Cofnodion:
Ystyriom adroddiad y cais a gohebiaeth hwyr a argymhellwyd i'w gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i gytundeb cyfreithiol Adran 106.
Amlinellodd yr Aelod lleol dros Mitchel Troy a Trellech United, sydd hefyd yn Aelod o'r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau canlynol:
· Mae digon o le a y plot ar gyfer annedd mewnlenwi.
· Roedd cymydog wedi mynegi pryder yngl?n â mynediad. Fodd bynnag, mae tair mynedfa i’r safle.
· Mae cymysgedd o anheddau ar y cul-de-sac sef byngalos, byngalos dormer ac anheddau deulawr.
· Hoffai'r Aelod lleol weld dyluniad sy’n cyd-fynd â’r rhain o ran uchder. Felly, byddai ystyried annedd dormer yn fwy ffafriol ar hyn o bryd gan y byddai hyn yn cael llai o effaith weledol ar y cul-de-sac.
Roedd Mr. D Lloyd, sydd yn erbyn y cais, wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig mewn perthynas â'r cais ac fe’i darllenwyd i'r Pwyllgor Cynllunio gan Swyddog Cynllunio, fel a ganlyn:
'Mae cais yn cael ei wneud am gymeradwyaeth amlinellol am d? ar wahân pum ystafell wely gyda garej ddwbl ar blot gardd yn Y Narth. Mae pob mater ac eithrio mynediad wedi’i neilltuo.
Mae 2 prif bryder.
Mynediad
Mae 3 pwynt i'w nodi yma:
1. Byddwch wedi gweld o’ch ymweliad â’r safle ddydd Mawrth bod mynediad i'r safle yn wael iawn. Mae sawl ffordd o gyrraedd y safle arfaethedig, ac nid oes yr un ohonynt yn addas ar gyfer traffig adeiladu trwm na cherbydau maint canolig hyd yn oed. Bydd unrhyw ymgais i ddod â deunydd yn uniongyrchol i'r safle yn arwain at ddifrod i eiddo a ffiniau.
Llwyddodd perchnogion T? Gwyn, sydd ar y ffordd sy’n arwain at y datblygiad arfaethedig, ddod ag achos cyfreithiol yn erbyn un o'r cwmnïau cludwyr mawr yn ddiweddar am ddifrod a wnaed i wrychoedd a waliau gan gerbyd mawr.
2. Unwaith y bydd y cerbydau ar y safle, mae mynediad drwy'r lôn breifat yn gul iawn ac ychydig iawn o opsiynau sydd ar gael o ran troi cerbydau, hyd yn oed ceir. Mae angen mynediad i gerbydau brys at breswylydd oedrannus.
Mae’n rhaid i unrhyw draffig adeiladu gael ei leoli ar y safle ei hun. Ni ddylid rhwystro'r lôn breifat ar unrhyw adeg
3. Mae mynediad, dreif a chylch troi arfaethedig y datblygiad, uniongyrchol gyferbyn â phrif ystafell wely Lindsey, sy’n fyngalo un llawr. Mae dimensiynau a maint y t? yn awgrymu mai teulu sydd â nifer o geir a fydd yn byw yn yr eiddo. Golyga hyn y bydd traffig i mewn ac allan trwy gydol y dydd a gyda’r nos. Bydd hyn yn cael effaith eithriadol ar les trigolion Lindsey.
Mae angen i unrhyw gynlluniau rheoli adeiladu nodi fod yn rhaid anfon nwyddau mawr i rhywle arall, ac y bydd yn rhaid ei ddadlwytho a’i drosglwyddo i’r safle mewn cerbyd o faint addas.
Dimensiynau
Mae dimensiynau mwyaf y cais amlinellol hwn yn golygu y bydd yr annedd arfaethedig yn cael effaith fawr a gormesol ar fyngalo "Lindsey". At hyn bydd yn niweidio amwynder, gofod, llygredd golau a phreifatrwydd Lindsey a phob eiddo cyfagos arall fel yr amlinellir ym mholisi EP1. Dim ond o'r safle ei hun y gellir gwerthfawrogi hyn mewn gwirionedd.
Nid yw eiddo cyfagos o’r un maint, yn Worcester House a Beaufort House yn edrych dros unrhyw eiddo arall.
Mae cwestiwn sydd heb ei ateb o ran cae draenio mewn perthynas â'r annedd arfaethedig. Dywed Rheoliadau Adeiladu y dylai caeau draenio fod o leiaf 10 metr i ffwrdd o adeiladau neu safleoedd draenio eraill, mae'r lluniadau diweddaraf yn dangos 7 metr. Bydd cymeradwyo’r dimensiynau mwyaf yn cael effaith ar hyn.
Pe byddai dimensiynau mwyaf yr annedd arfaethedig yn cael eu lleihau, gallai hyn, o bosibl, ei gwneud yn bosibl i greu mynediad arall na fyddai’n cael effaith mor ymwthiol ar drigolion Lindsey.
Y pwynt olaf i’w nodi yw mai cyfrifoldeb y trigolion presennol yw cynnal a chadw'r lôn breifat, ond mewn gwirionedd, trydydd parti sy’n berchen ar y lôn. Nid oes dogfennau ar gael ar-lein sy’n dangos fod unrhyw ymgais wedi ei gwneud i hysbysu'r trydydd parti dan sylw o'r cynnig a gofyn am eu caniatâd i gael mynediad ychwanegol drwy’r lôn.'
Roedd Mr G. Price, asiant yr ymgeisydd, wedi cyflwyno datganiad ysgrifenedig mewn perthynas â'r cais a ddarllenwyd i'r Pwyllgor Cynllunio gan Swyddog Cynllunio, fel a ganlyn:
'Diolch am y cyfle i gyflwyno'r datganiad byr hwn i gefnogi'r cais uchod am ganiatâd cynllunio amlinellol.
Cafodd y cais cynllunio ei gyflwyno yn dilyn ymholiad cyn gwneud cais am ddau d? ar y safle. Dywedodd swyddogion y Cyngor na fyddai cais am ddau d? yn cael ei dderbyn. Ond byddai cais am un t?, a oedd yn bodloni Polisïau Cynllunio Cenedlaethol a Lleol, yn cael ei gefnogi.
Mae'r cais hwn yn bodloni'r holl bolisïau perthnasol gan gynnwys y rhai sy'n ymwneud â rhyddhau ffosffad gan gynnwys diweddariadau a ddaeth i rym ar ôl i’r cais hwn gael ei gyflwyno.
Mae Adroddiad Pwyllgor David Wong yn rhoi eglurhad eglur ar y cais ac yn egluro sut y mae'n cydymffurfio â Pholisi Cynllunio. Mae'r adroddiad hefyd yn mynd i'r afael â gwrthwynebiadau a gyflwynwyd gan Gyngor Cymuned Unedig Trellech a chymdogion.
Nid wyf o'r farn bod angen ailadrodd y pwyntiau y mae Mr Wong wedi eu gwneud. Fodd bynnag, hoffwn egluro dau bwynt.
Yn gyntaf, o ran
y gwrych leylandii ar hyd y ffin ddeheuol. Mae'r cais yn cynnig
cael gwared â'r leylandii a chodi gwrych brodorol yn ei
le.
Bydd hyn yn cynyddu bioamrywiaeth ac yn
cael gwared ar y straen ffisiolegol y mae'r leylandii di-ffrwyn yn
ei roi ar y coed dail eang presennol.
Yn ail, mae gwrthwynebiad hwyr gan gymydog yn cynnwys honiad nad yw'r cynllun draenio baw preifat arfaethedig yn bodloni Rheoliadau Adeiladu i'r graddau nad yw'n cydymffurfio â Dogfen Gymeradwy H2. Mae'r Ddogfen Gymeradwy yn nodi, fel dull arall, y gellir bodloni'r gofynion drwy ddilyn argymhellion Safon Brydeinig 6297, gallaf gadarnhau bod y system ddraenio wedi'i chynllunio o fewn cwmpas y Safon Brydeinig yn hytrach na'r Ddogfen Gymeradwy.
I gloi, mae'r cynnig yn cydymffurfio â holl bolisïau cynllunio'r Cyngor a gofynnaf i'r Pwyllgor gymeradwyo'r cais.'
Ar ôl ystyried adroddiad y cais a'r safbwyntiau sydd wedi’u cyflwyno, nodwyd y pwyntiau canlynol:
· Atgoffwyd yr aelodau mai cymeradwyaeth amlinellol yn unig sydd ei angen ar y cais yma ar hyn o bryd. Byddai ymddangosiad a chynllun yr annedd arfaethedig yn cael eu hystyried yn ystod y cam materion wedi’neilltuo. Bydd angen ystyried mynediad a maint yr annedd yn ystod y cam amlinellol yma.
· Bydd ymgynghoriad ar y Cynllun Rheoli Traffig Adeiladu yn cael ei gynnal gyda’r Adran Priffyrdd a bydd gofyn iddynt roi barn fanwl a phroffesiynol er mwyn sicrhau nad yw cymdogion neu gerbydau brys dan anfantais.
· Dylid newid paramedrau uchaf ac isaf yr adeilad yn amod 9 i 8m uchaf a 4m isaf.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir A. Easson ac eiliodd y Cynghorydd Sir J. Bond y dylid cymeradwyo cais DM/2021/00037 yn ddarostyngedig i'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad, yn ddarostyngedig i gytundeb cyfreithiol Adran 106 ac yn ddarostyngedig i ddiwygio Amod 9 fel a ganlyn:
· Dylai paramedrau lefelau uchaf ac isaf yr annedd fod yn 8m lefel uchaf a 4m lefel isaf.
Ar ôl cael ei roi i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau canlynol:
O blaid y cynnig - 15
Yn erbyn y cynnig - 0
Ymatal - 0
Cymeradwywyd y cynnig.
Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2021/00037 yn ddarostyngedig i'r amodau a amlinellir yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i gytundeb cyfreithiol Adran 106 a diwygio Amod 9:
· Dylai paramedrau lefelau uchaf ac isaf yr annedd fod yn 8m lefel uchaf a 4m lefel isaf.
Dogfennau ategol: