Cofnodion:
Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.
'Pe bai'r Pwyllgor yn dewis cymeradwyo'r prosiect hwn heddiw, byddem yn gofyn i'r amodau cadarn canlynol gael eu hychwanegu at y gymeradwyaeth hon.
1. Problemau Teithio Llesol
Er bod rhai addasiadau wedi'u gwneud i'r cynigion gwreiddiol o ran symudiad cerddwyr/beicwyr a cherbydau yn y fynedfa ddwyreiniol yn unol â chais gwahanol randdeiliaid, nid oes addasiadau tebyg sy'n ofynnol ac angenrheidiol wedi eu gwneud ar gyfer y fynedfa orllewinol.
Yn yr un modd, nid yw gwelliannau i lwybrau teithio llesol sy'n dod i’r safle o'r dwyrain a'r gorllewin wedi cael eu hystyried fel rhan o'r prosiect unwaith mewn oes hwn. Dylid gosod amodau i sicrhau bod y gwelliannau yma’n cael eu gweithredu os yw'r cynnydd cychwynnol arfaethedig o 30% o ran targedau beicio disgyblion yn mynd i gael eu cymryd o ddifri.
2. Perfformiad ynni di-garbon
Er bod ymrwymiad amlinellol i fonitro perfformiad ynni'r adeilad newydd yn natganiad Ynni Strategol McCann, byddem yn awgrymu y dylid gosod amod ffurfiol er mwyn sicrhau fod y contractwr a’r ymgynghorydd yn gwneud ac yn talu am unrhyw gywiriadau ac addasiadau os oes targedau carbon nad ydynt yn cael eu cyrraedd. (Mae angen nodi bod y deunydd sydd ar gael i'r cyhoedd sy’n egluro sut y bydd systemau ynni’n gweithio yn yr adeilad yn anodd iawn i’w deall). Rydym yn gobeithio bod rhywun yng Nghyngor Sir Fynwy wedi fetio pob un o'r cynigion yn llawn er mwyn sicrhau eu bod yn bodloni arfer gorau o ran ymateb i’r Argyfwng Hinsawdd y mae Cyngor Sir Fynwy wedi ymrwymo iddo.)
3. Diogelu
Mae nifer o randdeiliaid wedi cyflwyno materion diogelu difrifol wrth ymateb yn anffurfiol i'r broses hon. Mae’r ymatebion sydd wedi eu rhoi yn annigonol. Rydym yn awgrymu y dylid gosod amod sy’n golygu y dylid monitro a chofnodi pob digwyddiad sy’n ymwneud â diogelu yn yr ysgol isaf. Er mwyn cefnogi’r amod yma, dylid ymrwymo i ddarparu adnoddau digonol er mwyn cywiro’r annigonolrwydd yma pe byddai’n codi - ac rydym yn disgwyl iddo godi.
4. Prosesau Ymgynghori â Rhanddeiliaid
Bydd y Cyngor a'i swyddogion yn y maes cynllunio a’r maes addysg yn ymwybodol o'r anniddigrwydd sylweddol a fynegwyd mewn sawl cylch cyhoeddus mewn perthynas â chynnal ymgynghoriad cyhoeddus ar y prosiect hwn yn ystod pob cam ffurfiol.
Byddem yn gofyn i adolygiad trylwyr iawn gael ei gynnal o fewn y 12 mis nesaf ar y gwersi i'w dysgu a’u rhoi ar waith ar gyfer unrhyw brosiect o'r maint yma ac unrhyw brosiect sydd o gymaint o bwys i’r cyhoedd yn y dyfodol. Gofynnwn hefyd, gan nad oes gan y Cyngor unrhyw gyngor pensaernïol annibynnol ar ochr y cleient, fod prosiectau o'r fath, fel mater o drefn, yn cael eu cyflwyno i banel Adolygu Dyluniadau Comisiwn Dylunio Cymru er mwyn llenwi'r bwlch difrifol iawn yma o ran monitro prosiectau.'
Roedd Mr. P Sulley, asiant yr ymgeisydd, wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig mewn perthynas â'r cais a ddarllenwyd i'r Pwyllgor Cynllunio gan Swyddog Cynllunio, fel a ganlyn:
'Fel y nodwyd yn adroddiad y pwyllgor, mae'r safle o fewn ffin anheddiad y Fenni ar safle'r ysgol bresennol a'i maes parcio a'i chaeau chwarae. Felly mae'r safle'n cynnwys tir llwyd.
Mae'r cynllun yn cynnwys cydleoli Ysgol Brenin Harri'r VIII ac Ysgol Gynradd Deri View ar un safle. Adeiladwyd adeiladau presennol Ysgol Brenin Harri VIII yn y 1960au/70au ac maent bellach wedi blino ac nid ydynt yn addas ar gyfer anghenion addysg fodern. Bydd y cynllun yn galluogi Ysgol Gymraeg y Fenni, sydd wedi tyfu'n rhy fawr i'w safle presennol, i adleoli i adeiladau a safle Ysgol Gynradd Deri View. Bydd hyn yn fodd o sicrhau parhad y twf o ran y ddarpariaeth o addysg ysgol gynradd cyfrwng Cymraeg yng ngogledd Sir Fynwy.
Mae ymgysylltiad cyhoeddus helaeth â rhanddeiliaid wedi cael ei gynnal, sy'n mynd ymhell y tu hwnt i’r gofynion statudol sylfaenol. Mae hyn wedi cynnwys ymgysylltiad gan Gyngor Sir Fynwy, am gyfnod o 6 wythnos ym mis Mai a Mehefin 2020, gyda disgyblion, staff, llywodraethwyr, rhieni a'r gymuned ehangach a chafodd dyluniad y cynllun ei lywio gan yr ymatebion. Cynhaliwyd tair arddangosfa gyhoeddus ym mis Tachwedd 2021 a gwahoddwyd dros 600 o gyfeiriadau a rhanddeiliaid, gan gynnwys y rhai yr ymgynghorwyd â hwy gan y Cyngor yn 2020, ac unwaith eto cafodd y cynllun ei ddiwygio mewn ymateb i sylwadau a dderbyniwyd fel y bo'n briodol.
Ymgymerwyd â'r broses PAC statudol wedi hynny, ac unwaith eto, gwahoddwyd dros 600 o gyfeiriadau a rhanddeiliaid. Mae hyn yn sylweddol uwch na’r isafswm statudol, a chafodd y cynllun ei adolygu unwaith eto yn sgil y broses. Mae trafodaethau cyn ymgeisio helaeth wedi eu cynnal gyda swyddogion drwy gydol y broses cyn ymgeisio ac unwaith eto roedd y sylwadau a dderbyniwyd yn sail i'r dyluniad. Cyflwynwyd cynlluniau diwygiedig pellach fel rhan o'r cais cynllunio mewn ymateb i sylwadau a dderbyniwyd gan ymgynghorai. Felly, mae'r gwaith o baratoi'r cais wedi bod yn destun ymgysylltiad sylweddol â rhanddeiliaid dros gyfnod a oedd yn sylweddol hirach na’r gofyn statudol, ac mae’r cais wedi'i lywio gan yr ymgysylltiad dan sylw.
Mae lleoliad a dyluniad yr adeiladau arfaethedig wedi cael eu llywio gan osodiad y tirwedd y mae'r safle ynddo, gan ddefnyddio'r topograffi presennol a chadw’r caeau presennol ar gyfer defnydd yr ysgol, i’r fath raddau ag sy’n ymarferol, lleihau unrhyw effaith weledol a lleihau'r angen i gael gwared â sborion, gweithrediadau peiriannu a strwythurau cynnal er mwyn lleihau'r effaith ar yr hinsawdd ac osgoi tarfu ar y gymuned ehangach yn ystod y cyfnod adeiladu.
Mae'r cynllun yn cynnig nifer o fynedfeydd clir ac eglur i’r ddwy ysgol a gellir mynd atynt gan ddefnyddio llwybrau cerdded/beicio sydd wedi'u diffinio'n glir. Mae'r gallu i yrru i'r dwyrain/gorllewin drwy'r safle cyfan bellach wedi'i ddileu. Mae hyn yn creu amgylchedd llawer mwy diogel i bob defnyddiwr. Mae llwybr Teithio Llesol sy’n rhedeg ar draws y safle o'r dwyrain i'r gorllewin wedi'i gynnwys er mwyn cynorthwyo beicwyr a cherddwyr, ac mae’r llwybr dan sylw i'r de o'r safle. Cynigir bod dwy groesfan Twcan yn cael eu gosod ar Hen Ffordd Henffordd. Bydd hyn yn cynorthwyo ac yn annog cerdded a beicio i’r safle. Mae'n ofynnol i'r Cyngor ymgymryd â nifer o Fesurau Teithio Llesol oddi ar y safle, gan gynnwys ar Ben y Pound a Hen Ffordd Henffordd, yn unol â Deddf Teithio Llesol (Cymru), er mwyn gwella cysylltedd cerddwyr a beicwyr ymhellach ac mae Cynllun Teithio’n cyd-fynd â’r cais a fydd yn hyrwyddo ac yn ceisio sicrhau symud i ffwrdd oddi wrth deithio yn y car.
Mae adeilad newydd yr ysgol yn cael ei ddylunio fel Ysgol Ynni Gweithredol Di-garbon Net, sy'n golygu fod yr holl ynni a ddefnyddir wrth redeg yr adeilad yn cael ei wrthbwyso gan dechnoleg ynni adnewyddadwy ar y safle, yn yr achos yma gan ddefnyddio paneli solar ffotofoltäig. Mae seilwaith gwefru cerbydau trydan yn cael ei gyflwyno i'r safle i annog mwy o deithio cynaliadwy o fewn y gymuned. Mae monitro Carbon Sero Net i weld a yw targedau'n cael eu cyrraedd yn un o amodau cyllid Llywodraeth Cymru felly bydd angen cywiro unrhyw ddirywiad ar gyfarpar neu fethiannau o ran cyrraedd y targedau yma. Mae'r dyluniad wedi mabwysiadu dull ffabrig yn gyntaf, mae'r adeilad yn dilyn nodweddion dylunio allweddol er mwyn manteisio i’r eithaf ar berfformiad goddefol ac mae'r cynllun yn is na'r targedau meincnod ar gyfer ysgolion ac mae ar y trywydd iawn o ran codi'r credydau BREEAM o ran ynni. Mae'r cynllun yn darparu dros 280 o goed newydd, tua 800 metr llinellol o wrychoedd, ardaloedd sylweddol o gymysgedd glaswelltir a chymysgedd o bron i 1,300 o drawsblaniadau brodorol newydd a phlannu chwip. Mae'r holl faterion hyn yn cynorthwyo Cyngor Sir Fynwy gyda’i swyddogaeth o ran ceisio mynd i'r afael â'r Argyfwng Hinsawdd.
Fel y nodir yn adroddiad y pwyllgor, nid oes unrhyw wrthwynebiadau mewn perthynas â choed, creu lleoedd, seilwaith gwyrdd, tirwedd, ecoleg, draenio, dyluniad, perygl llifogydd, treftadaeth, amwynder preswyl, priffyrdd na s?n o fewn y Cyngor nac ymysg ymgyngoreion technegol allanol, a bydd y cynllun hwn yn gwella'r ardal ac yn darparu'r addysg orau i bobl ifanc yn y Fenni am flynyddoedd lawer i ddod.
Felly, gofynnir yn barchus i'r Aelodau gymeradwyo'r cais yn unol ag argymhelliad y swyddog.
Ymatebodd y Rheolwr Gwasanaethau Datblygu fel a ganlyn:
· Lle bo'n berthnasol ar y safle, mae trefniadau teithio llesol yn cael eu hwyluso.
· Mae'r cyswllt dwyrain-gorllewin drwy'r safle eisoes yn cael ei ddarparu fel rhan o'r cynllun. Y tu allan i'r safle mae ymgynghorydd yn gweithio gyda'r Cyngor Sir mewn perthynas â gwahanol opsiynau ar gyfer sicrhau gwell mynediad i'r ysgol i gerddwyr a beicwyr sy'n defnyddio llwybr Pen y Pound yn ogystal â llwybrau ailymuno eraill. Bydd hyn yn cael ei gyflawni ochr yn ochr â’r gwaith o ailddatblygu'r ysgol.
· O ran ymgysylltu, cynhaliwyd ymgynghoriad helaeth drwy'r broses PAC a thrwy ddeialog uniongyrchol â'r gymuned, disgyblion a rhieni.
· Mae'r Cyngor Sir wedi tynnu sylw at y gofyniad i'r ysgol newydd gael statws ynni gweithredol di-garbon net sy'n unol â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer adeiladau cyhoeddus.
Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r safbwyntiau a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Bydd yr ysgol newydd yn ychwanegiad cadarnhaol i'r Fenni.
· Bydd y llwybr teithio llesol o'r dwyrain i'r gorllewin yn dair metr o led, bydd camerâu cylch cyfyng arno a bydd wedi'i oleuo'n dda. Gallai'r ymgeisydd ystyried darparu rhywfaint o dirlunio meddal ar hyd y llwybr hwn.
· Mae uwch dîm rheoli'r ysgol yn hapus gyda’r mesurau diogelu sy’n cael eu rhoi ar waith.
· Ail-bwysleisiwyd pwysigrwydd mynediad teithio llesol effeithiol a'r angen i roi blaenoriaeth i bobl sy'n teithio ar feic ac ar droed. Ail-bwysleisiwyd hefyd bwysigrwydd gosod targedau er mwyn sicrhau bod yr ysgol newydd yn arwain at lai o draffig. Fodd bynnag, mae'n ymddangos bod blaenoriaeth o hyd yn cael ei roi i gerbydau personol gan fod ardal helaeth wedi’i neilltuo ar eu cyfer. Mewn ymateb, nodwyd bod yr agenda teithio llesol yn cael ei gyrru gyda'r bwriad o wella'r pwyntiau mynediad hynny ar Ben y Pound a Hen Ffordd Henffordd sy'n unol â Pholisi Cynllunio Cymru Llywodraeth Cymru.
· Mae uchder y ffensys rhwyll o amgylch y caeau chwaraeon yn safonol - tua 4m - 6m o uchder.
· Bydd yr adeilad wedi'i orchuddio â chladin cyfansawdd yn unol â'r agenda carbon sero-net. Bydd y Cyngor yn ceisio sicrhau bod y cladin yn cydymffurfio â'r rheoliadau adeiladu cyfredol.
Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir J Butler ac eiliodd y Cynghorydd Sir Powell y dylid cymeradwyo cais DM/2022/00212 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
Ar ôl cael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 15
Yn erbyn cymeradwyo - 0
Ymatal - 0
Cymeradwywyd y cynnig.
Penderfynasom fod cais DM/2022/00212 yn cael ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellir yn yr adroddiad.
Dogfennau ategol: