Agenda item

Cyflogaeth a Sgiliau – Craffu’r cynnydd sydd wedi ei wneud gan y rhaglenni cyflogaeth, sgiliau a phrentisiaethau.

Cofnodion:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Hannah Jones, Gareth James, Stephen Cooper a William Austin. Cafodd cwestiynau’r aelodau eu hateb gan Hannah Jones gyda Stephen Cooper a Cath Fallon.

Her:

Beth yw’r gwahaniaeth yn nifer y prentisiaid y sonnir amdanynt?

Sonnir am 168. Mae hyn yn staff presennol sy’n dymuno uwchsgilio: caiff unrhyw un sy’n dilyn cymhwyster Lefel 2-4 neu NVQ ei ystyried yn brentis hefyd.

Cyllid yw’r eliffant yn yr ystafell. Ar gyfer y prosiectau a amlinellir, daw £2.2m o’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd, gyda £1.1m o hynny ar gyfer cynllun Infuse. Ar gyfer y cynlluniau eraill, lle ydych chi’n disgwyl sicrhau cyllid ar gyfer y diffyg hwnnw?

Rydym yn gweithio gydag awdurdodau eraill Prifddinas-Ranbarth Caerdydd i ddatblygu model cydweithio a gynlluniwyd ar y cyd ar gyfer cyflogaeth a sgiliau y dyfodol – bydd hyn yn rhoi mwy o hyblygrwydd ac effeithiolrwydd cost seiliedig ar werthoedd i ni. Mae gweithdai yr wythnos hon i edrych ar y model. Ond mae cyllid yn bryder – mae goblygiad ariannol mawr i’r awdurdod ac rydym eisiau lleihau hynny. Rydym yn edrych ar ddatrysiadau lleol a rhanbarthol, a byddwn yn paratoi cynigion mwy manwl ar gyfer y Cabinet. Nid ydym wedi clywed am y gronfa adnewyddu cymunedol, sy’n anffodus.

Mae cyfrif y cynlluniau gyda’i gilydd yn rhoi tua £1m. A ddaw hynny gan Lywodraeth Cymru? Faint fydd Cyngor Sir Fynwy yn ei gyfrannu?

Derbyniwn tua £327k o gyllid grant bob blwyddyn ar gyfer Ysbrydolii i Gyflawni, Ysbrydoli i Weithio a phrosiectau Sgiliau Gwaith. Cyllidwn y £187k arall o gostau cyflenwi o’n cyllideb graidd, gan fynd â’r rhan fwyaf o’n cyfanswm o £199k o gyllid craidd.

Os na ddaw unrhyw arian o’r Gronfa Gymdeithasol Ewropeaidd, fyddwch chi’n edrych am gynnydd sylweddol gan Gyngor Sir Fynwy i gadw’r cynlluniau hyn i fynd?

Rydym yn edrych ar raglenni olynol ond yn anffodus yn dal i aros manylion gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig a Llywodraeth Cymru.

Mae Eitem 3.2 ‘Camau Nesaf’ yn sôn fod Torfaen yn arwain ar bapur cyflogadwyedd ar gyfer 10 awdurdod Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Sut y gall ein llais ni gael ei glywed, fel cyngor gwledig a rywfaint yn bellennig, o gymharu gyda’r lleill?

Casnewydd yw ein hawdurdod arweiniol ar y cynlluniau presennol. Cafodd ein lleisiau eu clywed wrth ddatblygu’r model ar gyfer Sir Fynwy. Buom yn cwrdd am 18 mis fel 10 awdurdod, yn datblygu’r model ac yn edrych ar wybodaeth leol. Wrth symud ymlaen, credwn ein bod mewn sefyllfa gryfach i ostwng risg. Mae contractwyr mwy yn dod i’r awdurdod lleol, yn gweithio ar draws y Deyrnas Unedig ac ar draws Cymru – rydym eisiau bod yn y lle hwnnw. Mae gennym ddull 10-awdurdod at gyflogadwyedd a sgiliau, gyda’r cynllun cyflenwi lleol tu ôl iddo, sydd yn hyblyg ac sy’n medru addasu i anghenion ein sir.

Yng nghyswllt Cyfnod Allweddol 2 Ysbrydoli i Gyflawni a phlant a gefnogir, a fedrwch esbonio’r nifer isel yng Nghas-gwent?

Mae gennym system data lle cofnodwn bresenoldeb, ymddygiad a llesiant ar Gyfnod Allweddol 2. Mae un o’r meini prawf yn dynodi pobl ifanc sydd angen y mwyaf o gefnogaeth, yna bydd y gweithiwr yn cael trafodaeth broffesiynol gyda’r ysgol gynradd. Rhoddwyd ystyriaeth i bopeth i gefnogi pobl ifanc Cas-gwent sy’n pontio o cynradd i uwchradd, ond gallwn wirio’r ffigurau eto.

A fedrwn gael mwy o wybodaeth ar waith prinder HGV?

Fe wnaethom gwrdd gyda Torfaen mewn ffair swyddi ddoe – fe wnaethant gyllido ychydig o’u cleientiaid drwy’r broses. Ond mae’n ddrud iawn e.e. tua £1700 fesul cleient ar gyfer prawf, arholiad cysylltiedig â chymhwysedd ac i dalu am y drwydded. Rydym yn edrych gyda ELO o wahanol gynghorau o’n hamgylch, i weld os gallwn fynd at Lywodraeth Cymru i geisio mwy o gyllid. Yna, os daw cleientiaid ymlaen sydd eisoes gyda Melin neu MHA, efallai y gallwn ledaenu’r gost. Rydym ar y cam cynllunio; rydym wedi dynodi’r angen. Gobeithio y bydd ein cynllun yn llwyddiannus.

Mae’r mater cyllid yn hanfodol wrth ehangu’r gwasanaethau hyn. Mae rôl briodol i Lywodraeth Cymru wrth sicrhau fod y cynlluniau hyn yn parhau.

Yng nghyswllt cyllid olynydd, mae’r tîm yn gweithio’n rhanbarthol - a’r Prif Swyddog ar lefel genedlaethol – i ddynodi ffrydiau cyllid eraill unwaith y daw cyllid Ewropeaidd i ben. Mae hyn yn broblem ar draws y Deyrnas Unedig. Byddwn yn rhoi diweddariad i’r pwyllgor ar y cynnydd. Er fod Infuse yn rhan o’r portffolio, nid oes unrhyw arian cyfatebol uniongyrchol gan yr awdurdod yn mynd iddo. Rydym yn cefnogi’r rhaglen drwy ‘arian cyfatebol mewn da’ h.y. amser swyddog i’w gefnogi. Felly, er ei fod yn ffurfio rhan fawr o’r rhaglen honno mae rywfaint tu allan i gyflenwi yr hyn a wnaiff ein timau cyflogaeth a sgiliau.

Mae 3.2.2 yn trafod papur ar gyflogadwyedd. A oes syniad  pryd y bydd y fersiwn terfynol yn mynd i’r Cabinet?

Rydym yn edrych ar ddyddiad ym mis Rhagfyr i fynd i’r Cabinet, felly yn paratoi’r papur yn awr. Cafodd ei gytuno gan ffwrdd strategol y Brifddinas-Ranbarth. Ewn ag ef i’r tîm rheoli adrannol, uwch dîm arweinyddiaeth yna’r Cabinet.

Yng nghyswllt model Evolutive yn 6.3, mae angen i ni gyfateb sgiliau gyda’r hyn mae busnesau ei angen mewn gwirionedd. A fedrwn gael diweddariad ar yr hyn sy’n digwydd ac ar gyflwyno’r system?

Fe wnaethom gwrdd gydag awdurdodau lleol cyfagos i edrych ar y system a deall sut mae’n gweithio. Fe wnaethom wedyn gwrdd gyda SRS i edrych ar gynllun gwahanol, i weld os oes system well. Rydym wedi paratoi papur i fynd i’r Tîm Rheoli Adrannol Menter, ar ôl i SRS gytuno arno. Yna byddwn yn mynd yn ôl at gwmni Evolutive i ddechrau ei sefydlu, gobeithio cyn y Nadolig, iddo wedyn fynd yn fyw yn Ionawr-Mawrth. Mae gennym gysylltiad wyneb i wyneb ac e-bost gyda’n busnesau, ond bydd hyn yn rhoi yr wybodaeth sgiliau i edrych ar dueddiadau a’r tirlun mwy ar gyfer Sir Fynwy. Yr adborth gan awdurdodau eraill yw y bu yn arf gwerthfawr iddynt. Hoffem ddiweddaru’r pwyllgor ar ei gynnydd tua mis Ebrill.

Mae’r cynlluniau hyn mor ddefnyddiol ar gyfer pobl ifanc i gael profiad o wahanol amgylchedd a gwaith.

Rydym wedi cyflwyno cynnig ar gyfer lleoliad Kickstart i gefnogi Evolutive fel rhan o dîm hefyd – dylai fod llawer o bobl ifanc gyda phrofiad gwerthfawr mewn technoleg gwybodaeth fydd yn neidio at y cyfle.

Crynodeb y Cadeirydd:

Mae hwn yn brosiect rhagorol, ond mae angen mwy o arian i sicrhau ei fod yn parhau tu hwnt i ddiwedd y flwyddyn ariannol. Yn amlwg, ni all hynny ddod gan Gyngor Sir Fynwy yn unig ond bydd angen mewnbwn sylweddol gan Lywodraeth Cymru.

 

Dogfennau ategol: