Agenda item

Craffu ar Adroddiad Perfformiad Diogelu'r Cyhoedd 2019/20 ac ymateb Covid-19 yn 2020.

Cofnodion:

Cyflwynodd y Swyddogion David Jones, Huw Owen a Gareth Walters yr adroddiad a bu iddynt ateb cwestiynau’r aelodau.

Her:

A oes cyrsiau hylendid bwyd yn cael eu rhedeg unwaith eto?

Na, dim eto. Gallwn edrych pryd y maent yn debygol o ail gychwyn.

A oes modd i ni glywed am yr effaith y mae toriadau i’r gyllideb wedi ei gael ar arloesi? Yn gyffredinol mae gostyngiad wedi bod o ran perfformiad – a yw hyn yn sgil y toriadau i’r gyllideb? Ac a oes gostyngiad cyfatebol o ran niferoedd staff?

Mae’r gyllideb wedi aros yr un fath yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae hyn yn gydnabyddiaeth o’r gwaith caled sy’n cael ei wneud. Mae nifer y staff hefyd yn ymateb i’r pandemig, felly bydd perfformiad eleni’n dioddef o ganlyniad. Mewn cyfarfod cenedlaethol diweddar, trafodwyd ac edrychwyd yn fanwl ar ffyrdd y gellir cryfhau’r gwasanaeth drwy Lywodraeth Cymru; gobeithio y bydd hyn yn barod erbyn mis Ebrill nesaf.  Er hyn, nid oes sicrwydd, ond rydym yn bendant yn trafod y gyllideb a’r hyn y gallwn ei ddarparu.

Rydym yn falch, fel y gwelir yn Ffig.1 Nad yw nifer yr ymweliadau rhagweithiol wedi gostwng. Rydym yn dueddol o gofnodi ein hystadegau a’n perfformiad mewn dwy ffordd: ymatebion mewn tri diwrnod gwaith, ac achosion sydd wedi eu cau o fewn tri mis. Mae’r diwethaf yn arbennig o bwysig am ei fod yn mesur pa mor gyflym ac effeithiol y mae ein swyddogion yn delio â chwynion. Mae’r niferoedd o ran y rhain wedi cynyddu, felly mae perfformiad swyddogion o ran delio gyda chwynion wedi gwella. Rydym yn wasanaeth rhagweithiol iawn. Cyfnod yr haf yw ein cyfnod prysuraf o ran y cwynion a dderbynnir, ond mae’r cyfnod yn gwrthdaro gyda’r amser y mae ein swyddogion eisiau mynd ar wyliau – rydym, felly, o dan bwysau yn ystod y misoedd yma ac mae hyn yn lleihau faint o waith rhagweithiol y mae modd i ni ei wneud.

O ran lles anifeiliaid, rydym wedi bod, bob amser, yn gyson o ran ymateb o fewn y 90 canradd, ond roedd y llynedd yn arbennig o anodd, oherwydd salwch staff amrywiol. Collom aelod pwysig o staff y flwyddyn flaenorol, a chawsom drafferth llenwi eu swydd. Cyn y cyni, roedd gennym bump swyddog iechyd anifeiliaid, ond erbyn hyn mae gennym 2.4 FTEs. Gan ein bod yn arwain yn strategol ar Safonau Masnach Cymru a Lles Anifeiliaid, mae gennym ychydig o gyllid ychwanegol o ran Iechyd Anifeiliaid ar draws Cymru. Gall y Swyddog Walters gydlynu hyn, ac mae’r arian wedi galluogi’r tîm i benodi swyddog profiadol na fyddai wedi bod â diddordeb yn y swydd fel arall. Ymunodd dau swyddog arall ddiwedd y flwyddyn ddiwethaf, ond mae Covid wedi cael effaith sylweddol ar eu datblygiad a’n gallu i’w hyfforddi. Rydym yn cyfathrebu’n gyson gyda Llywodraeth Cymru ar yr anawsterau y mae timau iechyd a lles anifeiliaid yn eu wynebu ym mhob awdurdod lleol. Yn ddiweddar, mae hyd yn oed yr RSPCA wedi gorfod lleihau’r gwaith y mae’n ei wneud ar yr ochor archwilio.

Mae cynnydd sylweddol wedi bod o ran pobl yn cael anifeiliaid anwes yn ystod Covid, felly mae’r galw ar y tîm yn debygol o gynyddu. A ddylid cynnwys y mater yma mewn cyfarfod yn y dyfodol?

Dylid, gallwn drafod y tu allan i’r cyfarfod yn y lle cyntaf, ac ystyried yr hyn sydd angen ei wneud wrth symud ymlaen. Ar hyn o bryd rydym yn arwain prosiect tair mlynedd ar ran Llywodraeth Cymru ar fridio c?n, gan edrych ar y darlun cyfan yng Nghymru a’r gobaith yw cyflwyno model newydd. Ochr yn ochr â hyn, oes mae problemau sy’n ymwneud â phobl yn prynu anifeiliaid anwes. Dim ond 8% o’r farchnad c?n bach sy’n dod gan fridwyr trwyddedig. Mae hyn yn dangos difrifoldeb y mater.

O ran y cynnydd yn y ffigurau o ran tamprwydd/llwydni a thân, beth allwn ni/ydym ni’n ei wneud er mwyn sicrhau fod landlordiaid a chymdeithasau tai yn rhoi sylw priodol i’r problemau yma mewn cartrefi?

Yn Sir Fynwy, ers nifer o flynyddoedd, rydym wedi gosod delio ag oerni a thân yn flaenoriaeth. Mae swyddogion yn blaenoriaethu’r materion yma wrth gynnal ymchwiliadau mewn eiddo, ac maent yn awyddus i sicrhau eu bod yn cae eu datrys. Gall problemau sy’n gysylltiedig â Diogelwch Tân ymwneud â diffyg cydgysylltiad larymau tân hy mae gan nifer o landlordiaid larymau tân yn yr eiddo, ond efallai nad yw’r rhai ar y llawr gwaelod a’r llawr cyntaf wedi eu cydgysylltu. Byddai hyn yn cael ei ystyried yn beryglus, a byddai gofyn gwneud gwaith er mwyn datrys y mater. Mae oerfel eithafol yn berygl sy’n achosi pryder arbennig i ni. Mae pawb yn ymwybodol o dlodi tanwydd. Rydym yn ceisio bod yn gadarn gyda landlordiaid o ran datrys problemau sy’n ymwneud â gwres annigonol. Mae tamprwydd/llwydni yn ddiddorol. Pan fydd tenantiaid yn cwyno am hyn, mae’r rhan fwyaf o achosion yn ymwneud â chyddwysiad. Mewn sawl achos, mae hyn o ganlyniad i ffordd o fyw y tenantiaid, yn hytrach na diffyg y landlord o ran darparu gwres a dulliau awyru digonol i ddelio â chyddwysiad. Mae tai modern yn dueddol o fod wedi eu selio’n aerglos, felly os nad yw ffenestri’n cael eu hagor a ffaniau’n cael eu defnyddio, gall problemau godi sydd ddim o angenrheidrwydd yn fai ar y landlord. Ers pum neu chwe mlynedd mae landlordiaid wedi gorfod cofrestru gyda Rhentu Doeth Cymru a bod ag asiant trwyddedig. Mae hyn wedi gwella dealltwriaeth landlordiaid yngl?n â’u cyfrifoldebau ac mae hyn wedi ein helpu o ran y gwaith gorfodaeth.

A ellir ymhelaethu ar y manylion yn y graffiau yn 5.2.1?

Ystyrir bod peryglon Categori 1 yn fwy difrifol na pheryglon Categori 2. Yr un problemau ydynt ond i raddau llai difrifol, ond maent angen eu datrys o hyd. Mae peryglon Categori 1 yn beryglon y mae gan y cyngor ddyletswydd i’w datrys, ond mae peryglon Categori 2 yn beryglon y mae gennym b?er i fynnu bod landlord yn delio â hwy os ydym yn teimlo fod hynny’n briodol.

Crynodeb y Cadeirydd 4a:

Canmolodd y Cynghorydd Batrouni fanyldeb yr adroddiad, yn enwedig y wybodaeth gymharol. Nododd y gostyngiad o ran perfformiad ac roedd am wybod a oedd hyn yn uniongyrchol oherwydd toriadau, yn enwedig o ran archwiliadau s?n a lles anifeiliaid. Cadarnhaodd y swyddogion bod arbedion yn cael effaith, ond bu iddynt nodi’r ddwy ffodd y mae achosion yn cael eu categoreiddio, a bod nifer yr achosion sy’n cael eu cau o fewn tri mis wedi cynyddu. Mae gwaith rhagweithiol yn cael ei gyfyngu oherwydd gwyliau staff yn ystod cyfnod prysur yr haf. Clywsom fod Safonau Masnach wedi colli aelod o staff a oedd wedi gweithio yno ers amser maith, ac mai anodd fu cael rhywun yn eu lle. Clywsom fod nifer y swyddogion bellach i lawr i 2.4. Fe’n diweddarwyd ar gyllid. Nododd y Cynghorydd Batrouni y cynnydd o ran yr anifeiliaid anwes sydd wedi eu prynu yn ystod y pandemig, a chytunom i drefnu cyfarfod i edrych ar hyn. Canmolodd y Cynghorydd Guppy y tîm a’u gwaith ardderchog. Hoffai weld hylendid bwyd yn symud ar-lein, a nododd rai problemau sy’n ymwneud â thai, yn enwedig achosion sy’n ymwneud â llwydni. Clywsom fod hyn yn flaenoriaeth i swyddogion, a gyda chymorth Rhentu Doeth Cymru, fod dealltwriaeth landlordiaid o’r materion yma wedi gwella.

 

b)

Cyflwynodd y Swyddogion David Jones, Huw Owen, Linda O’Gorman a Gareth Walters yr adroddiad a bu iddynt ateb cwestiynau’r aelodau.

Her:

A oes argymhellion yngl?n â gyrwyr tacsi, o ran cludo plant mewn seddi plant?

Mae’n rhaid i dacsis ddilyn canllawiau seddi teithwyr: gwregys diogelwch, pwy sydd angen sedd booster, ac ati. Cyfrifoldeb y teithiwr yw gosod y rhain. Ni ddylid disgwyl i’r cwmni tacsi eu darparu. Rydym yn rhoi canllawiau i’r tacsis ar sut i wirio’r seddi. Gallwn roi copi o’r gofynion i’r aelodau ar ôl y cyfarfod.

Beth fydd yn digwydd yn ystod dathliadau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd?

Yn wir, mae’r cyfnod cyn y Nadolig yn destun pryder, wrth i dafarndai ail-agor wedi’r cyfnod atal byr. O ran y dystiolaeth Profi, Olrhain, Diogelu yr ydym yn ei chasglu bellach, nid yw hyn mor berthnasol i fangre drwyddedig, ond yn hytrach mae angen lefel uchel o gydymffurfiaeth yn ein tafarndai a’n clybiau. Rydym yn trafod gyda’r Heddlu, a byddant yn targedu ystadau preswyl – mae’r problemau o ran Profi, Olrhain, Diogelu’n dueddol o ymwneud ag ymgysylltu cymdeithasol. Mae gan Heddlu Gwent, bellach, ychydig o adnoddau ychwanegol a fydd yn helpu yn hyn o beth. Byddant yn parhau i fynychu lleoliadau trwyddedig, fel yr arfer.

Sut mae morâl swyddogion? Pa gefnogaeth sydd mewn lle ar eu cyfer?

Mae’r tîm masnachol sy’n delio â Profi, Olrhain, Diogelu’n frwdfrydig ac ymroddedig ac maent yn gweithio oriau hir yn ystod y nos ar brydiau. Maent yn ymdopi’n dda iawn, ac mae hyn i raddau helaeth oherwydd y berthynas sydd gan y swyddogion – maent fel teulu. Mae’n ymwneud fwy â chefnogaeth cydweithwyr, er fod pawb yn ymwybodol o’r cymorth sydd ar gael drwy AD. Mae swyddogion profiadol iawn yn gweithio i Iechyd yr Amgylchedd. Weithiau gofynnir iddynt pam eu bod yn gweithio mor hwyr, oni ddylent fynd gartref, ac ati. Cânt eu hatgoffa i beidio ceisio â gwneud popeth, ond i wneud yr hyn y gallant. Mae’r sefyllfa wedi bod yn arbennig o anodd i nifer o’r swyddogion sydd â phlant bach, am fod angen iddynt greu cydbwysedd rhwng y gwaith ychwanegol (ac amrywiaeth y gwaith) a dysgu’r plant gartref. Tîm bychan yw’r tîm Trwyddedu. Mae cyfnod o salwch tymor hir wedi bod o fewn y tîm hefyd. Ond mae’r swyddogion yn gweithio’n galed ac yn addasu’n gyflym.  Rydym wedi derbyn peth cyllid drwy Gronfa Cymorth Covid. Mae hyn wedi galluogi un swyddog, a oedd yn rhannu swydd, i weithio llawn amser hyd at fis Mawrth. Mae hyn wedi lleihau ychydig o’r pwysau. Yn yr un modd, mae swyddogion sy’n gweithio’n galed iawn  hefyd o fewn y tîm Safonau Masnach, ac maent yn wynebu’r un heriau gyda’r un ymroddiad. Maent yn ymwybodol o’r strwythur cefnogaeth, pe byddai ei angen arnynt.

Pe byddai cyfnod atal byr arall, pwy fyddai’n gyfrifol am sicrhau nad yw mangre’n torri rheolau?

Mae’r rheoliadau’n eithaf cymhleth. Mae gennym bwerau o ran unrhyw fangre drwyddedig drwy’r Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) 2020. Rhennir y pwerau yma gyda Heddlu Gwent. O ran tafarndai a chlybiau, mae gennym bwerau drwy’r FPNs, rhybuddion, ac ati. Rydym yn edrych ar y rhain yn rheolaidd, ac yn rhoi cyngor o ran cadw pellter cymdeithasol, ac ati. Nid ydym yn wasanaeth 24/7, felly yr Heddlu sydd fel arfer yn ymateb yn y lle cyntaf i gwynion am fangre benodol ar ôl oriau gwaith, gan mai nhw sy’n derbyn yr alwad. Yna byddant yn cysylltu gyda ni i drafod amodau trwyddedu. Iechyd yr Amgylchedd a Trwyddedu sy’n dueddol o ddelio â phethau. O ran y problemau sy’n ymwneud â phobl, bydd ffocws penodol ar wahardd ymgysylltiadau cymdeithasol, sef maes Heddlu Gwent – nid oes gennym unrhyw bwerau o ran eiddo domestig.

A yw lefelau cydymffurfiaeth/ diffyg cydymffurfiaeth yn cael eu cofnodi? A oes modd i ni weld y ffigurau yma?

Bu i ni ddarparu’r wybodaeth yma ar gyfer y Pwyllgor Dethol Oedolion ym mis Medi – rydym yn rhoi diweddariad i Lywodraeth Cymru bob tair wythnos. Gallwn rannu’r adroddiad yma a’r holl ffigurau ar wahân. Mae 4 hysbysiad gwella a 2 gosb benodedig wedi eu rhoi i dafarndai. Mae ein tafarndai a’n tai bwyta wedi cydymffurfio i raddau helaeth. Rydym yn ceisio gweithio ar sail cyngor yn hytrach na gorfodaeth, ond wrth gwrs, mae’r arf hwnnw ar gael i ni. Mae cynorthwyo gyda trefnu digwyddiadau penodol, a dadansoddi deddfwriaeth wedi cymryd llawer o amser. Mae’r rhifau, felly, yn gyfansymiad bras o’r gwaith sydd wedi ei wneud.

Pan mae mangref wedi ehangu gan ddefnyddio gofod awyr agored, pwy sy’n gyfrifol am sicrhau bod pellter cymdeithasol yn cael ei gadw?

Cyfrifoldeb y busnes yw hyn. Rydym yn rhagweithiol o ran rhoi gwybodaeth iddynt pan osodwyd y cadeiriau a’r byrddau yn yr awyr agored yn y lle cyntaf. Llaciwyd y gyfraith o ran cynhwyswyr diodydd caeedig er mwyn rhoi mwy o ryddid o ran symud rhwng mangre a’u lleoliad awyr agored. Yn ogystal â hyn mae’r elfen Priffyrdd, o ran trwydded palmant. Rydym yn gofyn i leoliadau ddiffinio eu hardal yn glir, pan fydd gofod awyr agored yn cael ei rannu. Er hyn, yn ddibynnol ar yr achos penodol, mae’n bosib i fater sy’n ymwneud â gofod awyr agored ddatblygu’n fater stryd, ac felly ddod yn fater i’r heddlu. Ond byddai gan y fangre dan sylw ddyletswydd, o hyd, i gyfeirio ei cwsmeriaid yn ddiogel gartref pan fyddant yn gadael, a dweud wrthynt am beidio â chymdeithasu ar y stryd.

Crynodeb y Cadeirydd 4b:

Lleisiodd y Cynghorydd Guppy bryderon yngl?n â dathliadau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd, a’r adnoddau ychwanegol angenrheidiol. Cadarnhaodd y swyddogion fod gan Heddlu Gwent fwy o adnoddau, ac y byddant yn canolbwyntio mwy ar leoliadau preswyl yn hytrach na rhai trwyddedig, er y byddant yn ymweld â lleoliadau trwyddedig gyda’n swyddogion ni. Roedd y Cynghorydd Guppy hefyd yn bryderus yngl?n â seddi plant mewn tacsis – cadarnhawyd y dylai gyrwyr tacsi ddilyn canllawiau arferol, ond cyfrifoldeb y rhaint yw darparu sedd plentyn. Canmolodd y Cynghorydd Treharne yr adroddiad a’r swyddogion, a mynegodd bryder yngl?n â morâl y swyddogion. Clywsom fod angerdd y tîm yn amlwg iawn. Mae swyddogion wedi gweithio oriau hir, ond maent wedi cefnogi eu gilydd, ac mae cefnogaeth bellach ar gael os oes angen. Gofynnodd y Cynghorydd Batrouni cyfrifoldeb pwy yw gorfodi rheolau pe byddai cyfnod atal byr arall yn digwydd; rhoddodd y swyddogion wybod fod y rheoliadau’n rhannu’r dyletswydd rhwng yr Heddlu a’r Cyngor. Gofynnodd y Cynghorydd hefyd yngl?n â chofnodi’r data yma; mae adroddiad yn cael ei gynhyrchu bob tair wythnos sydd bellach wedi ei rannu gyda’r aelodau yn ystod y cyfarfod yma. Gofynnodd y Cynghorydd Treharne cyfrifoldeb pwy yw sicrhau bod pellter cymdeithasol yn cael ei gadw yng ngofod awyr agored mangre; dyma gyfrifoldeb y busnes.

 

 

Dogfennau ategol: