Agenda item

Cais DM/2021/00961 – Codi adeilad storio ffrwythau/eco amaethyddol gyda thoiled compost a phaneli solar. Tir ger Comin Gwehelog, Gwehelog Fawr, Brynbuga, NP15 1RE.

Cofnodion:

Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad.

 

·         Dylid cael gwared ag amod 4.

 

·         Dylid ychwanegu amod ychwanegol er mwyn cydymffurfio ag adran 6.2 o'r arfarniad ecoleg.

 

Roedd Mr R. Cole, sy’n gwrthwynebu’r cais ac yn cynrychioli gwrthwynebwyr eraill, wedi paratoi recordiad fideo ac fe’i cyflwynwyd i'r Pwyllgor Cynllunio. Amlinellwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Nid yw’r gwrthwynebwyr yn cytuno gydag adroddiad y cais ac maent yn teimlo y dylid fod wedi argymell gwrthod y cais.

 

·         Does dim cyfiawnhad dros gael adeilad newydd o'r maint hwn ac at y defnydd yma yng nghefn gwlad agored o ystyried mai polisi'r Cyngor a pholisi'r Llywodraeth yw cymeradwyo am resymau arbennig a rhoi pwyslais ar ddefnyddio adeiladau sy’n bodoli’n barod.

 

·         Mae maint yr adeilad yn anghymesur â’r allbwn gan mai dim ond tua dwy erw o goed ffrwythau ifanc sydd yno.

 

·         Mae'n rhesymol disgwyl i holl gynnyrch perllan fechan gael ei brosesu yn rhywle arall.

 

·         Ni fyddai elfen creu swyddi'r cais yn cael ei effeithio ac efallai y byddai mwy o sgôp o ran datblygu ymhellach.   Mae'r ymgeisydd wedi dweud y gallai fod eisiau defnyddio'r adeilad at ddibenion eraill fel bragu.  Mae gwrthwynebwyr yn poeni bod cymeradwyo'r sied ffrwythau yn cael ei weld fel anogaeth o ran ei ddisgwyliadau fod ceisiadau pellach yn mynd i gael eu cymeradwyo a fydd yn  cyfiawnhau costau sylweddol yr adeilad hwn.

 

·         Nid yr ymgeisydd yw perchennog trac mynediad y safle hwn.  Felly, er mwyn cydymffurfio ag Amod 4 sy’n cael ei argymell, byddai angen caniatâd partïon eraill, gofyniad a ddiystyrwyd yn ddiweddar, a hynny heb ganiatâd cynllunio, drwy dynnu wyneb trac gwellt a’i ail wynebu gyda haen o scaplings.

 

·         Gofynnodd y gwrthwynebwyr i benderfyniad y Pwyllgor Cynllunio gael ei ohirio nes y gellir rhoi ystyriaeth lawn i’r ansicrwydd ynghylch y problemau mynediad. Mae llythyr wedi cael ei anfon at y Cyngor yngl?n â'r mater yma.

 

·         Ond os yw'r Pwyllgor Cynllunio â'i fryd ar gymeradwyo'r cais, gofynnodd y gwrthwynebwyr iddynt ddiwygio dau amod, fel a ganlyn:

 

-       Dylid gorffen Amod 3 gyda 'ac ni ddylid mewnforio unrhyw gwrw ffrwythau na chynhwysion cynnyrch eraill i’r safle ac ni ddylid manwerthu ar y safle'. Y rheswm dros ddiwygio'r amod yw er mwyn sicrhau nad oes manwerthu’n digwydd ac nad yw’n cael ei ddefnyddio at ddibenion diwydiannol.

 

Byddai hyn yn lleihau amwysedd ac yn rhoi sicrwydd i wrthwynebwyr fod gan yr Awdurdod Cynllunio reolaeth lawn dros unrhyw newidiadau o ran y defnydd o’r adeilad.

 

-       Dylai amod 4 ei gwneud yn ofynnol i roi wyneb caled ar y trac sy’n arwain at yr adeilad cyn i’r gwaith adeiladu gychwyn.   Mae'r wyneb meddal sydd wedi ei osod yn ddiweddar yn annhebygol o ymdopi â thraffig adeiladu.

 

Mewn ymateb, dywedodd Rheolwr Rheoli Datblygu yr Ardal wrth y Pwyllgor mai cyngor swyddogion yw bod Amod 4 yn cael ei ddileu.  O ran y newidiadau arfaethedig i Amod 3, mae'r amod wedi'i ddrafftio'n eglur ac mae’n amlinellu’n union pa ddefnydd y gellir ei wneud o’r adeilad. Byddai unrhyw beth y tu allan i eiriad y amod hwn yn golygu bod angen cyflwyno cais arall i'r Pwyllgor Cynllunio.

 

Rheolir y defnydd o'r adeilad trwy Amod 3. Nid yw defnyddio tir at ddibenion amaethyddol yn ddatblygiad.  Felly, gellid ei ddefnyddio ar gyfer amaeth.  Fodd bynnag, diben adeilad y datblygiad yw ymdrin â chynnyrch sydd wedi ei gynhyrchu ar y safle ac felly mae’n syrthio o fewn y cylch gwaith hwnnw.

 

Roedd Mr T. Newman, ymgeisydd, wedi paratoi recordiad fideo a gyflwynwyd i'r Pwyllgor Cynllunio. Amlinellwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Mae'r ymgeisydd yn un o ymgynghorwyr bragwyr crefft Cymru ac mae’n chwilio am ffyrdd o gynhyrchu cwrw mewn modd cynaliadwy sy’n helpu’r amgylchedd wrth symud ymlaen.

 

·         Mae'r ymgeisydd wedi edrych ar y broses o fragu gyda'r bwriad o leihau'r effaith amgylcheddol. Mae hyn yn integreiddio ag adnoddau naturiol a gallu Sir Fynwy o ran amaeth a thyfu ffrwythau i gyfuno ffrwythau wedi’u gwasgu gyda phrosesau bragu er mwyn creu cynnyrch a gynhyrchir yn lleol. Byddai ail ran y broses yn creu cwrw ffrwythau y gellir ei ddatblygu’n gynaliadwy o fewn Sir Fynwy.

 

·         Mae'r ymgeisydd wedi gweithio gyda'r Adran Gynllunio i ddod o hyd i ganolfan addas ar gyfer perllan ac mae wedi dilyn cyngor cyn cynllunio. Edrychodd yr ymgeisydd am ddyluniad integredig a oedd yn ddigon uchel i ddal y cyfarpar sydd ei angen i storio’r ffrwythau wedi’u malu.

 

·         Roedd angen sylfaen hefyd i gael ôl troed arweiniol a chynaliadwy sy’n gweddu i'r ardal o'i chwmpas.  Gofynnwyd am gyngor cyn cynllunio cyn cyflwyno'r cais cynllunio llawn. Dewisodd yr ymgeisydd ddyluniad cydymdeimladol, amgylcheddol a chynaliadwy a oedd yn ei alluogi i ddefnyddio gwres o’r ddaear, p?er solar a gweithredu oddi ar y grid.

 

·         Mae'r cais yn integreiddio proses, cynllun yr adeilad a chynaliadwyedd. Mae'r ymgeisydd yn gobeithio creu amgylchedd sy’n canolbwyntio ar y gymuned ac sy’n cynnwys ffermydd cymunedol.  Rhagwelir y bydd ailgylchu cynnyrch gwastraff i ffermwyr lleol yn digwydd yn ogystal â chynnwys rhywfaint o'r gymuned leol ar gyfer tymor y cynhaeaf ym mis Medi.

 

Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r safbwyntiau sydd wedi’u cyflwyno, nodwyd y pwyntiau canlynol:

 

·         Gallai amod cynllun rheoli gwastraff gael ei gynnwys yn y cais.

 

·         Mynegwyd pryder y gallai maint yr adeilad arfaethedig fod yn rhy fawr ac yn anghymesur â’r busnes.  Mewn ymateb, nodwyd bod yr adeilad angen bod yr uchder yma oherwydd uchder y tanciau.   Nid yw maint yr adeilad arfaethedig yn niweidio’r tirwedd o ran yr ardal wledig ehangach.

 

·         Mae unrhyw waith a wnaed ar y trac mynediad yn eistedd y tu allan i gwmpas y cais ac felly nid yw'n ffurfio rhan o'r cais hwn.

 

·         Dim ond yn ddiweddar y daeth y gwaith dan sylw i’r amlwg.   Byddai angen i swyddogion cynllunio ymchwilio er mwyn penderfynu â yw’n ddatblygiad sydd angen caniatâd cynllunio neu peidio.  Os felly, bydd yn mynd drwy'r broses o wneud cais cynllunio.

 

Cynigiwyd gan y Cynghorydd Sir J. Bond ac eiliwyd gan y Cynghorydd Sir A. Easson ein bod yn ystyried gohirio ystyried cais DM/2021/00961 ac aros am y wybodaeth bellach ganlynol:

 

·         Manylion Cynllun Rheoli Gwastraff.

·         Cyfiawnhau maint yr adeilad a’r arwyneb solet.

·         Manylion yn ymwneud â'r posibilrwydd o ddod â ffrwythau i'r safle o rhywle arall.

 

Ar ôl cael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:

 

O blaid gohirio             -           13

Yn erbyn gohirio          -           3

Ymatal             -           0

 

Cymeradwywyd y cynnig.

 

Penderfynwyd ein bod yn gohirio ystyried cais DM/2021/00961 ac aros am y wybodaeth bellach ganlynol:

 

·         Manylion Cynllun Rheoli Gwastraff.

·         Cyfiawnhau maint yr adeilad a’r arwyneb solet.

·         Manylion yn ymwneud â'r posibilrwydd o ddod â ffrwythau i'r safle o rhywle arall.

 

 

 

Dogfennau ategol: