Cofnodion:
Rhoddodd Paula Webber, Cynghorydd Addysg Grefyddol, gyflwyniad i ddiweddaru pawb ar ddatblygiadau ers y cyfarfod blaenorol gan roi sylw i’r dilynol:
· Datblygu Cwricwlwm ac Asesiad: gwnaed rhai addasiadau yn dilyn derbyn ymatebion i’r ymgynghoriad. Mae’r Bil Cwricwlwm ac Asesu yn awr yn gyfraith. Mae’n rhaid i’r maes llafur a gytunwyd gennym roi ystyriaeth i’r Cwricwlwm i Gymru a maes dysgu a phrofiad Dyniaethau. Cylchredwyd y sleidiau’n amlinellu’r prif newidiadau.
· Dysgu Proffesiynol Cenedlaethol: Mae EAS wedi dechrau dysgu proffesiynol Uwch Arweinyddiaeth. bydd hyfforddiant Arweinyddiaeth Ganol yn dechrau ar ôl hanner tymor. Trefnwyd cyfarfodydd gyda Phenaethiaid Dyniaethau a Phenaethiaid Crefydd Gwerthoedd a Moeseg (RVE). Mae Paula ar gael i gwrdd gydag ysgolion yn y Sir, hefyd yr arweinwyr cwricwlwm o Rhwydwaith Dysgu Ysgolion ar gyfer datblygu cwricwlwm.
· Cyllid ar gyfer rhaglen o Ddysgu Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer RVE: Croesawyd y newyddion y rhoddwyd cyllid ar gyfer dysgu proffesiynol.
· Fframwaith cefnogi RVE – credir y cafodd y drafft ei gwblhau. Disgwyliwn hysbysiad am drefniadau ymgynghori.
· Ymgynghoriad Cymwysterau Cymru: nid oes diweddariad ar gael. Cyflwynwyd ymateb CYSAG a disgwylir y canlyniad.
· TGAU a Lefel A: cydnabyddir fod athrawon dan bwysau sylweddol wrth gynnal asesiadau ar y ddwy lefel.
· Rôl CYSAG mewn Monitro a Chefnogi RVE: Disgwylir canllawiau. Cytunwyd y dylai CYSAG drafod y cyfrifoldeb hwn ac yn y cyfamser gofynnwyd am fynediad i’r Hwb ar gyfer aelodau CYSAG sy’n dymuno cael mynediad i adnoddau.
· Estyn: Holwyd am ddulliau arolygu’r dyfodol a rôl CYSAG. Cytunwyd y dylid gofyn i CYSAG Cymru os oes cynlluniau i gwrdd gydag Estyn. Rhoddwyd diweddariad am newidiadau i arolygu oherwydd y pandemig ac i newidiadau yn y rheoliadau ar gyfer casglu a chofnodi data. Ni fydd arolygiadau yn cynnwys barn a rhoddir enghreifftiau yn y testun o safonau a welwyd. Bydd hunanarfarnu yn allweddol. Dylai CYSAG ei fodloni ei hun am reolaeth ysgolion wrth gyflwyno’r cwricwlwm yn RVE. Fel man cychwyn, byddwn yn gofyn am ddatganiad safle a hwyluswyd gan EAS [GWEITHREDU: SRS].
· Gweithgor Gweinidogol (cyfraniadau BAME, y gymuned a Cynefin yn y cwricwlwm newydd). Bydd y Cynghorydd Addysg Grefyddol yn canfod os oes dolen ar gael i’r recordiad. Mae Llywodraeth Cymru wedi derbyn 51 argymhelliad gyda £500,000 ar gyfer gweithredu yng Nghymru. Rhaid bod dull gweithredu ysgol gyfan a bydd RVE yn ffurfio rhan sylweddol. Mae angen i CYSAG drafod yr hyn y gall ei wneud i gefnogi ysgolion.
· Podlediadau Dyniaethau EAS: Mae detholiad ar gael yn gyfleus ar wefan EAS.
· Adnoddau ar gyfer ysgolion: Mae’r adnoddau a argymhellir ar gael i’r Rhwydwaith Rhyng-ffydd (DU). Dylid anfon y ddolen i ysgolion ond gall fod yn rhaid addasu’r cynnwys er mwyn cydymffurfio.
Gwnaeth Aelod o’r gr?p y pwyntiau dilynol:
· Gofynnwyd am y sleidiau cyflwyno.
· Yng nghyswllt BAME, dywedwyd nas ymgynghorwyd â Grwpiau Ffydd. Cytunwyd fod hwn yn bwynt pwysig. Holwyd os bydd ymgynghoriad tebyg gyda ffydd a chredo. Byddir yn codi’r pwynt hwn gyda CYSAG Cymru.
· Ar gyfer yr ymgynghoriad ar ddrafft fframwaith RVE, gofynnwyd am i ddolen gael ei chylchredeg at bob aelod.
· Yng nghyswllt ymgynghoriad Estyn a gylchredwyd yn ddiweddar, nodwyd y gwnaed sylwadau wrth brosesu’r Bil ac y nodwyd rhai camgymeriadau.
· Nid oes unrhyw newidiadau i arolygiad A50 o ysgolion ffydd.
· Mae gan EAS wefan “Cefnogi ein Hysgolion” y gellid ei ddefnyddio yn lle’r Hwb neu yn y cyfamser. Cadarnhawyd fod adran Dyniaethau gydag adran RVE gyda manylion pob CYSAG, rhai adnoddau a phodlediadau. Bwriedir ychwanegu rhestr chwarae RVE.
· Gofynnwyd am fanylion pellach am sylwadau ac argymhellion a gafodd eu bwydo yn ôl ac na symudwyd ymlaen â nhw. Cadarnhawyd y cafodd y sylwadau a’r argymhellion eu hystyried mewn proses drylwyr e.e. eu trafod gan y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc ac Addysg ac y bu pleidlais ar hyn yn y Senedd.
.
Diolchwyd i Paula am ei hadroddiad.