Agenda item

Diweddariad llafar ynglŷn â'r sefyllfa bresennol o ran Gwasanaethau i Oedolion mewn perthynas â phwysau Covid-19.

Cofnodion:

Siaradodd Eve Parkinson gyda'r aelodau.

Dechreuwyd cyflwyno Cyfarpar Diogelu Personol am y tro cyntaf ym mis Ebrill 2020. Rydym yn darparu tua 360,000 o ddarnau o Gyfarpar Diogelu Personol bob pythefnos - rydym yn darparu ar gyfer ein gwasanaethau ein hunain a'r sector annibynnol. Ar ddechrau'r mis hwn, cafodd Profion Llif Unffordd eu cynnwys yn y cyflenwad hwnnw; rydym wedi rhoi 3 mis o gyflenwad i bobl. Mae lleoliadau preswyl wedi bod yn faes heriol iawn. Rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda darparwyr, gan gynnal cyfarfodydd rheolaidd i fynd trwy ganllawiau a chynnig cefnogaeth. Rydym hefyd wedi darparu cymorth unigol, pan fo angen, gan gynnwys sut i hawlio drwy’r gronfa Caledi.

Rydym wedi gweithio'n agos iawn gyda chydweithwyr yn Iechyd yr Amgylchedd, y Bwrdd Iechyd ac Iechyd Cyhoeddus Cymru, gan gefnogi cartrefi ag achosion. Rhagfyr ac Ionawr oedd y misoedd gwaethaf ar gyfer hyn – mewn rhai achosion, nid oedd staff a oedd yn darparu cymorth yn mynd adref am rai wythnosau. Mae cyflwyno Profion Llif Unffordd yn golygu bod llawer o waith ychwanegol i'r cartrefi ei wneud. Rydym nawr yn cefnogi cartrefi gyda sut y byddant yn gweithredu'r cyhoeddiad diweddar y gall ymweliadau ailddechrau.

Bu darparu gofal cartref yn her, ar adegau. Rydym wedi cael prinder staff, oherwydd ynysu a gwarchod, ac ati. Mae'r sector annibynnol wedi tueddu i gael cyfnod o amser pan nad yw'n gallu bodloni eu galw; rydym wedi gorfod eu cefnogi, ond ar rai achlysuron prin, nid ydym ni wedi cael y gallu i wneud hynny, ac rydym wedi dod ag asiantaethau allanol i mewn. Yn gyffredinol, mae ein staff ar draws y sector wedi bod yn ‘ymarferol’.

Mae gwaith ail-alluogi wedi parhau trwy gydol y pandemig. Mae peth ohono wedi bod yn rhithwir.

Mae effaith y cyfyngiadau symud wedi bod yn sylweddol: mae pobl yn sôn am ddod yn ‘ddatgyflyredig’, lle maent wedi dod yn fwy bregus a dibynnol. Felly rydym wedi gweld cynnydd yn rhai o’r atgyfeiriadau. Mae gwaith cymdeithasol hefyd wedi parhau, gyda rhai ymweliadau wyneb yn wyneb a rhai rhithwir.

Diogelu: bu cynnydd mewn atgyfeiriadau mewn rhai meysydd, yn ymwneud â phobl dan straen mawr, trais domestig, iechyd meddwl, camddefnyddio alcohol, pwysau o ran darparu gofal, ac ati. Mae brechiadau wedi bod yn heriol iawn ar adegau: ni oedd yn gyfrifol am gyflwyno'r enwau staff rheng flaen ar draws y sectorau mewnol ac annibynnol, sef miloedd o enwau. Mae'r nifer sy'n manteisio ar frechiadau wedi bod yn dda iawn. Mae pob un o'n cartrefi wedi cael eu dogn cyntaf, gyda'r ail wedi’i archebu. 

Rydym wedi cael Chromebooks gan Lywodraeth Cymru, a roddwyd i ofalwyr ifanc fel y gallant weithio o bell a chysylltu â’i gilydd. Mae rhai wedi gweld gweithio o bell yn well mewn gwirionedd. Mae gwasanaethau dydd wedi parhau, ond yn wahanol, yn gwneud pethau’n fwy unigol. Pan nad ydym ar Lefel 4, rydym wedi parhau ag ymweliadau cartref yn ôl yr angen, tra rydym yn gwisgo'r holl Gyfarpar Diogelu Personol priodol.

Mae gofal seibiant wedi bod yn dipyn o her, yn enwedig o ran y gallu i fynd i rywle am gyfnod byr. Mae llawer o bobl wedi cael gofal seibiant yn eu cartref 24 awr. Rydym ni wedi defnyddio fflat yng Ngerddi Lafant fel canolfan seibiant i ychydig o bobl. Mae seibiant brys wedi bod yn heriol – nid o reidrwydd yn ymwneud ag argaeledd, ond am y ffaith, os yw pobl yn mynd i gael seibiant, mae'n rhaid iddynt fod wedi cael swab o fewn 48 awr, nad yw bob amser wedi bod yn hawdd cael gafael arno. Hefyd, os bydd rhywun yn mynd i leoliad preswyl i gael seibiant, mae’n rhaid iddo gael ei ynysu am 14 diwrnod, a all gael effaith fawr ar y person hwnnw, yn enwedig os nad yw’n llwyr ddeall  pam.

Crynodeb y Cadeirydd:

Nid oedd unrhyw gwestiynau. Diolchodd y Cynghorydd Penny Jones a’r pwyllgor i’r tîm am fynd gam ymhellach a thu hwnt yn eu gwaith caled, yn enwedig o ystyried yr heriau sylweddol a wynebwyd ganddynt.