Agenda item

Adroddiad Briffio digartrefedd a chynigion sy'n dod i'r amlwg ar gyfer darpariaeth ddigartrefedd yn y dyfodol

Ystyried adroddiad sefyllfa ar ddigartrefedd – ein gofynion, ein bylchau a'n cynigion i fynd i'r afael â hwy

 

Cofnodion:

Cyflwynodd y swyddog Ian Bakewell yr adroddiad a’r cyflwyniad, a bu iddo ateb cwestiynau’r aelodau.

 

Her:

 

Mae angen llety arbenigol a chymorth arbenigol ar nifer o’r ymgeiswyr, nid yw hyn ar gael ar hyn o bryd. Y Beth yr ydym yn ei wneud ar gyfer pobl sydd ag anghenion dwys?

 

Mae diogelu’n flaenoriaeth o ran popeth a wnawn. Mae cysylltiad rhwng lleoliadau a diogelu. Mae’n her o hyd, ond rydym yn rhesymol hyderus yngl?n a nifer lleoliadau sy’n adlewyrchu asesiadau risg a chyfraniad asiantaethau eraill. Y broblem yw, er enghraifft, efallai ein bod wedi lleoli rhywun mewn Gwely a Brecwast ar sail rhesymau diogelu a fyddai fel arall mewn llety a rennir neu Solas. O ganlyniad, efallai mai nad dyma’r lleoliad delfrydol, ond gwnaed y penderfyniad yn dilyn asesiad risg neu ystyriaeth o ran diogelu. Rydym yn symud pobl yn eithaf aml pan mae problemau’n codi. Mae hyn yn flaenoriaeth llwyr i ni ond mae gweithio o fewn ein paramedrau’n heriol iawn.

 

A yw Llywodraeth Cymru’n rhoi unrhyw gyllid er mwyn cefnogi ei safbwynt newydd, calonogol a rhagweithiol ar ddigartrefedd?

 

Mae gennym gyllid digartrefedd Cam 2 ar gyfer nifer o brosiectau tymor byr hyd ar fis Ebrill. Er enghraifft, rydym yn ariannu gweithiwr cyffuriau ac alcohol drwy GDAS. Ar ôl Ebrill y 1af, mae Llywodraeth Cymru’n dweud na fydd dim ar gael, felly mae’n rhaid i ni aros a gweld. Os nad oes unrhyw gyllid ar gael, bydd problem fawr led led Cymru. Rwy’n disgwyl y bydd rhywbeth. Byddwn yn gwybod fis nesaf.

 

A yw pethau mewn trefn o ran darparu mesur tymor byr mewn llety Gwely a Brecwast.

 

Ydyn, y pryder yw’r sefyllfa pe byddai ein B&Bs yn gwrthod rhoi llety. Pe byddai nifer yn gwrthod, byddai’r sefyllfa’n un anodd iawn, ac fel y mae pethau’n sefyll ar hyn o bryd, nid oes gennyf ateb i hyn. Byddem, fwy na thebyg yn chwilio am gymorth er mwyn gwneud rhywbeth tebyg i Gilwern eto. Mae ychydig o gapasiti o fewn y system ac rydym wedi cael sicrwydd o ran llety gan y rhan helaeth hyd at y Nadolig, a rhai hyd at fis Ebrill. Gallwn ddefnyddio cyllid Caledi Llywodraeth Cymru i’n helpu yn hyn o beth. Nid yw, o angenrheidrwydd yn rhoi unrhyw sicrwydd i ni. Rwy’n rhesymol hyderus.

 

A yw gwaith Pobl o ran darparu llety dros dro yn mynd rhagddo?

 

Mae ein cydweithwyr o fewn y tîm Partneriaethau wedi gwneud gwaith helaeth gyda Pobl, o ran ail-fodelu. Yn anffodus, er mwyn gwneud y cytundeb yn dderbynol bu’n rhaid iddynt ddad-gomisiynu dau wasanaeth. Y bwriad yw y bydd gwaith Pobl yn cychwyn ar y 1af o Ebrill – maent wedi bod yn hyblyg a chefnogol iawn.

 

A oes llai o bobl wedi archebu lle mewn B&B yn awr o herwydd Covid, ac a fydd hyn yn achosi problem yn nes ymlaen?

 

Oes, wrth lwc. Cyn Covid, dim ond un B&B yr oeddem yn ei ddefnyddio yn y sir. Rydym wedi gallu elwa o’r diffyg twristiaeth a gweithio gyda mwy o B&Bs lleol. Mae’n bosib bod ychydig o risg ynghlwm â hyn fel sydd wedi ei grybwyll eisoes. Rwy’n meddwl bod ychydig o sicrwydd am ein bod wedi cynnal nifer o fusnesau yn ystod y cyfnod yma.

 

A oes angen dod ag anghenion pobl ifanc o ran cymorth iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau i sylw Llywodraeth Cymru?

 

Wrth edrych ar agweddau positif y sefyllfa, mae wedi tynnu sylw at gyfleoedd ac anghenion. Wrth i Lywodraeth Cymru newid eu safbwynt, maent fwy na thebyg yn defnyddio hyn fel cyfle i fynd i’r afael â chysgu allan a digartrefedd ymysg pobl ifanc – yn ôl pob golwg rydym yn symud tuag at sefyllfa a fyddai’n gweld pawb yn cael cymorth ar gyfer llety i’r digartref. Mae’n creu cyfle i feddwl am y diffygion a’r anghenion o ran cymorth sydd gennym. Mae Llywodraeth Cymru’n deall yr heriau sy’n ein wynebu ni ac awdurdodau lleol eraill. Mae pob awdurdod lleol wedi cael rheolwr perthynas, felly mae ein trafodaethau gyda Llywodraeth Cymru bellach yn digwydd yn fwy rheolaidd. Mae pethau’n symud yn y cyfeiriad cywir.

 

A ddylai landlordiaid cymdeithasol wneud mwy i ddarparu llety?

Dylent, mae ein landlordiaid cymdeithasol yn bartneriaid pwysig yn hyn o beth. Hyd yma, maent yn gefnogol, ond dim ond ar gyfer ymgeiswyr sydd ag anghenion lefel isel y maent yn darparu. Rwy’n ffyddiog y byddant yn newid er mwyn i’w hymateb fod yn fwy perthnasol o ran realiti’r sefyllfa. Ar hyn o bryd, maent yn edrych ar ein rhaglen Grant Cymorth Tai. Nid wyf yn si?r sut y bydd hynny’n esblygu. O safbwynt rheolaethol, rwy’n gwybod fod hyn yn flaenllaw ym meddwl Llywodraeth Cymru hefyd, ac maent yn gofyn i ni am adborth ar sut y mae cymdeithasau tai yn ein cefnogi. Rwy’n rhesymol hyderus yngl?n â’n partneriaid sy’n gymdeithasau tai, ond mae llawer o drafodaethau pellach i’w cael.

 

Beth yw’r syniad o ran y gwaith ar Dai Strategol a’r bwrdd rhanbarthol newydd? A gafod hyn ei ohirio? Beth yw mewnbwn y tîm tai i hyn?

 

Do, mae angen dull systemau cyfan ar gyfer hyn ac mae’r sefyllfa wedi pwysleisio’r angen i adeiladu mwy o dai fforddiadwy. Rydym wedi cael y drafodaeth yn fewnol ac yn anffurfiol yn y Cabinet ddoe. Mae hyn yn rhywbeth y mae gen i ddiddordeb mawr ynddo. Y pryder, wrth symud y mlaen, yw y bydd mwy o dai yn dod ar-lein, o ba bynnag ffynhonnell.

 

Pa drafodaethau ydym ni’n eu cael o ran Cynllun Tlodi’r Cyngor a’r BGC a’r Gwasanaeth Iechyd Meddwl?

 

Ie, mae Judith Langdon a minnau wedi cael cyswllt o ran y Cynllun Tlodi. Nid yw digartrefedd yn flaenoriaeth amlwg yn y cynllun, ond rwyf wedi awgrymu y dylai digartrefedd a thai fod yn thema sy’n rhedeg drwy holl agweddau’r cynllun. Fel y dywedoch, wrth gael tai yn iawn, bydd buddion eraill yn dilyn. Y cam nesaf yn hyn o beth yw trafod gyda chymdeithasau tai eraill er mwyn canfod a oes mwy o gyfleoedd ar gyfer cysylltu gyda asiantaethau eraill er mwyn cefnogi’r agenda yma. Fel enghraifft, does gan nifer o’r bobl ifanc yr ydym yn gweithio â hwy unrhyw beth y tu ôl iddynt – dim cyfrif banc, dim cynilion, ac felly dim ffordd o edrych ymlaen at bynu eiddo eu hunain. Rwy’n awyddus i gael y math yma o drafodaeth. Rôl iechyd: mae’r sefyllfa yma wedi dangos bod llawer o anghenion o ran cymorth uwchlaw Tai. Ar hyn o bryd rydym yn darparu llety ar gyfer sawl person ac mae amgylchiadau meddygol yn briodol. Os oes modd i ni hwyluso hyn, byddwn yn gwneud hynny. Rwyf wedi cael trafodaethau gydag amryw o adrannau gwahanol o fewn y tîm iechyd meddwl cymunedol. Mae gan Iechyd bellach berson penodol sy’n ymwneud â thai, a’r person yma yw ein pwynt cyswllt. Mae’r gwaith yr ydym yn ei wneud ar hyn o bryd gyda GDAS yn ddiddorol iawn, ac mae trafodaethau pellach i’w cael gyda hwy.

 

I ba raddau y mae cefnogaeth o ran hyfforddiant wedi ei roi i’ch tîm wrth iddynt ddelio â phobl sydd â llawer o broblemau, yn enwedig o ran addysg?

 

Cymharol ychydig. Mae staff wedi derbyn hyfforddiant ar ymwybyddiaeth cyffuriau yn y gorffennol, ond mae’n debygol bod angen diweddariad. Mae angen i ni anelu at ddarparu gwasanaeth sy’n ymwybodol o seicoleg a thrawma, fel y nodwyd gan y Cynghorydd Groucott. Bydd hyn yn golygu darparu hyfforddiant a meddwl mewn ffordd wahanol. Efallai bod rhannau o’r gwasanaethau yn draddodiadol, a’n uchelgais (er gwaethaf canllawiau Llywodraeth Cymru) yw rhoi’n gwasanaeth Digartrefedd ar waith mewn ffordd wahanol iawn. Mae angen i staff ddeall y maes yma’n well, a chael cysylltiadau gwell gyda’r gwasanaethau sy’n darparu’r gefnogaeth. Mae’r berthynas sydd gennym gyda’n gweithiwr GDAS yn un gwbl newydd a phositif, er mai megis cychwyn y mae hi.

 

O ystyried y diffyg tai, mae arnom angen eiddo newydd sydd â fflatiau sengl ar gyfer pobl ifanc – mae’n bosib nad oes angen t? cyfan.

 

Eiddo un llofft yw’r flaenoriaeth sy’n dod i’r amlwg. Ar hyn yr ydym yn canolbwyntio, a bydd pobl ifanc yn elwa o hyn.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

Mae’r pwyllgor yn diolch i’r tîm. O ran datblygiad plant a phobl ifanc, mae darparu cartrefi da a fforddiadwy’n allweddol.

Caiff Argymhelliad 1 ei gefnogi. Cynigiodd y Cynghorydd Groucott argymhelliad i benodi swyddog arbenigol a fyddai’n cefnogi pobl ifanc sydd angen cymorth 24 awr y dydd, swyddog arbenigol sydd wedi ei hyfforddi mewn problemau iechyd meddwl, ac yn argymell gwasanaeth sy’n ymwybodol o seicoleg a thrawma sydd â systemau eglur sy’n darparu cymorth allanol proffesiynol gan asiantaethau. Cynigiodd hefyd y dylai aelod Cabinet gyda chyfrifoldeb yn y maes hwn fynychu PPhI bob 6 mis i roi diweddariad penodol ar gymorth. Cymeradwyodd y pwyllgor yr argymhellion yma. Gwnaeth y Cynghorydd Brown gais am adborth yngl?n â barn swyddogion ar yr argymhellion yma. Ymatebodd Ian Bakewell trwy ddweud ei fod yn hapus gyda’r argymhellion, ond rhybuddiodd y byddant yn ddibynnol ar adnoddau – bydd yr holl gynnydd y bydd y gwasanaeth yn ei wneud yn ddibynnol ar staffio. Bydd yr adroddiad i’r Cabinet y bwriedir ei gyflwyno yn cynnwys gwybodaeth yngl?n ag adnoddau, ac fe ddylai hyn roi sylw i’r problemau y tynnwyd sylw atynt drwy argymhellion y Cynghorydd Groucott.

 

 

Dogfennau ategol: