Cofnodion:
Cyflwynodd Pennaeth Prosiectau Strategol yr adroddiad, gan esbonio y cafodd drafft Uwchgynllun Gwella Brynbuga ac Woodside ei gomisiynu ar y cyd gan Gyngor Sir Fynwy a Chyngor Tref Brynbuga yn 2018 a bod gwaith dechreuol wedi mynd rhagddo yn 2015 ar faterion rheoli traffig. Cynhaliwyd y gwaith gan ymgynghoriaeth ARUP gyda gweithgor yn cynnwys aelodau o Gyngor Sir Fynwy, swyddogion, Cyngor Tref Brynbuga a Chyngor Cymuned Llanbadog. Esboniodd y bu ymgynghoriad eang drwy ddigwyddiadau rhanddeiliaid i ddod â ni i’r sefyllfa yr ydym ynddi heddiw o ran cyflwyno hyn ar gyfer craffu cyn gwneud penderfyniad. Mae’r adroddiad yn cynnwys manylion prosiectau penodol a chynllun gwella a gweithredu, a argymhellwn ar gyfer ei fabwysiadu’n ffurfiol gan Gyngor Sir Fynwy, fel y cafodd gan y partneriaid eraill. Ar gyfer Cyngor Sir Fynwy, mae’n ddefnyddiol cael cynllun ehangach gyda nodau tymor byr, tymor canol a hirdymor ac mae’n ein galluogi i berchnogi’r amcanion, ynghyd â Chyngor Tref Brynbuga a Chyngor Cymuned Llanbadog. Dywedodd bod llywodraeth genedlaethol yn croesawu cynlluniau wedi ei strwythuro ac mae’n helpu wrth gynnig ar gyfer cyllid yn y dyfodol, fodd bynnag nid yw swyddogion yn diystyru her canfod cyllid ar gyfer cyflawni rhai o’r prosiectau uchelgeisiol hyn.
Diolchodd y cadeirydd i’r swyddog am yr amlinelliad cryno a gwahoddodd gwestiynau gan aelodau:
Cwestiynau Aelodau:
Gyda chronfeydd strwythurol yn diflannu, pa mor gyflym y gallwn ddisgwyl ffrydiau cyllid newydd i’n galluogi i sicrhau cynnydd?
Mae’n dibynnu pa brosiectau y symudwn ymlaen â nhw. Gallai cyllid teithio llesol gynnwys prosiectau parth cyhoeddus a thrafnidiaeth ond mae’r cyfleoedd yn eithaf newidiol, felly pe byddem i ystyried er enghraifft ailgynllunio Stryd y Bont neu Sgwâr Twyn, y ffrydiau cyllid fyddai Teithio Llesol a Thrafnidiaeth. Weithiau daw ffynonellau cyllid ar gael ar rybudd cymharol fyr felly mae cael cynlluniau clir a syniadau yn eu lle yn ein rhoi mewn sefyllfa dda iawn.
A fyddai’r hen safle amwynder dinesig yn enilliad cyflym, gyda chyfle o bosibl ar gyfer rhai marchnadoedd a pharcio? A fydd parcio ychwanegol o amgylch y carchar ar ôl i’r ffordd gael wyneb newydd?
Deallaf y derbyniwyd cynigion i ddeall ei werth marchnad er mwyn penderfynu ar ei ddyfodol, ond ni chafodd ei werthu ar hyn o bryd. Yn nhermau’r ardal yn ymyl y Neuadd Goffa, gobeithir y byddai darpariaeth yno ond mae problemau draeniad i’w datrys.
O ran parcio, a allaf gael eglurhad beth ydym yn rhagweld y byddai pobl yn ei wneud? A ydym yn rhagweld pobl yn ymweld yn defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac nid mewn car?
Cafodd y strategaeth parcio ei hystyried yn y gorffennol ar gyfer pob tref a gall fod angen i ni edrych ar hyn eto yn ei gyfanrwydd yn nhermau codi tâl, ond hefyd wrth benderfynu sut y defnyddir y maes parcio. Bu’n broblem barhaus i sicrhau cydbwysedd rhwng anghenion preswylwyr a’r rhai sy’n ymweld ar gyfer hamdden neu waith ac mae’n debyg y bydd angen gwneud hyn ar ryw bwynt i benderfynu beth sy’n iawn ar gyfer pob tref.
Sut fyddech chi’n gwahaniaethu rhwng prosiectau adfywio a phrosiectau parth cyhoeddus?
Mae’r llinellau rhwng y ddau braidd yn amwys, a felly hefyd y ffrydiau cyllid ond mae cyllid adfywio arall y gallem o bosibl gael mynediad iddo yn y dyfodol gan fod y sefyllfa yn newid yn barhaus yn nhermau cyllid, wrth i flaenoriaethau Llywodraeth Cymru esblygu. Weithiau mae’n rhaid i ni ddefnyddio nifer o ffrydiau cyllid ar gyfer prosiect sengl a gall hynny fod yn her.
Hefyd sut ydych chi a’ch partneriaid yn mynd i reoli disgwyliadau oherwydd mae’r cynllun yn uchelgeisiol iawn.
Mae hon yn sefyllfa iâr ac wy oherwydd os nad oes gennych gynlluniau clir, ni allwch gael mynediad i gyllid ond mae cael cynlluniau yn eu lle yn codi disgwyliadau. Felly byddwn yn edrych ar geisio canfod prosiectau sy’n barod ac y gellir eu cyflwyno mewn ffordd amserol pan ddaw cyllid ar gael. Mae gwahanol ffrydiau cyllid o fewn adfywio trefi ac mae hefyd arian cyfatebol ar gyfer datblygu a phrosiectau strategol a all helpu gyda gwaith dylunio a phrosiectau dichonolrwydd. Mae prosiectau y gallwn edrych arnynt ond mae’r sefyllfa cyllid yn newidiol felly rydym yn sylweddoli fod rheoli disgwyliadau yn her i’r gr?p llywio.
O safbwynt lleol, beth yw’r flaenoriaeth yma? I gynyddu parcio neu i bedestrianeiddio Stryd y Bont? Hoffwn wybod beth yw’r blaenoriaethau ac a gynlluniwyd ar eu cyfer?
Mae’n anodd ond ar hyn o bryd byddai parcio yn tueddu i fod yn flaenoriaeth fwyaf oherwydd nad yw pedestraneiddio Stryd y Bont yn ymarferol ar hyn o bryd, heb rwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus ehangach. Pe byddid byth yn cytuno ar ffordd osgoi, byddai hynny flynyddoedd mawr yn y dyfodol.
Hoffwn godi ychydig o bwyntiau:
- Diffyg gorfodaeth rheoliadau parcio.
- Mae angen llawer iawn o waith glanhau ar yr ardal.
- Cynhaliwyd arolwg o breswylwyr ychydig flynyddoedd yn ôl oedd â chyfradd ymateb o 60% lle cododd pobl faterion traffig ac ystyriaethau mynediad yn Woodside ac anfonais hyn yn ôl at yr Adran Priffyrdd ond ni chefais unrhyw adborth.
- Yn nhermau maes parcio Stryd Maryport, mae llawer o wahanol fynedfeydd ac mae’r cyfan yn gostwng niferoedd parcio.
- A allwch roi mwy o leoedd parcio i’r anabl yn ymyl y feddygfa?
· Mae cwestiwn beth yw’r blaenoriaethau yn bwysig i Frynbuga yn nhermau’r hyn y dymunwn i gynnig Brynbuga fod. Mae’r cynllun yn ddefnyddiol wrth osod ein blaenoriaethau a chael prosiectau sy’n barod fel a phryd y daw cyllid ar gael yn y dyfodol.
Casgliad y Cadeirydd:
Rydym yn croesawu’r adroddiad ac yn sylweddoli pwysigrwydd cael y cynllun hwn yn ei le er mwyn manteisio i’r eithaf ar gyfleoedd cyllid y dyfodol. Mae’r pwyllgor yn unfrydol yn cymeradwyo’r adroddiad a’i argymhellion.
Dogfennau ategol: