Agenda item

Dysgu Cyfunol mewn Ysgolion

Adrodd ar yr Awdurdod Lleol a’r Gwasanaeth Cyflawni Addysg – Cymorth ar gyfer dysgu cyfunol a thrafod y prosesau sicrwydd sydd yn eu lle.

 

Cofnodion:

Cyflwynodd Sharon Randall yr adroddiad ac atebodd gwestiynau Aelodau, gydag ymatebion ychwanegol gan Will Mclean.

 

Her:

Mae ymchwil ddiweddar gan Sefydliad Cenedlaethol Ymchwil Addysg yn dangos fod Cymru ar y gwaelod ar gyfer effeithlonrwydd dysgu gartref. Beth sy’n cael ei wneud i drin hyn?

 

Mae astudiaethau hydredol yn dangos nad oes, dros gyfnod, gymaint o wahaniaeth rhwng dysgu wyneb i wyneb a dysgu o bell ag a gredid yn wreiddiol. Fel bob amser, bydd yr effaith a’r effeithlonrwydd o ansawdd yr addysgu. Ers y cyfnod clo, mae EAS wedi cefnogi ein hysgolion gyda llawer o gyngor a mynediad i ymchwil ac amrywiaeth o ddysgu proffesiynol, yn cynnwys y sgiliau cyffredinol mae athrawon a chynorthwywyr addysgu eu hangen i ddatblygu a chyflwyno dysgu cyfunol effeithlon. Hefyd, sut i archwilio eu sgiliau, ystyried sut olwg sydd ar ddysgu o bell da a chadw dysgu proffesiynol da i gefnogi hynny. Mae cynorthwywyr addysgu mewn un ysgol wedi bod yn ymwneud yn helaeth â hynny ac yn awr yn ei ledaenu ar draws clystyrau lleol eraill. Yn ychwanegol, fel rhanbarth, rydym yn datblygu pecyn cymorth Sicrwydd Ansawdd fydd yn helpu ysgolion i ddynodi lle mae eu cryfderau a’u gwendidau ond hefyd i werthuso sut mae ansawdd yn dechrau edrych. O gymharu gyda rhanbarthau eraill efallai, rydym wedi gwneud camau breision ymlaen wrth benderfynu sut olwg sydd ar ansawdd.

 

Cododd un darn o ymchwil gan y Sefydliad Polisi Addysg yr wythnos diwethaf nifer yr oriau cyswllt yn ystod y cyfnod clo yng Nghymru, gan gydnabod fod y camau a gymerodd Cymru wrth ddarparu offer TG y gorau o blith y pedair cenedl. Roedd amrywiaeth o wahanol fesurau yn yr adroddiad oedd yn wahaniaethol, yn dibynnu ar ba un oedd yn cael ei ystyried. Gobeithio y gallwn gymryd y ddau ddarn o ymchwil gyda’i gilydd a dysgu ohonynt.

 

A fu asesiad o ba mor dda mae plant prydau ysgol am ddim yn wneud o gymharu â phlant nad ydynt yn erbyn prydau ysgol am ddim? A faint o waith cartref sy’n cael ei wneud o gymharu gyda’r sefyllfa cyn-Covid?

 

Yn ystod tymor yr haf, roedd ysgolion yn awyddus iawn i olrhain ymgysylltu pob dysgwr, gyda ffocws neilltuol ar ddisgyblion bregus a’r rhai sy’n derbyn prydau ysgol am ddim. Roedd ysgolion yn cadw cysylltiad rheolaidd i sicrhau fod yr holl offer, gwybodaeth a chymorth angenrheidiol ganddynt. Ar gyfer dysgwyr bregus nad oedd yn ymgysylltu lawn cystal, fe wnaethom edrych ar ymgysylltu drwy fynychu hybiau neu wahanol fathau o gefnogaeth y gallem ei rhoi iddynt. Yn sicr, rydym yn cadw golwg agos ar ddisgyblion prydau ysgol am ddim ac yn ymgysylltu. Mae gennym gyfarfodydd yn fuan gydag ysgolion i fynd drwy eu cynlluniau datblygu ac i edrych ar eu cynlluniau Dysgu Carlam, a sut y byddant yn cefnogi disgyblion prydau ysgol am ddim.  Yr adborth a roddir i ddisgyblion yw llawer o’r dysgu gorau – mae hynny’n dal i fod yn bosibl iawn gyda model dysgu o bell neu ddysgu cyfunol. Bu rhai ysgolion yn defnyddio techneg a elwir yn ddysgu Blip lle mae llawer o’r dysgu yn digwydd yn annibynnol neu mewn grwpiau bach, ac yna ddod i’r ystafell ddosbarth gyffredinol i’r athro roi adborth. Mae’r adborth felly yn fwy cadarnhaol ac uniongyrchol i’r dysgwyr. Yn gynnar iawn roedd athrawon yn ceisio rhoi adborth ffurfiol yn yr un ffordd ag a wnaethant bob amser, a ddaeth yn llethol i fyfyrwyr ac athrawon. Daeth pethau yn fwy hylaw ac effeithlon dros gyfnod. Bydd rhai asesiadau ar-lein ond nid hwy fydd y ffordd orau a mwyaf effeithlon o ddysgu.

 

O gofio am bopeth sy’n digwydd, a oes dadl dros oedi gweithredu’r cwricwlwm newydd?

 

Dysgu cyfunol yw’r ffordd orau ymlaen i ni gyflwyno’r cwricwlwm fel bod plant yn cael cyfle i ddatblygu’r sgiliau hynny drwy amrywiaeth o gyd-destunau i wneud dysgu yn realistig iddyn nhw ac iddynt fanteisio ohono. Cafodd y broses ei chyflwyno ychydig ynghynt nag a gredem, deallwn yr ymddengys fod y cwricwlwm yn dod tuag at ysgolion yn gyflym iawn. Ond, mae’n eithaf annhebygol os bydd ysgolion fod yn ôl i’r arfer ac yn rhedeg yn berffaith bryd hynny, o gofio am yr amgylchiadau presennol. Tanlinellwyd y pwynt hwnnw mewn arolwg diweddar. Mae ysgolion wedi gwneud llawer o waith eisoes wrth symud ymlaen i gyflenwi’r cwricwlwm newydd, ond rydym yn derbyn na fydd yn berffaith; mewn gwirionedd, mae’n debyg na fyddai wedi bod hyd yn oed pe na fyddem wedi cael y pandemig. Mae’r cyfnod hwn wedi rhoi cyfle i’n hysgolion, ac yn neilltuol y clystyrau, i rannu adnoddau; er enghraifft, mae gan un clwstwr gronfa ddata a gaiff ei rhannu y caiff enghreifftiau o ymarfer ac adnoddau ei lanlwytho arni ar gyfer pawb. Mae hyn yn gwneud y broses yn fwy hylaw.

 

Mae’r 55 cyfeiriad ‘gorfodol’ yn y Bil yn ymddangos yn groes i ymagwedd gyffredinol cwricwla lleol; ar y llaw arall, nid oes unrhyw gyfeiriad at ‘orfodol’ yn Neddf Addysg 1996.

 

Rydym yn deall y pwynt hwn. Pan wnaethom ni, fel rhanbarth, adolygu ein barn ar y cwricwlwm ac os y dylai barhau fel y mae, fe wnaethom hefyd edrych ar ymatebion gan benaethiaid ysgol, undebau llafur, grwpiau penaethiaid uwchradd ac yn y blaen i ddeall sut y caiff ei deimlo yn yr ysgol sy’n ei gyflwyno. Teimlai’r rhan fwyaf fod yr hyblygrwydd sydd gan ysgolion wrth weithio nawr yn gefnogol, a bod yr hyblygrwydd yn y cwricwlwm newydd yn eu galluogi i wneud profiadau dysgu yn werthfawr a gwerth chweil.

 

Crynodeb y Cadeirydd:

Cawsom sicrwydd am ddysgu cyfunol. Bydd yn parhau, felly gorau’n y byd y mae ysgolion yn dod wrth ei gyflwyno a’r mwyaf o gefnogaeth y gall yr awdurdod ei roi. Codwyd cwestiynau diddorol am NFER, y gallem eu hystyried yn y dyfodol, a mater perfformiad disgyblion prydau ysgol am ddim – y mae’r pwyllgor hwn bob amser yn bryderus amdano. Efallai y byddai disgyblion o gefndir mwy cefnogol yn canfod fod dysgu cyfunol ychydig yn rhwyddach. Rydym yn awyddus i olrhain ymgysylltiad dysgwyr. Codwyd materion am ddysgu o bell; bydd y pwyllgor hwn yn dychwelyd at hynny. Clywsom bryderon am y cwricwlwm newydd; ond cawsom sicrwydd am ymagwedd hyblyg ysgolion.

 

Dogfennau ategol: