Agenda item

Craffu’r adroddiad monitro blynyddol ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol cyfredol cyn ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru.

Cofnodion:

Cyflwynodd Rachel Lewis a Craig O’Connor yr adroddiad. Atebodd Craig O’Connor gwestiynau’r aelodau.

Her:

Ydyn ni ddim, i raddau helaeth, yn dibynnu ar ddatblygwyr os caiff y targedau hyn eu cyrraedd ai peidio? Onid yw hyn yn wledd symudol, gan fod y ffigurau yn newid o wythnos i wythnos?

Fel cyngor, nid yw popeth yn ein dwylo ni o fewn y diwydiant adeiladu. Yr hyn y gallwn wneud yw cael Cynllun Datblygu Lleol rhagweithiol sy’n dyrannu digon o dir a bod digon o gyfle i ddatblygwyr ddod ymlaen – yn breswyl ac yn economaidd. Mae’r Cynllun Datblygu Lleol presennol wedi dangos fod gan caniatâd cynllunio gan 6 o’r 7 safle strategol felly rydym wedi creu’r cyfle hwnnw fel cyngor. Ac mae cais cynllunio ar hyn o bryd ar gyfer y seithfed, Vinegar Hill. Dros y cyfnod cynllunio hwn rydym wedi cyhoeddi 4,378 caniatâd cynllunio, yn erbyn targed o 4,500 – felly rydym yn gwneud yn wirioneddol dda.

Mae ansawdd yr Afon Gwy a ffosffadau yn bryder mawr. Mae’n broblem enfawr i’w datrys – a yw hynny’n wirioneddol bosibl yn amserlen y Cynllun Datblygu Lleol nesaf?

Ydi, mae problem ffosffadau yn un sylweddol. Mae’n broblem genedlaethol. Rydym yn eistedd ar fwrdd Cymru gyfan gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, Llywodraeth Cymru a D?r Cymru i geisio canfod ffyrdd y gall datblygiadau fynd rhagddynt tra caiff ansawdd d?r ei wella. Mae angen rhaglen gyllido fanwl ar gyfer y system ddraeniad i alluogi dileu ffosffadau yn ein aneddiadau mwyaf cynaliadwy. Ond mae hefyd angen i ni edrych ar ddatrysiadau naturiol gyda buddion lluosog. Mae’n her enfawr, ond rydym yn gweithio’n galed iawn arni. Mae angen gwella seilwaith draeniad yn y Fenni a Nhrefynwy, yn neilltuol.

Ydych chi’n gweithio gyda’r awdurdodau yn Lloegr hefyd yng nghyswllt yr Afon Gwy?

Ydyn, rydyn ni hefyd yn aelodau ar fwrdd yn ymwneud â’r Afon Gwy, gyda thrafodaethau traws-ffin.

Pa mor realistig yw’r tafluniad datblygiad tai ar dudalen 41 yr Adroddiad Monitro Blynyddol yng nghyswllt y broblem ffosffadau?

Caiff ei tafluniad ei gefnogi gan ganiatâd cynllunio presennol hefyd, gan fod gan rai o’r safleoedd hynny ganiatâd cynllunio yn barod. Caiff y broblem ffosffadau ei gosod ar bwynt mewn amser o ddechrau’r flwyddyn. Felly, os oes gan ddatblygiad ganiatâd cynllunio cyn hynny, gall barhau – mae’r broblem ffosffadau yn effeithio ar ddatblygiadau na chafodd ganiatâd eto. Rydym yn hyderus y gall y tafluniad barhau, yn seiliedig ar geisiadau a ganiatawyd eisoes, a’r rhai sydd tu allan i’r ardal dan sylw, tebyg i Vinegar Hill.

A yw ffosffadau yn broblem i ogledd y sir neu’n broblem i ogledd yr M4?

Mae ffosffadau yn effeithio ar ddalgylchoedd afonydd, felly nid yw’n effeithio ar Sir Fynwy i gyd ac nid yw’n dilyn llwybr yr M4. Mae map dan adran Ansawdd D?r y wefan sy’n dangos yr ardaloedd. Nid yw Glannau Hafren a Chas-gwent, er enghraifft, yn yr ardal ffosffadau honno.

A wyddom pa ganran sydd gan y bwrdd d?r o gyfleusterau dileu ffosffadau?

Galluedd dileu cyfyngedig iawn sydd gennym yn y sir. Yn Rhaglan mae’r unig ddraeniad sy’n gwneud hynny. Rydym mewn trafodaethau gyda D?r Cymru am wella’r seilwaith yn y Fenni a Threfynwy i alluogi twf.

Yng nghyswllt y tafluniad tai, mae diffyg o 1500 t? o’r targed dechreuol, cyfwerth â 300 t? bob blwyddyn dros y cyfnod o ddeg mlynedd. Y targed ar gyfer y Cynllun Datblygu Lleol Newydd yw 507 y flwyddyn, neu uwch. Pa mor realistig yw hyn, yng ngoleuni’r heriau a wynebwn?

Oes, mae diffyg o 1,500 annedd ond fel y soniwyd, dyrannwyd 6 o’r 7 safle ac maent yn dod ymlaen. Dros y 5 mlynedd nesaf, o ystyried yr hyn sy’n dod ar gael, rydym yn hyderus y bydd y tafluniad yn parhau. Gwelwn pan gaiff tir ddyrannu y medrwn gyflenwi’r cartrefi.

Mae gan y datblygiad 11 uned yn Drenewydd Gellifarch ganiatâd cynllunio amlinellol ond nid caniatâd cynllunio manwl. Gydag Adroddiad Monitro Blynyddol, a gaiff hynny ei ystyried, gan y gallai fod tipyn o amser cyn y bydd yn datblygu?

Rydym yn mesur o’r amser y rhoddir caniatâd cynllunio amlinellol ar gyfer cais – dyna pryd y caiff egwyddor datblygu ei sefydlu.

Sut mae amlygrwydd ffermio dofednod ym Mhowys yn rhan o ddatrysiadau i’r broblem ffosffadau?

Mae’n broblem aml-ddisgyblaeth, yn cynnwys datblygiadau ac arferion amaethyddol, a dyna pam ein bod yn cydweithio ar sail Cymru-gyfan. Bydd lliniaru d?r ffo yn ffactor, ond y cyfan y gallwn ei wneud ar y cam hwn yw dal ati i weithio i ganfod datrysiadau.

 

Mae hefyd bryder am garthffosiaeth amrwd yn cael ei wagu i afonydd yn hytrach na mynd drwy’r system carthffosiaeth. A all hyn gael ei gyfarch?

Ni allwn roi sylwadau ar hynny’n benodol ond byddai’n dod dan ymbarél canfod datrysiadau, gan weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru a D?r Cymru.

Pam nad yw safle Heol Crug yn mynd rhagddi? A oes problem gyda seilwaith carthffosiaeth d?r yn y safle?

Mae Heol Crug yn symud ymlaen, mae wedi cael caniatâd cynllunio ar gyfer cartref gofal ar gyfer datblygiad preswyl. Bu peth o’r oedi oherwydd contractau. Mae nifer o amodau yr ydym yn dal i weithio drwyddynt ond dylai datblygiad ar y safle ddechrau yn fuan. Nid oes unrhyw broblem gyda draeniad na charthffosiaeth yn y safle.

Crynodeb y Cadeirydd:

Mae’r pwyllgor yn argymell cyflwyno’r adroddiad i Lywodraeth Cymru. Eglurodd Phil Murphy, Aelod Cabinet, y bydd cartref gofal Heol Crug yn dechrau erbyn dwy wythnos gyntaf mis Rhagfyr.

 

 

Dogfennau ategol: