Agenda item

Adolygiad Dyraniadau Homesearch a Diwygiadau Polisi – Adolygu’r polisi dyraniadau.

Cofnodion:

Roedd y swyddogion Louise Corbett wedi cyflwyno’r adroddiad ac wedi ateb cwestiynau'r aelodau, gydag ymatebion ychwanegol gan Ian Bakewell a’r Aelod Cabinet Bob Greenland.

Her:

Nid oes unrhyw sôn am garcharorion – a ydynt yn hirdymor neu’n fyrdymor, a ydym yn ystyried llety ar eu cyfer?

Nid yw bod mewn carchar yn rhoi cysylltiad lleol i rywun. Unwaith y maent yn cael eu rhyddhau, mae gofyn iddynt  i ddychwelyd i’r ardal yr oeddynt yn byw ynddi’n flaenorol. Felly, nid yw’n rhywbeth y mae’n rhaid  ei ddatgan yn benodol yn y polisi gan na fyddent yn cwrdd â’r meini prawf. 

Gydag ap ar y ffôn mudol, ble ddylai ymgeiswyr fynd os nad yw’r dechnoleg gywir ganddynt neu os nad oes signal ganddynt?

Mae hwn yn bwynt dilys. Rydym yn ymwybodol fod yna bobl h?n neu fregus ar y rhestr aros  na sydd yn medru hunan-wasanaethu neu’n medru gwneud pethau yn ddigidol. Felly, nid oes dim byd wedi newid o gan fod y tîm dal ar gael. Mae’r rhif ffôn mudol a’r swyddogion dal ar gael gennym er mwyn hwyluso pethau. Nid yw hyn wedi dod i ben ond mae’r elfen ddigidol wedi  ein gwneud yn fwy effeithlon. Mae’r cyhoedd dal yn medru derbyn cymorth Homesearch o’r Hybiau a’r Tîm Opsiynau..

Mae’n dda cael hyblygrwydd gan y bydd Covid yn creu mwy o heriau.

Amcanion allweddol yr adolygiad yw adeiladu hyblygrwydd i mewn i’r polisi, fel ei fod gadarn ac yn ymateb i heriau. Gyda’r diwygiadau arfaethedig, rydym mewn sefyllfa gref yn hyn o beth.

A oes yna Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb wedi ei gynnal ar y polisi cyfan? Beth am bobl h?n na fydd yn derbyn morgais gan na fydd yna flynyddoedd ar ôl ganddynt er mwyn ad-dalu’r ddyled?

Mae un wedi ei gwblhau ac mae wedi ei atodi i’r pecyn adroddiadau ar-lein. O ran ystyried yr asedau cyfalaf a’r ffigyrau, fel £45,000 y flwyddyn ar gyfer rhywun fel bod digon ganddynt i ddiogelu eu llety eu hunain, roeddem wedi ystyried y pris cyfartaledd ar gyfer eiddo yn Sir Fynwy  a’r prisiau ar gyfer rhentu, yn hytrach nag ardal wrth ardal. Mae hyn yn rhannol am mai’r nod yw symleiddio’r broses -  nid ydym am gael ein llusgo i mewn i’r gwahaniaethau rhwng trefi unigol. Mae’r data wedi ein harwain i gynnig  swm sydd yn rhesymol ar gyfer rhywun y mae disgwyl iddo ef/iddi hi i ddatrys eu problemau tai eu hunain, yn enwedig os nad yw prynu eiddo yn opsiwn ond mae yna bosibilrwydd o rentu  eiddo. Fodd bynnag, rydym yn nodi’r trafferthion sydd yn wynebu pobl h?n sydd am brynu eiddo, a hynny yn sgil yr amser sydd angen er mwyn ad-dalu’r morgais. 

Beth yw goblygiadau'r system sgorio pwyntiau?

Mae’n system sydd yn seiliedig ar anghenion. Pe bai rhywun yn ffit ac yn iachus, a’n meddu ar asedau cyfalaf, byddem yn credu fod yna adnoddau ariannol digonol ganddynt, a byddent yn cael eu gosod yn y band isaf (5). Ond os oes angen cymorth lles ar rywun neu os oes problem feddygol ganddynt, mae’r hyblygrwydd sydd yn nodweddu’r system yn golygu fod yna ychydig o ddisgresiwn wrth i ni ystyried yr achosion hynny, ac wrth ystyried eu hasedau cyfalaf a’r broblem feddygol, byddem yn eu gosod mewn band uwch. Byddai ystyriaethau eraill sydd yn rhan o’r broses yn cynnwys eu hoedran, ble maent yn byw ayyb.

A ydy’r cynigion yn cysylltu gyda Dyfodol Cymru, sef y cynllun cenedlaethol ar gyfer 2040? Mae hyn yn datgan y dylai fod 45% o dai cymdeithasol ond yn y flwyddyn ddiwethaf, rydym ond wedi medru adeiladu 18-19%.

Cynghorydd Greenland: Rydym yn y broses o ddatblygu Cynllun Datblygu Lleol, a dyma sut yr ydym yn mynd ati i adeiladu tai newydd. Yn anffodus, mae ein cynlluniau wedi eu hoedi yn sgil y pandemig. Y broblem sydd gennym yn Sir Fynwy bob tro yw bod datblygwyr am adeiladu tai mawr, gyda 4 ystafell wely. Rhaid i ni lunio polisïau yn y dyfodol sydd yn rhoi mwy o reolaeth i ni dros y tai sydd yn cael eu hadeiladu.  Rydym yn cael problemau yn cwrdd â tharged Llywodraeth Cymru o’r rhaniad 45-55, oherwydd mae’n amhosib sicrhau datblygwr masnachol sydd yn fodlon adeiladu’r lefel yma o dai cymdeithasol.  Mae’r lefel sydd wedi ei adeiladu yn siomedig - roeddem yn gobeithio cyrraedd 30% o dai cymdeithasol. Pan fydd datblygwr yn ystyried safle, byddant wedyn yn negodi gyda’r awdurdod lleol a’n dweud na ydynt yn medru adeiladu’r lefel benodol o dai cymdeithasol.  Mae’r safle wedyn yn parhau’n wag neu rydym yn ceisio negodi’r hyn sydd yn bosib o ran tai cymdeithasol. Nid dyma fydd y sefyllfa yn y dyfodol oherwydd rydym wedi gweithio gyda Thai Melin a Sir Fynwy ac rwy’n ffyddiog y byddwn yn medru cyrraedd y lefel o dai fforddiadwy sydd angen yn y dyfodol, yn enwedig o ran y tir sydd yn eiddo i Gyngor Sir Fynwy. 

Yn anffodus, wrth ystyried y Cynllun Datblygu Lleol a pha safleoedd y dylid eu datblygu, nid oes modd rhoi ffafriaeth i safleoedd sydd yn berchen i Gyngor Sir Fynwy. Rhaid ystyried rhinweddau pob un safle. Mae hon yn sefyllfa anodd, ac nid yw Fframwaith Datblygu Cenedlaethol gan Lywodraeth Cymru, sydd yn datgan fod yn rhaid lleoli’r tai ger y Metro ac yn y Cymoedd,  yn helpu. Fodd bynnag, wrth ddatblygu’r Cynllun Datblygu Lleol newydd, bydd swyddogion yn sicr yn ystyried sut y mae modd i ni adeiladu’r lefel o dai cymdeithasol sydd angen arnom.  

A oes yna ystyriaeth wedi ei rhoi i’r sawl sydd yn derbyn Gofal?

Mae’r sawl sydd yn gadael Gofal yn derbyn dyfarniad Anghenion Blaenoriaeth Uchel ac mae hyn wastad wedi digwydd. Mae cysylltiadau da gennym gyda’r Gwasanaethau Cymdeithasol, ac rydym yn ceisio gweithio  mwy gyda hwynawr. Cyn gynted ag y mae person ifanc yn barod i adael gofal maeth, mae cymorth yn cael ei roi iddynt o ran tai ac maent yn derbyn blaenoriaeth fel bod modd iddynt symud drwy’r system ynghynt a sicrhau llety parhaol.  

A ddylai’r polisi gynnwys angen meddygol, naill ai’n gorfforol neu’n feddyliol?

Rydym yn mynd i’r afael ag anghenion meddygol.  Rydym yn ystyried cyflyrau meddyliol a chorfforol. Mae angen i berson i lenwi  holiadur meddygol os yw person yn datgan fod cyflwr meddygol ganddo, ac rydym yn gofyn am wybodaeth gan feddyg. Os oes yna anabledd, bydd Therapydd Galwedigaethol yn ystyried yr achos a’n gwneud argymhellion o ran tai a’r lefel o angen. 

Nid yw’n eglur sut y mae’r broses bandio yn adlewyrchu anghenion meddyliol a chorfforol.

Mae hyn yn dibynnu ar eu lefel o angen. Pan fydd rhywun yn gwneud cais, byddwn yn gofyn iddynt os oes anabledd corfforol ganddynt, a byddwn yn gofyn am wybodaeth gan feddygon neu unrhyw un sydd yn eu cefnogi yn hyn o beth. Unwaith ein bod yn derbyn y wybodaeth yma, byddwn yn cynnal asesiad  er mwyn cadarnhau os yw’r person yn meddu ar anghenion uchel, canolig neu isel, gan y byddwn ond yn ystyried y ffactorau meddygol os yw’r amodau byw presennol yn anaddas  neu’n gwaethygu’r cyflwr meddygol. Os yw’r lle y maent yn byw  ynddo ar hyn o bryd yn addas ar gyfer eu hanghenion meddygol, byddant yn cael eu gosod mewn band isel, ond os oes angen eu gosod mewn t? arall ar sail feddygol, bydd y band, o ran isel, canolig neu uchel, yn dibynnu ar ba mor ddifrifol yw eu cyflwr.  Ond mae hyn cael ei bennu ar sail yr achos unigol.

A oes modd apelio yn erbyn y penderfyniadau?

Oes – mae modd apelio yn erbyn unrhyw elfen o’r broses sy’n arwain at benderfyniad, ac felly, mae ond angen i’r person i gysylltu gyda'r tîm. 

A oes modd egluro’r pwynt a wnaed am garcharorion, a hynny o ran trigolion o Sir Fynwy sydd wedi eu carcharu y tu hwnt i’r sir?

Pe bai unigolyn o Sir Fynwy mewn carchar sydd y tu hwnt i’r sir, ni fyddent yn gymwys i dderbyn statws tai yn yr awdurdod lleol lle y mae’r carchar - byddent yn cael eu hatgyfeirio yn ôl i Sir Fynwy.  Mae meini prawf gennym o ran cysylltiadau lleol, ac rydym yn nodi bod angen i’r unigolyn fod wedi byw yn y sir ers 5 mlynedd ond mae yna elfen o ddisgresiwn e.e. pe bai rhywun yn gwneud cais ar ôl cyfnod hir yn y carchar, byddem yn edrych ar hanes eu cyfeiriadau cyn mynd i’r carchar.

Beth ddylai person wneud os yw ar waelod y rhestr?

Mae’n anodd ceisio sicrhau ein bod yn ystyried yr holl amgylchiadau wrth ddatblygu polisïau a gweithdrefnau. Mae yna hyblygrwydd yn rhan o’r polisi er mwyn rhoi disgresiwn i ni pan fydd angen. Rydym wedi ymateb i’r cwestiwn am yr unigolyn a bydd y polisi yn eu cefnogi. Wrth i’r polisi ddatblygu, byddwn yn medru ystyried achosion unigol a’n gwneud newidiadau lle y mae’n bosib. Byddai’r tîm yn croesawu gweithio gyda Tony Crowhurst ar unrhyw agwedd o’r polisi, a hynny’n barhaol fel Ffrind Critigol.  

Crynodeb gan y Cadeirydd:

Mae’r swyddogion wedi cytuno i wirio’r system  ar gyfer bandio o ran anghenion meddyliol a chorfforol a’n egluro’r polisi terfynol fel sydd angen a byddant yn gwirio ac yn egluro’r pwynt sydd yn ymwneud gydag aelodau teulu sydd yn byw yn y gymuned am 5 mlynedd, a hynny ar dudalen 13 o’r Atodiad. Awgrymodd y Cynghorydd Harris y dylem fod yn gryfach wrth ddelio gyda datblygwyr pan eu bod yn gwrthod cynnwys y lefel o dai cymdeithasol sydd angen arnom, ond nodwyd bod datblygwyr mewn sefyllfa gref, a dylid gofyn am gefnogaeth gan Lywodraeth Cymru. O ran diwygio’r Cynllun Datblygu Lleol ac ystyried trigolion h?n dywedodd y Cynghorydd Edwards nad yw’r sir yn adeiladu digon o fyngalos a thai sydd yn medru delio gyda chadair olwyn neu ail ystafell wely ar gyfer gofalwr, pe bai angen aros gyda’r unigolyn.

Roedd Tony Crowhurst wedi cwestiynu’r pwynt am bobl anabl sydd yn gwneud cais am lety rhentu’n breifat,  gan nodi fod hon wedi bod yn broblem am flynyddoedd lawer. Disgrifiodd achos unigolyn  sydd wedi bod yn cysgu ar soffas ffrindiau am 18 mis, sydd wedi derbyn asesiad sy’n cefnogi ei chais anabledd ond eto’n parhau ar waelod y rhestr. Mae’n byw yng Nghil-y-coed ond mae’r lle agosaf ac addas a ganfuwyd iddi yn Fforest y Ddena, 45 munud i ffwrdd o’r cylch cymorth sydd ganddi. Cwestiynodd y cysyniad o gynnig cyfartaledd ar gyfer Sir Fynwy gyfan, a hynny yn sgil amrywiaeth y sir, yn hytrach na ffocysu ar amgylchiadau unigol a gofynnodd ble y mae’r system pwyntiau yn cael ei esbonio yn y ddogfen. Roedd y Cynghorydd Greenland wedi datgan y bydd yn trafod sylwadau Mr Crowhurst gyda’r swyddogion.

Mae’r polisi wedi bod yn ddefnyddiol i Gynghorwyr er mwyn esbonio i drigolion y rhesymau  sydd ganddynt dros roi’r eiddo i ymgeiswyr. Nid ydym yn mynd i blesio pawb ond rydym yn gwneud cynnydd da ac rydym yn gobeithio y byddwn yn medru mynd mor agos ag sydd yn bosib. Mae’r pwyllgor yn hapus i’r argymhellion i fynd i’r Cabinet.

 

 

Dogfennau ategol: