Agenda item

Strategaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol

Y wybodaeth ddiweddaraf ar gynnydd o ran cyflawni'r strategaeth.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y swyddogion Will Mclean, Jacquelyn Elias, Morwenna Wagstaff a Lucie Doyle yr adroddiad a bu iddynt ateb cwestiynau’r aelodau.

 

Her:

 

Pa gefnogaeth a fydd yn cael ei roi i athrawon er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yma, yn ogystal â’r athrawon, yn cael eu plethu’n ddi-dor i mewn i’r ysgolion.

 

Ar hyn o bryd, rydym yn eu galw’n Ganolfannau Adnoddau ‘Anghenion Arbennig’ (CAAA), ond bydd y term yma’n newid – rydym yn gobeithio ail-frandio ein darpariaeth arbenigol. Mae’n rhaid i ysgolion sy’n lletya ein darpariaeth adnoddau weithio mewn partneriaeth â’r awdurdod lleol. Mae ein Rhwydwaith Anghenion Arbennig Proffesiynol yn ffrwd bwysig iawn o ran datblygu ein perthnasau/cyd-ddibyniaethau. Mae’r ysgolion yma’n darparu addysg arbenigol ar gyfer ein plant sydd fwyaf agored i niwed; felly, mae angen i ni gael sicrwydd ansawdd mai dyma’r addysg orau y gall y plant yma ei dderbyn a sicrwydd bod y staff yn cael eu cefnogi’n ddigonol drwy hyfforddiant a mentrau eraill. Mae diwylliant ac ethos yr ysgolion yn eithriadol bwysig. Mae’n berthynas allweddol sy’n tyfu, ac yn un sy’n bositif iawn. Mae gennym dros 150 o leoedd yn barod ar draws yr awdurdod, a phwysig iawn yw sicrhau bod cysondeb o ran arferion a’n gweledigaeth o ran yr hyn yr ydym eisiau gan y canolfannau adnoddau. Rydym yn gyrru tuag at Ganolfannau Rhagoriaeth o ran ADY; dim ond drwy weithio mewn partneriaeth y bydd hyn yn cael ei gyflawni.

 

Mae dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg wedi tyfu yn Sir Fynwy. A oes gennym unrhyw therapyddion iaith sy’n siarad Cymraeg?

 

Mae’r nifer y gweithwyr proffesiynol sy’n siarad Cymraeg yn Ne Ddwyrain Cymru’n broblem barhaus. Mae sut y mae mynd i’r afael â hyn yn bwnc trafod yn ein consortia. Er enghraifft, ar hyn o bryd, nid oes gennym unrhyw seicolegwyr addysg sy’n siarad Cymraeg, ond gwyddom fod rhai ym Mlaenau Gwent. Rydym yn edrych ar ddefnyddio adnodd gwreiddiol i lenwi’r bwlch wrth i ni fod yn rhagweithiol o ran chwilio am gydweithwyr i ddysgu Cymraeg, neu recriwtio rhai sy’n siarad Cymraeg yn barod. Ar hyn o bryd mae un Therapydd Iaith sy’n siarad Cymraeg o fewn Aneurin Bevan. Byddwn yn parhau i ystyried hyn yn flaenoriaeth drwy ein WESP.

 

Ai y bwriad cadw’r ddarpariaeth ychwanegol arfaethedig ar gyfer Deri View yno unwaith y bydd Deri View wedi cau, a symud i safle’r ysgol uwchradd yn y Fenni, ac adeiladu ysgol Cyfrwng Gymraeg ar y safle?

 

Ein gobaith yw y bydd modd i ni greu cyfleuster CAAA a fydd yn derbyn plant rhwng 3 a 19 oed, gan ddarparu cymorth parhaus. Nid wyf yn rhagweld y bydd CAAA cyfrwng Saesneg yn aros ar safle Deri View. Rydym yn edrych ar ddarpariaeth newydd a fydd yn gwella’r capasiti yn Sir Fynwy. Ar hyn o bryd, yn y gogledd, rydym yn cychwyn gwaith gyda’n rhieni a’n hysgolion ar ddealltwriaeth y dylai addysg barhau o’r amser y mae plant yn cychwyn yn Overmonnow hyd at Ysgol Uwchradd Trefynwy. Yn yr un modd yn ne y sir rhwng Pembroke a Chil-y-coed. Mae’n rhoi cyfle gwych i ni yn y Fenni i wneud hynny ar un safle.

Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn dangos cyfrifoldebau amlwg o’r cryd hyd at 24 oed. Sut y gellir gwneud y newid o’r ysgol i fywyd oedolyn yn un esmwyth?

 

O ran darpariaeth blynyddoedd cynnar, rydym mewn sefyllfa gref o ran diwygio ADY am fod seicolegwyr blynyddoedd cynnar penodol wedi gweithio i ni ers sawl blwyddyn bellach. Mae’r broses o ran cefnogi plant cyn oed ysgol wedi bod yn ei lle ers peth amser. Rhoddir cefnogaeth eithaf cadarn gan dim ADY blynyddoedd cynnar ehangach yr awdurdod lleol. Mae ôl-16 yn her newydd i Sir Fynwy. Hyd yma, plant hyd at 19 oed gyda datganiad oedd y cylch gorchwyl. Mae llawer o waith wedi ei wneud ar hyn yn ddiweddar. Y dydd Gwener yma, byddwn yn cynnal ein gr?p llywio cyntaf ar gyfer trawsnewid ôl-16. Rydym yn treialu’r protocol trawsnewid, a dreialwyd yn Nhorfaen cyn hyn, yn Ysgol Uwchradd Trefynwy eleni, yn y gobaith y bydd gennym ddealltwriaeth leol o’r angen ym mis Medi. Rydym wedi addasu’r protocol er mwyn diwallu anghenion cynhwysfawr Sir Fynwy, a’r cysylltiadau rheiny gyda cholegau a lleoliadau gwaith er mwyn bod mewn gwell sefyllfa o ran cefnogi plant sydd ag ADY, a phobl ifanc ar ôl iddynt adael yr ysgol. Mae mwy o bwyslais ar blant nad oes ganddynt, o angenrheidrwydd, ddatganiad SEN ar hyn o bryd – y nod yw canfod yr holl blant eraill rheiny a allai fod ag anghenion dysgu ychwanegol ond sydd â’r anghenion rheiny’n cael eu diwallu o fewn y ddarpariaeth prif ffrwd gyda chefnogaeth ychwanegol.

 

Dywedodd y Cabinet yn flaenorol y byddent yn edrych ar ysgol arbenigol a fyddai’n cynnwys darpariaeth ar gyfer awtistiaeth ac anhwylderau ymddygiadol addysg arbennig. Mae’r adroddiad yn crybwyll ‘buddsoddi i arbed’ ond rydym yn gwario miliynau er mwyn i ysgolion annibynnol neu awdurdodau lleol eraill gymryd plant nad oes modd eu haddysgu o fewn y brif ffrwd. Nid yw’r adroddiad yma’n rhoi sylw i’r pryder yma?

 

Yng ystod camau olaf y trafodaethau ynghylch Mounton House, ymrwymodd y Cabinet i sicrhau bod darpariaeth ar gael, sydd ddim, o angenrheidrwydd, yr un fath ag ysgol. Roedd gennym un math penodol o ysgol arbenigol pan rannwyd Gwent yn 5 awdurdod lleol. Pan oedd Gwent yn bodoli, roedd mwy o ysgolion arbenigol cyffredinol. Gan ein bod yn awdurdod bychan, bydd gennym wastad blant sydd â chymaint o anghenion, ac sy’n gofyn cymaint, fel bod angen iddynt fynd i leoliad gwahanol i dderbyn y lefel briodol o ofal a chefnogaeth. Yr hyn yr ydym yn gobeithio ei wneud yw creu capasiti. Pe byddech yn ymweld ag un o’n CAAA, byddech yn gweld plant gydag anghenion uchel iawn yn cael eu cefnogi. Nid ydynt o angenrheidrwydd gyda’u gr?p cyfoedion trwy gydol yr amser; gobeithio wrth eu rhoi yn y lleoliadau rheiny, gallant gael mynediad at ychydig o amser gyda’u cyfoedion. Peidiwch â meddwl nad yw’r gefnogaeth ar gael i’r plant rheiny.

O ran heriau niwroddatblygiadol  mwy cymhleth, sy’n cynyddu o hyd, mae’r ddogfen strategaeth yn nodi darn o waith diddorol iawn sy’n cael ei gomisiynu gan y 5 awdurdod lleol er mwyn tracio’r galw cynyddol o ran yr holl fathau gwahanol o ADY dros amser. Mae’n tyfu a bydd yn rhaid i ni feddwl yn ofalus iawn am sut a ble y bydd angen i ni greu darpariaeth. Mae’n bosib y bydd adnewyddu’r ysgol 3 – 19 oed yn y Fenni’n rhoi’r cyfle hwnnw i ni; dyma fyddai ein canolfan rhagoriaeth o ran y math yma o ddarpariaeth. Rydym mewn trafodaethau gyda chyfarwyddwyr eraill yn ardal Gwent fwyaf, ac o fewn yr awdurdod iechyd, yngl?n â safle yn ne’r sir a allai roi datrysiad rhanbarthol posibl. Rwy’n hyderus, gyda gwaith ein harweinwyr, y gallwn ddatblygu’r ddarpariaeth dros amser er mwyn diwallu’r anghenion. Ond, ni ellir newid y ffaith y bydd angen i rai plant fynd y tu allan i’r sir. Mae hyn yn wir hyd yn oed yn achos rhai siroedd sydd ag ysgolion arbennig ee Mae Torfaen yn rhoi nifer helaeth o blant mewn ysgol annibynnol yn Sir Fynwy. Felly nid un ysgol yw’r ateb i’r heriau bob amser.

Mae gennym nifer uchel o anghenion yn ein CAAA, plant sydd ag ASD, anawsterau corfforol a meddyliol; nid yw’r anghenion rheiny’n cael eu diwallu’n dda iawn. Pan mae modd eu cynnwys gyda dysgwyr prif ffrwd, mae hyn o fudd a chaiff ei annog. Mae gennym fodel cadarn sy’n creu capasti o fewn ein hysgolion prif ffrwd, ac yn gwella sgiliau staff prif ffrwd. Mae cymaint i’w ddathlu o ran y gwaith yr ydym yn ei wneud – mae mwy i’w wneud, fel y mae’r ddogfen strategaeth yn nodi, ond rydym yn cynnig rhywbeth unigryw yn Sir Fynwy, ac mae’r cyfleusterau a sgiliau staff cystal ag unrhyw beth a geir mewn ysgol arbennig.

 

Mae’n anodd iawn dod o hyd i faint o ddisgyblion sydd ym mhob categori. Mae’n ymddangos bod nifer y datganiadau hyd at 2019 yn gostwng, ond oni fyddai’r nifer wedi cynyddu o ganlyniad i’r cynlluniau datblygu unigol, a pheidio â bod angen asesiad meddygol?

 

Rydym yn cyflwyno dadansoddiad manwl i’r DMT bob mis o’n ADY a’n AAY felly mae’r data yma wastad ar gael pe byddai unrhyw gynghorydd eisiau ei weld.

 

Yn ddiweddar, ni gyniwyd lle i blentyn preswylydd o Gil-y-coed, a bu’n rhaid i’r plentyn fynd i Drefynwy – a oes gennym gapasiti digonol ar gyfer ein anghenion cynradd, ac a oes gennym gynlluniau i’w gynyddu?

 

Mae diffyg cydbwysedd rhwng capasiti ysgolion cynradd ac ysgolion uwchradd o ran maint y CAAA. Mae angen i ni aros a gweld beth yw canlyniad adolygiad Mastadon o’r galw y disgwylir ei weld yn dod drwy’r system, yna gallwn wneud penderfyniad da yngl?n a ble i fuddsoddi ar gyfer capasiti yn y dyfodol. Mae’r cyfle i gynyddu’r capasiti yn y Fenni, a chefnogi gogledd orllewin yr awdurdod, yn gam mawr ymlaen. Bydd hyn yn weithredol erbyn 2024 a bydd rhai o’r plant sydd ar hyn o bryd yn gorfod teithio i Drefynwy yn cael eu hail-leoli, a gobeithio y bydd hyn hefyd yn arwain at fwy o gydbwysedd o ran y 3 lleoliad. Byddwn yn parhau i sicrhau bod y canolfannau yn ddigon mawr.

 

Beth yw’n strategaeth ar gyfer delio â phlant sydd ag anawsterau ymddygiadol emosiynol a chymdeithasol, a ble ‘rydym yn bwriadu eu lleoli? Beth am ymddygiad sy’n seiliedig ar drawma?

 

Rydym yn benderfynol o gynyddu’r dealltwriaeth ac o ganlyniad, y capasiti, o fewn ein hysgolion prif ffrwd, bod ymddygiad yn fodd o gyfathrebu ac yn adlewyrchu angen emosiynol neu angen dysgu ychwanegol nad yw’n cael ei ddiwallu o bosibl. Rydym yn rhan o gr?p trawsnewid CAMHS – mae rhai o’r prosiectau sy’n deillio o’r gr?p yn cynnwys gwaith gyda seicoleg gymunedol a dulliau ysgol gyfan o ran iechyd meddwl a lles emosiynol. Mae llawer o’r gwaith yn ymwneud â hybu dealltwriaeth a hyrwyddo arfer da yngl?n â’r hyn y mae ymddygiadau’n ei ddweud wrthym. Mae’r dystiolaeth yn dangos ar hyn o bryd bod perthnasau yn allweddol o ran diwallu’r anghenion yma. Gellir gwneud llawer o’r gwaith mewn lleoliad prif ffrwd.

Mae rhai o’n plant, sydd â’r anghenion mwyaf cymhleth, o ran trawma perthynol cynnar, yn cael eu cefnogi gan raglen SAPRA neu drwy gael datganiad, ac mae ganddynt ddarpariaeth hyblyg pwrpasol o fewn Sir Fynwy er mwyn diwallu’r anghenion rheiny. Rydym yn gwneud ein gorau i geisio datblygu capasiti yn y maes yma. Rydym wedi ein cyfyngu i raddau gan y pandemig, felly bu i ni ganolbwyntio ar gefnogi plant o ran y cyfnod clo – ond mae hyn hefyd wedi agor nifer o ddrysau sydd yn ein galluogi i ymgysylltu gydag ysgolion o ran y dealltwriaeth o ymddygiad a chyflyrau emosiynol. Rydym wedi gwneud cynnig traws-gyfarwyddiaethol, gyda pheth arian gan y grant Lles, er mwyn canfod canllawiau ar y ffrwd waith a hyfforddiant proffesiynol ar gyfer staff ar ddelio gyda phlant sy’n ceisio osgoi’r ysgol yn seiliedig ar gyflwr emosiynol. Gobeithiwn gyflwyno’r cynnig ym mis Ionawr, yn dilyn ymgynghoriad gyda phenaethiaid. Mae angen i ysgolion wella, a buddsoddi, yn y perthnasau gyda’r plant yma, nid oes angen darpariaeth arbenigol ar nifer ohonynt.

 

Mae gwybodaeth ar gyfer rhieni ar y wefan wedi bod yn broblem anferth – sut mae hyn wedi gwella?

 

Cafodd datblygiad y wefan ei godi gan Estyn. Mae’n cael ei gynnwys yn Ffrwd Waith A. Yn rhanbarthol, mae gr?p sy’n cael ei arwain gan Snap yn datblygu cyfres gyflawn o wybodaeth ar gyfer rhieni. Bydd hyn yn mynd i’r DMT er mwyn i gydweithwyr allu gweld yr hyn sydd wedi ei ddatblygu mewn cydweithrediad â rhieni; dyma’r man cychwyn o ran ein gwefan newydd. Rydym yn croesawu unrhyw adborth.

 

Ai peth doeth yw datblygu capasiti i ddelio â phlant sy’n arddangos ymddygiadau heriol ar ôl i ni gau ysgol arbenigol Mounton House?

 

Y peth pwysig i’w nodi yw ein bod wastad wedi bod â  phlant sydd ag anghenion o ran ymddygiad emosiynol a chymdeithasol sydd heb ddod yn agos i gyrraedd y trothwy o ran mynychu Mounton House. Felly nid ydym o angenrheidrwydd yn sôn am yr un poblogaeth â’r rhai â oedd yn mynychu Mounton House. Rydym yn gwneud y penderfyniad gyda’r prif arweinwyr seicoleg addysg a lles, gan geisio sicrhau bod gan ein gweithwyr proffesiynol yr offer sydd ei angen arnynt, a’r wybodaeth briodol yngl?n â’r datblygiadau diweddaraf a sut y byddwn yn cefnogi’r boblogaeth llawer ehangach sydd wastad wedi  bodoli o fewn ein hysgolion, er mwyn i ni allu wella eu profiad yn yr ysgol. Roedd nifer y disgyblion yr oeddem yn eu rhoi yn Mounton House yn gostwng, ac nid oedd modd i ni gefnogi’r holl blant yn Sir Fynwy am ei bod yn ysgol i fechgyn yn unig. Mae hyn yn ymwneud â chyfres llawer ehangach o ymyriadau.

 

Ai cywir yw tybio mai dim ond plant/pobl ifanc hyd at 19 oed yr ydym yn eu cynnwys, yn hytrach na 24 oed? Os felly, pam?

 

O ran ysgol, bydd ein cyfrifoldeb yn aros yr un fath ag y mae nawr: hyd at 19 oed. Fel rhan o’r gwaith ôl-16 y cyfeiriwyd ato yn gynharach, bydd darpariaeth arall y byddwn yn edrych arno ar gyfer y rheiny sy’n symud ymlaen i addysg bellach pan fyddant yn 19 oed ond nid ydym yn gwybod sut y bydd hyn yn edrych ar hyn o bryd. Mae’n bosib y  bydd pwysau ar golegau i ddarparu lleoliadau am gyfnod hirach nag yr oedd Llywodraeth Cymru wedi tybio yn wreiddiol. Dyma dirlun sy’n newid yn barhaus. Byddwn yn gyfrifol am IP y plentyn/oedolyn ifanc hyd nes y bydd yn 24 oed, os yw hynny yn dal yn briodol, ond ni fydd hyn yn digwydd o fewn ein hysgolion.

 

Mae 12.i yn y strategaeth, yn crybwyll gwella capasiti, ond yn gynharach dywedwyd y byddai’r capasiti’n lleihau. Pam?

 

Mae’r newidiadau i ddeddfwriaeth yn dod â disgwyliadau sylweddol gyda hwy, gan gynnwys disgwyliadau o ran swyddogaethau. Mae gennym bellach arweinydd ADY blynyddoedd cynnar. Mae’r Doctoriaid Doyle a Banks yn arweinwyr lles, ac yn ddiweddar bu i ni recriwtio i mewn i’n tîm seicoleg addysg. O herwydd y dull yr ydym yn di ddefnyddio, rydym bellach yn denu gweithwyr proffesiynol o safon uchel iawn, sydd eisiau dod i Sir Fynwy o herwydd yr ethos a’r dull yr ydym wedi ei osod. Rydym yn cynyddu sgiliau ac yn creu mwy o gapasiti am fod y ddeddf yn mynnu hynny, ond y newid mwyaf yw’r darn sy’n ymwneud â’r agweddau perthynol. Mae hyn yn golygu grymuso ein CAAA er mwyn eu galluogi i ddarparu’r gefnogaeth orau posib, ond hefyd mae gennym ran allweddol i’w chwarae o ran cadw ecwiti a rhagoriaeth ar draws y canolfannau. 

 

13, sut y byddwn yn penderfynu a yw’r strategaeth yn llwyddiant – a fydd gennym linell sylfaen o ran data meintiol?

 

Bydd, tynnodd Estyn sylw at hyn hefyd. Rydym wedi bod yn edrych ar y feddalwedd TG gorau i helpu ein canolfannau adnoddau i wneud asesiadau priodol o’n pobl ifanc, ac yna eu galluogi i blotio ac adrodd ar eu cynnydd. Roedd dwy o’n canolfannau adnoddau eisoes yn defnyddio adnodd o’r enw B Squared, ac rydym wedi cytuno y bydd pob un ohonom yn ei ddefnyddio o hyn ymlaen. Mae RCT wedi gwneud rhywbeth tebyg yn ddiweddar; mae gennym gyfarfod ddydd Gwener yma er mwyn dysgu mwy yngl?n a sut y bu iddynt ei ddefnyddio.

 

Hefyd o dan 13, a ydym yn methu rhywbeth cynnil yma o ran diwallu anghenion y plant hyd yn oed oes yw’r rhieni/gwarchodwyr yn anghytuno?

 

Mae’n anochel y bydd tensiynau rhwng yr hyn y mae gweithwyr proffesiynol yn dybio yw angen y plentyn a pha fath o leoliad sy’n gallu diwallu’r anghenion rheiny, a’r hyn y mae rhieni a gwarchodwyr weithiau eisiau i’w plant gael mynediad ato. Mae’r tensiwn yma’n gweithio mewn dwy ffordd; weithiau, rydym wedi awgrymu bod plentyn angen ei osod mewn lleoliad annibynnol arbenigol, ond mae’r rhiant yn daer eisiau i’w anghenion gael eu diwallu mewn ysgol prif ffrwd, ac fel arall. Ond, mae cael ymrwymiad clir gan rieni o ran sylweddoli lefel y sgiliau a chapasi ein lleoliadau, a dealltwriaeth o’r llwybr yr ydym yn ei ddilyn, yn bwysig iawn. Y grym sy’n gyrru’r diwygiad o ADY yw arferion sy’n canolbwyntio ar y plentyn. Yn 16, byddwn yn gofyn i blentyn beth maent ei eisiau, a bydd hyn yn gyrru’r ddarpariaeth o hynny ymlaen.

 

Fel rhan o’r argymhellion, a oes modd diweddaru’r adroddiad gyda ffigurau o’r blaen adroddiad, ynghyd ag eglurhad ar sut y maent yn cynyddu a gostwng?

 

Oes, fe wnawn yn si?r eu bod yn cael eu cynnwys yn y dyfodol.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

Rydym yn croesawu’r adroddiad ac yn diolch i’r tîm. Mewn trafodaeth eang, rydym wedi rhoi sylw i ddarpariaeth ac i ble y bydd yr uned yn symud o Deri View. Mae’r aelodau wedi tynnu sylw at adnabod yn gynnar. Cododd Maggie Harris y pwynt bod rhai plant wedi blodeuo wrth fod gartref a drwy ddefnyddio dysgu cyfunol. Mae’n ymddangos bod cefnogaeth gyffredinol i symud yr adroddiad yn ei flaen, gyda’r pwyntiau yr ydym wedi eu codi heddiw. Rwy’n gryf o’r farn bod angen i blan gael eu cefnogi hyd at 24-25 oed. Wrth i addysg cyfrwng Cymraeg ddatblygu, mae angen cefnogaeth arbenigol ar y bobl ifanc rheiny.

 

 

Dogfennau ategol: