Cofnodion:
Ystyriwyd adroddiad y cais a argymhellwyd i’w gymeradwyo yn destun i’r 10 amod a amlinellir yn yr adroddiad.
Mynychodd yr Aelod lleol dros Lanbadog y cyfarfod ar wahoddiad y Cadeirydd ac amlinellodd y pwyntiau dilynol:
Ar ôl ystyried adroddiad y cais a’r farn a fynegwyd, nodwyd y pwyntiau dilynol:
· Mae ffermwyr lleol wedi mynegi pryder am y cynnig a sut y byddant yn ymdopi pan fydd y llwybr seiclo yn weithredol. Mae angen trafod gyda’r ffermwr tenant.
· Hysbysodd Rheolwr Tîm Ardal Datblygu Rheoli y Pwyllgor fod mater rhwymedigaeth yn disgyn tu allan i’r broses Cynllunio. Byddai angen cyfeirio unrhyw bryderon a godid at y Rheolwr Prosiect ar gyfer y cais. Daw ymgysylltu gyda’r ffermwr a phreswylwyr lleol o fewn amodau a byddai’n briodol cynnal ymgynghoriad am y mannau lloches ac archwiliadau diogelwch, yn ogystal â’r cynigion sgrinio ger y ddau gymydog a ddynodwyd. Rhagwelid y gellid sicrhau datrysiad rhesymol drwy amodau.
Cynigiodd y Cynghorydd Sir G. Howard ac eiliodd y Cynghorydd Sir M. Feakins i gymeradwyo cais DM/2018/00757 gyda’r 10 amod a amlinellir yn yr adroddiad. Byddir yn gofyn i’r Rheolwr Prosiect gydlynu gyda’r ffermwyr tenant ar hyd y llwybr i helpu rhoi manylion y cynllun fel mae’n effeithio ar ddefnydd y fferm.
Pan roddwyd y cynnig i bleidlais, cofnodwyd y pleidleisiau dilynol:
O blaid cymeradwyo - 14
Yn erbyn cymeradwyo - 0
Ymatal - 0
Cariwyd y cynnig.
Penderfynwyd cymeradwyo cais DM/2018/00757 yn destun i’r 10 amod a amlinellir yn yr adroddiad. Byddir yn gofyn i’r Rheolwr Prosiect gydlynu gyda ffermwyr tenant sy’n defnyddio’r tir ar hyd y llwybr i helpu rhoi manylion y cynllun fel mae’n effeithio ar ddefnydd fferm.
Dogfennau ategol: