Skip to Main Content

Agenda item

Cais am Drwydded Mangre ar gyfer yr Hen Orsaf, Tyndyrn, Cas-gwent.

Cofnodion:

Roedd y Cadeirydd  wedi croesawu pawb i’r cyfarfod ac wedi cyflwyno Aelodau o’r Is-bwyllgor a’r swyddogion ac wedi esbonio’r protocol ar gyfer y cyfarfod.  

 

Roedd pawb wedi cadarnhau eu bod wedi gweld yr adroddiad ac yn ymwybodol o weithdrefnau’r Pwyllgor.  Cafodd pawb eu hatgoffa fod unrhyw wrthwynebiadau sydd yn cael eu gwneud ac unrhyw drafodaethau sydd yn cael eu cynnal yn gorfod cael eu gwneud o dan y pedwar amcan Trwyddedu:

 

·         Atal trosedd ac anhrefn;

·         Diogelwch cyhoeddus;

·         Atal niwsans cyhoeddus; ac

·         Atal plant rhag niwed.

 

Roedd yr Is-bwyllgor wedi clywed pryderon gan wrthwynebwyr 1) yn cynrychioli  trigolion Tintern Parva a Brockweir a 2) yn cynrychioli Cyngor Cymuned Tyndyrn a manteisiwyd ar y cyfle i ofyn cwestiynau ac esboniadau. 

 

Roedd yr ymgeisydd wedi darparu’r ymatebion. Roedd yr Is-bwyllgor wedi gofyn cwestiynau i’r ymgeisydd.  

 

Nodwyd fod yr Is-bwyllgor yn meddu ar yr opsiynau canlynol:

 

·         Caniatáu’r drwydded;

·         Caniatáu’r drwydded gydag amodau;

·         Gwahardd unrhyw weithgareddau sydd angen trwydded; neu

·         Gwrthod y cais.

 

Roedd y gwrthwynebwyr a’r ymgeisydd wedi cynnig crynodeb.  Aeth yr Is-bwyllgor wedyn i ystyried pob dim gan ddychwelyd a chynnig y penderfyniad canlynol:

 

Mae’r Pwyllgor Trwyddedu a Rheoleiddio wedi ystyried cais am Drwydded Mangre o dan Ddeddf Trwyddedu  2003 gan Ms Katie Burton ar gyfer yr Hen Orsaf, Tyndyrn, Cas-gwent, NP16 7NX. Mae copi o’r cais a’r cynllun wedi eu hatodi fel Atodiad A. Mae’r cais ar gyfer y canlynol:

 

           Gweini  Alcohol (Gwerthu ar y safle ac oddi ar y safle): Dydd Llun i Ddydd Sul 10.00 – 23.00

           Oriau Agor (Amser Safonol): Dydd Llun i Ddydd Sul 10.00 – 17.00

 

Yn y cais, mae’r ymgeisydd wedi nodi fod y safle yn gyrchfan i ymwelwyr, ac yn cynnwys ystafell de  a hen gerbydau trên. Mae yna fan gwyrdd lle y mae ymwelwyr yn medru cerdded ac archwilio.

 

Bydd yr ystafell de  a’r siop o fewn yr hen gerbydau trên  yn gwerthu alcohol fel rhoddion i ymwelwyr. Bydd alcohol hefyd ar gael i’w yfed o fewn y caffi a’r man eistedd ar gyfer picnic.  Bydd modd yfed alcohol yn  yr hen gerbydau trên os oes priodas neu ddigwyddiad yn cael ei gynnal.

 

Mae’r pwyllgor wedi ystyried map yn dangos safle a lleoliad yr eiddo yn Atodiad  B.

 

Mae’r Pwyllgor wedi ystyried y wybodaeth sydd wedi ei darparu gan yr ymgeisydd yn disgrifio’r camau a fydd yn cael eu cymryd er mwyn hyrwyddo’r amcanion trwyddedu, ym mharagraff  3.4 – fel crynodeb:

 

Yn gyffredinol

Bydd Deiliad Trwydded y Mangre yn cynnal Cofrestr Gwrthod Gwerthu Alcohol cyfredol a fydd ar gael i’w harchwilio.

 

Bydd y Deiliad Trwydded y Mangre yn cynnal llyfr digwyddiad cyfredol, yn manylu’r amser/dyddiad/unigolion/digwyddiad.

 

Bydd y rhain yn cael eu monitro gan Ooruchwyliwr Dynodedig y Safle.

 

Atal Trosedd ac Anhrefn  

Bydd cyfarpar camerâu cylch cyfyng yn cael eu  gosod ac yn recordio unrhyw weithgarwch  sydd angen trwydded. Bydd Deiliad Trwydded  y Mangre yn sicrhau bod unrhyw ddeunydd o’r camerâu cylch cyfyng ar gael am gyfnod o  31 diwrnod.

 

Os yw’r cyfarpar camerâu cylch cyfyng yn torri, bydd  Deiliad Trwydded  y Mangre, neu os yw ef/hi yn absennol y person cyfrifol arall, yn hysbysu’r Awdurdod Trwyddedu ar lafar a’r Heddlu cyn gynted ag sydd yn rhesymol arferol. Bydd y wybodaeth hon hefyd yn cael ei chofnodi yn y gofrestr ar gyfer adrodd digwyddiadau ac yn nodi’r person  sydd wedi ei hysbysu o’r digwyddiad.

 

Bydd  Deiliad Trwydded  y Mangre  hefyd yn sicrhau bod aelodau o staff sydd wedi eu hyfforddi ar gael yn ystod  oriau trwyddedig fel eu bod yn medru cael gafael ar unrhyw ddelweddau camerâu cylch  cyfyng a’u lawrlwytho.  

 

Bydd yna arwyddion clir yn dynodi bod camerâu cylch  cyfyng yn cael eu defnyddio ac yn recordio.  

 

Diogelwch y Cyhoedd

Bydd y safle yn cynnal asesiad risg addas ac yn gweithredu’r mesurau rheoli angenrheidiol.

Mae yna drefniadau yn eu lle er mwyn sicrhau bod pobl anabl yn medru symud yn ddiogel o fewn y safle a bod modd eu symud oddi yno mewn argyfwng. 

Mae cyfarpar Diogelwch Cymorth Cyntaf digonol a phriodol ar gael yn y safle.

Bydd Goruchwyliwr Dynodedig y Safle neu berson cyfrifol sydd wedi ei enwebu gan ef/hi,  yn gyfrifol ac yn bresennol yn y safle drwy’r amser yn ystod digwyddiadau pan fydd y cyhoedd ar y safle a bydd digon o aelodau staff yn yr adeilad er mwyn sicrhau bod pob dim yn ddiogel.  

 

Atal Niwsans Cyhoeddus

Bydd arwyddion  yn cael eu gosod yn gofyn i gwsmeriaid i adael y safle yn dawel ac i ystyried y cymdogion sydd yn byw’n gyfagos. Bydd staff yn sicrhau bod unrhyw sbwriel yn cael ei gasglu y tu allan i’r safle. 

 

Diogelu Plant Rhag Niwed

Bydd y safle yn gweithredu polisi Herio 25 a bydd yna arwyddion yn dangos bod y polisi yma ar waith. 

 

Bydd unrhyw hyfforddiant ar gyfer staff yn cael ei gofnodi.

 

Os caiff y drwydded ei chaniatáu, mae’r Pwyllgor yn nodi y byddai’r drwydded yn amodol ar Amodau Gorfodol sydd wedi eu hatodi fel Atodiad C – ac mae’r Pwyllgor wedi eu hystyried.  

 

Os caiff y safle werthu alcohol, mae’r Pwyllgor yn nodi y byddai’r drwydded yn elwa o Ddeddf Gerddoriaeth Fyw 2012 ac wedi ystyried Atodiad D mewn perthynas â hyn.

 

Mae’r Pwyllgor wedi ystyried paragraff  3.6 o’r adroddiad sydd yn amlinellu fod cais y safle wedi ei ddanfon at yr ‘Awdurdodau Cyfrifol’, sef  Heddlu Gwent, Gwasanaeth Tân De Cymru, y Bwrdd Iechyd Lleol ac adrannau Cyngor Sir Fynwy,  sef Adran Iechyd Amgylcheddol, Gwasanaethau Cymdeithasol, Cynllunio, Trwyddedu a’r Adran  Safonau Masnach.

 

Nid oedd unrhyw ymgyngoreion statudol wedi cyflwyno sylwadau. 

 

Gosodwyd hysbyseb mewn papur-newydd yn yr ardal ynghyd ag ar y safle er mwyn caniatáu busnesau a thrigolion  i wneud sylwadau.

 

Hysbysebwyd y cais ar wefan y Cyngor gyda manylion yngl?n â sut yr oedd pobl yn medru cyflwyno sylwadau.

 

Derbyniwyd sylwadau gan y cyhoedd. O ganlyniad i’r sylwadau yma, roedd yr Adran Drwyddedu wedi cymedroli gyda’r ymgeisydd.  

 

Ar 13eg Awst 2021, roedd yr ymgeisydd wedi e-bostio’r Awdurdod Trwyddedu er mwyn cadarnhau eu bod am ddiwygio’r cais gwreiddiol er mwyn newid yr oriau ar gyfer gwerthu alcohol o 10.00am tan 23.00pm i 12.00pm tan 17.00pm yn sgil y gwrthwynebiad a nodwyd.   

 

Mae’r Pwyllgor yn nodi fod newid yr oriau yma hefyd yn mynd i newid yr oriau  ar gyfer cerddoriaeth fyw os caiff y drwydded ei chaniatáu. Byddai hyn yn golygu bod modd caniatáu cerddoriaeth uwch/fyw rhwng  12.00 a 17.00, a hynny heb yr angen am drwydded bellach.

 

O ganlyniad i’r cais diwygiedig, roedd yr Adran Drwyddedu wedi hysbysu’r cyhoedd o’r oriau arfaethedig newydd. Roedd Adran Drwyddedu wedi gofyn i’r gwrthwynebwyr a oeddynt am barhau gyda’u gwrthwynebiad yn sgil y newid a wnaed i’r oriau ar gyfer gwerthu alcohol.

 

Roedd 14 gwrthwynebydd am barhau gyda’u gwrthwynebiad ac mae eu gwrthwynebiad wedi ei grynhoi ym mharagraff  3.10 o’r adroddiad hwn.

 

Mae’r Pwyllgor wedi ystyried y sylwadau yn llawn yn Atodiad E.

 

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi nodi’r gefnogaeth tuag at roi trwydded i’r safle sydd i’w gweld yn Atodiad F.

 

Mae’r Pwyllgor yn deall fod y sylwadau a wnaed o dan Ddeddf Trwyddedu 2003 yn gorfod cael eu gwneud o dan y pedwar amcan Trwyddedu:

 

·         Atal trosedd ac anhrefn;

·         Diogelwch cyhoeddus;

·         Atal niwsans cyhoeddus; ac

·         Atal plant rhag niwed.

 

Mae’r Pwyllgor wedi ystyried Canllaw Diwygiedig y Swyddfa Gartref a gyhoeddwyd o dan adran 182 o Ddeddf Trwyddedu 2003.

Yn benodol, mae’r Pwyllgor wedi ystyried Adrannau  2.1 – 2.32 o’r canllaw o ran yr Amcanion Trwyddedu ar gyfer gwrandawiad heddiw.  

 

Mae’r Pwyllgor yn nodi fod adran 9.4 o’r Canllaw, lle y mae’r Ysgrifennydd Gwladol yn argymell bod sylw ond yn “berthnasol” os yw’n ymwneud gyda’r effaith debygol o  ganiatáu’r drwydded ar hyrwyddo o leiaf un o’r amcanion trwyddedu.

 

Mae’r Pwyllgor wedi ystyried Datganiad Polisi 2015 Cyngor Sir Fynwy, ac yn benodol:

 

Atal Niwsans fel sydd wedi ei amlinellu yn Adran 11 -

Mae’r Pwyllgor yn cydnabod fod y safleoedd trwyddedig yn meddu ar botensial sylweddol i gael effaith adweithiol ar bobl sydd yn byw’n gyfagos a thu hwnt, a hynny yn sgil niwsans cyhoeddus.   

Mae’r Awdurdod Trwyddedu yn dehongli ‘niwsans cyhoeddus’ yn ei ffurf ehangaf, ac yn cynnwys pethau fel s?n, golau, arogl, sbwriel ac ymddygiad gwrthgymdeithasol, pan fydd y rhain yn effeithio ar y rhai sydd yn byw, gweithio neu'n cymryd rhan mewn gweithgareddau bob dydd mewn ardal sydd yn agos i’r safle trwyddedig.

 

Mae’r Pwyllgor yn ystyried bod yr ymgeisydd wedi dangos fod mesurau addas a digonol wedi eu nodi ac i’w gweithredu a’u cynnal er mwyn atal niwsans cyhoeddus a’n sicrhau bod y cyhoedd yn ddiogel, yn ogystal ag atal trosedd ac anhrefn a diogelu plant rhag niwed.  

 

Mae’r Pwyllgor yn cydnabod fod y rheolaeth sydd gan ddeiliad y drwydded dros y sawl sydd yng nghyffiniau’r safle yn lleihau wrth iddynt symud i ffwrdd o’r safle, ac mae unigolion sydd yn  euog o ymddygiad gwrthgymdeithasol yn uniongyrchol gyfrifol am hynny.  

 

Polisi ar Ddiogelwch y Cyhoedd fel sydd wedi ei amlinellu yn Adran 12.

 

Mae’r ymgeisydd wedi  medru mynd i’r afael gyda phryderon am ddiogelwch y cyhoedd fel rhan o’r amodau sydd wedi eu hatodi i’r drwydded.   

 

Mae’r Pwyllgor wedi ystyried yn ofalus  y ddogfennaeth  sydd wedi ei darparu gan yr ymgeisydd sydd yn dangos ei fod yn medru cwrdd â’r Amcanion Trwyddedu ac mae wedi ei amlygu yn yr amodau sydd i’w hatodi at y drwydded. 

 

Mae’r Pwyllgor yn cyfeirio at ddeddfwriaeth fod cais yn cael ei ystyried yn unol ag Adran 18 o Ddeddf Trwyddedu 2003.

 

Mae’r Pwyllgor wedi ystyried Canllaw Diwygiedig y Swyddfa Gartref ynghyd â Datganiad Polisi 2015 Cyngor Sir Fynwy.

 

Mae’r Pwyllgor wedi ystyried yr adroddiad a baratowyd gan  Taylor Watts, Swyddog Trwyddedu a’r dogfennau sydd wedi eu hatodi a’r dystiolaeth lafar a gyflwynwyd i’r Pwyllgor.   

 

Mae dyletswydd gan yr Awdurdod Drwyddedu o dan y Ddeddf i ymgymryd  â’i swyddogaethau mewn modd sydd yn hyrwyddo ei amcanion trwyddedu.  Mae’r amcanion trwyddedu sy’n ymwneud gyda’r cais yma fel a ganlyn:

 

·         Atal trosedd ac anhrefn;

·         Diogelwch cyhoeddus;

·         Atal niwsans cyhoeddus; ac

·         Atal plant rhag niwed.

 

Mae’r Pwyllgor wedi ystyried y wybodaeth sydd wedi ei darparu gan yr ymgeisydd o fewn yr adroddiad ac wedi nodi’r sylwadau gan yr ymgeisydd yn y cyfarfod heddiw.  

 

Mae’r Pwyllgor wedi cael gofyn y cwestiynau y maent yn teimlo sydd yn berthnasol.  

 

Mae’r Pwyllgor wedi ystyried y gwrthwynebiad a wnaed yn Atodiad E yn llawn ac mae’r sylwadau sydd wedi eu cyflwyno yn y gwrandawiad heddiw wedi eu hystyried yn ddifrifol ynghyd â’r ymdeimlad o fewn y gymuned.  

 

Yn benodol, roedd y Pwyllgor wedi ystyried materion yn ymwneud gyda gwerthu  alcohol yn newid natur yr ardal, y potensial ar gyfer ymddygiad gwrth-gymdeithasol, llygredd s?n, y risgiau posib i blant mewn amgylchedd lle y mae alcohol yn cael ei yfed, pryderon am y potensial ar gyfer mwy o draffig a diogelwch y ffyrdd a sbwriel.  

 

Mae’r Pwyllgor hefyd wedi medru gofyn unrhyw gwestiynau y maent  yn teimlo sydd yn berthnasol i’w penderfyniad.  

 

Wrth ddod i benderfyniad, mae’r Pwyllgor wedi ystyried y canlynol fel materion allweddol:

 

           Yr oriau trwyddedig rhwng 12pm a 5pm a ystyriwyd fel rhai cyfyngedig. 

           Mae yna fesurau digonol yn eu lle er mwyn cwrdd â’r amcanion trwyddedu. 

 

Mae’r Pwyllgor wedi ystyried yr holl faterion uchod, y ddeddfwriaeth a’r canllawiau  perthnasol ac amgylchiadau perthnasol y cais.

 

Ar sail yr hyn a gafodd ei ystyried gan y Pwyllgor, nid oedd yna resymau trwyddedu i wrthod caniatáu trwydded. Roedd y Pwyllgor wedi cytuno i ganiatáu trwydded i’r ymgeisydd. 

 

Pe bai unrhyw bryderon a fynegwyd gan y gwrthwynebwyr yn dod i’r amlwg ar y safle ar ôl iddynt dderbyn y drwydded, roedd y Pwyllgor wedi nod fod yna broses adolygu y mae modd ei defnyddio.  

 

Mae modd apelio yn erbyn y penderfyniad hwn o fewn 21 diwrnod ar ôl derbyn y penderfyniad.  

 

Bydd yr ymgeisydd yn derbyn cadarnhad ysgrifenedig o’r penderfyniad yma o fewn 5 diwrnod.

 

 

 

Dogfennau ategol: