Agenda item

Craffu ar adroddiad diweddaru sefyllfa ar gaffael strategol.

Cofnodion:

Cyflwynodd y swyddog yr adroddiad drwy esbonio bod hyn yn ddiweddariad sefyllfa yn dilyn dod ag adroddiad manwl i’r pwyllgor yn gynharach yn y flwyddyn. Atgoffodd aelodau y cytunodd y Cabinet ym mis Gorffennaf 2021 y byddai’r Cyngor yn dechrau ar Gytundeb Dirprwyo cydfuddiannol gyda Chyngor Caerdydd ar gyfer cyflawni a darpariaeth ein gwasanaethau caffael strategol a gweithredol. Gwahoddir y pwyllgor i graffu ar gynnydd yn cynnwys datblygu cynllun hyfforddiant cysylltiedig ar gyfer Swyddogion.

 

Esboniodd y swyddog y cafodd newidiadau cynnar eu gwireddu a diolchodd i Bennaeth Caffael Caerdydd a’n Rheolwr Caffael ninnau am eu gwaith caled mewn cyflawni’r rhain mor gynnar. Cyflwynodd y pwyntiau allweddol a amlinellir yn yr adroddiad a thynnodd sylw aelodau at yr adran cynnydd, gan atgoffa’r pwyllgor am amcanion a deillliannau disgwyliedig y cynllun gweithio partneriaeth.

 

Gwahoddodd y cadeirydd gwestiynau gan aelodau.

 

Cwestiynau gan Aelodau:

 

Beth yw’r enillion cynnar i Sir Fynwy o’r cydweithio hwn?

 

Rydym wedi medru dod â pheth o’r profiad a’r wybodaeth y gwnaethom ei ddatblygu dros yr ychydig flynyddoedd diwethaf yng Nghaerdydd i gynorthwyo Sir Fynwy yn yr heriau wrth symud ymlaen. Rydym wedi dechrau datblygu strategaeth caffael ond hyd yma, wedi canolbwyntio ar ddatblygu saith amcan clir i roi ymdeimlad clir o gyfeiriad teithio, er enghraifft datgarboneiddio, gwerth cymdeithasol, sy’n heriol iawn. Hoffem helpu Cyngor Sir Fynwy i gyflymu eu gwaith drwy ddefnyddio ein profiad a’r gwersi a ddysgwyd, fel nad yw Cyngor Sir Fynwy yn gorfod mynd drwy’r un llwybr dysgu. Er enghraifft, mae Caerdydd wedi cynnal Modelu Carbon, felly bydd hynny er budd Cyngor Sir Fynwy. Mae’r ‘Model Toms’ sy’n ymwneud â sicrhau gwerth cymdeithasol yn rhywbeth y bu Caerdydd yn flaenllaw wrth ei gyflwyno yng Nghymru a rydym yn dechrau gweld y gwaith hwn yn dwyn ffrwyth. Y sylw i fanylion am beth o wariant Cyngor Sir Fynwy er enghraifft; hyd nawr ni fu gennym adnoddau i edrych ar hyn mor fanwl ac mae hyn wedi rhoi cyfle i ni wneud hyn.

 

Y peth pwysicaf yn fy marn i yw’r adnoddau i gynnal y dadansoddiad manwl yma ac mae’n glir nad oedd y gallu gennym i fedru dadansoddi’r manylion. Nid yw’r cyfan am arbed arian, er y bydd cyfleoedd i arbed arian, mae am wireddu gwerth yr arian a gaiff ei wario. Hoffwn i’r pwyllgor hwn fod â rhan wrth edrych ar y contractau hyn yn fanwl rywbryd yn y dyfodol i weld adenilliad ar fuddsoddiad. Rwy’n credu fod potensial enfawr a’n bod yn symud yn union y cyfeiriad cywir wrth gynyddu gwerth am arian i’r cyhoedd.

 

Mae gennyf ddiddordeb neilltuol yn y ffordd y byddech yn gwneud gwariant yn fwy hygyrch drwy fusnes a’r trydydd sector. A oes gennych unrhyw enghreifftiau?

 

Nid oes unrhyw fuddion penodol y gallem eu dangos ond mae’r rheolau gweithdrefn contract pan gawsant eu hailddrafftio er enghraifft yn ymofyn i’w gwneud yn ofynnol i feysydd gwasanaeth geisio cynnwys busnesau lleol mewn cyfleoedd. Rhai o’r materion fu ‘sut mae ein meysydd gwasanaeth yn gwybod am gyflenwyr lleol’ ac a oes unrhyw feddalwedd newydd fydd yn ein helpu i wneud hynny a dweud wrthym pwy yw’r contractwyr lleol. Rydym yn edrych ar ddull mwy amlwg o fynd i’r farchnad a sicrhau fod busnesau lleol yn cael cyfle i gynnig am gontractau, fel y gallwn ddatblygu cofrestr gliriach o gontractau fel y gallwn olrhain a monitro hynny. Rydym yn ceisio deall meysydd gwariant yn well lle mae gennym ddefnydd da o gyflenwyr lleol yn erbyn rhai meysydd lle’r ydym yn cael trafferthion. Os edrychwn ar y manylion, efallai y gwelwn nad oes unrhyw gyflenwyr neu fod rhai y gallem geisio cysylltu gyda nhw. Nid ydym eisiau gwneud y gwaith hwn ar ben ein hunain ond cydweithio gydag eraill a gyda Llywodraeth Cymru, felly mae darn o waith partneriaeth a wnawn ar hyn o bryd yn ‘gwneud cyflenwyr lleol yn fwy gweladwy’.

 

Bydd y 3 swyddog caffael neilltuol a gaiff eu recriwtio yn ein helpu i symud ymlaen o ddifri ar hyn. Mae’n anodd recriwtio swyddogion caffael priodol ond rydym wedi recriwtio i un o’r 3 swydd fydd yn golygu y bydd gan Gyngor Sir Fynwy fwy o gapasiti nag o’r blaen, ond rydyn wedi gorfod ffocysu ar eglurdeb amcanion, dadansoddi gwariant a datblygu llywodraethiant cadarn. Dylai’r swyddi newydd ein helpu i ddatblygu ein cynlluniau ar gyfer y dyfodol.

 

A fedrwch ddweud wrthyf sut mae hyn yn cyfeirio at recriwtio gofal cymdeithasol?

 

Mae gan y sector heriau unigryw a rydym yn gwneud darn penodol o waith yng Nghaerdydd ar hyn o bryd i ddeall sut mae gwariant yn cael ei drin yn y sefydliad. Buom yn canolbwyntio hyd yma ar gael y sylfeini’n gywir.

 

Beth ydych chi’n ei olygu drwy gefnogi gwerth cymdeithasol ac economaidd-gymdeithasol? Rwy’n awyddus i wybod beth mae hynny yn ei feddwl a sut y bydd gwariant y sector cyhoeddus yn cefnogi cymunedau sydd wedi eu hallgau’n gymdeithasol ar hyn o bryd.

 

Byddwn yn ateb, os ydych yn gofyn os yw Cyngor Sir Fynwy wedi manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd i gyflawni gwerth cymdeithasol cyn nawr, mai’r ateb fyddai mae’n debyg ddim, ond dyma’n union beth yw cydweithio fel nad ydym ddim ond yn cydymffurfio gyda rheoliadau’r llywodraeth ond yn dysgu sut i fod yn rhagweithiol wrth wneud cynnydd a sicrhau y caiff y ‘cyflog byw’ ei dalu. Felly rydym yn rhoi’r amser i fod yn glir iawn am ein hamcanion. Deallaf eich bod yn meddwl y dylem fod yn gwneud hyn eisoes ond mae’n heriol ac mae Cyngor Sir Fynwy eisiau gweithio gyda Caerdydd i ddysgu a datblygu o’r sefyllfa yr ydym ynddi ar hyn o bryd.

 

Ble y gallwn weld y glo mân yn ein contractau? A yw hyn yn rhywbeth y gallwn ei ddisgwyl yn weddol gyflym?

 

Rydym yn ceisio mynd i’r afael â hyn mewn nifer o feysydd – yn gyntaf drwy fwy o wybodaeth am sut y caiff arian ei wario ond yn ail, sut y mae hyn yn llywio ein blaen-gynllun o sut y gwerir arian yn y dyfodol. Dim ond o ble’r ydym yn awr y gallwn symud ymlaen.

 

Casgliad y Cadeirydd

 

Diolchodd y Cadeirydd i swyddogion Cyngor Sir Fynwy a Phennaeth Caffael Strategol Cyngor Sir Caerdydd am eu hamser yn mynychu i gyflwyno adroddiad cynnydd i’r pwyllgor. Cytunir y gwahoddir swyddogion i ddychwelyd mewn 9 mis i roi diweddariad pellach ar gynnydd.

 

 

Dogfennau ategol: