Cofnodion:
Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.
Mynychodd yr Aelod lleol dros Mount Pleasant y cyfarfod trwy wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau canlynol:
· Mae'r gwaith o ddymchwel y t? gwag yn cael ei groesawu. Ond mae gwrthwynebwyr yn gofyn i’r datblygiad newydd sy'n cael ei adeiladu’n lle’r eiddo presennol ddefnyddio'r un ôl troed a bod yn adeilad tebyg o ran ffurf, cymeriad a maint.
· Teimlwyd nad yw'r cais yn cyfateb i’r hyn y mae’n ei ddisodli. Mae ôl troed y datblygiad yn fwy na’r eiddo presennol, mae’n wynebu cyfeiriad gwahanol o 90 ° ac mae hyn yn groes i'r tai sydd wedi'u lleoli ar Heol St Lawrence. Yn ogystal â'r newid hwn, mae'r ymgeisydd am adeiladu annedd pedair ystafell wely arall y tu ôl i'r eiddo newydd.
· Mae'r Aelod lleol o'r farn bod y cais yn golygu mewnlenwi sylweddol. Mae'n effeithio ar yr ecoleg leol, ac mae hefyd yn golygu fod sawl preswylydd yn colli mwynder gan y bydd mwy o geir yn mynd a dod ac y bydd llygredd o ran swn, golau ac aer. Mae hyn i gyd yn digwydd ar un o'r darnau o ffordd mwyaf heriol yn y Sir, sydd hefyd yn ffinio â pharth rheoli ansawdd aer.
· Mae'r trigolion wedi mynegi pryderon sylweddol. Mae’r rhain wedi’u hamlinellu yn yr adroddiad y cais, ac maent wedi achosi pryder sylweddol yn lleol.
· O ran yr annedd newydd, mae gan drigolion bryderon difrifol ynghylch adroddiad y cais, yn benodol, 6.13, sy’n ymwneud â'r cynnig i droi’r annedd newydd 90° fel nad yw’n wynebu’r blaen. Bydd yn edrych yn sylweddol wahanol i’r tai eraill ar y stryd dan sylw. Ni fydd yr adeilad newydd yn cydffurfio’n weledol.
· Creu annedd ychwanegol yng nghefn y plot yw'r elfen sy’n achosi fwyaf o bryder yngl?n â’r cais gan y teimlir bod hyn arwain at or ddatblygu’r safle ac nad oes cyfiawnhad.
· Bydd yr elfen yma o'r cais yn effeithio ar drigolion sy’n byw wrth ochr y plot ac wrth ei gefn. Os caiff ei gymeradwyo bydd yr annedd yn edrych dros gartrefi trigolion eraill a bydd yr effaith ar y trigolion hefyd yn cynnwys colli preifatrwydd, aflonyddwch traffig yn sgil mwy o gerbydau’n mynd a dod a bydd hyn hefyd achosi llygredd aer, s?n a golau.
· Mae trigolion yn cwestiynu 6.1.5 o'r adroddiad yngl?n â sut y bydd codi annedd newydd mewn gofod a oedd yn ardd yn gwella'r cymeriad lleol.
· Mae'r Aelod lleol yn anghytuno mai dyma un o'r safleoedd mwyaf cynaliadwy o fewn y Sir.
· Yn 2019 fe gyhoeddodd yr Awdurdod argyfwng hinsawdd. Teimlwyd bod cymeradwyo'r cais hwn yn mynd yn groes i gyhoeddiad yr Awdurdod o argyfwng hinsawdd.
Mewn ymateb, hysbysodd Rheolwr Rheoli Datblygu yr Ardal y Pwyllgor, fel a ganlyn:
· O ran rheoli ansawdd aer, un annedd ychwanegol yw hon. Ymgynghorwyd ag adran Iechyd yr Amgylchedd ac ni chodwyd unrhyw wrthwynebiadau.
· O ran llygredd golau a s?n, mae ffens yn gwahanu’r eiddo sydd gyferbyn ac mae garej ar yr ochr arall. Felly, ychydig iawn o s?n a llygredd fydd yn effeithio ar yr eiddo sydd gyferbyn. Bydd gwaith plannu coed ychwanegol yn cael ei wneud y tu ôl i'r eiddo gyda'r bwriad o ddiogelu mwynder eiddo cyfagos. Gan mai dim ond un eiddo yw hwn, ychydig iawn o geir a fydd yn mynd a dod yn ystod y dydd.
· O ran cynllun, mae ychydig o wahaniaeth rhyngddo ag eiddo cyfagos, ond mae’n gweddu â dyluniad a graddfa safle'r adeiladau eraill ar y stryd. Nid yw'r cais yn anghydffurfio o ran deunyddiau dylunio ac mae'r maint dderbyniol. Mae coeden fawr iawn yn yr ardd ffrynt a fydd yn helpu i feddalu effaith yr annedd.
· Mae’r dwysedd o ran datblygu’n debyg yn y lleoliad yma. Mae'r adeilad yng nghefn yr eiddo wedi'i sgrinio'n dda o'r codiad yn y blaen.
Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r safbwyntiau sydd wedi’u cyflwyno, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Nid yw'r Adran Priffyrdd wedi codi unrhyw bryderon ynghylch cerbydau’n troi ar y safle. Mae trefniadau priffyrdd a pharcio felly'n dderbyniol.
· Cynigir fod garej yn cael ei godi yng nghefn yr eiddo.
· Bydd teils y to wedi’u gwneud o goncrit. Gellir rhoi amod o ran samplau o ddeunyddiau.
· Mae cyfeiriad yr annedd newydd yn aros o’r blaen i'r cefn. Mae hyn yn llinellol ei ffurf ac mae ychydig yn gulach. Mae hyn er mwyn darparu mynediad i ochr yr eiddo i'r eiddo yn y cefn.
· Maes o law, gellir gofyn i’r Swyddog Coed ystyried rhoi gorchymyn cadw coed a goed y safle. Wedi dweud hyn, mae'r coed y tu allan i ardal Cadwraeth ac nid ydynt yn cael eu gwarchod ar hyn o bryd, ond fel rhan o’r cais cynllunio, byddant yn cael eu cadw.
· Nid yw'r adran Priffyrdd wedi codi gwrthwynebiadau ond maent wedi gofyn am fannau pasio. Fodd bynnag, roedd swyddogion Cynllunio wedi argymell y dylid cymeradwyo'r cais er gwaethaf y pryderon gan fod hyd y dreif yn llinellol o ran ffurf ac ychydig iawn o draffig fydd yn mynd a dod o’r eiddo yn y cefn.
· Bydd parthau gwarchod gwraidd y coed yn cael eu cynnal a'u diogelu drwy gydol unrhyw waith dymchwel neu adeiladu.
· O fewn fframwaith y Cynllun Datblygu Lleol newydd mae swyddogion yn edrych ar gynyddu ein heffeithlonrwydd ynni.
Crynhodd yr Aelod lleol fel a ganlyn:
· Ailadroddwyd pryderon yr Adran Priffyrdd o ystyried ffin y plot ac isadeiledd gwreiddiau coed cysylltiedig ac ystyriwyd y byddai hyn yn anodd i'w gyflawni.
· Doedd dim arolwg ystlumod wedi'i gynnal.
· Mae'r polyn trydan a fydd yn cael ei symud yn cyflenwi trydan i fwy na 20 eiddo. Nid yw wedi'i symud eto.
· Dylai unrhyw ddatblygiad newydd roi sylw i gymeriad, ffurf, graddfa, lleoliad a chynllun yr adeiladau cyfagos sy'n ei amgylchynu. Teimlwyd fod y cynlluniau a'r cais yn mynd yn groes i’w gilydd yn hyn o beth.
Mewn ymateb, hysbysodd Rheolwr Rheoli Datblygu yr Ardal y Pwyllgor, fel a ganlyn:
· Erys y polyn trydan o hyd. Fodd bynnag, cadarnhawyd bod y ceblau wedi'u rhoi o dan y ddaear. Mae symud y polyn yn fater ar wahân ac mae angen i’r cymdogion ddelio â'r cwmni trydan.
· Mae'r ecolegydd o'r farn bod yr asesiadau'n ddigonol a bod y budd net yn dderbyniol.
Cynigiwyd gan Gynghorydd Sir A. Easson ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir M. Powell fod cais DM/2021/01693 yn cael ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn amodol ar gytundeb cyfreithiol Adran 106.
Ar ôl cael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid cymeradwyo - 12
Yn erbyn cymeradwyo - 2
Ymatal - 2
Cymeradwywyd y cynnig.
Penderfynwyd gymeradwyo cais DM/2021/01693 yn ddarostyngedig i'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i gytundeb cyfreithiol Adran 106.
Dogfennau ategol: