Skip to Main Content

Agenda item

Cais am Drwydded Safle ar gyfer “The Club”, 15 Stryd Whitecross, Trefynwy, Sir Fynwy, NP25 3BY

Cofnodion:

Roedd y Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio wedi ystyried cais o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 am Drwydded  Mangre ar gyfer “The Club” 15 Stryd Whitecross, Trefynwy, Sir Fynwy, NP25 3BY.

 

Roedd y Cadeirydd wedi croesawu’r ymgeisydd a’r gwrthwynebydd i’r cyfarfod ac wedi cyflwyno Aelodau’r Pwyllgor a’r swyddogion a oedd yn mynychu ac wedi esbonio’r protocol ar gyfer y cyfarfod.

 

Roedd yr  ymgeisydd a’r gwrthwynebydd wedi cadarnhau eu bod wedi derbyn yr adroddiad ac yn fodlon parhau heb unrhyw gynrychiolaeth gyfreithiol. 

 

Cyflwynwyd y materion a’r manylion allweddol i’r Pwyllgor.  

 

Rhoddwyd cyfle wedyn i’r ymgeisydd i annerch y Pwyllgor er mwyn cynnig unrhyw esboniadau perthnasol. Yn dilyn hyn, roedd Aelodau’r Pwyllgor wedi gofyn cwestiynau i’r ymgeisydd a chafwyd trafodaeth.  

 

Yn ystod y drafodaeth, gwnaed y pwyntiau canlynol:

 

·         Cyn y pandemig Covid-19, roedd Clwb Ceidwadol Sir Fynwy ar fin cau gan fod y model busnes yn methu ac nid oedd yn hyfyw i barhau ar agor.  

 

·         Yn ystod y pandemig, roedd y safle wedi ei ailwampio. 

 

·         Roedd yn anodd i ddenu aelodau newydd o bob math yn sgil cysylltiadau gwleidyddol y clwb.

 

·         Roedd yr ymgeisydd wedi datgysylltu ei hun o’r Blaid Geidwadol ac wedi ail-enwi’r safle yn ‘The Club’.

 

·         Roedd angen denu mwy o aelodau newydd er mwyn sicrhau bod y   model busnes newydd yn medru bod yn hyfyw a thalu am y gwaith adnewyddu.

 

·         Ail-agorodd ‘The Club’ ym Mai 2021 gyda 195 o geisiadau newydd i ddod yn aelodau.

 

·         Y model busnes yw creu clwb preifat i aelodau.  

 

·         Yn ystod y cyfnod, gwnaed cwyn anhysbys gan aelod bod unigolion eraill – na sydd yn aelodau – wedi bod yn mynychu ac wedi bod yn camymddwyn. Roedd cyngor gan y swyddogion trwyddedu yn datgan fod yn rhaid i’r ymgeisydd gydymffurfio gyda’r drwydded bresennol a sicrhau bod yna lyfr ar gyfer gwesteion er mwyn iddynt gofrestru tra’n ymweld gyda’r clwb. Os oedd unigolion – na sy’n aelodau – yn cael eu hannog i ymweld gyda’r clwb, yna byddai’n rhaid i’r ymgeisydd i wneud cais am  drwydded mangre trwyddedig.

 

·         Mae ‘The Club’ ar agor o ganol dydd tan 11.00pm saith diwrnod yr wythnos.  

 

·         Fel Clwb Ceidwadol, roedd hawl gan Aelodau i ddefnyddio’r safle o 8.00am ar gyfer gweithgareddau na sydd yn cynnwys alcohol, fel defnyddio’r byrddau snwcer.  

 

·         Mae cegin newydd yn y clwb a’r nod yw cynnig ciniawau dydd Sul. 

 

·         Roedd grwpiau lleol yn cael eu hannog i barhau i ddefnyddio’r clwb fel sydd wedi digwydd yn y gorffennol.

 

·         Mae’r  stiwardes yn byw ar y safle a hi yw deiliad y drwydded.  

 

·         Mae unrhyw gamymddwyn yn cael ei ddelio ag ef yn briodol.

 

·         Mae gardd gwrw gan y safle ac mae wedi bod ar agor cyn hired  â’r clwb.

 

·         Mae’r ardd gwrw wedi ei hail-wampio ac mae wedi annog mwy o bobl i ddefnyddio’r rhan hon o’r clwb yn ystod misoedd yr haf. 

 

·         Mae angen i unigolion na sydd yn aelodau i gael eu cofrestru gan aelodau’r Clwb. 

 

·         Mae staff y bar a deiliad y drwydded yn ymwybodol o’r angen i ymweld â’r ardd gwrw yn aml er mwyn sicrhau bod modd cadw’r lefelau s?n cyn ised ag sydd yn bosib.  

 

·         Mae’r ymgeisydd wedi derbyn cyngor  gan Heddlu Gwent and a’r Gweithgor Iechyd a Diogelwch ac wedi gosod camerâu cylch cyfyng yn yr ardd gwrw sydd yn recordio s?n.   

 

·         Mae yna arwyddion wedi eu gosod yn yr ardd gwrw sydd yn nodi  polisi dim goddefgarwch y clwb at gyffuriau. Mae’r arwyddion yma hefyd yn gofyn i aelodau i fod yn ystyrlon o gymdogion gyda’r nod o gadw s?n cyn ised ag sydd yn bosib tra’n treulio amser yn yr ardd gwrw a thra’n gadael y rhan hon.  

 

Rhoddwyd cyfle wedyn i’r gwrthwynebydd i annerch y Pwyllgor a chyflwyno unrhyw esboniadau perthnasol.  Yn dilyn, roedd Aelodau’r Pwyllgor wedi gofyn cwestiynau i’r gwrthwynebydd a chafwyd trafodaeth.

  

Yn ystod y drafodaeth, gwnaed y pwyntiau canlynol:

 

·         Ers agor y clwb a gosod arwyddion ‘croeso i bawb’ mae’r s?n yn yr ardd gwrw, yn enwedig yn fisoedd yr haf, wedi bod yn gyson ac wedi achosi trallod sylweddol i gymdogion yn yr ardal.  

 

·         Mynegwyd pryderon fod yr oriau agor arfaethedig yn y cais newydd yn mynd i waethygu’r lefelau s?n yn yr ardd gwrw yn ystod misoedd yr haf.  

 

·         Y prif bryder a fynegwyd gan y gwrthwynebydd oedd y s?n yn yr ardd gwrw yn hwyr y nos. Mynegwyd pryder na fydd hyn yn cael ei fonitro gan y clwb.  

 

·         Credwyd y byddai’n anodd i staff y bar sydd eisoes yn brysur dan do i ymweld gyda’r ardd gwrw yn aml.  

 

·         Awgrymodd y gwrthwynebydd bod holl agweddau’r cais yn cael eu derbyn ond dylid gosod cyfyngiad ar weini alcohol a defnyddio’r ardd gwrw tan 9.30pm.

 

Roedd yr ymgeisydd wedi ymateb i’r gwrthwynebydd drwy ddatgan y byddai o blaid bod yna amod yn cael ei ychwanegu ar y drwydded bod yr ardd gwrw yn cau am 10.00pm bob nos.

 

Yn dilyn y datganiadau a wnaed gan yr ymgeisydd a’r gwrthwynebydd, rhoddwyd cyfle i Aelodau i ofyn cwestiynau. Roeddynt wedi gwneud y pwyntiau canlynol:

 

·         Gydag amser, hoffai’r ymgeisydd symud at bolisi lle y mae’n rhaid i aelodau fod yn 25 mlwydd oed a’n h?n.

 

·         O ran ymddygiad aelodau’r clwb, nid oes modd gwahardd aelodau tan fod yna reswm digonol.

 

·         Mae maint yr ardd gwrw yn parhau’r un fath. 

 

·         Mae’r clwb yn gweithredu polisi dim goddefgarwch at gamymddwyn ymhlith aelodau.

 

·         Roedd y gwrthwynebydd wedi datgan  y byddai’n ffafrio cau’r ardd ar amser penodol, sydd yn golygu y byddai ar gau i aelodau’r clwb.  

 

Rhoddwyd cyfle i’r ymgeisydd a’r gwrthwynebydd i gynnig crynodeb.

 

Yn dilyn cwestiynau, roedd yr Is-bwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio a’r cynrychiolydd Cyfreithiol wedi gadael y cyfarfod er mwyn ystyried a thrafod eu canfyddiadau.  

 

Ar ôl ail-ddechrau’r cyfarfod, roedd y Cadeirydd wedi cynghori fod y Pwyllgor wedi penderfynu caniatáu’r drwydded ar yr amodau canlynol:

 

·         Gweithgareddau sydd angen trwydded i’w cynnal rhwng  08:00am a 12:00am – ac nid 12:30am fel oedd cynt.

 

·         Bydd rhaid i Ardd Gwrw’r clwb gau am 10:00pm.

 

Dogfennau ategol: