynol yn adroddiad y Pwyllgor Cynllunio sydd wedi eu nodi gan y Cynghorydd Groucutt / gwrthwynebwyr ac hefyd yn nodi fy ymateb ar y safle cynllunio.
5.2 Hysbysiad Cymdogion:
1. Mae’r garreg yn 200mm (8”), nid 300-400mm.
2. Rwy’n deall nad oes yna uchafswm o ran maint er bod yna isafswm fel sydd wedi ei nodi yng Nghyfarwyddyd Cynllunio Atodol Sir Fynwy ar gyfer Garejys Domestig2013 a dylid ystyried pob un cais felly ar ei rinweddau unigol.
3. Bydd uchder ar gyfer y crib newydd arfaethedig yn 5.263m, nid 5.3m.
4. Ni fydd y garej yn effeithio ar unrhyw olygfeydd fel sydd wedi ei ddisgrifio.
5. Mae’r cais yn adlewyrchu’r hyn sydd wedi ei gymeradwyo yn 2019, sef garej gyda storfa, a’r unig wahaniaeth yw uchder y crib sydd yn uwch na’r uchder ar gyfer t? allan a ganiateir.
6. Dylai’r Pwyllgor nodi nad yw pob un cymydog wedi ei effeithio gan y datblygiad arfaethedig fel sydd wedi ei ddisgrifio gan y Cynghorydd Groucutt. Nid yw’r cymydog, rhif 62, wedi mynegi unrhyw wrthwynebiad ac nid yw wedi arwyddo unrhyw ddeiseb. Nid oes unrhyw bryderon ganddynt.’
Wedi ystyried adroddiad y cais a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Mae’r garej yn gais cynllunio aelwyd at ddefnydd domestig yn unig. Yr unig ddefnydd derbyniol ar gyfer y garej yw bod yn atodiad i’r prif d?.
· Mae yna amod lle y mae angen i’r ymgeisydd i leihau mesuriadau’r to sydd wedi eu hamlinellu yn yr adroddiad o fewn tri mis ar ôl derbyn caniatâd cynllunio. Os nad yw’r Pwyllgor Cynllunio am gymeradwyo’r cais, mae’r Pwyllgor yn medru mynd nôl at y caniatâd cynllunio gwreiddiol sydd eisoes wedi ei gymeradwyo.
· Mae’r garej yn fawr iawn. Roedd yr ymgeisydd wedi sicrhau caniatâd cynllunio ar gyfer garej o bedwar metr mewn uchder ond wedi penderfynu adeiladu garej sydd bron yn chwe metr mewn uchder. Mynegwyd pryderon fod hyn wedi achosi trallod ar gyfer cymdogion.
· Roedd rhai Aelodau yn credu ei fod yn amhriodol i wrthod cymeradwyo’r cais a bod yr ymgeisydd yn cydymffurfio gyda’r caniatâd cynllunio gwreiddiol sydd wedi ei roi.
· Os caiff y cais ei gymeradwyo, bydd uchder y garej yn cael ei leihau hanner metr gyda phyg y to yn parhau fel y mae ar hyn o bryd.
· Mae yna ôl-troed mawr gan y garej ac ystyriwyd bod hyn yn rhy fawr.
Wrth ymateb, roedd y Rheolwr Tîm Ardal Rheoli Datblygu wedi hysbysu’r Pwyllgor:
· Mae’r garej at ddefnydd domestig yn unig, ac felly, byddai angen caniatâd cynllunio ar gyfer unrhyw ddefnydd arall.
· Roedd y goleuadau ar y to yn rhan o’r cynllun cymeradwy.
· Ni ddylai unrhyw ran o’r prosiect fynd y tu hwnt i’r ffin rhwng yr eiddo.
· Mae’r ôl-troed yn debyg i’r hyn a oedd eisoes wedi ei gymeradwyo.
Roedd yr Aelod lleol wedi crynhoi fel a ganlyn:
· Mae caniatâd gan yr ymgeisydd ar gyfer garej sydd yn debyg mewn maint i bob garej arall yn yr ardal.
· Mae hwn yn gais preswyl gyda garej mawr iawn.
· Gofynnodd yr Aelod lleol bod y Pwyllgor Cynllunio yn ystyried gwrthod y cais ac yn cyfeirio nôl at y cais cynllunio gwreiddiol sydd eisoes wedi ei gymeradwyo gan y Pwyllgor Cynllunio.
Roedd y Cynghorydd Sir P. Murphy wedi cynnig, ac eiliwyd hyn gan y Cynghorydd Sir A. Easson, y dylid atal ystyried cais DM/2021/01735 er mwyn caniatáu swyddogion i gysylltu gyda’r ymgeisydd am uchder y garej. Os yw ymgeisydd yn penderfynu peidio diwygio’r cynllun, byddai’r cais yn cael ei ail-gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio gydag argymhelliad ar gyfer gwrthod y cais gyda’r rhesymau priodol, sef effaith weledol ar y gwasanaethau stryd.
Yn dilyn pleidlais, cofnodwyd y canlyniadau canlynol:
O blaid y cynnig - 8
Yn erbyn y cynnig - 7
Wedi ymwrthod - 0
Cymeradwywyd y cynnig.
Roeddem wedi cytuno y dylid.
Rydym yn cytuno y dylid atal ystyried cais DM/2021/01735 er mwyn caniatáu swyddogion i gysylltu gyda’r ymgeisydd am uchder y garej. Os yw ymgeisydd yn penderfynu peidio â diwygio’r cynllun, byddai’r cais yn cael ei ail-gyflwyno i’r Pwyllgor Cynllunio gydag argymhelliad ar gyfer gwrthod y cais gyda’r rhesymau priodol, sef effaith weledol ar y gwasanaethau stryd.
Dogfennau ategol: