Agenda item

Yr Iaith Gymraeg

Trafod y Strategaeth Iaith Gymraeg newydd 5-mlynedd.

 

Cofnodion:

Roedd Alan Burkitt wedi cyflwyno’r adroddiad, wedi crynhoi ymatebion yr ymgynghoriad ac wedi ateb cwestiynau gan Aelodau.  

Her:

Mae yna nifer fawr o siaradwyr Cymraeg yn ne’r sir ond nid yw’r nifer cyn uched yng ngogledd y sir. Fodd bynnag, mae Ysgol Y Fenni yn gwneud yn dda ond mae Ysgol Y Ffin yn cael trafferth gyda  niferoedd. A ydym yn deall pam?  

Ydy, mae’n rhyfeddol faint o siaradwyr sydd yn ardal Cil-y-coed - yn bennaf gan fod pobl wedi symud yno o fannau eraill yng Nghymru er mwyn chwilio am waith yn y diwydiant haearn. Ond mae’r Fenni hefyd yn cynnwys llawer o siaradwyr a nifer o gymdeithasau Cymraeg.  Mae mwy o rwydwaith o gwmpas yr ysgol na’r hyn sydd ar gael i Ysgol Y Ffin. Nid yw bod yn siaradwr Cymraeg o reidrwydd yn arwain at bobl yn mynychu digwyddiadau Cymraeg eu hiaith. Mae rhiant yng Nghil-y-coed  yn llai tebygol o roi eu plentyn ar fws i fynd i Ysgol Gyfun Gwent Isgoed yng Nghasnewydd pan eu bod yn medru mynd i’r ysgol uwchradd iaith Saesneg. Efallai bod hyn yn effeithio’n fwy ar Gas-gwent: os yw plentyn yn mynd o Gas-gwent i  Ysgol Y Ffin, bydd rhaid iddynt fynd i  Gwent Isgoed ar gyfer eu darpariaeth uwchradd, sydd yn dipyn o daith. Felly, mae’n anodd iawn. Mae’r ddarpariaeth uwchradd Gymraeg bresennol   y tu allan i’r sir yn ardderchog  ond mae’r ystyriaeth ddaearyddol o bosib yn creu rhwystr - pan mae rhieni  yn cynllunio addysg eu plant, maent yn meddwl am y daith gyfan, ac mae’r ddiffyg ddarpariaeth uwchradd yn cael effaith sylweddol ar eu penderfyniad yngl?n â pha ysgol y dylid danfon eu plant iddi.  

Os yw plentyn yn mynd o Ysgol Y Ffin i Gwent Isgoed yng Nghansewydd, mae’n symud allan o gyfrifoldeb Sir Fynwy. Sut y mae modd i ni integreiddio sut y mae ysgolion yn gweithio ar draws y ffiniau?

Pe bai ein darpariaeth ein hunain gennym yn y sir, byddem yn gofalu amdanynt yn well gan y byddem yn gwybod ble ydynt a byddem yn parhau gyda’n gofal a’n cyfrifoldebau ond mae hyn o bosib yn fwy o gwestiwn ar gyfer yr Adran Plant a Phobl Ifanc.   

Mae’n bwysig bod ysgol uwchradd gennym rywle yn Sir Fynwy, gan fod y pellter sydd angen teithio yn anodd i rieni,  a bydd nifer o blant sydd mewn ysgolion cynradd Cymraeg wedyn yn symud i ysgolion Saesneg. Gobeithio y bydd yna ddarpariaeth Gymraeg newydd yn yr ysgol newydd yn y Fenni.  

Os oes rhywun am sicrhau bod eu plentyn yn dysgu Cymraeg yn Sir Fynwy, rhaid iddynt wneud ymdrech benodol. Mae’r un peth yn wir am addysg grefyddol e.e. o ran mynychu ysgol Gatholig, mae disgyblion ond yn medru mynd i St. Albans yn Nhorfaen. Eto,  mae hyn o bosib yn fwy o gwestiwn ar gyfer r Adran Plant a Phobl Ifanc.   

O ran ymgysylltu â'r cyhoedd yn y dyfodol, beth sydd angen er mwyn caniatáu i rywun i fynychu’r Pwyllgor, gofyn cwestiwn yn Gymraeg a threfnu offer cyfieithu ar y pryd?

Byddai'n rhaid i’r person i roi rhybudd – y rheol yw pum diwrnod gwaith – fel bod modd trefnu cyfieithydd ar y pryd. Mae siambr y Cyngor nawr yn medru cynnig offer cyfieithu ar y pryd, ac felly, mae unrhyw aelod o’r cyhoedd sydd yn dymuno gwneud sylw/gofyn cwestiwn yn y Gymraeg yn medru gwneud hyn.  

 

Crynodeb y Cadeirydd:

Rydym wedi trafod y ffyrdd amrywiol o ddysgu  Cymraeg y bore yma, sydd yn ardderchog, ac rydym angen parhau i annog pobl fel Awdurdod i ddysgu, eu cefnogi yn ariannol a’u caniatáu i siarad Cymraeg pan yn bosib. O ran recriwtio, mae angen annog ymgeiswyr Cymraeg eu hiaith i wneud cais, er bod hyn yn fwy anodd fel Awdurdod sydd ar y ffin. Rydym wedi clywed am straeon anodd o drigolion Sir Fynwy sydd  â dementia na sydd yn medru siarad Saesneg mwyach sydd yn amlygu’r angen am fwy o staff Cymraeg eu hiaith yn yr awdurdod.  

Rydym wedi trafod addysg cyfrwng Cymraeg: roedd Aelodau yn teimlo’n gryf fod angen ysgol uwchradd  cyfrwng Cymraeg ei hiaith gan ein bod yn colli plant i ysgolion cyfrwng Saesneg yn sgil diffyg darpariaeth yn y sir a’r heriau daearyddol.  O  ran yr ‘gorgyffwrdd’ yma gyda’r Adran Plant a Phobl Ifanc, mae yna sylwadau diddorol yng nghofnodion y Pwyllgor Dethol Plant a Phobl Ifanc ar 14eg Hydref 2021, lle y cafodd y Cynllun Stratgaeth Iaith Gymraeg ei chraffu. 

Rydym wedi trafod y posibilrwydd o addysg cyfrwng Cymraeg yn cael ei drafod ar y cyd ag awdurdodau cyfagos, a’r uned drochi newydd sydd yn helpu plant i ddysgu’n gyflym.  Dyma’r uned gyntaf o’i math yn yr ardal a dylem fod yn falch o hyn. Rhaid i ni ystyried pam nad oes mwy o bobl yn dewis yn dewis addysg cyfrwng Cymraeg. Rydym wedi trafod sut y mae’r sawl sydd yn mynychu’r Cyngor neu’r pwyllgorau yn medru cyflwyno  eu cwestiynau yn y Gymraeg.

Bydd yr holl ymatebion sydd yn cael eu derbyn fel rhan o’r ymgynghoriad yn cael eu danfon at  Aelodau a’u cynnwys fel atodiad yn yr adroddiad pan fydd yn cael ei ddanfon at y Cyngor llawn ym mis Mawrth.  

Yn olaf, mae’r Pwyllgor yn dymuno pob hwyl i Alan Burkitt sydd ar fin ymddeol cyn hir ac am ei waith gwych dros y blynyddoedd.  

 

 

Dogfennau ategol: