Agenda item

Yn ystyried Datganiad Uchelgais Economïau’r Dyfodol a’r cyswllt gyda’r darlun rhanbarthol gyda chyfeiriad lleol (adroddiad i ddilyn).

Cofnodion:

Cyflwynodd Cath Fallon a Hannah Jones yr adroddiad gyda chyfraniadau ychwanegol gan Sara Jones, Aelod o’r Cabinet ac atebodd gwestiynau aelodau gyda Frances O’Brien a James Woodcock.

 

Her:

Sut ydyn ni’n annog busnesau i ddod i’r sir o’r tu allan, pan nad oes gennym unrhyw safleoedd yn barod eto? Mae safleoedd oedd wedi eu clustnodi’n flaenorol ar gyfer B1/B2 yn awr wedi cael caniatâd am ddefnydd preswyl – oes yna ddim gostyngiad yn y sefyllfaoedd sydd ar gael felly? A fydd busnesau felly’n cael eu denu i leoedd yn Ne Ddwyrain Cymru fel Casnewydd, gan arwain at i weithwyr fyw yn Sir Fynwy ond gweithio y tu allan i’r sir?

 

Mae ein cydweithwyr yn yr adran Cynllunio yn galw am hyn o bryd ar gyfer safleoedd ymgeisiol. Bu problemau gyda’r galw yn y gorffennol, a dyna pam yr aeth peth tir diwydiannol ar gyfer tai. Ond yn ddiweddar, mae rhai safleoedd oedd dan glo am dipyn yn dechrau ailagor. Bu nifer ohonom, yn cynnwys y Prif Weithredwr, mewn trafodaethau gyda busnesau sy’n dymuno dod i Sir Fynwy ar y safleoedd hynny, sy’n galonogol iawn.

 

Wrth ddelio gydag ymholiadau fel y cyrhaeddant, rydym yn gwneud chwiliadau pwrpasol gyda’n hasiantau lleol i sicrhau ein bod yn darparu’r eiddo cywir ar gyfer y busnes cywir. Fodd bynnag, rydym mewn sefyllfa gyda’n busnesau cynhenid (yn arbennig yng ngogledd y sir) sy’n dod yn gyfyngedig o ran safleoedd. Rydym yn gwneud llawer o waith gyda nhw ar sail unigol ar hyn o bryd i weld sut y gallent ehangu yn lleol – gan eu rhoi mewn cysylltiad gyda Cynllunio – neu edrych ar safleoedd eraill posibl. Mae hyn ar sail dydd-i-ddydd. Mae’n gynnig lleol pwrpasol a rydym yn canfod fod busnesau yn gwerthfawrogi ac yn manteisio o’r gwasanaeth hwnnw. Gall ymholiadau mewnfuddsoddi naill ai ddod yn uniongyrchol gan fusnesau, neu yn fwy aml, drwy Lywodraeth Cymru. Anelwn ddeall anghenion y busnes yn nhermau safle ac unrhyw ymholiadau eraill sydd ganddynt wrth iddynt ystyried adleoli posibl. Mae dynodi safleoedd yn rhan allweddol o hynny ond hefyd ddeall sgiliau posibl neu anghenion staff y dyfodol, ac unrhyw gymorth y gallwn ni neu sefydliadau partner ei roi. Mae cyllid hefyd yn faes sy’n ysgogi nifer o ymholiadau, yn nhermau cyllid grant neu’r buddsoddiad sydd ar gael, yn arbennig o’r sector cyhoeddus. Rydym yn cefnogi ymholiadau ym mhob un o’r meysydd hynny ac yn eu cysylltu gyda sefydliadau eraill a all roi cymorth. Caiff yr ymholiadau a gawn gan Lywodraeth Cymru yn aml eu rhannu gyda nifer o awdurdodau; gall sefydliad edrych ar nifer o opsiynau wrth iddynt geisio adleoli.  Weithiau gallwn gael adborth ar y penderfyniad a wnaeth sefydliad wrth ddewis eu lleoliad. Yn anffodus, serch hynny, weithiau nid yw’n bosibl deall y rhesymau tu ôl  benderfyniad terfynol busnes am eu dewis o leoliad.

 

Yn nhermau mewnfuddsoddiad, a sut mae hynny’n gweithio ar draws y rhanbarth, mae gan Brifddinas-Ranbarth Caerdydd rôl allweddol wrth geisio cefnogi a chydlynu cyfleoedd mewnfuddsoddiad a sgyrsiau. Maent hefyd yn cysylltu gyda Llywodraeth Cymru yn nhermau eu timau mewnfuddsoddi tramor a gweithio i ddynodi lle mae busnes yn dymuno glanio o fewn Cymru, a dynodi safleoedd posibl. Os yw mewnfuddsoddwr yn dod i’r rhanbarth, byddant yn cysylltu â ni os ydynt yn edrych am safleoedd neu leoliadau penodol y credant allai fod yn addas, yn seiliedig ar ofynion y cwmni hwnnw. Gall fod yn eithaf heriol i ni ar lefel leol i ddylanwadu ar yr hyn sy’n digwydd ar raddfa genedlaethol a byd-eang. Mae ceisio sicrhau ein bod yn gweithio gyda’r adrannau perthnasol hynny o fewn Llywodraeth Cymru yn allweddol i ni yn nhermau meithrin y cysylltiadau hynny fel eu bod yn deall  pa gyfleoedd sydd gennym yn Sir Fynwy, ac aros ar eu radar. Rydym yn cwrdd cydweithwyr yn y tîm economaidd rhanbarthol yn Llywodraeth Cymru a byddwn yn mynd drwy eu huchelgeisiau a’n cynlluniau gyda nhw yng nghyswllt yr economi a sut mae hynny’n cysylltu gyda beth ydyn ni a’r hyn y gallan nhw fod yn ei wneud.

 

Yng nghyswllt Nod 3 a phrentisiaethau, dim ond 16 prentisiaeth sydd gennym yng Nghyngor Sir Fynwy, 1 graddiwr marchnata, dim internau a rhai gweithwyr ychwanegol yn Kickstart, ond dim ond am gyfnod cyfyngedig. a allwch esbonio hynny?

 

Rydym yn gweithio’n barhaus gyda rheolwyr ar draws cyfarwyddiaethau i edrych ar gyfleoedd newydd. Mae mwy o raddedigion na hynny. Mae lleoliadau Kickstart yn rhai tymor byr ond rydym yn gweithio gyda rheolwyr i gynllunio olyniaeth. Mae calibr prentisiaid ac ymgeiswyr Kickstart a ddaw drwy’r awdurdod ar hyn o bryd yn rhagorol. Mae dau o raddedigion yn ein tîm sydd ar y llwybr hwnnw. Mae’n ddechrau taith gan fod awydd am fwy o brentisiaethau ac edrych mwy ar raddedigion, p’un ai yw hynny’n ymuno gyda chynllun graddedigion Prifddinas-Ranbarth Caerdydd neu’n edrych ar gyfleoedd sy’n fwy allanol. Hoffem ddod yn ôl gyda’r ffigurau diweddaraf a manylion blaengynllunio.

 

Ydyn ni’n creu safleoedd strategol neu ydyn ni’n aros am i safleoedd ymgeisiol ddod i mewn? Ydyn ni’n ceisio darbwyllo pobl sy’n cyflwyno safleoedd ymgeisiol i’w defnyddio ar gyfer dibenion heblaw’r rhai nag oeddent wedi ragweld yn y dechrau?

 

Rydyn ni a’n cydweithwyr Cynllunio wedi cynnal cyfarfodydd brecwast lle gwnaethom annog perchnogion safleoedd strategol i ddod ymlaen ac esbonio iddynt lle’r ydym eisiau mynd yn nhermau ein twf economaidd a chynllun uchelgeisiol. Maent wedi eistedd i lawr gyda Cynllunio ac edrych ar safleoedd y maent yn berchen arnynt. Gwnaed hynny cyn-Covid; mae’n allweddol, a rydym yn edrych ar wneud hyn eto cyn gynted ag sy’n bosibl. Byddwn yn gwneud galwad arall ar gyfer safleoedd ymgeisiol ar ôl i’r cyngor llawn ystyried y strategaeth a ffafrir ar 24 Mehefin. Rydym yn annog unrhyw un sydd â chysylltiadau neu rwydweithiau o berchnogion tir neu bobl  a allai fod â diddordeb mewn cyflwyno safle ymgeisiol, dywedwch wrthynt am wneud hynny -

mae busnesau yn aml heb fod yn gwybod fod angen iddynt ddod ymlaen drwy’r broses honno. Bydd y ffenestr cyfle i gyflwyno safleoedd yn agor ar 5 Gorffennaf, gan redeg hyd ddechrau mis Awst.

 

Yng nghyswllt symudedd ar i mewn ac ar i allan o’r sir a llygredd, efallai y gallai’r ffocws fod ar ymagwedd ehangach at gyflogadwyedd.

 

Ie, rydyn ni wedi sylwi fod pobl wedi dysgu mwynhau mwy ar eu hamgylchedd pan fuont gartref ac maent wedi dechrau siopa yn fwy lleol. Felly, er y cafodd canol dinasoedd eu taro’n galed, rydyn ni’n dechrau gweld yr egni hwnnw yn dod i’n trefi marchnad – er fod pryderon fod angen i ni eu hystyried yn rhai ohonynt. Mae o fudd mawr ein bod yn awr yn gweithio’n fwy agos gyda chydweithwyr yn yr adran Cynllunio. Rydym ar yr un dudalen ac mae ganddynt yr un uchelgais.

 

Mae cronfa dalentog o graddedigion o’n cwmpas yn dod o’r prifddinasoedd – efallai y gallem danlinellu hynny i safleoedd a gweithwyr yn y sir?

Gobeithiwn yr aiff ein Prosbectws beth o’r ffordd tuag at werthu ein cynnig, yn nhermau ansawdd y graddedigion sydd gennym yn y sir.

 

Rydym yn esgeuluso agwedd Hinsawdd y cynllun, ac mae angen i ni wneud mwy o’r uchelgais sero net. Mae’r bobl yr ydym eu heisiau yn y sir – y 30% sy’n gweithio gartref – mae hynny’n bwysig iddyn nhw.

 

Yn nhermau cynnydd yr awdurdod ar y cynllun gweithredu argyfwng hinsawdd, mae adroddiad yn dod i’r cyngor llawn y mis hwn, neu ym mis Gorffennaf, a rydym hefyd eisiau ailosod ac adolygu’r cynllun gweithredu a’r strategaeth honno; gallwn wedyn ddod ag ef i aelodau ei adolygu yn ddiweddarach eleni. Mae’n bwynt dilys fod angen i’r holl strategaethau a dogfennau alinio gyda’r argyfwng hinsawdd a’r uchelgais. Byddwn yn mynd â hwnnw i ffwrdd fel cam gweithredu o gyfarfod heddiw.

 

Mae gofodau cydweithio yn wych; mae pobl yn cael eu denu atynt gan yr estheteg a’r teimlad, nid dim ond y cyfle i ryngweithio gydag eraill – felly mae angen i ni fod yn ofalus am ymgorffori hynny.

 

Ie, rydym yn deall ei fod am y ‘naws’ a phethau fel y coffi sydd ar gael – fe wnaeth ein hymchwil dechreuol gadarnhau hyn. Caiff ei adeiladu i mewn wrth i ni symud ymlaen e.e. yn ein cynigion ar gyfer cronfa ‘codi’r gwastad’. Mae angen i ni sicrhau ei fod yn amgylchedd brafiach i bobl na bod gartref, fel arall fyddan nhw ddim yn dod.

 

Yng nghyswllt yr ap, mae unrhyw system llesiant sy’n gweithio yn seiliedig ar wrando, yn hytrach na dweud. Mae angen i ap felly fod yn 50% yn gofyn beth mae pobl ifanc ei angen.

 

Rydym yn ymgynghori gyda’n pobl ifanc, oedolion a rhanddeiliaid ar hyn o bryd am ein gwasanaethau a’r hyn a gynigiwn. Rydym yn awyddus i weithredu’r pwynt hwn am ofyn i ddefnyddwyr ddweud wrthym beth maent ei eisiau.

 

Rydym wedi trafod yr uchelgais o’r blaen a rydym yn eu cefnogi’n llwyr, ond mae angen i ni weld mwy o fanylion. Nid yw’n ymddangos fod dull adrodd yn ôl i’r pwyllgor hwn yn ymwneud â chyflenwi.

 

Mae angen i ni ddangos ein bod yn symud ymlaen gyda’n huchelgais. Rydym wedi cwblhau ein cynlluniau gwasanaeth, sy’n rhan o’r fframwaith perfformio ehangach. Byddwn yn hapus i hysbysu’r pwyllgor am y cynnydd ar hyn mewn cyfarfod yn y dyfodol, efallai tuag at ddiwedd y flwyddyn.

 

A yw’r sefydliadau addysgol a busnesau yn siarad gyda’i gilydd i benderfynu pa sgiliau a chymwysterau mae’r busnesau eu hangen ac os yw’r colegau a’r prifysgolion mewn gwirionedd yn darparu’r hyn mae busnesau ei angen?

 

Ydynt, maent yn siarad gyda’i gilydd. Nid yw’n digwydd ar lefel awdurdod lleol ond mae’n cael ei dasgio gan y Bwrdd Sgiliau Rhanbarthol a’r Prifddinas-Ranbarth Caerdydd. Mae meysydd sector sydd â chyfarfodydd gr?p clwstwr e.e. Uwch Ddeunyddiau a Gweithgynhyrchu. O fewn y cyfarfodydd clwstwr hynny mae casglu gwybodaeth gan y cyflogwyr hynny am eu heriau sgiliau yn y meysydd hynny. Roeddem ar alwad yr wythnos yma yn edrych ar logi mwy o brentisiaid gweithgynhyrchu. Sut maent yn dylanwadu ar hyfforddiant ôl-16: mae Llywodraeth Cymru yn darparu addysg uwch gyda llai o gyllid, yn hytrach nag addysg bellach, ond mae’r sgyrsiau hynny yn digwydd. Mae cefnogaeth arbennig gan gyflogwyr yn y meysydd sector hynny a cholegau addysg bellach ac addysg uwch. Maent i gyd yn cysylltu gyda Diwydiant Cymru ac mae’n rhan o waith Prifddinas-Ranbarth Caerdydd yn y dyfodol. Bu prentisiaethau uwch yno bob amser, ond mae angen pendant am fwy o hybu a chynnig y cyfleoedd hynny ar draws y deg awdurdod lleol.

 

Mae’n rhaid ei bod yn rhwystredig pan fo gan siroedd cyfagos safleoedd yn barod i fusnesau symud i mewn iddynt ar unwaith, pan mae’n ymddangos nad oes gennym ni lawer o gwbl.

 

Efallai fod y ffaith fod stoc gwag yn gyfyngedig yn dyst o ba mor ddeniadol yw Sir Fynwy fel lleoliad, ynghyd â thwf busnesau. Rydym yn gweithio’n agos gyda’r perchnogion tir i gyflwyno safleoedd newydd a defnyddio tir a ddyrannwyd ac mae ar gael o fewn y cynllun datblygu lleol.

 

A oes posibilrwydd y byddwn yn gweithio gyda siroedd ar draws y ffin i gynhyrchu mwy o gyfleoedd ar draws Sir Fynwy?

 

Mae Frances O’Brien yn aelod ac yn rhanddeiliad yn Western Gateway, sy’n ymestyn i Fryste, Caerfaddon ac ar draws de swydd Caerloyw. Mae Western Gateway wedi penodi Deloitte i gynnal adolygiad economaidd, sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd, lle maent yn dynodi lle gallai fod cyfleoedd strategol ar gyfer partneriaid ar draws y Western Gateway i weithio i wella allbynnau economaidd. Dydyn ni ddim wedi chwarae rôl sylweddol yn sgwrs Western Gateway hyd yma, ond rydyn ni (ynghyd â’r Arweinydd a’r Prif Weithredwr) yn cymryd rhan mewn gwneud hynny a nhw sy’n cynnal yr adolygiad yma.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

Cytunodd swyddogion i symud ymlaen â’r pwyntiau a wnaed am yr ap ac i newid y geiriau ‘Ymrwymo i ymdrechu i fod yn niwtral o ran carbon’ i ‘Ymrwymo i fod ...’ Byddant yn rhoi diweddariad i’r pwyllgor mewn cyfarfodydd yn y dyfodol, yn neilltuol am gynnydd gyda denu busnesau a safleoedd yn barod ar gyfer wneud hynny. Cytunwyd fod angen i bob strategaeth a dogfen fod yn gydnaws gyda’r argyfwng hinsawdd a’r uchelgais wrth ei wynebu; bydd swyddogion mynd â hynny i ffwrdd fel cam gweithredu o gyfarfod heddiw. Diolchodd Sara Jones, Aelod o’r Cabinet, i aelodau am y cwestiynau a chadarnhaodd bwysigrwydd adrodd i’r pwyllgor. Mewn cyfarfod yn y dyfodol hoffai’r pwyllgor weld manylion am y broses o weithio gyda pherchnogion tir i gyflwyno safleoedd newydd, a diweddariadau am hynny.

 

Yn ogystal â’r cwestiynau, gwnaeth aelodau y pwyntiau dilynol. Nododd y Cynghorydd Davies mai un o bryderon y pwyllgor yw paratoi: mae angen i’r flaenoriaeth fod ar roi ein hunain mewn sefyllfa flaenllaw fel ein bod yn barod ar gyfer cwmnïau pan maent yn dangos diddordeb mewn lleoli yma. Teimlai’r Cynghorydd Becker nad yw’r adroddiad yn esbonio llawer am yr ymagwedd at dwristiaeth, a bod datgysylltiad rhwng ein huchelgais a’r hyn a wneir ar lawr y gwlad mewn Hinsawdd, Twristiaeth a Thechnoleg y Dyfodol e.e. dymuniadau 5G. Nododd y Cyngor y bydd ein statws noswylio yn parhau os nad oes gennym safleoedd yn barod: mae’r ffigurau’n dangos faint o bobl sy’n gorfod mynd allan o’r sir i weithio, ond yn ôl i’r sir fyw, ac nad hynny yw’r trefniant a ddymunir.

 

Dogfennau ategol: