Agenda item

Monitro Cyllideb: Craffu ar sefyllfa monitro cyfalaf a refeniw'r gyllideb ym Mis 7, gan osod y cyd-destun ar gyfer craffu ar gynigion cyllidebol.

Cofnodion:

Cyflwynodd Tyrone Stokes yr adroddiad ac atebodd gwestiynau’r aelodau gyda sylwadau ychwanegol gan Jonathan Davies a’r Aelod Cabinet Phil Murphy.

 

Mae’r rhagolygon Alldro yn dangos y diffyg arian yn cynyddu o £24k ym Mis 2 i £180k ym Mis 7 – a yw hyn yn bennaf yn sgil y pandemig?

 

Fel cyd-destun, mae tua £8m o gyllideb gennym ar gyfer y maes Oedolion, ac felly, mae’r gorwario yma yn fach iawn. Nid yw’r gorwario yn ymwneud gyda Covid ond mae i’w briodol i’r dyfarniad cyflog a roddwyd i staff ynghyd â methu cyrraedd y tared o sicrhau arbedion effeithlonrwydd  o 2% ar gyfer gweithrediadau’r rhengflaen.  Mae yna arbedion effeithlonrwydd  o 2% yn cael eu tynnu oddi ar gyllidebau’r cyflogau ond nid yw’r gwasanaethau rhengflaen yn medru cadw’r swyddi yn wag,  ac felly, nid ydynt yn medru gwneud yr arbedion o ran effeithlonrwydd. 

 

Mae yna orwariant o £69k ar gyfer Gofal Cymdeithasol, Iechyd a Diogelu, sydd yn bennaf yn sgil y gost gynyddol  o becynnau gofal – beth yw’r risg ar gyfer cartrefi gofal a’u cyflwr ariannol?

 

Mae’r farchnad o ran Gofal yn cael ei helpu’n sylweddol gan Gronfa Galedi Llywodraeth Cymru  sydd yn caniatáu ni i wneud taliadau i Gartrefi Gofal ar gyfer unrhyw welyau gwag sydd ganddynt ynghyd  â lwfans o £50 yr wythnos er mwyn eu helpu i ddelio ag effeithiau’r pandemig. Nid ydym yn gweld unrhyw risgiau ar hyn o bryd gan fod y Gronfa Galedi ar gael tan 30ain Mawrth. Nid ydym yn gwybod fodd bynnag pa fath o adnoddau y bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig wrth i ni ddod allan o’r pandemig - ni fyddwn yn medru mynd o’r pandemig i’r ‘normalrwydd newydd’ heb ryw fath o gyfnod pontio.

  

A oes modd cynnig mwy o fanylder yngl?n â’r gorwariant yn erbyn y tanwariant?

 

Mae’r portffolio Dethol Oedolion yn cynnwys y gyllideb Oedolion, sydd yn orwariant o £180k, ond mae yna danwariant o £4k ym maes Cymuned Gofal, tanwariant o £103k ym maes Comisiynu a £4k o danwariant ym maes Adnoddau a Pherfformiad. Mae’r tanwariant yn gyfanswm felly o £69k.

Beth yw’r rheswm dros y tanwariant ym maes Comisiynu?

 

Yn sgil y pandemig,  nid yw’n bosib ail-ddechrau nifer o gynlluniau e.e. gwasanaethau dydd gan fod pobl yn agos at ei gilydd mewn un adeilad; rydym wedi cynnig llawer o allgymorth i’r cleientiaid yma. Rydym wedi profi arbedion naturiol fel costau’r adeilad er enghraifft. At hyn, mae’r swydd fel Swyddog Comisiynu wedi bod yn wag am fwy na blwyddyn - rydym wedi  oedi’r cynlluniau ar gyfer recriwtio ac mae hyn wedi ychwanegu at y tanwariant. 

 

Nid yw canolfannau dydd ar agor fel cynt yn sgil y cyfnod clo. A oes unrhyw arbedion yn y maes hwn, a phan fydd y cyfnod clo yn dod i ben, a fydd y canolfannau yma dal yn gynaliadwy?

 

Bydd yr arbedion yno’r flwyddyn nesaf er mwyn helpu’r broses o ail-agor y canolfannau dydd, doed a ddelo’r ddarpariaeth y byddwn yn cynnig. 

 

O ran y costau cyfalaf ar gyfer Cartref Gofal Crick, a fydd hyn yn achosi unrhyw broblemau hirdymor? A yw’r amserlenni o ran y dyddiadau cau wedi eu hymestyn?

 

Mae Heol Crick yn bartneriaeth gydag Aneurin Bevan (AB) drwy gyfrwng cyllid Llywodraeth Cymru ac AB sydd yn ei gynnal. Rydym wedi ymgysylltu ag AB ac wedi derbyn cadarnhad gan Lywodraeth Cymru bod yr amserlenni wedi eu hymestyn a’r cyllid wedi symud hefyd, sydd yn golygu bod y prosiect yn ddiogel.

 

O ran y capasiti llai i gynnig gwasanaethau, a oes pecynnau sylweddol o ofal wedi eu rhoi yn ôl i’r awdurdod yn ystod y flwyddyn ddiwethaf?

 

Ar ddechrau’r pandemig, roeddem wedi gweld pecynnau yn cael eu dychwelyd neu cleientiaid yn gwrthod caniatáu gofalwyr i ddod i’w cartrefi. Pan ddaeth y cyfnod clo cyntaf i ben, dechreuodd y cleientiaid hynny ddychwelyd. Gydag ail don o ran y pandemig, nid yw’r un lefelau o becynnau gofal wedi eu dychwelyd.   Mae’r broses o reoli heintiau yn llawer gwell, ac rydym yn gwybod mwy am y feirws, Cyfarpar Diogelu Personol (PPE), ac mae rhaglen  frechu nawr hefyd. Ac mae pobl wedi cyfarwyddo gweithio mewn ffyrdd gwahanol e.e. gofalwyr yn cyrraedd gan wisgo PPE, a oedd yn sioc i bobl ar y dechrau!

 

Darparu Mesurau Diogelu Rhyddid – beth yw hanes yr arbedion yma o £100k?

 

Mae ‘Trefniadau Diogelu Wrth Amddifadu o Ryddid’ yn brosiect lle y mae tîm diogelu gennym ar y cyd gydag Aneurin Bevan ac awdurdodau eraill Gwent. Fel rhan o’r Cyfarwyddiad Cyfalafu, rydym yn medru cyfalafu peth o’r gwariant refeniw er mwyn helpu gyda’r gyda’r arian sydd gennym ar ôl. Un o’r elfennau yr ydym wedi penderfynu cyfalafu yw ein cyfraniad i’r tîm  ‘DOLS’.

 

Sawl aelod o staff a osodwyd ar  ffyrlo ar y dechrau a sawl aelod o staff sydd dal ar ffyrlo?

 

O ran Gofal Cymdeithasol, roedd staff a oedd yn gweithio mewn canolfannau dydd dal yn darparu gwasanaethau i gleientiaid,  ond mewn ffyrdd gwahanol, mwy o gymorth 1-1, e.e. dros y ffôn. Mae rhai o’n staff prydau bwyd yn y gymuned ar ffyrlo ond ychydig iawn sydd wedi eu heffeithio. Mae ond mod gosod staff ar ffyrlo mewn adrannau sydd yn creu incwm ac mae hyn yn cyfyngu’r nifer y mae modd eu gosod ar ffyrlo. 

 

Dogfennau ategol: