Agenda item

Cyflwynwyd gan y Cynghorydd Sirol J. Watkins

Mae’r Cyngor hwn yn nodi:

a)     Ar lefel o dim ond £67.25 yr wythnos, y Lwfans Gofalwr yw'r budd-dal isaf o'i fath.

b)     Mewn ymateb i bandemig Covid-19, cynyddodd y Llywodraeth y lwfans safonol Credyd Cynhwysol ac elfen sylfaenol y Credyd Treth Gwaith £20 yr wythnos yn uwch na'r cynnydd arfaethedig ym mis Ebrill 2020, ond nid yw wedi cynyddu’r Lwfans Gofalwr.

c)     Mae llawer o ofalwyr di-dâl yn wynebu caledi ariannol eithafol.  Canfu arolwg diweddar gan Carers UK fod mwy na thraean o'r rhai sydd ar Lwfans Gofalwr yn ei chael hi'n anodd cael dau ben llinyn ynghyd.  Mae llawer wedi bod yn cael trafferth ers misoedd, gan ddibynnu'n aml ar fanciau bwyd i fwydo eu hunain a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt.     Canfu arolwg Carers UK y canlynol: "Teimlai 43% o ofalwyr y byddai cynnydd yn y Lwfans Gofalwr yn eu helpu, o ystyried y pwysau ariannol y maent yn eu hwynebu."

 

Mae’r Cyngor yn penderfynu’r canlynol:

a)     Bod rhaid i ni sefyll i fyny dros ofalwyr, gwneud mwy i'w cefnogi, ac adeiladu cymdeithas fwy gofalgar wrth i ni ddod allan o bandemig Covid-19.

 

Bod y Cyngor yn cyfarwyddo Arweinydd y Cyngor i:

a)     Ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Waith a Phensiynau, gan eu hannog i godi Lwfans Gofalwr gan £20 yr wythnos ar unwaith, yn unol â'r cynnydd mewn Credyd Cynhwysol.

b)     Mae'r Cyngor yn penderfynu rhoi gohebiaeth gyffredinol i ofalwyr di-dâl, sefydliadau'r trydydd sector a chynghorau cymunedol er mwyn annog gofalwyr i hawlio’r Lwfans Gofalwr.

 

 

Cofnodion:

Mae’r Cyngor yn nodi:

a) Yn £67.25 yr wythnos, y Lwfans Gofalwyr yw’r budd-dal isaf o’i fath. 

b) Mewn ymateb i’r pandemig Covid-19, roedd y Llywodraeth wedi cynyddu lwfans safonol y Credyd Cynhwysol ac elfen sylfaenol y Credyd Treth Gwaith  o £20 yr wythnos, a hynny’n uwch na’r hyn a bennwyd yn Ebrill  2020, ond nid yw wedi cynyddu’r Lwfans Gofalwyr. c) Mae llawer o ofalwyr di-dâl yn wynebu caledi ariannol eithafol. Roedd arolwg diweddar gan Carers UK wedi canfod fod mwy na thraean o’r rhai hynny ar Lwfans Gofalwyr yn cael trafferth cael dau ben llinyn ynghyd. Mae llawer wedi bod yn cael trafferth ymdopi ers misoedd, yn aml yn ddibynnol ar fanciau bwyd er mwyn bwydo eu hunain a’r bobl y maent yn gofalu amdanynt. Roedd arolwg  Carers UK wedi canfod fod “43% o ofalwyr yn teimlo y byddai cynnydd yn y Lwfans Gofalwyr yn eu helpu, yn enwedig o feddwl am y pwysau ariannol y maent yn wynebu.”

 

Mae’r Cyngor yn cynnig:

a) Rhaid i ni amddiffyn ein gofalwyr a gwneud mwy er mwyn eu cefnogi ac adeiladu cymdeithas mwy ofalgar wrth i ni ddod allan o’r pandemig  Covid-19.

 

Mae’r Cyngor yn rhoi cyfarwyddyd i’r Arweinydd y Cyngor i:

a) Ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys a’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Gwaith a Phensiynau, er mwyn eu hannog i gynyddu’r Lwfans Gofalwyr o £20 yr wythnos yn syth, a hynny’n unol gyda’r cynnydd yn y Credyd Cynhwysol.

b) Mae’r Cyngor yn mynd i ddanfon gohebiaeth gyffredinol i ofalwyr  di-dâl, mudiadau trydydd sector a chynghorau cymuned er mwyn annog gofalwyr i hawlio’r Lwfans Gofalwyr.  

 

Eiliwyd hyn gan y Cynghorydd   Anthony Easson.

 

Roedd y Cynghorydd Armand Watts wedi dweud y dylid diwygio’r cynnig, er mwyn cynnwys Rhan C fel sydd wedi ei nodi isod:

 

Mae’r Cyngor yn rhoi cyfarwyddyd i’r Arweinydd y Cyngor i:

a) Ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys a’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Gwaith a Phensiynau, er mwyn eu hannog i gynyddu’r Lwfans Gofalwyr o £20 yr wythnos yn syth, a hynny’n unol gyda’r cynnydd yn y Credyd Cynhwysol.

b) Mae’r Cyngor yn mynd i ddanfon gohebiaeth gyffredinol i ofalwyr  di-dâl, mudiadau trydydd sector a chynghorau cymuned er mwyn annog gofalwyr i hawlio’r Lwfans Gofalwyr.  

c) Dylid dileu’r trothwy o £128 ar gyfer enillion.

 

Roedd y newid hwn wedi ei eilio gan y Cynghorydd  Frances Taylor.

 

Awgrymwyd y dylid gosod ffigwr rhesymol ar gyfer y trothwy enillion yn y cynnig diwygiedig.  

 

Roedd y Cynghorydd    Kevin Williams wedi datgan buddiant na sy’n rhagfarnu.

 

Yn dilyn pleidlais,  pleidleisiwyd o blaid y cynnig diwygiedig.

 

Roedd yr Aelod Cabinet dros Ofal Cymdeithasol, Diogelu ac Iechyd wedi sôn nad oedd angen rhan b y cynnig  a dylid ei ddileu: b) Mae’r Cyngor yn mynd i ddanfon gohebiaeth gyffredinol i ofalwyr  di-dâl, mudiadau trydydd sector a chynghorau cymuned er mwyn annog gofalwyr i hawlio’r Lwfans Gofalwyr.

 

Esboniodd bod y ffurfiau o gyfathrebu a ddefnyddir ar hyn o bryd yn cynnwys cylchlythyr Gofalwyr Sir Fynwy ac mae hyn yn nodi’r holl bethau sydd yn fuddiol i ofalwyr a’u teuluoedd, Cyfryngau Cymdeithasol, galwadau fideo, boreau coffi rhithiol a chyfarfodydd hyb gofalwyr Gwent a grwpiau cymorth lleol.

 

Yn dilyn pleidlais,  pleidleisiwyd o blaid y newid i’r cynnig sylweddol.

 

Y cynnig sylweddol newydd:

 

Mae’r Cyngor yn cyfarwyddo Arweinydd y Cyngor i:

a) Ysgrifennu at Ganghellor y Trysorlys a’r Ysgrifennydd Gwladol ar gyfer Gwaith a Phensiynau, er mwyn eu hannog i gynyddu’r Lwfans Gofalwyr o £20 yr wythnos yn syth, a hynny’n unol gyda’r cynnydd yn y Credyd Cynhwysol. 

b) Dylid dileu’r trothwy o £128 ar gyfer enillion.

 

Yn dilyn pleidlais,  pleidleisiwyd o blaid y cynnig sylweddol.