Cofnodion:
Trafodwyd yr adroddiad ar y cais ynghyd â gohebiaeth a ddaeth i law yn hwyr, yr argymhellwyd y dylid ei gymeradwyo yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i Gytundeb Adran 106.
Amlinellodd Aelod lleol Llanarfan, sydd hefyd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio, y pwyntiau a ganlyn:
· Mae gwrthwynebiadau Cyngor Cymuned Tyndyrn i’r cais wedi cael sylw yn y wasg. Darllenwyd manylion y gwrthwynebiadau i’r Pwyllgor.
· Dylid rhoi sylw i sylwadau’r Cyngor Cymuned wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio.
· Mae’r Aelod lleol yn cynrychioli teimladau cryf y preswylwyr lleol sy’n gwrthwynebu’r cais. Yn benodol, y problemau o ran y trefniadau parcio ar safle’r gwesty a’r pryderon a godwyd ynghylch y prinder llefydd parcio.
· Mae meysydd parcio cyfagos yn aml yn llawn ar benwythnosau ac yn ystod yr wythnos cânt eu defnyddio gan gerddwyr a thwristiaid yn rheolaidd. Mae twristiaeth yn dioddef yn Nhyndyrn oherwydd y diffyg llefydd parcio yn y pentref yn gyffredinol. Tyndyrn yw’r ardal fwyaf poblogaidd i dwristiaid yn y Sir.
· Mae ffotograffau wedi cael eu cyflwyno i amlygu’r problemau parcio.
· Nid yw’r Aelod lleol yn gallu cyfrifo faint o lefydd parcio fyddai eu hangen i ddiwallu gofynion ymwelwyr dydd, preswylwyr a staff.
· Mae’r perchnogion yn awyddus i fyw ar y safle a rheoli’r gwesty.
· Mynegwyd pryderon ynghylch sylwadau’r asiant.
· Os byddai’r cais yn cael ei gymeradwyo, gofynnwyd am amod pellach bod yr eiddo newydd ynghlwm wrth y gwesty ac na chaiff ei drin fel cais ar wahân.
· Mae Heol Forge yn gul a’r palmant yn fach. Byddai cerbydau brys yn cael trafferthion wrth ddefnyddio’r lôn hon. Nid yw’r broblem o ran parcio wedi cael ei datrys ac nid oes ymweliad safle mewnol wedi cael ei gynnal.
· Nid yw’r Aelod lleol yn derbyn argymhelliad y swyddog fel y’i hamlinellwyd yn yr adroddiad, a gofynnodd i’r Pwyllgor ystyried gwrthod y cais.
Ar ôl ystyried yr adroddiad a’r sylwadau a gyflwynwyd, nodwyd y pwyntiau a ganlyn:
· Mae’r ardal sy’n cynnwys y 12 lle parcio yn eiddo i’r sawl sy’n gwneud y cais, sef perchnogion y gwesty.
· Ni fyddai’r cyfleusterau parcio a ddarperir ar gyfer y datblygiad arfaethedig ond i’w defnyddio gan y sawl sy’n aros yn y t? ac nid i’w defnyddio gan y gwesty.
· Mae’r cynllun maes parcio ar gyfer y gwesty a’r cabanau gwyliau yn ddigonol i’w ddefnyddio gan y gwesty wrth ychwanegu’r annedd a amlinellir yn yr adroddiad. Mae’r Adran Briffyrdd hefyd wedi cadarnhau y byddai’r maes parcio yn cydymffurfio â’r canllawiau priodol. Byddai 34 lle parcio yn ddigonol i ddarparu 16/17 ystafell wely ynghyd â thri lle parcio i staff. Gall llefydd parcio ychwanegol hefyd gael eu defnyddio ar gyfer dibenion eraill megis y siop goffi ac ardal fwyta bar y lolfa.
· Ystyriodd Aelod a ddylid gosod safon parcio hybrid yn yr achos yma yn sgil defnydd y gwesty. Wrth ymateb, dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Datblygu mai cerbyty hanesyddol yw hwn, gyda 34 lle parcio ar gyfer 16/17 ystafell wely, ambell aelod o staff, y diben ychwanegol ar gyfer ardal y bwyty a’r bar a’r siop goffi. Yn y cyd-destun hwn, ystyrir bod hyn yn gyfran resymol o lefydd parcio ar gyfer y math yma o adeilad a’r nifer o bobl a fydd yn ei ddefnyddio. Mae meysydd parcio eraill yn yr ardal y gellid eu defnyddio ar yr amseroedd prysuraf.
· Wrth ymateb i gwestiynau a godwyd, nodwyd bod yr Adran Briffyrdd wedi gweld manylion diwygiedig gan yr asiant a’i bod yn parhau i beidio gwrthwynebu’r cais ar seiliau priffyrdd, sy’n cynnwys cyfleusterau parcio o flaen y safle.
· Nodwyd nad yw’r Adran Gynllunio yn gallu atal y mater o ran gwahanu’r tir. Felly, ni ellir mynnu bod tir yn cael ei ddefnyddio at ddibenion parcio.
· Dywedodd y Rheolwr Gwasanaethau Datblygu wrth y Pwyllgor y dylai’r Pwyllgor ystyried y tir ar gyfer yr annedd arfaethedig fel llecyn annibynnol o dir yn ei hawl ei hun, yn annibynnol ar y gwesty.
Daeth yr Aelod lleol i gasgliad drwy ddweud ei bod yn parhau i bryderu am y cyfleusterau parcio ar y safle.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir A. Webb ein bod yn ystyried gwrthod cais DM/2020/01495, ac ategwyd hyn gan y Cynghorydd Sir L. Brown, ar y seiliau a ganlyn:
Byddai adeiladu’r annedd arfaethedig yn cael gwared ar ardal a ddefnyddiwyd yn hanesyddol ar gyfer parcio cwsmeriaid a staff y gwesty a’r dibenion sy’n gysylltiedig â hynny. Mae ei golli ar gyfer y pwrpas hwnnw yn debygol o arwain ar fwy o gerbydau wedi’u parcio ar y stryd ar lonydd cul yn yr ardal gan waethygu amwynder lleol a diogelwch priffyrdd, a byddai’n mynd yn groes i Bolisi DES1 d) o Gynllun Datblygu Lleol Sir Fynwy.
Wrth bleidleisio ar y mater, pleidleisiwyd fel a ganlyn:
O blaid gwrthod y cais - 5
Yn erbyn gwrthod y cais - 7
Ymatal rhag pleidleisio - 1
Pleidleisiwyd yn erbyn y cynnig i wrthod y cais.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir P. Murphy y dylid cymeradwyo cais DM/2020/01495 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i Gytundeb Adran 106, ac ategwyd hyn gan y Cynghorydd Sir J. Becker.
Wrth bleidleisio ar y mater, pleidleisiwyd fel a ganlyn:
O blaid cymeradwyo’r cais - 7
Yn erbyn cymeradwyo’r cais - 5
Ymatal rhag pleidleisio - 1
Pleidleisiwyd o blaid y cynnig i gymeradwyo’r cais.
Penderfynwyd y dylid cymeradwyo cais DM/2020/01495 yn ddarostyngedig i’r amodau a amlinellwyd yn yr adroddiad ac yn ddarostyngedig i Gytundeb Adran 106.
Dogfennau ategol: