Agenda item

Adroddiad Gwybodaeth Digartrefedd a Chynigion Newydd ar Ddarparu Gwasanaeth Digartrefedd yn y Dyfodol.

Cofnodion:

Roedd y Swyddog Ian Bakewell wedi trafod yr adroddiad. Ychwanegodd yr Aelod Cabinet  Bob Greenland y sylwadau canlynol:

Mae’r gwaith sydd wedi ei wneud gan y tîm yn sylweddol ac mae eu hymroddiad i ddigartrefedd yn ddiwyro.  Mae’r Swyddog Bakewell wedi rhoi diweddariadau cyson i’r Cynghorydd Jones a mi yn gyson, ac rydym wedi rhannu hyn gyda’r Cabinet, ac mae ef wedi mynychu cyfarfodydd Cabinet anffurfiol. Mae’r sefyllfa wedi gwaethygu yn sgil y pandemig. Yn gynnar iawn, roedd y Gweinidog Julie James wedi rhoi arian ac rydym yn ddiolchgar am i ni fedru tynnu pobl oddi ar y strydoedd. Wrth i’r nifer o heintiau gynyddu yn y gwanwyn, roedd pobl a fu’n cysgu ar soffas yn ddigartref dros nos, gan nad oeddynt yn medru aros lle’r oeddynt. Rydym yn rhagweld problemau mawr yn yr hydref a’r gaeaf. Nid oes yna atebion hawdd, gan fod llawer o alw am adnoddau cyfyngedig y Cyngor.  Rydym yn cydnabod fel blaenoriaeth y problemau sydd yn wynebu’r maes hwn o waith y Cyngor. Byddwn yn gwneud pob dim posib er mwyn cyflawni’r hyn sydd angen. Roedd y Swyddog Bakewell wedi ateb cwestiynau'r Aelodau, gyda sylwadau ychwanegol gan Lyn Webber:

 

Her:

Beth yw’r gost arferol ar gyfer un pod?

Nid oes modd prynu’r pod - mae yna ffi ar gyfer eu rhentu, sef tua £120-150 y mis. Maent yn cael eu cludo ar gefn lori ac yn weddol hawdd eu gosod. Rydym yn betrusgar o ran eu defnyddio, ac nid oes yna unrhyw le addas gennym ar eu cyfer. Byddem ond yn eu defnyddio fel yr opsiwn olaf, ac fel mesur dros dro, byddem yn gwacau marchnad Trefynwy a’n darparu llety tan fod rhywbeth addas yn cael ei ganfod.  

A oes modd gwneud rhywbeth er mwyn perswadio banciau a chymdeithasau adeiladu i fod yn fwy  trugarog i’r sawl sydd wedi eu heffeithio gan y pandemig nawr fel nad ydynt yn dod yn ddigartref?

Rhaid i ni fuddsoddi yn y maes hwn. Os yw pobl wedi eu heffeithio gan y fath amgylchiadau, rhaid i ni wneud pob dim er mwyn eu cefnogi: mae rhan o hyn yn cynnwys  ymgysylltu gyda banciau a chymdeithasau adeiladu a chefnogi pobl gyda’u dyledion posib. Mae rhai cynlluniau yn deilio o Lywodraeth Cymru ond byddant yn fenthyciadau gyda  chyfradd llog o 1%. Elfen arall o hyn yw trefniadau cymorth tai’r Cyngor; maent yn gweithio’n agos iawn gyda phobl yn yr amgylchiadau yma. 

Yn sgil y canllaw newydd sydd wedi dod o Lywodraeth Cymru, roedd timau wedi ail-alinio’r gwasanaethau ar ddechrau’r pandemig er mwyn cefnogi'r rhai mewn llety dros dro. Rydym wedi derbyn cymorth gan Dai Sir Fynwy a’n gweithio er mwyn sicrhau bod y rhai mewn llety dros dro yn cael eu cefnogi’n briodol. Mae  ail-alinio’r gwasanaethau yma wedi bod yn anodd yn sgil y nifer o achosion,  ond mae’r timau wedi gwneud yn dda. Rydym yn gobeithio gwneud hon yn sefyllfa barhaol. Mae’n anodd gan ein bod yn gorfod cydymffurfio gyda thelerau ac amodau’r grant Cymorth Tai, ac mae gofyn i ni wneud gwaith ataliol, yn cefnogi dioddefwyr trais yn y cartref a cham-drin, pobl h?n ayyb. Mae’n rhaid taro cydbwysedd. 

Pa gymorth ydych yn derbyn o Wasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent (GDAS)? Neu gan y Bwrdd Iechyd? A ydych wedi ystyried grantiau gan y  Comisiynydd Heddlu a Throseddu?

Ar ddechrau Covid, nid oedd ein trefniadau gyda’r Gwasanaeth Cyffuriau ac Alcohol Gwent fel y dylent fod ond rydym wedi gweithio’n agos gyda hwy o ran eu darpariaeth gyfredol ond nid yw’n cynnig digon o gapasiti ar gyfer pawb sydd angen ein cymorth. Ond rydym wedi sicrhau  cyllid gan Lywodraeth Cymru am weithiwr GDAS penodol a fydd yn ffocysu ar lety Gwely a Brecwast a dros dro. Mae awdurdodau eraill yn profi’r un broblem. Mae sgwrs wedi cychwyn am brosiect Gwent project – mae yna ddealltwriaeth o’r angen am y prosiect.  .

Yn sgil newid ym mholisi Llywodraeth Cymru, a ydynt angen llochesi nos neu nid oes eu hangen mwyach?

Rydym am roi diwedd ar ddefnyddio llochesi nos gan nad ydynt yn addas. Mae Llywodraeth Cymru yn sicr yn eu gwrthwynebu nawr, er eu bod hefyd yn gwrthwynebu’r podiau. Maent wedi dweud heddiw eto na fyddant yn cefnogi unrhyw lochesi nos gan nad ydynt yn medru bod yn ddiogel yn erbyn COVID. Fodd bynnag, pe bai’r sefyllfa’n golygu bod angen defnyddio mwy o’r podiau yma, byddent yn ystyried eu defnyddio. Mae’n ymddangos fod y newid polisi yma yn barhaol gan fod Llywodraeth Cymru yn symud i ffwrdd o ddigartrefedd bwriadol - bydd unrhyw un sydd angen llety yn gorfod cael llety. Mae pawb yn cefnogi hyn ond mae angen sicrhau’r adnoddau yma.  

Yn ystod y gaeaf y llynedd, roedd rhai eglwysi lleol  wedi cynnig llety brys – a oes yn asiantaethau eraill ar hyn o bryd sydd yn medru cynnig cymorth?

Fel Cyngor nid ydym yn medru defnyddio eglwysi, er eu bod yn medru darparu llety’n annibynnol. Mae’r asesiadau risg  Covid y mae’n rhaid i eglwysi eu dilyn yn golygu na fydd modd gwneud hyn y gaeaf hwn. Efallai y bydd y rheolau yn cael eu llacio.  

Sut mae golchi dillad ac ati yn y podiau?

Mae yna enghraifft yng Nghasnewydd lle y mae un pod wedi ei neilltuo ar gyfer y fath bethau. 

A yw’r GDAS yn medru cynnal profion ar gyfer Hep C er enghraifft?

Mae’r GDAS yn medru cynnal profion ‘Blood Borne Viruses’ (BBV) sydd yn cynnwys HepC. Maent hefyd yn gwneud Gwaith Lleihau Niwed gyda chleientiaid lle y mae angen.  Nid ydym wedi cael gwybod nad oes modd cwblhau’r  profion yma yn ystod y cyfnod  COVID. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan (ABUHB) yn rhan o’r Bwrdd Cynllunio Ardal a’r  Bwrdd Comisiynu perthnasol. 

A yw’r nyrsys BBV yn medru cefnogi’r GDAS gyda’r gwaith a gomisiynir ar y rhengflaen neu a ydynt yn cael eu tynnu i gyfeiriad arall yn sgil pwysau COVID?

Roedd Gweithiwr Allgymorth Cadarnhaol Cyfnod 2 GDAS CSF wedi dechrau 3 wythnos yn ôl ac mae profi am BBV yn un o’r gwasanaethau cyntaf y mae wedi cynnig i ddefnyddwyr gwasanaeth.  

Crynodeb y Cadeirydd:

Rodd y Cynghorydd Edwards wedi gofyn a fyddai defnyddio carafanau statig yn opsiwn gwell ac yn fwy cost-effeithiol na’r Gwely a Brecwast neu’r podiau. Mynegodd bryder bod mwy o gartrefi yn cael eu hadfeddiannu yn sgil colli swyddi, a bod yna wahaniaeth rhwng digartrefedd a chysgu ar y strydoedd - efallai nad yw’r bobl sydd yn cysgu ar y strydoedd am fynd i lety parhaol ond byddent yn gwerthfawrogi help yn y gaeaf. 

Roedd yr Aelodau wedi mynegi eu gwerthfawrogiad o waith caled parhaus y tîm.  Cytunodd y Pwyllgor gyda’r argymhellion.

 

 

Dogfennau ategol: